Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol (Arbennig), Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol ar Zoom, Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Mercher, 21ain Mai, 2025 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor - Swyddfeydd y Cyngor

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorwyr Jeff Evans a Keith Roberts ddatgan budd personol yn unig mewn perthynas ag eitem 3 ar yr agenda fel aelodau o Gorff Llywodraethu Ysgol Uwchradd Caergybi.

 

Bu i’r Cynghorwyr Pip O'Neill a Trefor Lloyd Hughes, MBE (nad ydynt yn aelodau o'r pwyllgor) ddatgan budd personol mewn perthynas ag eitem 3 ar yr agenda fel aelodau o Gorff Llywodraethu Ysgol Uwchradd Caergybi a Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn y drefn honno.

 

2.

Adroddiad Ymgysylltu - Darpariaeth Addysg Ôl-16 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ar ganlyniad yr ymarferiad ymgysylltu â’r cyhoedd ynglŷn â dyfodol darpariaeth addysg ôl-16 ar Ynys Môn i'w ystyried a'i adolygu gan y pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Aelod Portffolio Addysg a'r Gymraeg, yr adroddiad gan egluro bod y Cyngor wedi penderfynu cynnal ymarferiad ymgysylltu â'r cyhoedd ar y ddarpariaeth addysg ôl-16 ar gyfer Ynys Môn a gynhaliwyd rhwng 20 Ionawr a 7 Mawrth 2025. Yn hytrach nag ymgynghoriad ffurfiol, dewiswyd yr ymarferiad ymgysylltu oherwydd nad oedd unrhyw gynnig penodol yn cael ei gyflwyno ac oherwydd bod y Cyngor eisiau cynnwys ystod ehangach o randdeiliaid a meithrin sgwrs ehangach i ddeall gwahanol safbwyntiau a barn. Gwahoddwyd rhanddeiliaid i roi adborth ar sawl opsiwn fel y nodwyd yn yr adroddiad a chawsant gyfle i gynnig opsiynau eraill. Yn ogystal â'r arolwg ymgysylltu, cynhaliwyd sesiynau wyneb yn wyneb ar gampws Coleg Menai yn Llangefni ac ar draws y pum ysgol uwchradd. Cafwyd ymateb sylweddol i’r ymarferiad ymgysylltu â’r cyhoedd fel y manylir yn yr adroddiad ymgysylltu.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod yr adroddiad yn elfen allweddol o ymrwymiad y Cyngor i adolygu'r ddarpariaeth addysg ôl-16, fel yr amlinellir yn Rhaglen Amlinellol Strategol Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu y Cyngor a'i Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu'r Gymraeg.  Mae'r ddwy ddogfen yn pwysleisio'r angen i ailasesu'r model darpariaeth addysg ôl-16 presennol i sicrhau ei fod yn gynaliadwy, yn effeithlon ac yn gallu ymateb i brofiadau dysgwyr. Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at yr heriau presennol o fewn y sector gan gynnwys maint dosbarthiadau, newidiadau demograffig a hyfywedd ariannol. Roedd mwyafrif yr ymatebwyr (54%) yn yr ymarferiad ymgysylltu’n gefnogol i adolygu'r ddarpariaeth addysg ôl-16, a'r opsiwn a ddewiswyd oedd Opsiwn 2 – datblygu perthynas waith agosach rhwng y darparwyr presennol. Nododd ymatebwyr sawl blaenoriaeth ar gyfer dyfodol darpariaeth ôl-16 gan gynnwys hygyrchedd lleol, ansawdd addysgu a’r dewis o bynciau’n lleol. O ystyried yr adborth a gafwyd drwy ymgysylltu cyhoeddus, argymhellir i'r pwyllgor eu bod yn cefnogi Opsiwn 2 fel y ffordd fwyaf priodol ymlaen ac awdurdodi swyddogion i baratoi cynllun strategol i'r perwyl hwn. Bydd y cynllun hefyd yn anelu at fynd i'r afael â'r heriau presennol o ran darpariaeth addysg ôl-16 ar Ynys Môn gan gryfhau hawliau a phrofiad dysgwyr ôl-16. Mae'r weledigaeth hon yn cyd-fynd â'r uchelgais ehangach o sicrhau addysg o'r ansawdd uchaf posibl ar yr Ynys ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

 

