Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Mawrth, 14eg Ionawr, 2014 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Swyddfeydd y Cyngor

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb ar y pwynt hwn.

2.

Cofnodion Cyfarfod 9 Rhagfyr, 2013 pdf eicon PDF 190 KB

Bydd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr, 2013 yn cael eu cyflwyno i’w cadarnhau.

Cofnodion:

Gohiriwyd ystyried cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2013 hyd y cyfarfod nesaf.

3.

Diweddariad y Cadeirydd

Derbyn diweddariad ar weithgareddau gan y Cadeirydd.

Cofnodion:

Gohiriwyd cael diweddariad gan y Cadeirydd ar weithgareddau hyd y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor.

4.

Cwrdd â'r Heriau - Ymgynghoriad ar Gyllideb 2014-15 pdf eicon PDF 4 MB

Ystyried cynigion cychwynnol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer Cyllideb y Cyngor am 2014/15.  Dogfennau ynghlwm fel cyfeirnod -

 

·         Dogfen Ymgynghori Cwrdd â’r Heriau – Cyllideb 2014-15.

 

·         Adroddiad i gyfarfod 16 Rhagfyr y Pwyllgor Gwaith -  Cynigion Cychwynnol ar gyfer Cyllideb 2014/15.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cynigion cychwynnol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer Cyllideb 2014/15 fel a gafwyd yn yr Ymgynghoriad Cyfarfod â’r Heriau ac adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) i gyfarfod 16 Rhagfyr o’r Pwyllgor Gwaith, er ystyriaeth y Pwyllgor.  Roedd y dogfennau’n amlinellu’r prif heriau cyllidebol sy’n wynebu’r Awdurdod ynghyd â rhestr o gamau ac arbedion y bwriedir eu cymryd i gyfarfod â’r heriau hynny yn 2014/15 a thu hwnt.

 

Amlinellodd y Deilydd Portffolio Cyllid yr egwyddorion sylfaenol yr oedd cyllideb ddrafft y Cyngor am 2014/15 wedi ei seilio arnynt a hynny’n cynnwys diogelu, i’r graddau roedd hynny’n bosibl, wasanaethau statudol a llinell flaen a hefyd gyflwyno arferion gweithio a gweithgareddau mwy effeithiol. Oherwydd y pwyslais ar wella effeithlonrwydd , nid oes unrhyw gynigion ar ffurf cau sefydliadau yn cael eu cyflwyno fel rhan o’r pecyn cyllidebol. Cyfeiriodd y Deilydd Portffolio Cyllid hefyd at y Rhaglen Drawsnewid sy’n parhau. Bydd canlyniadau’r rhaglen ar ffurf ailgyflunio ac ailfodelu gwasanaethau yn dod i rym yn y flwyddyn ariannol nesaf er mwyn cyfarfod â phwysau fydd hyn yn oed yn fwy ar gyllideb y Cyngor bryd hynny.

 

Bu’r Aelodau wedyn yn ystyried yn fanwl bob un o’r cynigion unigol i arbed oedd wedi eu rhoi ymlaen gan bob Adran ac/neu gyfarwyddiaeth yn cynnwys Dysgu Gydol Oes, Dirprwy Brif Weithredwr (yn cynnwys Gwasanaethau Canolog, Cyllid a Gwasanaethau TGCh, Gwasanaethau Cyfreithiol, Polisi, Swyddfa’r Prif Weithredwr a Gwasanaethau Corfforaethol), Datblygu Cynaliadwy ac Adrannau Cymunedol fel oedd i’w weld dan Atodiad B.  Gwahoddwyd y Cyfarwyddwr, Penaethiaid Gwasanaeth a Deilyddion Portffolio perthnasol o bob Adran/Gwasanaeth i siarad gerbron y Pwyllgor ar y materion a ganlyn –

 

·         Y targedau arbed oedd wedi eu nodi ar gyfer gwasanaethau

·         Y rhesymeg tu ôl i’r cynigion a gyflwynwyd i gyfarfod â’r targedau a’r deilliannau a ddisgwylir.

·         Unrhyw newidiadau, addasiadau ac / neu newidiadau a wnaed i’r cynigion yn y cyfnod ers iddynt gael eu ffurfio am y tro cyntaf a’u cyflwyno a goblygiadau hynny.

 

(Rhoddwyd y cynigion arbed manwl mewn cysylltiad â’r Adran Gymunedol yn cynnwys Gwasanaethau Tai, Gofal Cymdeithasol Oedolion a Gwasanaethau Plant gerbron y cyfarfod).

 

Holodd yr Aelodau y Deilyddion Portffolio a Swyddogion y gwasanaethau perthnasol ar sail yr ystyriaethau canlynol –

 

·         Y meini prawf a ddefnyddiwyd lle 'roedd hynny’n berthnasol e.e. mewn perthynas â rhesymoli clybiau ieuenctid.

·         Effaith y cynigion i arbed ar y gwasanaeth perthnasol o ran gostyngiad mewn darpariaeth a’r effeithiau posibl ar ddefnyddwyr gwasanaeth ynghyd ag unrhyw liniaru a fwriedir.

·         Unrhyw ddarpariaeth arall ac / neu drefniadau a wnaed lle bo effaith y gostyngiad mewn gwasanaeth yn disgyn ar faes penodol neu grwp defnyddwyr e.e. darparu cludiant i glybiau ieuenctid lle bo’r clwb ieuenctid lleol wedi ei gau.

·         Y lefel o risg oedd ynglŷn â phob cynnig i arbed yn arbennig o ran cyfarfod â dyletswyddau statudol ac / neu gadw safon ac ansawdd y gwasanaeth e.e. mewn perthynas â Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Gwasanaethau Plant a sut y cafodd hyn ei werthuso.

·         Pa mor gadarn a chyraeddadwy oedd y cynigion i arbed ac a oedd gan  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Rhaglen Waith pdf eicon PDF 145 KB

Cyflwyno Rhaglen Waith ddiwygiedig y Pwyllgor hyd at ddiwedd Ebrill,

2014. (Adroddiad Hwyr)

Cofnodion:

Gohiriwyd ystyried Rhaglen Waith newydd y Pwyllgor hyd ddiwedd mis Ebrill 2014, i’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor.