Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Llun, 3ydd Chwefror, 2014 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Gwnaed datganiad o ddiddordeb rhagfarnus gan y Cynghorydd Jeff Evans mewn perthynas ag Eitem 8 ar y rhaglen ynglŷn â gwybodaeth yn Atodiad 1 yr adroddiad ar yr eitem dan sylw ac ni chymerodd ran mewn unrhyw drafodaeth ar y rhan honno o’r adroddiad.

 

Gwnaed datganiad o ddiddordeb personol gan y Cynghorydd Ann Griffith mewn perthynas ag Eitem 8 ar y rhaglen ynglŷn â gwybodaeth yn Atodiad 1 yr adroddiad ar yr eitem dan sylw.

2.

Cofnodion Cyfarfod 9 Rhagfyr, 2013 pdf eicon PDF 187 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol

 

·         9 Rhagfyr, 2013

·         14 Ionawr, 2014

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr, 2013 ac 14 Ionawr, 2014 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

3.

Diweddariad y Cadeirydd

Y Cadeirydd i ddiweddaru’r Pwyllgor ar faterion perthynol.

Cofnodion:

3.1 Mudiad Ysgolion Meithrin - Cynnig i Ostwng Cymorth i MYM a Chymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn-Ysgol Cymru (Y Gymdeithas)

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor fod cais wedi ei wneud gan bedwar Aelod i’r mater uchod gael sylw yn dilyn pryderon a fynegwyd mewn perthynas ag un o’r cynigion ar gyfer arbedion a gyflwynwyd gan yr Adran Dysgu Gydol Oes fel rhan o’r ymgynghoriad ar Gyllideb 2014/15 ac fel y cafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn y cyfarfod ar 14 Ionawr i ostwng cymorth i’r Mudiad Ysgolion Meithrin a Chymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn-Ysgol Cymru.  Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i’r Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes roi eglurhad pellach ar y cynnig o ran ei effaith a’i risgiau posib ac i friffio’r Aelodau ar y sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â’r datblygiadau diweddar.

 

Gwnaed y pwyntiau isod gan y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes;

           Yr angen i gydbwyso gofynion statudol yn erbyn darpariaeth ddewisol wrth nodi arbedion posib fel rhan o’r broses ar gyfer llunio Cyllideb 2014/15.  O ran y ddarpariaeth Addysg, rhaid i’r AALl roi 10 awr o addysg i blant 3 oed yn unol â’r gyfraith.

           Gwneir y ddarpariaeth hon yn Ynys Môn trwy gyfuniad o gylchoedd/grwpiau sy’n caniatáu mynediad i blant 3 oed, ac i raddau llai mewn ysgolion cynradd sy’n caniatáu mynediad i blant 3 oed o’r mis Medi yn dilyn eu pen blwydd yn 3 oed gan olygu bod peth dyblygu yn y ddarpariaeth. 

           Ar hyn o bryd mae’r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes yn rhoi grant i’r Mudiad Ysgolion Meithrin a’r Cymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn-Ysgol ar gyfer y ddarpariaeth hon.

           Mae’r cynnig ar gyfer arbedion yn golygu gostwng oed mynediad i ysgolion er mwyn caniatáu mynediad i blant yn y tymor yn dilyn eu pen blwydd yn 3 oed ac mae’n ceisio rhoi sylw i’r elfen o ddyblygu.  Nid yw’r cynnig yn golygu gostwng y ddarpariaeth ond ei chyflwyno mewn lleoedd gwahanol.

           Er y cydnabyddir y gall bod gan y cynnig oblygiadau mewn perthynas â chyflogaeth leol, fe all, ar y llaw arall, gynhyrchu mwy o gyfleon mewn rhai ysgolion.

           Gall y cynnig hefyd fod yn risg i’r ddarpariaeth ar gyfer plant sy’noed yn yr ystyr y byddai’r cyllid i grwpiau MYM dan y trefniadau arfaethedig newydd ar gyfer plant 3 oed yn cael ei ostwng a byddai hynny’n codi cwestiwn ynghylch ymarferoldeb y Cylchoedd o ran eu gallu i gynnal darpariaeth ar gyfer plant 2½ oed yn unig.  Tynnwyd sylw at yr elfen risg hon pan gyflwynwyd y cynnig yn wreiddiol.

