Rhaglen a chofnodion

Q2, Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Iau, 17eg Ebrill, 2014 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Swyddfeydd y Cyngor

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Diweddariad y Cadeirydd

Y Cadeirydd i ddiweddaru’r Pwyllgor ar ddatblygiadau.

Cofnodion:

  Dywedodd y Cadeirydd wrth yr Aelodau nad oedd wedi gallu mynychu’r ddau gyfarfod blaenorol o’r Panel Iaith Gymraeg ond ei fod yn bwriadu bod yn bresennol yn y cyfarfod oedd wedi ei drefnu ar gyfer 29 Ebrill.  Mae panel wedi ei sefydlu ac wedi cyfarfod ddwywaith i edrych ar y broses o osod y gyllideb ar gyfer 2015/16.

 

  Adroddiad ar Drawsnewid

 

   Dywedodd y Cynghorydd Llinos Huws bod y Bwrdd Prosiect Moderneiddio Ysgolion wedi cyfarfod ddechrau mis Ebrill lle'r oedd ystyriaeth wedi ei roi i safleoedd posibl fel rhan o’r ymgynghori ar y Llannau ac i opsiynau yng Nghaergybi yn cynnwys costau ac adeilad safonol.  Mae Swyddogion llywodraeth Cymru wedi cyfarfod ag Aelodau’r Bwrdd ynglŷn â’r RhAS.

 

   Cadarnhaodd y Cynghorydd Victor Hughes bod y Bwrdd Prosiect Gweithio’n Gallach yn parhau gyda’i raglen uchelgeisiol a bod nifer o faterion yn cael eu hystyried a bod y targedau a’r cyfnodau amser yn rhai heriol.

3.

Cofnodion Cyfarfod 3ydd Chwefror, 2014 pdf eicon PDF 198 KB

Bydd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 3ydd Chwefror, 2014 yn cael eu cyflwyno i’w cadarnhau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 3 Chwefror 2014.

 

Materion yn codi

 

  Cadarnhaodd y Rheolwr Sgriwtini bod sylwadau’r Pwyllgor fel rhan o’i archwiliad manwl o’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 3 wedi ei adrodd yn ôl gan y Deilydd Portffolio ar gyfer Perfformiad, Trawsnewid, Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau Dynol i’r Cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith ar 10 Chwefror ac roedd gwerth cyfraniad y Pwyllgor wedi ei gydnabod.

 

  Mewn perthynas ag amser y cyfarfodydd o’r Pwyllgor dywedodd y Cadeirydd iddo gael ei hysbysu gan y Cynghorydd Ann Griffith na fyddai hi yn gallu mynychu pob un o Gyfarfodydd y Cyngor oherwydd eu bod yn cychwyn yn y prynhawn.  Crybwyllodd y Cadeirydd y posibilrwydd o newid amseriad y cyfarfodydd o’r Pwyllgor.

 

Atgoffodd y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Democrataidd yr Aelodau bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn ei gyfarfod blaenorol ac fel rhan o ymgynghoriad y Cyngor Sir ar amseriad rhai cyfarfodydd o Bwyllgorau penodol wedi ail-gadarnhau ei ddewis i gael amser cychwyn o 2:00pm, a bod y Cyngor wedyn hynny yn dilyn rhoi sylw i safbwyntiau’r ddau Bwyllgor Sgriwtini wedi penderfynu yn ei gyfarfod ar 27 Chwefror 2014 na fyddai yna unrhyw newid yn amseroedd cychwyn y ddau bwyllgor hwnnw h.y. byddai’r cyfarfodydd yn parhau i gael eu cynnal am 2:00pm. 

4.

Dogfen Cyflawni Blynyddol 2014/15 pdf eicon PDF 559 KB

Cyflwyno’r Ddogfen Cyflawni Blynyddol  2014/15.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio Rhaglen a Busnes yn ymgorffori dogfen ddarparu flynyddol Cyngor Sir Ynys Môn (Cynllun Gwella) 2014/15 i ystyriaeth ac er sylwadau’r Pwyllgor.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Perfformio bod y Ddogfen Ddarparu Flynyddol yn amlinellu sut y bydd yr Awdurdod yn darparu ar ei addewidion dros y deuddeng mis sydd i ddod o dan y saith thema allweddol yng Nghynllun Corfforaethol 2013-17 ,a rhoddodd amlinelliad byr ohono.

Roedd y canlynol yn faterion a amlygwyd gan Aelodau’r Pwyllgor ar y ddogfen:

 

  Gofynnwyd ym mha ffordd yr oedd y ddogfen ddarparu yn cyd-fynd â’r Cynllun Corfforaethol.  Eglurodd y Cynghorydd Perfformiad bod y Ddogfen Ddarparu yn crynhoi sut y mae’r gwasanaethau yn bwriadu cyflawni amcanion y Cynllun Corfforaethol yn ystod 2014/15.

