Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datgan Diddordeb Tderbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 343 KB Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 11 Medi, 2019.
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 11 Medi, 2019 ac fe’u cadarnhawyd fel cofnod cywir.
Materion yn codi –
Mewn perthynas â’r ail bwynt bwled o dan eitem 3, fe gadarnhaodd y Dirprwy Brif Weithredwr bod angen i’r Awdurdod Cynllunio Lleol hysbysu’r cynghorau tref a chymuned am bob cais cynllunio yn eu hardal a bod system weinyddol newydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei haddasu er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd ac mae swyddogion cynllunio wedi eu hysbysu o’r angen i gydymffurfio â’r gofyniad hwn. Mae cynghorau tref a chymuned bellach yn gallu tracio cynnydd ceisiadau yn ôl ward ar wefan y Cyngor ac mae cynnig sefydlog i gynghorau tref a chymuned dderbyn hyfforddiant a/neu arweiniad i glercod y cyngor neu aelodau petaent yn dymuno.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddog am y diweddariad a gofynnodd am i’r wybodaeth uchod gael ei chyhoeddi. |
|
Monitro Perfformiad:Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 2 2019/20 PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid yn cynnwys ail Gerdyn Sgorio blwyddyn ariannol 2019/20 yn portreadu sefyllfa’r Cyngor yn erbyn ei amcanion gweithredol ar ddiwedd Chwarter 2, ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor ac ar gyfer ei graffu.
Adroddodd yr Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol, ers i adroddiad Chwarter 1 ar y Cerdyn Sgorio gael ei drafod gan y Pwyllgor ym mis Medi, 2019 fod Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus (PAM) pellach wedi eu cyhoeddi gan Data Cymru yn benodol mewn perthynas â Rheoli Gwastraff a’i fod yn falch o allu cyhoeddi unwaith eto bod gan yr Awdurdod yn Ynys Môn un o’r cyfraddau ailgylchu gorau yng Nghymru, gan ei roi ymysg y gorau yn y byd o ran gwastraff tŷ sy’n cael ei ailgylchu. Dywedodd yr Aelod Portffolio ei bod hefyd yn galonogol gallu adrodd bod y mwyafrif (71%) o ddangosyddion iechyd corfforaethol sy’n cael eu monitro yn parhau i berfformio’n dda yn erbyn y targedau (Gwyrdd neu Felyn RAG) fel oedd yr achos ar ddiwedd Chwarter 1. Mae rhai pwyntiau i’w nodi yn cynnwys –
• Presenoldeb yn y gwaith ar ddiwedd Ch2 lle mae'r Cyngor yn WYRDD yn erbyn ei darged gyda 3.96 diwrnod yn cael ei golli fesul gweithiwr (cyfwerth ag amser llawn) yn y cyfnod yn erbyn targed o 4.48 diwrnod. Mae hyn yn welliant o gymharu â’r lefelau a welwyd yn ystod Ch2 2018/19 a Ch2 2017/18, sef y flwyddyn y gwelwyd y perfformiad gorau yn y maes hwn ers i ni ddechrau monitro yn y fath fodd.
• Mae'r strategaeth ddigidol yn parhau i wneud cynnydd; mae’r rhan fwyaf o’r dangosyddion o dan yr is-bennawd ‘newid i wasanaeth digidol’ yn gweld tuedd ar i fyny o'i gymharu â Ch2 yn 2018/19 lle mae 83% o’r dangosyddion yn dangos cynnydd. Mae nifer y defnyddwyr cofrestredig wedi mwy na dyblu o 5,000 ar ddiwedd Ch2 2018/19 i 11,000 sy’n ddatblygiad positif gan fod astudiaethau wedi dangos fod trafodion digidol yn fwy cost effeithiol na chyswllt wyneb yn wyneb.
• Mae mwyafrif (75%) y dangosyddion yn perfformio'n dda yn erbyn targedau o dan yr is-bennawd siartr gwasanaeth cwsmeriaid. Yr unig ddangosydd sy’n Goch yn erbyn targed yw Dangosydd 04b – canran y cwynion ysgrifenedig yr ymatebwyd iddynt gan y Gwasanaethau Cymdeithasol o fewn 15 diwrnod. • Ar sail y sefyllfa ariannol ar ddiwedd yr ail chwarter, bydd y Cyngor yn gorwario £1.410 miliwn ar ei gyllideb refeniw ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben ar 31 Mawrth, 2020 o a hynny’n bennaf oherwydd pwysau o ran costau a chynnydd mewn galw yn y Gwasanaethau Oedolion. Mae’r cyhoeddiad hwyr am setliad y gyllideb amodol ar gyfer awdurdodau lleol am 2020/21 yn gwneud hi’n anoddach cynllunio ymlaen llaw. Bydd adroddiadau cyllideb manylach ar berfformiad rheolaeth ariannol Chwarter 2 yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod 25 Tachwedd, 2019. • Mae mwyafrif (85%) y dangosyddion perfformiad yn parhau i berfformio yn uwch na’r targed neu o fewn 5% i’w targedau gyda dim ond 5 o ddangosyddion yn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |
|
Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd ac fe nodwyd y Blaen Raglen Waith heb ei diwygio. |