Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Mawrth, 1af Gorffennaf, 2014 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Diweddariad y Cadeirydd

Derbyn diweddariad y Cadeirydd.

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr isod

 

  Lansio dogfen o’r enw ‘Raising the Stakes: Financial Scrutiny in Challenging Times’ yng Nghaerdydd ar 26 Mehefin 2014 gan y Ganolfan ar gyfer Craffu Cyhoeddus.  Roedd ef a’r Swyddog Sgriwtini wedi mynychu’r lansiad trwy gyswllt fideo o Swyddfa Ranbarthol Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno.  Dywedodd y Cadeirydd y byddai trefniadau’n cael eu gwneud i Aelodau’r Pwyllgor gael copi o’r ddogfen sy’n delio gyda sgriwtini ariannol.

  Gweithdy Iaith Gymraeg yr oedd wedi bod yn bresennol ynddo ac a oedd yn rhoi sylw i’r Adroddiad Monitro Blynyddol ar yr Iaith Gymraeg.

  Cyfarfod a gynhaliwyd rhwng Swyddogion a Chadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Sgriwtini i roi sylw i faterion mewn perthynas â threfnu’r baich gwaith sgriwtini yn well ac er mwyn integreiddio’r rhaglen o waith sgriwtini gyda rhaglen y Pwyllgor Gwaith.

  Cyfeiriodd yr Is-Gadeirydd at waith a oedd yn cael ei wneud gan y panel adolygu ysgolion i sgriwtineiddio’n ofalus y materion hynny sy’n ymwneud â pherfformiad a dysgu.

 

CAM GWEITHREDU YN CODI: Swyddog Sgriwtini i gylchredeg y ddogfen ‘Raising the Stakes: Financial Scrutiny in Challenging Times’ i Aelodau’r Pwyllgor.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 9 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar dyddiadau canlynol

 

·         8 Mai, 2014 (ethol Cadeirydd/Is-Gadeirydd)

·         12 Mai, 2014

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 8 ac 12 Mai 2014 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

4.

Opsiynau ar gyfer Llety i Bobl Hyn - Garreglwyd pdf eicon PDF 228 KB

Cyflwyno adroddiad ynghylch yr uchod.

 

(Atodiad 1 – Adroddiad Trosolwg ar y Broses Ymgynghori i ddilyn)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad yn amlinellu camau arfaethedig mewn perthynas  â gwerthu Cartref Preswyl Garreglwyd ar ôl i’r broses ymgynghori ar y bwriad i werthu ddod i ben.  Roedd yr adroddiad yn crynhoi’r rhesymeg a oedd wrth wraidd y cynnig i werthu Garreglwyd yn seiliedig ar asesiad o anghenion a wnaed gan y Gwasanaeth, yn ogystal â negeseuon allweddol a gafwyd yn sgil ymgynghori gyda  chydranddeiliaid a phartïon sydd â diddordeb.  Atodwyd  adroddiad ar y Trosolwg o’r Ymgynghoriad.

 

Rhoddodd Aelodau’r Pwyllgor Sgriwtini sylw i’r wybodaeth a gyflwynwyd a gofynnwyd am ragor o eglurhad gan y Swyddogion mewn perthynas â’r materion isod -

 

  Y penderfyniad i beidio â gwneud unrhyw ymrwymiad comisiynu gyda’r gwerthiant.

  Y ffordd y mae’r Cyngor yn bwriadu sicrhau y bydd Garreglwyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer pobl sydd â dementia ac i gwrdd ag anghenion yr henoed bregus eu meddwl yn wyneb yr asesiad o anghenion sydd wedi dangos yn eglur bod angen datblygu’r ddarpariaeth o ran y gefnogaeth a’r llety sydd ar gael i’r rheini sy’n byw gyda dementia.  Gofynnodd yr Aelodau am sicrwydd bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i wireddu’r amod hwn yn y gwerthiant.

