Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Swyddfeydd y Cyngor
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd datganiad o ddiddordeb.
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 195 KB Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd, 2023. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd, 2023 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
|
|
Cynllun Strategol Cyfranogiad Tenantiaid 2024-29 PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Tai a oedd yn cynnwys Cynllun Strategol Cyfranogiad Tenantiaid ar gyfer 2024-29 i'w ystyried a'i graffu gan y Pwyllgor. Datblygwyd y Cynllun i sicrhau bod Gwasanaethau Tai yn gweithio mewn partneriaeth â thenantiaid i ddatblygu a darparu gwasanaethau tai o'r radd flaenaf i bobl Ynys Môn ac fel olynydd i Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid Lleol 2018-2023. Mae Deddf Tai Cymru (2014) yn ei gwneud yn ofynnol i bob landlord cymdeithasol yng Nghymru gael strategaeth cyfranogiad tenantiaid gyda'r nod hirdymor o sicrhau gwelliant parhaus ym mherfformiad landlordiaid wrth gefnogi a galluogi tenantiaid i gymryd rhan fel y gallant ddylanwadu ar benderfyniadau a chyfrannu at wella’r gwasanaethau a ddarperir. Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Gary Pritchard, Aelod Portffolio Plant, Ieuenctid a Gwasanaethau Tai a bwysleisiodd ei bod yn bwysig cynnwys tenantiaid yn y ffordd y gwneir penderfyniadau am eu cartrefi a chael eu barn a'u syniadau ynghylch sut y gellir gwella gwasanaethau tai, cartrefi ac ystadau'r Cyngor ymhellach a bodloni heriau Cam II SATC. Mae'r Cynllun Strategol Cyfranogiad Tenantiaid yn nodi sut y bydd y Cyngor yn parhau i ddatblygu cyfranogiad tenantiaid a chynyddu lefelau cyfranogiad yn ystod oes y Cynllun. Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaethau Tai Cymunedol y cefndir deddfwriaethol a'r egwyddorion y tu ôl i'r Cynllun a rhoddodd drosolwg o'r Cynllun gan gynnwys y meysydd blaenoriaeth fel y cytunwyd arnynt gyda'r tenantiaid presennol sy'n cymryd rhan. Y rhai hynny sy'n ymwneud â sicrhau ymgysylltiad effeithiol a rhannu gwybodaeth, grymuso tenantiaid i ddylanwadu ar wasanaethau a'u siapio, gwella gwasanaethau’n barhaus i ddiwallu anghenion cwsmeriaid, a sicrhau bod gan denantiaid y sgiliau a'r hyder i gymryd rhan mewn cyfleoedd lle gall tenantiaid gyfrannu. Wrth gyflawni'r Cynllun, bydd y Gwasanaethau Tai yn datblygu nifer o ddulliau cyfranogi ac ymgysylltu a fydd yn rhoi cyfle i bobl gymryd rhan mewn ffordd hyblyg a chyn lleied neu mor aml ag y dymunant; parhau i ddatblygu dulliau priodol ac arloesol o gyfathrebu â thenantiaid a'u hysbysu am gynnydd; cefnogi tenantiaid i feithrin eu sgiliau a'u gwybodaeth fel bod ganddynt y gallu a'r hyder i gymryd rhan, a chymryd ymagwedd ragweithiol tuag at ddatblygu gwasanaethau gan ddefnyddio arfer da gan eraill. Bydd dull y Gwasanaeth Tai yn cael ei adolygu'n rheolaidd yn ystod y cynllun pum mlynedd a bydd Cynllun Gweithredu deuddeg mis yn cael ei gyd-ddatblygu a'i fonitro'n chwarterol gan y grŵp monitro Cyfranogiad Tenantiaid. Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Tai fod y Cynllun Strategol yn adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd eisoes o ran cyfranogiad tenantiaid. Mae barn defnyddwyr Gwasanaethau Tai yn bwysig gan fod lefelau bodlonrwydd tenantiaid yn cael eu hadlewyrchu yn yr arolwg STAR a gynhelir yn flynyddol ac yn cael eu meincnodi yn erbyn awdurdodau eraill yng Nghymru. Wrth graffu ar y Cynllun Strategol Cyfranogiad Tenantiaid, trafododd y Pwyllgor nifer o faterion, gan gynnwys cadernid y broses ar gyfer rhoi'r Cynllun ar waith a'r heriau sy'n gysylltiedig â sicrhau nad oes rhwystrau i gyfranogiad oherwydd oedran neu leoliad a bod pawb yn cael cyfle i gyfrannu gan gydnabod hefyd y ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |
|
Cynllun Strategol Rheoli Asedau Tai 2024-29 PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai.