  Crybwyllwyd y bwriad i sefydlu Panel Strategaeth Ddiogelu mewn perthynas â phlant a phobl ifanc ac awgrymwyd y dylai hyn gael ei adlewyrchu yn y Ddogfen Ddarparu.  Dywedodd y Deilydd Portffolio Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol bod systemau diogelu yn eu lle ond roedd angen o hyd i barhau i ddatblygu ymwybyddiaeth Aelodau o’u cyfrifoldebau yng nghyswllt rhiantu corfforaethol a beth yr oedd y rôl honno yn ei olygu.

  Tra’n derbyn y ddogfen fel un uchelgeisiol ac un oedd i’w chanmol yn ei bwriadau, mynegwyd peth pryder ynglŷn â pha mor gyraeddadwy ydoedd o fewn amserlen o flwyddyn ac o fewn cyd-destun o adnoddau oedd yn prinhau.  Pwysleisiwyd bod angen i amcanion fod yn rhai realistig a chyraeddadwy ac yn cael eu cefnogi gan dystiolaeth o sut y maent yn mynd i gael eu hariannu.  Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod ystyriaeth ddyledus wedi ei roi i fwriadau’r ddogfen ac i’r hyn sy’n bosibl ac fe allai bob un o’r Deilyddion Portffolio dystio i drylwyredd y broses.  Nid yw’r ddogfen ddarparu yn bwriadu dweud y bydd yr holl amcanion i bob un o’r meysydd ffocws yn cael eu cwblhau e.e. yng nghyswllt tai gofal ychwanegol bydd angen gwneud y gwaith paratoi fel y gellir symud ymlaen i ddarparu’r tai gofal ychwanegol.  At hyn, mae’r ddogfen yn cael ei chefnogi gan fframwaith atebolrwydd ar ffurf y byrddau prosiect a thrawsnewid er mwyn sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud yn unol â’r targedau.  O safbwynt y gwasanaeth tai, dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth Tai ei bod yn hyderus y bydd yr amcanion ar gyfer y Gwasanaethau Tai yn cael eu cyflawni a’u bod wedi eu cefnogi gan gynlluniau busnes manwl.

  Y trefniadau ar gyfer monitro darpariaeth a chyflawni pob maes ffocws.  Dywedodd y Cynghorydd Perfformiad y bydd y gwaith o ddarparu’r themâu a’r canlyniadau yn llwyddiannus yn cael ei fonitro drwy brosesau rheoli perfformiad sefydlog yr Awdurdod a gweithdrefnau eraill yn cynnwys cyfarfodydd chwarterol rheolaidd lle bydd gwasanaethau’n cael eu herio ar eu perfformiad a’u defnydd o adnoddau.

  A yw trawsnewid system TGCh yr Awdurdod i’w alluogi i ddod yn sefydliad 24/7 yn ymarferol o fewn amserlen o  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cytundeb Canlyniadau 2013-16 pdf eicon PDF 607 KB

Cyflwyno adroddiad  ynglyn â’r Cytundeb Canlyniadau 2013-16.

 

Cofnodion:

Cyflynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio Rhaglen a Busnes ynglŷn â’r Cytundeb Canlyniad newydd am y cyfnod 2013 - 2016.  Roedd yr adroddiad yn nodi’r pum thema strategol a gytunwyd gyda Llywodraeth Cymru o’i Raglen ar gyfer Llywodraethu ynghyd â gweithgareddau a thargedau manwl ar gyfer pob thema strategol fel oedd i’w weld yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Eglurodd y Cynghorydd Perfformiad beth oedd y sail ar gyfer talu’r grant Cytundeb Canlyniad a’r amodau oedd ynglŷn â hynny yn ogystal â’r dewis o’r themâu strategol yn seiliedig ar eu perthynas agos gyda blaenoriaethau’r cynllun Corfforaethol, sail dystiolaeth gref ar gyfradd o lwyddiant tebygol.  Cadarnhaodd y Swyddog bod Llywodraeth Cymru bellach wedi derbyn y Cytundeb Canlyniad 2013-16.

 

Roedd yr Aelodau am gael gwybodaeth ynglŷn â’r materion canlynol yn yr adroddiad -

 

  Eglurhad o’r prosesau talu a gosod targedau.

  Diffyg eglurder a manylion o amgylch rhai o’r targedau gyda hynny’n gwneud sgriwtini yn anodd.

