Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Swyddfeydd y Cyngor ac yn rhithiol drwy Zoom, Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Mawrth, 20fed Mehefin, 2023 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Swyddfeydd y Cyngor ac yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

Gan fod y Cynghorydd Dyfed Wyn Jones, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, yn absennol, cafodd y Cynghorydd Sonia Williams ei hethol yn Is-gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn yn unig.

 

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Douglas Fowlie ddatgan diddordeb personol nad oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 4 ar y rhaglen gan ei fod yn cael ei gyflogi gan Goleg Llandrillo Menai.

Yn yr un modd, bu i’r Cynghorydd Carwyn Jones (Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer) (nad yw’n aelod o’r Pwyllgor) ddatgan diddordeb mewn perthynas ag eitem 4 gan ei fod yn cael ei gyflogi gan Goleg Llandrillo Menai.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 194 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol

 

·         19 Ebrill, 2023

·         23 Mai, 2023 (ethol Cadeirydd/Is-Gadeirydd)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod a chadarnhawyd eu bod yn gywir: -

19 Ebrill, 2023

23 Mai, 2023 (ethol Cadeirydd/Is-gadeirydd)

 

3.

Monitro Perfformiad: Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 4 2022/23 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 4 2022/23 i’r Pwyllgor ei ystyried. Roedd yr adroddiad ar y cerdyn sgorio’n portreadu sefyllfa’r Cyngor ar ddiwedd y flwyddyn yn erbyn materion yn ymwneud â gwasanaeth cwsmer, pobl a rheolaeth ariannol, a rheoli perfformiad.

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer, a chyflwynodd grynodeb o’r cynnwys gan gadarnhau fod 91% o ddangosyddion yn perfformio’n unol â’r targed, neu o fewn 5% i’r targed. Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at nifer o straeon cadarnhaol am berfformiad ym maes atal digartrefedd, y Gwasanaethau Oedolion, prydlondeb penderfyniadau cynllunio, gwelliannau yng nghyflwr ffyrdd, strydoedd glân, nifer y tai gwag sy’n dod yn ôl i ddefnydd ac adfer nifer yr ymwelwyr â chanolfannau hamdden i’r lefelau a welwyd cyn y pandemig. Mae cyfraniad staff y Cyngor at y perfformiad cadarnhaol hwn yn ystod y flwyddyn yn cael ei gydnabod a’i ganmol. Lle nad yw perfformiad yn cyrraedd y targed bydd y meysydd hynny, ac yn benodol canran y ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth yr ymatebwyd iddynt o fewn yr amserlen, nifer cyfartalog o ddyddiad i ddarparu’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl a chanran yr apeliadau cynllunio sy’n cael eu gwrthod, yn cael eu monitro gan y Tîm Arweinyddiaeth i sicrhau gwelliannau yn y dyfodol. I orffen, dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones ei fod yn gobeithio fod yr adroddiad yn rhoi sicrwydd i’r Pwyllgor Sgriwtini fod perfformiad yn bwysig i’r Cyngor, ei fod yn cael ei reoli’n gadarn a’i fod yn derbyn sylw dyledus ar lefel wleidyddol a weithredol.

Croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad fel un a oedd yn adlewyrchu cynnydd cadarnhaol yn ystod y flwyddyn yn gyffredinol, yn ogystal â chysondeb y perfformiad. Trafododd yr aelodau adroddiad y cerdyn sgorio mewn manylder gan herio Aelodau Portffolio ar sawl mater, yn cynnwys sut i godi ymwybyddiaeth am berfformiad da yn fewnol ac yn allanol, gwasanaeth cwsmer mewn perthynas â monitro galwadau ffôn ac ansawdd yr ymatebion, darparu addasiadau a grantiau Cyfleusterau i’r Anabl, rheoli plant sydd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant - a pherfformiad yn erbyn Dangosydd 23 yn benodol, a sut y gellir adrodd arno i adlewyrchu’r sefyllfa wirioneddol a ph’un a ddylai’r Panel Sgriwtini Gwasanaethau Cymdeithasol edrych ar hyn. Ystyriwyd rheolaeth ariannol yn ogystal, ac yn benodol y tanwariant a ragwelir yng nghyllideb 2022/23 a sut y gallai hynny gynorthwyo’r Cyngor i fynd i’r afael â’r pwysau ychwanegol y disgwylir i wasanaethau ei wynebu yn 2023/24. Gofynnwyd cwestiynau am y fframwaith rheoli perfformiad yn gyffredinol, yn cynnwys sut mae gweithredoedd i fynd i’r afael â meysydd/dangosyddion sy’n tanberfformio yn cael eu monitro i sicrhau eu bod yn cwrdd â nodau ac amcanion perfformiad. Ymatebodd yr Aelodau Portffolio a Swyddogion i’r materion a godwyd fel a ganlyn -

·                Esboniwyd mai’r ffordd orau o ddangos fod y Cyngor yn perfformio’n dda ac yn darparu gwasanaethau sy’n gwella canlyniadau i bobl Ynys Môn yw trwy adroddiadau rheoleiddwyr ac mae’r Cyngor wedi  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu'r Gymraeg - Dogfen Ymgynghori pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad y Cyfawyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc yn nodi canlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y “Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu’r Gymraeg” i’r Pwyllgor ei ystyried a chyflwyno sylwadau arno. Roedd yr adroddiad ymgynghori a chrynodeb o’r ymatebion o bob ffynhonnell wedi’u cynnwys yn Atodiad 1.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid, a dywedodd ei fod yn adlewyrchu’r ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus. Gofynnir am farn y Pwyllgor Sgriwtini, yn cynnwys unrhyw argymhellion a/neu newidiadau y mae’n dymuno eu gwneud mewn perthynas â’r Strategaeth ar ôl ystyried yr ymatebion a chyn i’r Pwyllgor Gwaith eu hystyried.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod yr ymgynghoriad cyhoeddus wedi’i gynnal rhwng 31 Mawrth ac 18 Mai 2023. Derbyniwyd cyfanswm o 298 ymateb trwy’r arolwg ar-lein ac mewn llythyrau a negeseuon e-bost ac roedd y mwyafrif (55%) yn cytuno â’r rhesymau dros newid, y weledigaeth a’r egwyddorion arweiniol (58%) a’r gyrwyr newid ac amcanion strategol (53%) yn y strategaeth ddrafft. Cyfeiriodd at drefniadau’r ymgynghoriad sy’n cael eu nodi yn yr adroddiad ymgynghori a chadarnhaodd fod y prosesau’n rhai cynhwysfawr a chadarn ac ymgysylltwyd ag amrywiaeth eang o randdeiliaid. Er bod crynodeb o’r sawl a ymatebodd yn cael ei ddarparu yn Atodiad 1 yn yr adroddiad, mae atodiadau 2 i 8 yn cynnwys dadansoddiad mwy manwl, gan gynnwys yr ymgynghoriad gyda phlant a phobl ifanc a gynhaliwyd trwy gyfrwng cyfarfodydd gyda phlant oedran ysgol gynradd ac ysgol uwchradd, gyda 150 o 28 ysgol yn cymryd rhan. O ran cynnwys yr ymatebion, gellir eu rhannu o dan 4 prif thema yn ymwneud â nifer a digonolrwydd ysgolion ac adeiladau ysgol, Y Gymraeg, eglurder a manylion, a’r Agenda Sero Net. Mae cysylltiad clir rhwng y themâu hyn a nodau strategol Cynllun y Cyngor. Codwyd nifer o bwyntiau dilys o dan bob thema a byddant yn cael eu hystyried ymhellach wrth ddatblygu cynigion penodol yn y dyfodol. Mewn ymateb i’r adborth a dderbyniwyd, mae’r adroddiad yn argymell gwneud y tri newid a nodir i’r strategaeth ddrafft, yn ymwneud â’r amserlen weithredu, ffynonellau gwybodaeth a model llywodraethiant. Nid yw’r newidiadau hyn yn effeithio ar weledigaeth y strategaeth. Cynhaliwyd Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn ogystal, a chaiff ei gynnwys yn y dogfennau, o dan Atodiad 9.

 

Ystyriwyd y dogfennau gan y Pwyllgor a chodwyd nifer o faterion yn ymwneud â’r strategaeth a’r ymgynghoriad, gan gynnwys cadernid yr ymgynghoriad a gynhaliwyd ac, yn benodol, a oedd y broses wedi casglu barn plant a phobl ifanc yn ddigonol ac a fyddai’n bosib gwella’r drefn yn y dyfodol, ym mha ffordd y dylanwadodd yr ymgynghoriad ar y strategaeth ddrafft, sut fydd y strategaeth yn cynorthwyo i ddarparu darpariaeth addysg ac amgylchedd ddysgu o’r safon uchaf ar gyfer plant a phobl ifanc Ynys Môn, y risgiau a’r heriau wrth wireddu gweledigaeth y strategaeth, cysylltiadau â Chynllun y Cyngor a’r trefniadau ar gyfer monitro ei weithrediad. Trafodwyd hefyd briodoldeb y weledigaeth o ran ei hymagwedd at ysgolion bach  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cynllun Rheoli'r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd ar ganlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun Rheoli Ardal o Harddwch Naturiol Drafft i’r Pwyllgor ei ystyried a chyflwyno sylwadau arno.

Cyflwynodd y Cynghorydd Neville Evans, Aelod Portffolio ar gyfer Hamdden, Twristiaeth a Morwrol, ychydig o wybodaeth gefndirol a dywedodd fod y Cynllun Rheoli AHNE yn ddogfen statudol y mae’n rhaid ei adolygu bob pum mlynedd, yn unol â’r canllawiau a bennwyd. Er bod y Cynllun yn canolbwyntio ar rinweddau arbennig ac arwyddocâd yr AHNE ac yn cyflwyno gweledigaeth ar gyfer ei dyfodol, mae’n gynllun trawsadrannol gan fod iddo arwyddocâd cymdeithasol, economaidd, diwylliannol, ieithyddol ac addysgiadol ac, fel y cyfryw, mae’n alinio â’r amcanion a’r blaenoriaethau perthnasol a nodir yng Nghynllun y Cyngor. Roedd y Cynllun Rheoli AHNE drafft yn destun ymgynghoriad cyhoeddus chwe wythnos o hyd, a gynhaliwyd rhwng 28 Ebrill a 9 Mehefin 2023, ac fe’i ddiweddarwyd i adlewyrchu’r sylwadau a dderbyniwyd. Derbyniwyd cyfanswm o 73 ymateb a cheir dadansoddiad ohonynt yn yr adroddiad ar yr ymateb i’r ymgynghoriad ac mae nifer o’r sylwadau’n cyfeirio at ddatblygiad Penrhos a oedd dan ystyriaeth ar y pryd. Bydd fersiwn hawdd ei ddefnyddio o’r Cynllun yn cael ei lunio ar ôl cwblhau’r cyfnod ymgynghori ac ar ôl gwneud y newidiadau, yn ogystal â Chynllun Gweithredu fydd yn cael ei fonitro i sicrhau fod y weledigaeth ar gyfer yr AHNE yn cael ei rhoi ar waith a bod cymunedau a rhanddeiliaid yn cael eu cynnwys yn y broses.

Ystyriwyd nifer o faterion yn y drafodaeth a ddilynodd ar y Strategaeth ac ymateb y cyhoedd iddi, yn cynnwys y rheswm dros baratoi Cynllun Rheoli AHNE a’r cysylltiad rhyngddo a Chynllun y Cyngor, cadernid yr ymgynghoriad cyhoeddus o ystyried mai dim ond 73 o ymatebion a dderbyniwyd, ac ym mha ffyrdd y dylanwadodd y broses honno ar y ddogfen derfynol, y berthynas rhwng y Cynllun Rheoli AHNE a’r broses rheoli cynllunio, yr angen am gynllun cyfathrebu, y berthynas gyda gwasanaethau mewnol o fewn y Cyngor, yn enwedig addysg a’r gwasanaeth ieuenctid, a gwella ymgysylltu a chydweithio gyda pherchnogion tir a ffermwyr. Codwyd materion penodol yn ymwneud â’r sefyllfa yn Llanddwyn a Niwbwrch hefyd, mewn perthynas â gwarchod a chadwraeth.

Cyflwynodd yr Aelod Portffolio a Swyddogion a oedd yn bresennol wybodaeth ychwanegol fel a ganlyn –

·                Bod gofyn cyfreithiol ar awdurdodau lleol sy’n gweinyddu AHNEau i baratoi a chyhoeddi cynlluniau rheoli ar gyfer eu hardal ac i adolygu’r cynlluniau hynny bob pum mlynedd. Er bod yr adolygiad o’r Cynllun Rheoli dair blynedd yn hwyr oherwydd y pandemig Covid, mae’r amser ychwanegol a’r profiadau a gafwyd wrth ymateb i’r pandemig wedi caniatáu i’r Gwasanaeth sicrhau fod cynnwys a blaenoriaethau’r Cynllun yn briodol ac yn gadarn ac y gallant gwrdd â’r heriau a wynebir gan yr Ynys. Mae’r AHNE yn dirwedd lle mae pobl yn byw a gweithio ac, fel y cyfryw, mae anghenion cymunedau a gallu pobl i wneud bywoliaeth yn yr ardaloedd lle maent yn byw yn bwysig. Er bod y dynodiad AHNE yn ymwneud  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Dogfen Gyflawni Blynyddol 2023/24 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid, yn ymgorffori’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer 2023/24, i’r Pwyllgor ei ystyried a chyflwyno sylwadau arno.