Wrth adolygu'r adroddiad ymgysylltu, trafododd y pwyllgor y materion canlynol –

·      Gofynnodd aelodau am eglurhad ynghylch beth fyddai perthynas waith agosach rhwng darparwyr presennol yn ei olygu, manteision y dull hwn ac a fyddai'n arwain at gostau ychwanegol.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod y Cyngor yn edrych ymlaen at weithio gydag ysgolion, y coleg, rhieni a dysgwyr i ddatblygu fframwaith ar gyfer cydweithredu agosach. Deilliodd nifer o syniadau o'r ymgysylltu cyhoeddus ac mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddod â'r rhanddeiliaid at ei gilydd i greu cynllun strategol i fynd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu'r Gymraeg - Adeiladu Ysgol Uwchradd Newydd Posib yn Ardal Caergybi pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc a oedd yn gofyn am farn y pwyllgor ar y cynnig i adleoli dysgwyr Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad ysgol newydd ar gyfer dysgwyr 11-18 oed a chynnal ymgynghoriad statudol i'w ystyried.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Aelod Portffolio Addysg a'r Gymraeg, yr adroddiad a'r cynnig fel persbectif cyffrous i Gaergybi a'r Ynys.  Tynnodd sylw at gyflwr adeilad Ysgol Uwchradd Caergybi. Er ei fod yn weithredol, mae angen gwaith atgyweirio mawr arno neu godi adeilad newydd yn ei le yn y tymor byr i'r tymor canolig. Mae’r ffaith bod RAAC mewn llawer o adeiladau'r ysgol yn golygu bod angen mynd i'r afael â'r sefyllfa yn y tymor byr. Er bod gwaith adfer wedi'i wneud i sicrhau bod yr ysgol yn ddiogel, mae datrysiad hirdymor yn hanfodol. Mae'r papur cynnig yn cyflwyno canlyniadau’r gwaith a wnaed i edrych ar ystod o opsiynau ar gyfer dyfodol Ysgol Uwchradd Caergybi ac mae wedi’i ysgrifennu yn unol â disgwyliadau’r Cod Trefniadaeth Ysgolion diwygiedig (011/2018).  O ystyried bod y gofynion ar ysgolion wedi datblygu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ystyrir mai’r cynnig i adleoli Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad ysgol newydd yw’r ateb mwyaf effeithiol i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r ysgol. Felly, gofynnir i'r pwyllgor gefnogi'r cynnig a dechrau ymgynghoriad statudol ar y mater.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc drosolwg o'r papur cynnig gan gadarnhau ei fod yn cydymffurfio â'r Cod Trefniadaeth Ysgolion diwygiedig ac yn cyd-fynd ag ymrwymiad y Cyngor i wella ysgolion a chreu amgylcheddau dysgu modern sy'n cefnogi cymunedau a'r Gymraeg. Mae'r cynnig yn cynnwys adleoli dysgwyr Ysgol Uwchradd Caergybi i ysgol newydd sydd wedi'i chynllunio'n benodol ar gyfer dysgwyr rhwng 11-18 oed gyda lle i 900 o ddisgyblion. Wrth ddatblygu'r cynnig, ystyriodd y Cyngor nifer o ffactorau fel yr amlinellir yn y papur a'r prif ffactor sy’n sbarduno’r cynnig yw cyflwr yr adeilad presennol - wedi'i ddosbarthu fel Gradd C (gweithredol ond mae angen gwaith atgyweirio mawr arno neu godi adeilad newydd yn ei le yn y tymor byr i'r tymor canolig). Mae'r costau cynnal a chadw presennol a'r rhai a ragwelir ar gyfer adeilad presennol yr ysgol yn y dyfodol yn dod i swm o bron £29m. Er bod amrywiaeth o opsiynau eraill ar gyfer dyfodol Ysgol Uwchradd Caergybi wedi'u hystyried, fel y manylir yn adran 6 o'r adroddiad, adleoli dysgwyr yr ysgol i ysgol bwrpasol newydd ar gyfer plant 11-18 oed yw'r opsiwn a ffefrir. Mae'r goblygiadau o ran cost wedi'u nodi yn adran 7 o'r adroddiad.

 

Disgrifiodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y cynnig fel cyfle i sefydlu ysgol fodern, addas i'r diben gan fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu Ysgol Uwchradd Caergybi, yn enwedig problem RAAC. Yn ogystal â hyn, mae gan y cynnig y potensial i sicrhau arbedion hirdymor o ran costau atgyweirio a chynnal a chadw dros y 25 mlynedd nesaf. Mae hefyd yn cyd-fynd ag amcanion y Cynllun Amlinellol Strategol. O dan y Cod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.