           Mae ystyriaethau heblaw am ystyriaethau ariannol hefyd yn berthnasol i’r ddarpariaeth Blynyddoedd Cynnar.  Mae’r rhain yn ymwneud ag ansawdd y ddarpariaeth a’r Iaith Gymraeg a sefydlu sylfaen yn y Blynyddoedd Cynnar lle gall pobl ifanc ffynnu yn eu defnydd o’r iaith.

           O ganlyniad i’r pryderon a godwyd ynghylch y mater hwn, cynhaliwyd cyfarfod gyda’r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Monitro Perfformiad - Cerdyn Sgorfwrdd Corfforaethol Chwarter 3 2013/14 pdf eicon PDF 498 KB

Cyflwyno’r Cerdyn Sgorfwrdd Corfforaethol am Chwarter 3 2013/14.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio Busnes a Rhaglen yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol a oedd yn dangos perfformiad yn erbyn dangosyddion allweddol ar gyfer diwedd Chwarter 3 2013/14.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys sylwebaeth ar ddangosyddion mewn perthynas â Rheoli Pobl, Rheoli Perfformiad a Gwasanaethau Cwsmer.

 

Cafwyd crynodeb o’r prif negeseuon ynghylch perfformiad yn Chwarter 3 gan y Rheolwr Cynllunio Busnes a Rhaglen fel y cawsant eu hadlewyrchu yn y Cerdyn Sgorio.  Tynnodd sylw at welliant a gwaethygiad mewn perfformiad lle 'roedd y rheini wedi digwydd ynghyd â’r rhesymau amdanynt; perfformiad yn erbyn dangosyddion cenedlaethol lle 'roedd yn rhagori ar y perfformiad lleol; camau a gymerwyd i reoli perfformiad a phatrymau sy’n dod i’r wyneb mewn meysydd gwasanaeth allweddol fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd yr Aelodau sylw i’r Cerdyn Sgorio a’r dystiolaeth gefnogol a gyflwynwyd a thynnwyd sylw at y materion isod fel rhai yr oeddent yn dymuno cael eglurhad pellach arnynt:

 

           Holwyd pam nad oedd unrhyw ddata rheoli perfformiad ariannol ar gael ar gyfer Chwarter 3.  Nododd yr Aelodau bod angen cydamseru’r amserlenni ar gyfer cynhyrchu gwybodaeth ynghylch rheoli perfformiad ariannol gyda’r amserlenni ar gyfer cynhyrchu gwybodaeth rheoli perfformiad am feysydd eraill.  Cytunodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Rheolwr Busnes a Rhaglen gan awgrymu y byddai’r fath amserlen wedi ei sefydlu ar gyfer y dyfodol i adrodd ar reolaeth ariannol ochr yn ochr â meysydd eraill.

           Nifer y dyddiau a gollir i absenoldeb salwch ar gyfartaledd.  Gyda’r pwysau cynyddol ar y gweithlu mewn amgylchedd o newid a thoriadau, nodwyd bod hwn yn faes y mae angen ei fonitro’n agos.  Awgrymwyd y byddai dadansoddiad manylach o’r rhesymau am absenoldeb salwch o fudd i’r Aelodau ddeall y sefyllfa ac fel bod modd rhoi gwell sylw i’r mater er budd y gweithwyr.

           Mynegwyd pryder ynghylch perfformiad a oedd yn is na’r targed mewn perthynas â’r ganran o gyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith a gynhaliwyd, yn arbennig o gofio eu pwysigrwydd fel ffordd o reoli salwch ac i ddwyn sylw at batrymau o absenoldeb.  Roedd y perfformiad gwirioneddol o ran cynnal cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith, sef 50% o gymharu â tharged o 90%, yn annerbyniol yn nhyb yr Aelodau a phwysleisiwyd, er gwaethaf cryfder neu wendid  y profforma Dychwelyd i’r Gwaith, dylai cynnal cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith gael ei weld fel dyletswydd y mae’n rhaid i reolwyr ei chyflawni, yn arbennig os yw’n ddisgwyliad polisi - nododd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) bod perfformiad yn y maes hwn wedi gwella yn y cyfnod o fis Medi i fis Tachwedd 2013 a bod y Cydlynydd absenoldeb salwch wedi bod yn cefnogi adrannau i reoli absenoldebau salwch.  Os oes polisïau a chanllawiau disgwylir bod rheolwyr yn cydymffurfio â nhw.  Awgrymodd y Cynghorydd Llinos Huws y gallai Aelodau’r Pwyllgor adolygu’r ffurflen cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith a’u dychwelyd wedyn i’r Swyddogion am  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cais gan Aelod am i Fater gael ei Ystyried i'w Graffu Arno pdf eicon PDF 873 KB

Ystyried cais gan y Cynghorydd Peter Rogers i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol graffu ar fater cau’r ffordd B4417 ar y cyffordd gyda’r A5 wrth Holland Arms.