  Camau a gymerir i ddiogelu budd y staff a goblygiadau TUPE ar gyfer darpar brynwr.

  Yr angen hanfodol i flaenoriaethu gofal ar gyfer trigolion cyfredol Garreglwyd.

  Ar ôl ystyried y broses ymgynghori ar y bwriad i werthu Garreglwyd gyda’r amod ei fod yn cael ei werthu i’w ddefnyddio, gorau oll, fel cyfleuster dementia arbenigol, a yw’r Gwasanaeth wedi ei fodloni bod y trigolion a’u teuluoedd yn argyhoeddiedig mai hon yw’r ffordd orau ymlaen iddynt a’r opsiwn gorau ar gyfer eu gofal.

  P’un a yw’r ystod o ddarpariaethau gofal yn ardal Cybi yn ddigonol i gwrdd ag anghenion trigolion Garreglwyd ar hyn o bryd a’r dewisiadau y maent yn eu gwneud.

  P’un a yw’r rhagolygon o fedru darparu dewis yn realistig ac wedi eu cefnogi gan amrediad o opsiynau cymorth.

  A oes unrhyw drefniadau wedi eu gwneud i sicrhau nad yw darpar brynwr wedyn yn gwerthu’r adeilad a’r safle i ddibenion ac eithrio darparu gofal.

  Cysylltiadau gydag Ysbyty Stanley mewn perthynas â gofal dementia.

  Yr angen i ddiogelu ethos Cymraeg cartref preswyl Garreglwyd i’r dyfodol.

 

Ymatebodd y Swyddogion i’r cwestiynau a ofynnwyd gan nodi na fydd llawer o’r cynlluniau manwl yn cael eu cwblhau nes y bydd yr opsiynau pendant mewn perthynas â’r defnydd o Garreglwyd ar ôl ei werthu wedi eu cadarnhau.

 

Roedd Aelodau’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn croesawu’r dull hwn o weithredu ar gyfer gwerthu Garreglwyd mewn perthynas â’r amod o ran y defnydd o’r cartref a fyddai’n cael ei ffafrio ac roeddent hefyd yn cefnogi’r cynnig yn yr adroddiad ar yr amod bod pwys arbennig yn cael ei roi ar ddefnyddio Garreglwyd fel cyfleuster dementia arbenigol ar ôl ei werthu ac i ystyriaethau mewn perthynas â’r Iaith Gymraeg.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cyfarfod ag Anghenion Oedolion Hyn : Amlwch & Llangefni pdf eicon PDF 364 KB

Cyflwyno adroddiad ynghylch yr uchod.

 

(Atodiad 1 – Achos Busnes i ddilyn)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad yn nodi cynnig ar gyfer datblygu darpariaeth gofal ychwanegol yn Amlwch a Llangefni a dadgomisiynu’r cartrefi gofal preswyl cyfredol yn yr ardaloedd hynny.  Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r ystyriaethau o ran y buddsoddiad angenrheidiol; nodi safleoedd tir a phenderfynu ar fodelau gofal a chyllido.  Cefnogwyd yr adroddiad gan fodel ariannol ac achos busnes a gyflwynwyd yn llawn i Aelodau’r Pwyllgor.

 

Roedd Aelodau’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn cefnogi’r cynigion mewn egwyddor ac roeddynt yn cytuno y dylai gwaith ymchwilio a thrafodaethau barhau ar yr amod bod y pwyntiau isod yn cael eu nodi;

 

  Yr angen i roi sylw manwl a thrylwyr i nodi model gofal priodol a pharhaus - gofynnwyd pa waith ymchwil a oedd wedi ei wneud hyd yma a nodwyd enghreifftiau o arferion da.

  Pwysigrwydd hanfodol nodi lleoliad addas ar gyfer y ddarpariaeth o ran ei agosrwydd i’r dref a chyfleusterau, gan sicrhau felly bod y ddarpariaeth yn rhan o’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu ac yn hwyluso mynediad ar gyfer y defnyddwyr.

