Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor ac yn rhithiol drwy Zoom
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.
Cofnodion: Fe wnaeth y Cynghorydd Jackie Lewis ddatgan buddiant personol yn gysylltiedig ag unrhyw eitem sy’n cyfeirio at Fenter Môn a’r economi.
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 186 KB Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2024.
Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 13 Mehefin, 2024 yn gywir.
|
|
Monitro Perfformiad:Cerdyn Sgorio Ch1 2024/25 PDF 388 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid, a oedd yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 1 2024/2025, i’w ystyried gan y Pwyllgor.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes y Cyngor a Phrofiad Cwsmer a nodwyd bod yr adroddiad ar gyfer 2024/25 mewn fformat newydd a’i fod yn nodi perfformiad y Cyngor yn erbyn yr amcanion strategol yng Nghynllun y Cyngor. Mae nifer o’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn newydd, nid oes gan rhai ohonynt dargedau ar hyn o bryd ac maent yno i osod gwaelodlin, gyda rhywfaint o ddata ddim ar gael tan ddiwedd y flwyddyn. Fodd bynnag bydd tueddiadau’n cael eu monitro o Chwarter 2 yn ystod 2024/25 gyda’r nod o osod targedau yn 2024/25. Nododd bod 94% o’r dangosyddion sydd â thargedau, ac a gafodd eu monitro yn ystod y chwarter, yn perfformio’n dda. Cyfeiriodd at ddau ddangosydd sydd angen sylw: Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a dderbyniodd ymateb o fewn yr amserlen a chanran y busnesau risg uchel a gafodd eu harchwilio yn unol â’r safonau hylendid bwyd. Aeth y Cynghorydd Carwyn Jones ymlaen i ddweud bod 68.46% o ddisgyblion blwyddyn 11 yn astudio’r Gymraeg fel iaith gyntaf. Mae’r dangosydd hwn yn perfformio’n dda gyda statws Ambr, a dywedodd ei fod yn gobeithio gweld hyn yn cynyddu. Cyfeiriodd at y Gwasanaethau Plant, sy’n perfformio’n well na’r targedau ac at y Gwasanaethau Hamdden lle mae dros 130,000 wedi defnyddio’r gwasanaeth, sy’n uwch na’r targed o 115,000. Mae canran presenoldeb disgyblion ysgolion cynradd wedi cynyddu ers y pandemig. Roedd perfformiad da hefyd o ran datblygu tai Cyngor newydd gyda 22 o dai newydd yn cael eu datblygu yn ystod y cyfnod, ac o ran prynu cyn Dai Cyngor yn ôl i’w gosod fel Tai Cyngor gyda 16 o dai preifat yn dod yn dai rhent cymdeithasol unwaith eto o gymharu â tharged o 11 drwy’r ymyraethau Tai Gwag. Roedd canran y ceisiadau gorfodi cynllunio a ymchwiliwyd iddynt o fewn 84 diwrnod yn 97% yn erbyn targed o 80% a chanran yr unedau busnes a osodwyd yn 86%. Aeth ymlaen i ddweud bod canran y strydoedd sy’n lân yn 96.60% yn dilyn archwiliad gan yr Adran Briffyrdd, sy’n uwch na’r targed. Mae 12% o fflyd y Cyngor yn gerbydau carbon isel ac felly mae’r dangosydd yma’n perfformio’n dda.
Fe wnaeth yr Aelodau nodi’r perfformiadau da yn ystod Ch1 a diolch i’r Swyddogion a staff. Wrth graffu ar yr adroddiad, codwyd y pwyntiau canlynol gan y Pwyllgor a chafwyd ymateb gan yr Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer a’r Swyddogion.
|
|
Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2023/24 PDF 503 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid, a oedd yn cynnwys yr Adroddiad Perfformiad a Llesiant Blynyddol ar gyfer 2023/2024, i’w ystyried gan y Pwyllgor.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer. Dywedodd bod yr adroddiad yn nodi nifer o gyflawniadau nodedig sydd wedi cyfrannu at nifer o welliannau ac yn darparu sylfaen gadarn i gefnogi’r Cyngor er gwaetha’r heriau economaidd sydd o’i flaen. Cyfeiriodd at waith y Fforwm Iaith a nododd ei bod hi wedi bod yn bleser mynychu digwyddiad a drefnwyd gan y Fforwm yn Sioe Amaethyddol Ynys Môn ym mis Awst a bod y cydweithio i hyrwyddo’r Gymraeg yn gadarnhaol. Cyfeiriodd at y prosiectau Gofal Cymdeithasol a Llesiant, ac yn benodol at waith y gwasanaeth a’r cae 3G ym Modedern. Agorwyd trydydd Cartref Clyd er bydd ein pobl ifanc er mwyn eu galluogi i aros yn eu cymuned leol ac i sicrhau arbedion ariannol i’r Cyngor. Prosiectau Addysg – mae’r Cwricwlwm i Gymru wedi cael ei gyflwyno ym mhob ysgol ac mae systemau wedi cael eu datblygu i fesur effaith gwaith yn gysylltiedig â llesiant, cynhwysiant a lles plant, pobl ifanc a’r gweithlu. Tai – mae’r gwaith o ddatblygu Tai Gofal Ychwanegol yn Nhyddyn Mostyn , Porthaethwy yn mynd rhagddo. Yr Economi – mae’r unedau busnes ychwanegol wedi cael eu cwblhau yn Llangefni a Chaergybi. Newid Hinsawdd – buddsoddi yn ein hadeiladau i’w gwneud yn fwy effeithlon, lleihau’r ynni a ddefnyddir a lleihau allyriadau carbon y Cyngor. Diolchodd i staff y Cyngor am eu cyflawniadau a’u gwaith caled yn ystod y flwyddyn.
Wrth graffu ar yr adroddiad, codwyd y pwyntiau canlynol gan y Pwyllgor a chafwyd ymateb gan yr Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer a’r Swyddogion.
|
|
Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini, a oedd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor ar gyfer 2024/2025, i’w ystyried gan y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD cadarnhau’r fersiwn ddiweddaraf o’r Flaen Raglen Waith ar gyfer 2024/25 fel y’i cyflwynwyd.
|