 

(Copi o’r cais a Phrawf Arwyddocâd Sgriwtini ynghlwm)

Cofnodion:

 

Rhoddwyd ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Peter Rogers a aseswyd o dan Brawf Arwyddocâd Sgriwtini i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol edrych arno, sef y mater o gau’r B4417 yn y groeslon gyda’r A5 ym Mhentre Berw.

 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Rogers wrth y Pwyllgor ei fod wedi gwneud y cais oherwydd ei fod yn credu ei bod yn bwysig bod cau’r B4417, cyfathrebu gyda thrigolion lleol a busnesau ac effaith y cau hwnnw arnynt, yn ogystal â chostau tebygol y gwaith trwsio yn haeddu cael eu harchwilio’n fanylach gan y Pwyllgor Sgrwitini Corfforaethol er mwyn sefydlu a ellir dysgu gwersi o’r ffordd y deliwyd gyda’r mater.

 

Cymeradwyodd y Pwyllgor y cais ac roeddent yn credu y dylai’r mater gael ei ymchwilio gan Banel o’i Aelodau.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais a wnaed gan y Cynghorydd Peter Rogers a bod y mater o gau’r B4417 yn y groeslon gyda’r A5 ym Mhentre Berw yn cael ei graffu gan Banel o’r Pwyllgor gyda’r Aelodau canlynol

Cadeirydd neu Is-Gadeirydd y Pwyllgor

Y Cynghorydd Victor Hughes

Y Cynghorydd Peter Rogers gyda gwahoddiad i fynychu i’r

Cynghorydd Richard Dew fel Deilydd Portffolio Priffyrdd

 

CAMAU GWEITHREDU’N CODI : Y Rheolwr Sgriwtini i gydlynu’r broses o alw cyfarfodydd o’r Panel gyda gwahoddiad i’r personél perthnasol i fynychu fel bo’r angen.

6.

Amseriad Cyfarfodydd pdf eicon PDF 134 KB

 

1.Adrodd i’r Cyngor Sir yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Ionawr, 2014 benderfynu fel a ganlyn mewn perthynas â’r mater uchod:

 

·        “I gefnogi cynnal rhai cyfarfodydd (Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a’r ddau Bwyllgor Sgriwtini) am 4:00 p.m. a 4:30 p.m. a bod y trefniadau’n cael eu trafod gyda Chadeiryddion ac Aelodau’r pwyllgorau perthnasol a bod adroddiad cynnydd yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Cyngor ar 27 Chwefor, 2014.

 

·        Nodi canfyddiadau’r asesiad effaith cydraddoldeb cychwynnol.

 

·        Bod trefniadau’n cael eu treialu am gyfnod o 12 mis gan ddechrau yn Ebrill, 2014.”

 

2.Cyflwyno adroddiad Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd fel y’i cyflwynwyd i gyfarfod y Cyngor Sir ar 27 Ionawr.

 

3.Derbyn barn y Pwyllgor ar y mater.

 

(Pe bai unrhyw Aelodau’n methu â bod yn bresennol, a fyddent garediced ag anfon eu dewisiadau ymlaen i Gadeirydd y Pwyllgor)

Cofnodion:

 

6.1  Dywedwyd bod y Cyngor Sir yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2014 wedi penderfynu fel a ganlyn ynglŷn â’r mater uchod  -

 

          Cefnogi galw rhai cyfarfodydd (Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a’r ddau Bwyllgor Sgriwtini) am 4:00pm a 4:30pm a bod y trefniadau’n cael eu trafod gyda’r Caderiyddion ac Aelodau’r Pwyllgorau perthnasol a bod adroddiad diweddaru’n cael gyflwyno i’r cyfarfod nesaf sydd wedi ei drefnu o’r Cyngor ar 27 Chwefror 2014.

           Nodi canfyddiadau’r asesiad effaith cydraddoldeb cychwynnol.