Cyflwynwyd y Ddogfen Gyflawni Flynyddol gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer, ac mae’n amlinellu rhaglenni gwaith blynyddol y Cyngor ar gyfer 2023/24 a gynlluniwyd i gyflawni disgwyliadau Cynllun y Cyngor. Cyfeiriodd at chwe amcan strategol Cynllun y Cyngor ac mae ffrydiau gwaith penodol a fyddai’n cael sylw yn ystod 2023/24 yn cael eu rhestru oddi tanynt er mwyn cynorthwyo i gyflawni’r amcanion hynny. Datblygwyd y Ddogfen Gyflawni ar y cyd â gwasanaethau ar draws y Cyngor a bydd yn cael ei rhoi ar waith o fewn yr adnoddau a benderfynwyd fel rhan o’r gyllideb a osodwyd ar gyfer 2023/24, ochr yn ochr â gweithgareddau dydd i ddydd y Cyngor. Bydd pob aelod o staff rheng flaen a staff cymorth yn hanfodol i gyflawni’r ddogfen yn llwyddiannus.

Wrth drafod y ddogfen, gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau am yr heriau a’r risgiau wrth geisio gwireddu’r blaenoriaethau a osodwyd ar gyfer 2023/24, y trefniadau sydd ar waith i fonitro cynnydd wrth gyflawni’r ffrydiau gwaith a amlinellwyd, i ba raddau y mae’r Cynllun yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn ogystal â sicrhau fod staff yn cyfrannu’n llawn at y gwaith o’i gyflawni.

Ymatebodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad i’r materion a godwyd fel a ganlyn –

·                Er mwyn cyflawni’r gwaith yn llwyddiannus, mae’n bwysig nad yw’r un o’r amcanion strategol neu’r ffrydiau gwaith yn cael eu hystyried ar eu pen eu hunain, ond o fewn y cyd-destun lleol. Un o’r prif heriau a risgiau yw’r pwysau ychwanegol sylweddol sydd ar rai gwasanaethau, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn wasanaethau statudol y mae’n rhaid eu darparu o ddydd i ddydd gan olygu fod cynllunio ar gyfer y dyfodol o safbwynt ailfodelu yn fwy heriol. Mae’r cyd-destun ariannol yn achosi pryder hefyd ac mae’n risg gan fod pwysau’n cynyddu ar wasanaethau ar yr un llaw, ond mae angen moderneiddio, i greu adeiladau mwy gwyrdd, i fuddsoddi a chreu swyddi wrth warchod yr amgylchedd ar y llaw arall, ac mae hynny’n golygu fod sicrhau cydbwysedd rhwng y galwadau hyn sy’n cystadlu â’i gilydd yn hynod o heriol. Capasiti a chadw staff yw’r prif flaenoriaethau i sicrhau fod dyheadau Cynllun y Cyngor, ac amcanion penodol y Ddogfen Gyflawni ar gyfer 2023/24, yn cael eu cyflawni. Mae’r Cyngor yn hyderus fod yr amcanion yn realistig ac y gellir eu cyflawni a bydd yn rhoi trefniadau rheoli perfformiad ar waith i sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni, yn ogystal â nodi a mynd i’r afael ag unrhyw risgiau a allai godi, gan gofio y gallai rhai o’r risgiau hynny ddeillio o ffynonellau allanol a bydd angen eu lliniaru. 

·                Mae diweddariadau rheolaidd ar gynnydd y gwaith cyflawni yn cael eu darparu i’r Byrddau Rhaglen Corfforaethol a bydd y cerdyn sgorio corfforaethol newydd ar gyfer 2023/24 yn cael ei alinio  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 358 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor hyd at Ebrill 2024 i’w ystyried.

 

Penderfynwyd –

 

·      Cytuno ar fersiwn gyfredol y flaen raglen waith ar gyfer 2023/24.

·      Nodi cynnydd hyd yma wrth weithredu’r Flaen Raglen Waith.