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai a oedd yn cynnwys y Cynllun Strategol Rheoli Asedau ar gyfer 2022-29 i'w ystyried a'i graffu gan y Pwyllgor. Mae'r Cynllun yn nodi sut y bydd y Cyngor yn rheoli, cynnal a buddsoddi yn ei stoc tai dros gyfnod y Cynllun. Cyflwynwyd yr adroddiad a'r Cynllun Strategol gan y Cynghorydd Gary Pritchard, Aelod Portffolio Plant, Ieuenctid a Gwasanaethau Tai a gyfeiriodd at ddiben y Cynllun sef sicrhau bod y Cyngor yn gwneud penderfyniadau gwybodus am y buddsoddiad mewn eiddo unigol yn seiliedig ar ddealltwriaeth o'u perfformiad ar sail gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a bod stoc tai'r Cyngor yn darparu cartrefi diogel ac addas i'w denantiaid, yn cydymffurfio â Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC) 2023 a lle bynnag y bo'n bosibl, eu bod yn cyrraedd targedau datgarboneiddio. Crynhodd y Rheolwr Gwasanaethau Technegol Tai feysydd blaenoriaeth y Cynllun Strategol Rheoli Asedau sy'n cynnwys ymateb i’r heriau newydd mewn perthynas â datgarboneiddio a gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn SATC 2023. Cwblhaodd y Gwasanaeth arolwg o gyflwr stoc tai yn 2022/23 sy'n darparu'r sail ar gyfer cynllunio yn y dyfodol, gan gynnwys bodloni gofynion buddsoddi cynllun busnes 30 mlynedd y gwasanaeth a chyflawni SATC 2023. Ymhlith y meysydd buddsoddi bydd newid cydrannau allweddol megis boeleri a cheginau yn unol â'r cylchoedd bywyd disgwyliedig yn ogystal â gosod mesurau ynni adnewyddadwy fel Solar PV a Storwyr Batri. Dyma’r prif bwyntiau trafod a gododd o waith craffu'r Pwyllgor ar y Cynllun Strategol Rheoli Asedau– · Effeithiolrwydd rhaglenni a systemau meddalwedd rheoli asedau a'r effaith y gallai materion technegol ei chael ar gyflawni'r Cynllun Strategol. · Goblygiadau ariannol y Cynllun yn ogystal â sicrwydd ffynonellau ariannu i allu ei weithredu. · Y trefniadau monitro, llywodraethu a gwerthuso i sicrhau bod y cynllun yn cael ei gyflawni. · Y ffyrdd y mae'r cynllun yn cyd-fynd ag amcanion Cynllun y Cyngor 2023-28, ac yn cyfrannu at eu cyflawni · Y risgiau o ran cyflawni'r Cynllun a sut y cynigir y caiff risgiau hynny eu lliniaru. Mewn ymateb, dyma sylwadau’r Aelod Portffolio a'r Swyddogion– · Rhoddwyd sicrwydd ynghylch y wybodaeth a gedwir gan y Gwasanaeth ac effeithiolrwydd y systemau a ddefnyddir i'w rheoli. Mae data cyflwr stoc yn allweddol wrth sicrhau bod costau'r dyfodol yn gadarn ac yn darparu sail gadarn ar gyfer cynllunio. Mae'r arolwg diweddar a gwblhawyd yn annibynnol o gyflwr y stoc tai yn darparu data sylfaenol newydd sy'n cael ei ategu gan wybodaeth hanesyddol am yr ystâd dai. · Cadarnhawyd mai’r Cyfrif Refeniw Tai (CRT) yw’r brif ffynhonnell gyllid lle mae'r incwm o renti wythnosol tenantiaid ar gartrefi a garejys wedi'i glustnodi ar gyfer gwariant a buddsoddiad yn stoc tai'r Cyngor. O'r herwydd, mae'r CRT yn darparu sail ariannol gadarn ar gyfer y 5 mlynedd nesaf ac oes y Cynllun. Lle mae elfen o ansicrwydd mewn perthynas â chost gyffredinol bodloni gofynion SATC, gan gynnwys cwblhau Llwybrau Ynni wedi'u Targedu ar gyfer pob cartref sy'n eiddo i'r Cyngor, unwaith y bydd y costau hynny'n hysbys, gellir eu cynnwys yng Nghynllun Busnes y CRT. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Dangosyddion Perfformiad Lleol: Gwasanaethau Tai PDF 399 KB Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini yn amlinellu'r cynnydd hyd yma mewn perthynas â'r camau y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd 2023 mewn perthynas â Dangosyddion Perfformiad Gwasanaethau Tai 28 a 29 i'w ystyried gan y Pwyllgor. Adroddodd y Cynghorydd Gary Prichard a'r Pennaeth Gwasanaethau Tai ar gynnydd mewn perthynas ag adolygiad y Gwasanaeth Tai o Ddangosydd Perfformiad 28 (nifer cyfartalog y diwrnodau calendr a gymerwyd i ddarparu Grant Cyfleusterau i'r Anabl). O ran yr adolygiad Sgriwtini o Berfformiad Dangosydd Perfformiad 29 (yr amser a gymerir i osod unedau llety y gellir eu gosod ac eithrio DTLs) cyflwynwyd trefniadau arfaethedig y cylch gorchwyl, llywodraethu a’r cwmpas arfaethedig ar gyfer grŵp Gorchwyl a Gorffen Sgriwtini. Cytunwyd yn y cyfarfod diwethaf y byddai’r grŵp hwn yn cael ei sefydlu i gynnal yr adolygiad ac fe’i gwahoddwyd i enwebu aelodau i gynrychioli'r Pwyllgor ar y grŵp. Gwnaed y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth ddilynol – · Y dylai'r grŵp Gorchwyl a Gorffen gynnwys chwe aelod o'r Pwyllgor · Mater i'r grŵp Gorchwyl a Gorffen yw gwahodd yr Aelod Portffolio Tai i'w drafodaethau fel y mae'n ystyried yn briodol. · Mewn perthynas â'r Cylch Gorchwyl, - · Newid y cyfeiriad at "Bennaeth Gwasanaeth" yn yr ail bwynt bwled o dan adran 2 (Rôl, Diben a Chwmpas) i "Grŵp Gorchwyl a Gorffen" · Newid y llinell gyntaf o dan y Canlyniadau a Ddymunir, i "Gweithredu’r camau" Penderfynwyd – · Nodi'r cynnydd hyd yma gydag adolygiad y Gwasanaethau Tai o Ddangosydd Perfformiad 28 (Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl) · Nodi'r bwriad i gyflwyno canfyddiadau'r adolygiad a'r argymhellion i'w hystyried gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ym mis Mawrth, 2024. · Cymeradwyo cylch gorchwyl a chwmpas yr adolygiad Craffu o Ddangosydd Perfformiad 29 (gosod unedau llety) fel y'u cyflwynwyd gyda'r ddau welliant fel yr amlinellwyd. · Cymeradwyo'r trefniadau llywodraethu i gefnogi'r broses graffu a'r amserlen ar gyfer adrodd ar ganfyddiadau'r adolygiad a'r argymhellion i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol. · Enwebu'r Cynghorwyr Geraint Bebb, Dyfed Wyn Jones, Keith Roberts, Ieuan Williams, Sonia Williams ac Arfon Wyn i fod ar y grŵp Gorchwyl a Gorffen.
|
|
Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a oedd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor hyd at fis Ebrill, 2024 i'w ystyried. Penderfynwyd – · Cytuno ar y fersiwn bresennol o'r Blaen Raglen Waith ar gyfer 2023/24. · Nodi'r cynnydd hyd yma o ran gweithredu'r Blaen Raglen Waith.
|