           Bod trefniadau’n cael eu treialu am gyfnod o 12 mis gan ddechrau yn Ebrill 2014.”

6.2  Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Democrataidd fel oedd wedi ei gyflwyno i’r cyfarfod o’r Cyngor Sir ar 27 Ionawr 2014 er gwybodaeth i’r Pwyllgor.

 

Ystyriodd yr Aelodau y mater gan ofyn cwestiynau i’r Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas â chefndir y mater o amseriad y cyfarfodydd gan ofyn faint o ymgynghori a fu.  Gwnaed gwahanol awgrymiadau a nodwyd bod yn rhaid i’r Cyngor roi sylw i gyfleon cyfartal wrth drafod y mater hwn ac y gall galw cyfarfodydd ar rai amseroedd h.y. 4:00pm fod yn anfanteisiol i rhai grwpiau e.e. merched gyda phlant.

 

Yn dilyn trafodaeth, nododd y mwyafrif o Aelodau’r Pwyllgor y byddai’n well ganddynt gadw’r sefyllfa fel ag y mae ac y dylai’r cyfarfodydd o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol barhau i gael ei galw am 2:00pm.  Roedd y Cynghorydd Ann Griffith yn dymuno iddo gael ei nodi ei bod o blaid galw cyfarfodydd yn y bore.

 

Penderfynwyd nodi 2:00pm fel yr opsiwn a ffefrir gan Aelodau’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar gyfer galw cyfarfodydd o’r Pwyllgor Sgrwitni Corfforaethol.

7.

Rhaglen Waith pdf eicon PDF 409 KB

Cyflwyno Rhaglen Waith y Pwyllgor.

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd rhaglen waith y Pwyllgor Sgrwitini Corfforaethol hyd ddiwedd mis Ebrill 2014, a’i nodi.  Tynnodd y Rheolwr Sgriwtini sylw’r Aeldoau at y ffaith y bydd y cyfarfod o’r Pwyllgor ar ddiwedd mis Ebrill wedi gorfod cael ei ddwyn ymlaen fel y gall Pwyllgor graffu ar Adroddiad Gwella’r Cyngor cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar 22 Ebrill.  Dywedodd y Swyddog y bydd gwaith ar ddatblygu blaenraglen waith y flwyddyn nesaf yn dechrau yn bur fuan.

 

Penderfynwyd bod cyfarfod o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynlluniwyd ar gyfer 28 Ebrill 2014 yn cael ei aildrefnu am y rheswm a roddwyd.

 

CAMAU GWEITHREDU’N CODI :  Y Rheolwr Sgriwtini yn cysylltu gyda’r Cadeirydd i drefnu dyddiad newydd ar gyfer Pwyllgor mis Ebrill.

8.

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd pdf eicon PDF 234 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:

 

“O dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fe y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”

Cofnodion:

Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm".

 

9.

Dileu Dyledion

Cyflwyno adroddiad ynglyn â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Refeniw a Budd-daliadau ar ddyledion yr argymhellir eu dileu a hefyd ddogfennau cysylltiol i’r Pwyllgor eu hystyried a rhoi ei sylwadau cyn y byddai’r Swyddog Adran 151 a’r Deilydd Portffolio yn ymarfer eu pwerau dirprwyedig ynglŷn â hwy. 

 

Rhoddodd y Rheolwr Refeniw a Budd-daliadau gefndir a chyd-destun y gofynion casglu ac adennill dyled mewn perthynas â threth y Cyngor, cyfraddau busnes, budd-daliadau tai a rhent tai.  Roedd yr Aelodau eisiau cael eglurhad ar faterion mewn perthynas â dyledion drwg ac fe wnaed y sylwadau canlynol gyda golwg ar wella’r sefyllfa

 

           Yr angen i gyflymu prosesau ariannol a chyfreithiol a gweithdrefnau ar gyfer adennill dyled fel nad yw dyledion yn parhau heb gael sylw am gyfnod hir o amser.

           Yr angen i dynhau gweithdrefnau gweinyddol a hefyd drosolwg fel na fydd gordaliadau’n digwydd.

           Yr angen i adolygu arferion gorfodaeth er mwyn lleihau costau yn y maes hwn.

 

Penderfynwyd nodi’r sefyllfa yng nghyswllt y dyledion a argymhellwyd i’w ddileu ynghyd â’r sylwadau a wnaed arnynt.