  Ymddengys bod gwrthdaro sylfaenol rhwng y targedau a osodwyd a realiti'r sefyllfa lle mae’r adnoddau a’r gwasanaethau sy’n galluogi’r targedau gael eu cyflawni yn cael eu lleihau ac yn prinhau.  Dywedodd yr Arweinydd y gallai y bydd gostyngiadau mewn blynyddoedd i ddod yn cael effaith ar gyflawni targedau, mae yna dystiolaeth glir ar hyn o bryd bod yr Awdurdod yn cyfarfod â’r targedau y mae wedi eu gosod e.e. gyda gwella profiadau blynyddoedd cynnar.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Perfformiad yng nghyswllt y broses bod gan y Pwyllgor Sgriwtini rôl allweddol i’w chwarae gyda monitro a sicrhau y darperir ar y targedau sydd wedi eu gosod o dan bob un o’r themâu strategol dros gwrs y Cytundeb Canlyniad.

 

Penderfynwyd derbyn Cytundeb Canlyniad 2013-16 ac argymell ei fabwysiadu gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 19 Mai, 2014.

 

DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI

6.

Adroddiad Blynyddol Addysg Ebrill 2014 pdf eicon PDF 683 KB

Cyflwyno’r Adroddiad Blynyddol Addysg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes yn cynnwys y canlyniadau diwedd cyfnod allweddol am y flwyddyn academaidd flaenorol ynghyd â gwybodaeth ynglŷn ag addysg ôl-16, profion darllen, presenoldeb yn yr ysgolion a chanlyniadau archwiliadau ysgol.  .

 

            Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr Ysgolion, Safonau a Chynhwysiad at Tabl 1 yr adroddiad oedd yn dangos canran y disgyblion o oed ysgol statudol sydd â hawl i ginio ysgol am ddim ym Môn am y 4 blynedd ddiwethaf o gymharu â Chymru ac awdurdodau unigol.  Mae Ynys Môn yn yr 13 safle allan o 22 awdurdod yng Nghymru yn hyn o beth.  Mae’r tabl yn awgrymu, os yw’r hawl i ginio ysgol am ddim yn fesur priodol o amddifadedd, yna dylai perfformiad Ynys Môn fod yn yr hanner uchaf ymysg awdurdodau Cymru h.y. yn uwch na’r safle prydau ysgol am ddim, felly 12fed neu uwch.  Dywedodd y Swyddog bod y data yn dangos bod y perfformiad yn ysgolion Ynys Môn yn yr holl gyfnodau allweddol wedi gwella ac aeth ymlaen i ehangu ar y manylion yn y tablau o fewn yr adroddiad o ran yr hyn yr oeddent yn eu hadlewyrchu am berfformiad ar bob cyfnod allweddol ac yn erbyn y meincnodau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.  Yn unol â’r arfer yn Ynys Môn, roedd y Deilydd Portffolio Addysg wedi ei hysbysu am yr ysgolion unigol hynny lle y bu’r perfformiad yn y chwartel isaf am dair blynedd.  Awgrymodd y Swyddog y gallai’r Pwyllgor efallai fod eisiau ystyried a rhannu’r wybodaeth honno gyda’r Grŵp Adolygu Cynnydd Ysgolion.

 

Ystyriwyd yr adroddiad gan yr Aelodau gan gydnabod y gwelliant cyffredinol a wnaed.  Gofynnwyd a oedd rhieni yn derbyn gwybodaeth am ysgolion yn tanberfformio.  Awgrymwyd hefyd bod cefndir economaidd yn rhywbeth allweddol ar gyfer penderfynu gallu addysgol ac y gall yn y pendraw gael dylanwad ar gyrhaeddiad.  Dywedodd yr Uwch Reolwr Ysgolion, Safonau a Chynhwysiad bod angen i ysgolion ar ddiwedd y cyfnodau allweddol ddarparu ynghyd â’r adroddiad blynyddol i rieni, gymhariaeth ystadegol gyda chanlyniadau’n genedlaethol o ganlyniadau’r ysgol ar gyfer y grŵp o blant sy’n cynnwys eu plentyn hwy.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes mai nod yr Awdurdod Addysg yw datblygu systemau sy’n galluogi ac yn sicrhau bod pob plentyn, beth bynnag fo eu cefndir economaidd, yn cyflawni eu potensial.

 

Penderfynwyd derbyn yr Adroddiad Blynyddol a nodi ei gynnwys.

 

DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI

 

7.

Setiau Data Craidd Awdurdodau Lleol pdf eicon PDF 675 KB

Derbyn gwybodaeth ynglyn â’r Setiau Data Craidd Awdurdodau Lleol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes yn cynnwys setiau data craidd yr Awdurdod Lleol i sylw’r Pwyllgor.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am berfformiad addysgol yn erbyn y prif ddangosyddion a thrwy hynny yn caniatáu i gymhariaeth gael ei wneud o berfformiad rhwng awdurdodau yng Nghymru yn ogystal â chymhariaeth o berfformiad bechgyn a genethod a hefyd berfformiad disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim o gymharu â disgyblion eraill.

 

Penderfynwyd nodi’r wybodaeth.

 

DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI

8.

Uned Cynnal a Chadw'r Gwasanaeth Tai pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad ynglyn â’r adolygiad o Uned Cynnal a Chadw’r Gwasanaeth Tai. (ADRODDIAD HWYR)

 

Cofnodion:

Oherwydd na chafwyd digon o amser i’r Aelodau ystyried dogfennau cynhwysfawr mewn perthynas â’r mater hwn, penderfynwyd gohirio ystyried yr eitem hyd gyfarfod nesaf y Pwyllgor a drefnwyd ar gyfer 12 Mai.  Gwahoddwyd y Pennaeth Gwasanaethau Tai gan y Cadeirydd i roi cyflwyniad gweledol i’r Pwyllgor ar gefndir a hefyd wybodaeth gyd-destunol a rhoddwyd cyfle wedyn i’r Aelodau ofyn cwestiynau i’r Swyddog.

9.

Rhaglen Waith y Pwyllgor pdf eicon PDF 681 KB

Cyflwyno Rhaglen Waith y Pwyllgor am 2014/15.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini yn cynnwys Blaenraglen Waith ddrafft y Pwyllgor am 2014/15 i sylw’r Pwyllgor.

 

Nododd y Rheolwr Sgriwtini y materion canlynol

 

  Mae nifer o gyfarfodydd adolygu gwasanaeth wedi eu cynllunio ac y mae’r Cadeirydd wedi ei wahodd iddynt.  Bwriad y Cadeirydd yw dyrannu rhai o’r cyfarfodydd i Aelodau eraill o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a bydd y trefniadau hyn yn cael eu trafod gyda’r Aelodau.

  Roedd y Rheolwr Rhaglen Trawsnewid Corfforaethol wedi gofyn am adborth gan Aelodau Sgriwtini ar y rhaglen ar ddiwedd 12 mis o’i gweithredu fel y gall trefniadau’r bwrdd/prosiect gael eu gwella os oes angen.

  Mae’r Flaenraglen Waith yn hyblyg er mwyn gallu cynnwys materion sy’n dod i’r amlwg o bryd i’w gilydd.

  Gofynnir i’r Pwyllgor gefnogi newidiadau i’r Cyfansoddiad o ran bwriad y Pwyllgorau Trosolwg a Sgriwtini i gynyddu’r nifer o gyfarfodydd cyffredin o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ym mhob blwyddyn ddinesig o 6 i 8 ac i ganiatáu i gylch gorchwyl y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaethau ac Adfywio gael ei ymestyn i ganiatáu iddo ystyried gwaith oedd cyn hynny yn disgyn y tu allan i’w sgôp a thrwy hynny ysgafnhau ychydig ar bwysau gwaith y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.

  Gofynnir i’r Pwyllgor fod yn gefnogol i sefydlu Panel Canlyniad Sgriwtini i fod a throsolwg ac i fonitro gweithrediad argymhellion cyllideb Sgriwtini i’r Pwyllgor Gwaith (ynghlwm fel Atodiad 2) yn dilyn ystyried Cyllideb Gorfforaethol 2014/15.  Y panel i gyfarfod yn ddau fisol.

 

Penderfynwyd

 

  Derbyn y Flaenraglen Waith oedd i’w gweld yn Atodiad 1.

  Gofyn i’r Rheolwr Sgriwtini a’r Cyfreithiwr Llywodraethu Corfforaethol baratoi gyda’i gilydd adroddiad i’w gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ac wedi hynny i’r Cyngor Sir, yn diwygio Cyfansoddiad y Cyngor i gynyddu’r nifer o gyfarfodydd cyffredin o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol o 6 i 8 ym mhob blwyddyn ddinesig, ac i newid cylch gorchwyl y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaethau ac Adfywio i ganiatáu iddo ystyried y materion sydd ar hyn o bryd yn disgyn o fewn sgôp y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.

  Bod yn gefnogol i sefydlu Panel Canlyniad Sgriwtini i fonitro argymhellion cyllidebol Sgriwtini i’r Pwyllgor Gwaith yn dilyn ystyried Cyllideb Gorfforaethol 2014/15.

 

CAMAU GWEITHREDU YN CODI: Y Rheolwr Sgriwtini i anfon e-bost i Aelodau i gael enwebiadau i wasanaethu ar y Panel Canlyniad Sgriwtini y Gyllideb yn ychwanegol i’r Cadeirydd ac/neu’r Is-Gadeirydd.

10.

Cyfarfod Nesaf

Cyfarfod nesaf y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol  wedi’i drefnu am 2 o’r gloch y prynhawn, dydd Llun, 12 Mai, 2014.

Cofnodion:

Nodwyd ei fod wedi ei drefnu ar gyfer 2:00 p.m. dydd Llun 12 Mai 2014.