Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Swyddfeydd y Cyngor ac yn rhithiol drwy Zoom
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Yn absenoldeb y Cadeirydd, y Cynghorydd Douglas Fowlie, cadeiriwyd y cyfarfod gan yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Dyfed Wyn Jones. Cafodd y Cynghorydd Sonia Williams ei hethol yn Is-gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn yn unig.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd Sonia Williams ddatgan diddordeb personol yn unig ar sail ei pherthynas i’r Aelod Portffolio Cyllid.
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 187 KB Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiad canlynol –
· 16 Ionawr 2024 (cyfarfod bore) · 16 Ionawr 2024 (cyfarfod prynhawn) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol ac fe’u cadarnhawyd fel rhai cywir – · 16 Ionawr 2024 (cyfarfod y bore) · 16 Ionawr 2024 (cyfarfod y prynhawn)
|
|
Gosod Cyllideb 2024/25 - Cynigion Drafft Terfynol ar gyfer y Gyllideb Refeniw PDF 659 KB Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a’r Rheolwr Sgriwtini.
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini i’w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn gosod y cyd-destun ar gyfer y broses o osod Cyllideb 2024/25, ynghyd â’r prif faterion a chwestiynau i’w craffu wrth werthuso cynigion terfynol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y gyllideb refeniw. Mae adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a gafodd ei gyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 29 Chwefror, 2024, lle cafodd y cynigion manwl ar gyfer cyllideb refeniw 2024/25 eu hadolygu am y tro olaf a’u cymeradwyo cyn cyfarfod y Cyngor Llawn ar 7 Mawrth 2024, wedi’i atodi yn Atodiad 1.
Bu i’r Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid, amlinellu cyd-destun y cynigion terfynol ar gyfer cyllideb refeniw 2024/25, gan nodi bod y Pwyllgor gwaith wedi cynnig cyllideb ar gyfer 2024/25 o £184.219m yn ei gyfarfod ar 23 Ionawr 2024, ac oherwydd darpariaeth y Cyllid Allanol Cyfun o £126.973m, byddai angen cynnydd o 10.9% yn y Dreth Gyngor ac y byddai’n rhaid defnyddio gwerth £4.425m o falansau cyffredinol y Cyngor er mwyn cydbwyso’r gyllideb. Roedd y cynigion gwreiddiol ar gyfer y gyllideb ddrafft hefyd yn cynnwys arbedion/gostyngiadau yn y gyllideb, gan gynnwys gosod cap ar y cynnydd mewn chwyddiant o’r gyllideb ddynodedig i ysgolion o 2.5%. Yn dilyn hynny, cwblhawyd proses ymgynghori gyhoeddus fer ar gynigion y gyllideb, ac mae’r canlyniadau wedi’u crynhoi yn Atodiad 2 yr adroddiad, gydag addysg ac ysgolion, cefnogi plant ac oedolion bregus, a chasglu gwastraff ac ailgylchu ymhlith prif flaenoriaethau’r ymatebwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams fod nifer o ddatblygiadau wedi digwydd ers cyflwyno’r cynigion gwreiddiol ar gyfer cyllideb drafft 2024/25, gan gynnwys cau pen y mwdwl ar benderfyniadau’n ymwneud â’r gyllideb mewn perthynas â chyrff sy’n codi ardollau a sefydliadau eraill sy’n derbyn cyfraniad gan y Cyngor, cynnydd o £332k yng Nghyllid Allanol Cyfun Ynys Môn yn dilyn cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru o ganlyniad i gynnydd mewn cyllid ar gyfer cynghorau yn Lloegr, a throsglwyddo tri grant refeniw i’r setliad (para 5.4). Wrth lunio’r cynigion terfynol ar gyfer y gyllideb, adolygwyd nifer o gyllidebau ac mae hyn wedi rhoi ychydig o hyblygrwydd i’r Pwyllgor Gwaith ynghylch y cynnig terfynol. Mae’r newidiadau hyn wedi cael eu hegluro yn adran 5.5. yr adroddiad, ac mae effaith yr holl newidiadau ar y gyllideb refeniw i’w weld yn Nhabl 2, paragraff 5.6, sydd wedi arwain at gyllideb refeniw diwygiedig ar gyfer 2024/25 o £183.459m gyda chyllid diwygiedig o £184.82m sy’n rhoi cyllid gwarged o £1.373m.
O ran yr amrywiaeth o opsiynau a gafodd eu hystyried gan y Pwyllgor Gwaith i gyd-fynd â’r cyllid diwygiedig yn y gyllideb ddiwygiedig, mae’r defnydd o arian wrth gefn i gydbwyso cyllideb 2024/25 yn sylweddol, ai dyma’r swm uchaf sydd wedi’i gynnig ers nifer o flynyddoedd. Argymhelliad y Swyddog Adran 151 yw na ddylai lefel yr arian wrth gefn ddisgyn dan 5% o’r gyllideb refeniw net, sef yr isafswm o arian wrth gefn cyffredinol sydd wedi’i osod gan y Pwyllgor Gwaith. Ar ôl ystyried yr holl ffactorau, mae cynigion y ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |
|
Gosod Cyllideb 2024/25 - Cynigion ar gyfer y Gyllideb Gyfalaf PDF 426 KB Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a’r Rheolwr Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini i’w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r cyd-destun ar gyfer y broses o osod cyllideb ar gyfer 2024/25 ynghyd â’r prif faterion a chwestiynau y dylid craffu arnynt wrth werthuso cynigion y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y gyllideb gyfalaf. Bydd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 29 Chwefror, 2024, ac mae’n gosod y gyllideb gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2024/25 fydd yn cael ei argymell i’r Cyngor Llawn, ac roedd wedi’i atodi yn Atodiad 1.
Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid, yr adroddiad a chyfeiriodd at yr arian sydd ar gael er mwyn ariannu’r rhaglen gyfalaf ar gyfer 2024/25 yn Nhabl 1 yr adroddiad. Mae’r Cyfrif Refeniw Tai yn cynnwys incwm a gwariant sy’n ymwneud â stoc tai’r Cyngor, ac ni ellir defnyddio’r arian hwn at unrhyw ddiben arall. Mae’r cyllid Cyfalaf Cyffredinol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25 £12k yn uwch na’r hynny a ddyfarnwyd yn 2023/24, ac mae’n cyd-fynd â lefelau ariannu a welwyd yn ystod y 12 mlynedd ddiwethaf. Ni welwyd cynnydd sylweddol yn y cyllid hwn er bod ei werth wedi dirywio’n sylweddol oherwydd chwyddiant yn ystod y cyfnod hwn. Golyga hyn ei bod yn fwyfwy heriol i gynnal a buddsoddi yn asedau cyfalaf y Cyngor. Gweler crynodeb o’r rhaglen gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2024/25 yn Nhabl 3 yr adroddiad, ac mae werth £43.838m.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod yr opsiynau mewn perthynas â gwariant a buddsoddiad cyfalaf yn gyfyngedig oherwydd y cyfyngiadau ar adnoddau cyfalaf. Mae’r Pwyllgor Gwaith wedi ystyried y hyfywedd o gael gwared ar fenthyca digymorth, ond oherwydd lefelau cyfradd llog a’r ffaith y bydda’r gost o fenthyca digymorth angen ei fodloni drwy ddefnyddio’r gyllideb refeniw, sydd eisoes dan bwysau, mae’r opsiwn hwn wedi cael ei ddiystyru ar gyfer 2024/25. Dim ond estyniad Ysgol y Graig sydd wedi’i gynnwys yn y Rhaglen Cymunedau sy’n Dysgu ar hyn o bryd. Yn y rhaglen arfaethedig ar gyfer Cyfrif Refeniw Tai 2024/25, bydd y buddsoddiad yn y stoc bresennol yn parhau er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r SATC, a bydd yn cael ei ariannu fel yr amlinellir yn adran 7 yr adroddiad, sy’n cynnwys elfen o fenthyca digymorth sydd wedi’i drefnu fel rhan o Gynllun Busnes y CRT.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Geraint Bebb, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid at gyfarfod y Panel ar 15 Chwefror 2024, lle rhoddwyd ystyriaeth i’r cynigion ar gyfer cyllideb cyfalaf 2024/25. Ymhlith y materion a gafodd eu trafod gan y Panel roedd y diffyg ffynonellau o gyllid cyfalaf sydd ar gael i’r Cyngor ar gyfer prosiectau sylweddol yn ymwneud â stoc, oni bai am y CRT sy’n cael ei wario ar stoc tai’r Cyngor yn unig, yr adnoddau fyddai eu hangen i alluogi’r Cyngor i fuddosddi yn ei asedau yn y tymor canolig, a’r heriau wrth gwblhau prosiectau grant cyfleusterau i’r anabl, sy’n peri goblygiadau o ran gallu’r Cyngor i wario adnoddau ei gyllideb ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Panel Sgriwtini Cyllid Cadeirydd y Panel i roi adoddiad llafar. Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd Geraint Bebb, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid, adrodd ar ganlyniad cyfarfod y Panel ar 15 a 22 Chwefror 2024 er mwyn ystyried y cynigion terfynol ar gyfer Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf drafft 2024/25, fel y nodir yn y naratif ar eitem 2 a 3 uchod.
|
|
Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini, a oedd yn ymgorffori Blaen Rhaglen Waith y Pwyllgor ar gyfer 2024/25, i’w ystyried a’i adolygu. Rhoddodd y Rheolwr Sgriwtini ddiweddariad i’r Pwyllgor ar ychwanegiadau i’r Blaen Rhaglen Waith mewn perthynas â’r adolygiad ar gais y Pwyllgor ar berfformiad lleol yn erbyn dau o’r dangosyddion perfformiad Gwasanaethau Tai. Mae adroddiad ar ganlyniad yr adolygiad ar y Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl wedi’i drefnu ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ym mis Mawrth 2024, yn ogystal ag adroddiad gan y Grŵp Tasg a Gorffen mewn perthynas ag ail-osod eiddo’r Cyngor, fydd yn cael ei gyflwyno yn ystod cyfarfod y Pwyllgor ym mis Ebrill 2024. Penderfynwyd –
· Cytuno ar y fersiwn bresennol o’r blaen rhaglen waith ar gyfer 2023/24, gyda’r ychwanegiadau a nodwyd gan y Rheolwr Sgriwtini. · Nodi’r cynnydd hyd yma o ran gweithredu’r blaen rhaglen waith.
|