Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor - Swyddfeydd y Cyngor a Zoom
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd Jackie Lewis ddatgan diddordeb personol pan drafodwyd eitem 5 oherwydd ei bod yn cael ei chyflogi gan Fenter Môn, menter y cyfeirir ati yn y Ddogfen Gyflawni.
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 165 KB Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol –
· 27 Chwefror 2024 · 12 Mawrth 2024 · 21 Mai 2024
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 27 Chwefror, 2024, 12 Mawrth, 2024 a 21 Mai 2024 (ethol Cadeirydd ac Is-gadeirydd) a chadarnhawyd eu bod yn gywir |
|
Monitro Perfformiad:Cerdyn Sgorio Corfforaethol Ch4 2023/24 PDF 468 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid. Cofnodion:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer fel yr adroddiad cerdyn sgorio Ch4 â’r perfformiad gorau ers cyflwyno'r cerdyn sgorio fel adnodd rheoli perfformiad gyda 92% o'r dangosyddion perfformiad yn rhagori o 5% ar eu targedau ar gyfer y flwyddyn. Cyfeiriodd at enghreifftiau penodol o berfformiad nodedig gan gynnwys o fewn Gwasanaethau Oedolion, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a'r Gwasanaeth Digartrefedd lle'r oedd y perfformiad wedi cyrraedd neu ragori ar y targedau ar gyfer y flwyddyn. Roedd enghreifftiau eraill o berfformiad da i'w gweld mewn perthynas â chanran y disgyblion a aseswyd yn y Gymraeg ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen (100%), nifer yr eiddo a ddaeth yn ôl i ddefnydd (71 yn erbyn targed o 50) a'r rhaglen NERS lle'r oedd 81% o'r cleientiaid a oedd yn mynychu'r rhaglen yn teimlo ei bod wedi bod o fudd i'w hiechyd. Roedd dangosyddion Cynllunio a Rheoli Gwastraff hefyd wedi cyrraedd eu targedau. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at rai o'r heriau sy'n weddill o ran prosesu ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth ac ymateb iddynt, canran y rhai sy'n gadael Blwyddyn 11 sy'n cael eu hystyried yn NEET a'r nifer cyfartalog o ddiwrnodau a gymerir i ddarparu Grant Cyfleusterau i'r Anabl (DFG) lle nad oedd targedau wedi'u cyrraedd. Bydd y meysydd hyn yn cael eu monitro gan y Tîm Arweinyddiaeth i sicrhau gwelliannau i'r dyfodol.
Diolchodd y Pwyllgor i Swyddogion a staff am eu cyfraniad tuag at adroddiad cerdyn sgorio diwedd blwyddyn cadarnhaol a nododd yr Aelodau yr enghreifftiau o berfformiadau nodedig yn ystod y flwyddyn. Wrth graffu ar yr adroddiad dyma’r pwyntiau a drafodwyd gan y Pwyllgor –
|
|
Hunan Asesiad Corfforaethol Blynyddol 2023/24 PDF 766 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid sy’n cynnwys adroddiad hunanasesu blynyddol y Cyngor ar gyfer 2023/24 i'w ystyried gan y Pwyllgor.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer fel y trydydd adroddiad hunanasesu a baratowyd gan y Cyngor o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021. Mae'r adroddiad yn darparu sail dystiolaeth ar gyfer sut mae'r Cyngor wedi perfformio dros y flwyddyn gan ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael wrth reoli a lliniaru risgiau cysylltiedig. O'r saith maes allweddol y canolbwyntir arnynt yn yr hunanasesiad, asesir bod pedwar maes (cynllunio gwasanaethau, cynllunio ariannol, cynllunio'r gweithlu a rheoli perfformiad) yn rhagori ar ddisgwyliadau tra asesir bod tri maes (rheoli asedau, caffael a rheoli contractau, a rheoli risg ac archwilio) yn bodloni disgwyliadau. Yn ogystal â hyn, mae'r adroddiad yn nodi bod lle i wella a monitro sawl maes yn ystod 2024/25.
Wrth ystyried yr adroddiad, trafodwyd y pwyntiau canlynol gan y Pwyllgor –
Ymatebodd swyddogion i'r pwyntiau a godwyd fel a ganlyn –
|
|
Dogfen Gyflawni Blynyddol 2024/25 PDF 600 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid sy'n cynnwys y Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer 2024/25 i'w hystyried gan y Pwyllgor.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer fel un sy'n nodi ffrydiau gwaith allweddol y Cyngor ar gyfer 2024/25 a fydd yn cyfrannu at gyflawni amcanion strategol Cynllun y Cyngor 2023-2028.
Wrth ystyried cynnwys y Ddogfen Gyflawni Flynyddol, trafodwyd y canlynol gan y Pwyllgor –
Ymatebodd swyddogion i'r pwyntiau a godwyd fel a ganlyn –
|
|
Cyflwyno adroddiad y Grwp Tasg a Gorffen Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad Grŵp Tasg a Gorffen Sgriwtini y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol i archwilio perfformiad dangosydd 29 (nifer cyfartalog y diwrnodau calendr a gymerwyd i osod uned llety sy’n rhai y mae modd eu gosod ac eithrio unedau Anodd eu Gosod) gyda'r bwriad o wella'r perfformiad i'w ystyried gan y Pwyllgor.
Cyflwynwyd yr adroddiad a chanfyddiadau'r Panel gan y Cynghorydd Ieuan Williams, Cadeirydd y Panel a roddodd drosolwg o gwmpas, methodoleg ac amcanion y Panel ynghyd â'i gasgliadau a'i argymhellion fel y manylir yn Atodiad 1 yr adroddiad. Roedd y Panel wedi gwneud pedwar argymhelliad i'r Pwyllgor Gwaith fel ffordd o wella'r perfformiad lleol yn erbyn Dangosydd Perfformiad Allweddol 29. Cyfeiriodd y Cynghorydd Ieuan Williams hefyd at y gwersi a ddysgwyd o'r prosiect tasg a gorffen a gofynnodd ai trefnu bod grŵp o'r math hwn cynnal ymarfer wedi’i gyfyngu o ran amser yw'r ffordd fwyaf effeithiol o ymchwilio i berfformiad. Awgrymwyd dulliau eraill posibl ar gyfer gwella’r gwaith a’r perfformiad.
Diolchodd y Pwyllgor i'r Panel am ei amser a'i waith ac i'r Swyddogion a adroddodd i'r Panel a'r rhai a gefnogodd y Panel i ymgymryd â’r dasg. Ychwanegodd y Prif Weithredwr ei ddiolch am y gwaith a wnaed ac argymhellodd fân welliant i eiriad yr argymhelliad (1) i gynnwys cyfeiriad at y flwyddyn y byddai'r targed perfformiad yn berthnasol i'r perwyl bod y targed perfformiad lleol ar gyfer DPA 29 ar gyfer 2025/26 yn cael ei osod yn 35 diwrnod calendr i ailosod unedau llety y gellir eu gosod (ac eithrio unedau anodd eu gosod).
Penderfynwyd –
|
|
Blaen Raglen Waith 2024/25 PDF 363 KB Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini. Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini sy'n cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor ar gyfer 2024/25 i'w hystyried.
Penderfynwyd cytuno ar fersiwn gyfredol y Blaen Raglen Waith ar gyfer 2024/25 fel y'i cyflwynwyd.
|