Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod rhithiol
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Penderfyniad: Bu i’r Cynghorydd Dylan Rees ddatgan diddordeb mewn perthynas ag eitem 2 ar yr agenda fel gwirfoddolwr gyda Bwyd Da Môn.
Bu i’r Cynghorydd Robin Williams (ddim yn aelod o’r pwyllgor) hefyd ddatgan diddordeb mewn perthynas ag eitem 2 ar yr agenda. |
|
Cofnodion y Cyfarfodydd Blaenorol PDF 368 KB Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhlaiwyd ar y dyddiadau canlynol –
· 16 Chwefror, 2021 · 8 Mawrth, 2021
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y 16eg o Chwefror a’r 8fed o Fawrth, 2021 ac fe'u cadarnhawyd fel cofnod cywir.
|
|
Ymateb y Cyngor i Covid-19 PDF 869 KB Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr ynglyn â materion i’w dilyn i fyny ar gais y Pwyllgor.
Penderfyniad: Penderfynwyd nodi ymateb y Cyngor i’r pandemig ac yn benodol yr ymateb wrth ddiogelu llesiant staff a chymunedau ac effeithiolrwydd y Strategaeth Profi ac Olrhain.
Gweithred Ychwanegol: Dylid creu Llawlyfr Gwydnwch Cymunedol Ynys Môn i gofnodi'r gwersi a’r arferion da o’r pandemig ar y lefel gymunedol. Dylid cyfeirio at Lawlyfr Gwydnwch Cymunedol Llundain yr LGA ac ymgynghori â’r Grwp Cefnogi Cymunedol am ei fewnbwn. |
|
Blaen Rhaglen Waith PDF 971 KB Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini. Penderfyniad: Penderfynwyd –
• Cytuno i fersiwn bresennol y blaen raglen waith ar gyfer 2021/22. • Nodi’r cynnydd hyd yn hyn yn gweithredu’r blaen raglen waith. |