  Yr angen i gynnal proses ymgynghori gynhwysol.

 

Penderfynwyd cefnogi’r cynnig i ddatblygu darpariaeth tai gofal ychwanegol yn Amlwch a Llangefni mewn egwyddor ar y llinellau a ddisgrifir yn yr adroddiad.

 

DIM CAM GWEITHREDU PELLACH YN CODI

6.

Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol pdf eicon PDF 5 MB

Cyflwyno Adroddiad Blynyddol drafft Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd drafft terfynol Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2013/4 i’r Pwyllgor roi sylw iddo a chyflwyno ei sylwadau.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Cymuned ar y strwythur a'r fframwaith adrodd ar gyfer yr adroddiad blynyddol gan dynnu sylw at y negeseuon allweddol sy’n codi yn sgil gwerthuso’r holl feysydd gwasanaeth a'u perfformiad dros 2013/14 yn seiliedig ar ddadansoddiad grid sy'n amlinellu amcanion, cyflawniad a chanlyniadau gwasanaethau ar gyfer defnyddwyr. Gwnaeth sylw hefyd ar yr heriau oedd yn codi o hynny.  Er bod perfformiad yn y gwasanaethau plant a’r gwasanaethau oedolion wedi bod yn dda dros y flwyddyn gyda nifer o Ddangosyddion Perfformio yn y chwartel uchaf, dywedodd bod angen ystyried y perfformiad mewn perthynas â’r gwasanaethau oedolion yng nghyd-destun y rhaglen drawsnewid gorfforaethol a'r gwaith sylweddol sydd wedi ei wneud mewn perthynas â ffrydiau gwaith gofal cymdeithasol dan y rhaglen drawsnewid ehangach yn ystod y cyfnod hwnnw.  Mewn perthynas â’r gwasanaethau plant, mae llawer wedi ei gyflawni o ran gostwng dibyniaeth ar staff asiantaeth dros dro ac atgyfnerthu’r gweithlu parhaol.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion ar yr hyn a gyflawnwyd yn ystod 2013/14 a’r blaenoriaethau yn 2014/15 gan bwysleisio mai'r amcan o hyd yw sicrhau bod y gwasanaethau hyn o’r safon uchaf.

 

Adroddodd y Pennaeth y Gwasanaethau Plant ar y cynnydd a’r perfformiad yn erbyn blaenoriaethau'r llynedd o bersbectif y Gwasanaethau Plant, yn ogystal â diweddaru'r Aelodau ar yr ymateb o ran rhoi sylw i faterion a oedd wedi dod I’r wyneb yn ddiweddar.

 

Nododd yr aelodau fod ganddynt gyfle i gyflwyno sylwadau ar adroddiad y Cyfarwyddwr hyd nes y bydd wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar 14 Gorffennaf.

 

Penderfynwyd derbyn Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr ar gyfer 2013/14 a nodi ei gynnwys yn amodol ar unrhyw sylwadau ychwanegol a all gael eu gwneud yn y cyfnod hyd at 14 Gorffennaf.

 

DIM CAM GWEITHREDU PELLACH YN CODI

7.

Materion Cyllid - Alldro Cyllideb Gyfalaf 2013/14 pdf eicon PDF 319 KB

Cyflwyno adroddiad ar ganlyniadau’r Gyllideb Gyfalaf am 2013/14.

(Adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith 9ed Mehefin, 2014)

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad mewn perthynas â’r alldro ar gyfer y gyllideb gyfalaf am 2013/14 fel y cafodd ei gyflwyno i’r cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith ar 9 Gorffennaf 2014, ac fe’i nodwyd gan Aelodau’r Pwyllgor.

 

DIM CAM GWEITHREDU PELLACH YN CODI

8.

Alldro Amodol - Cyllideb Refeniw 2013/14 pdf eicon PDF 397 KB

Cyflwyno adroddiad ar alldro dros dro y Gyllideb Refeniw am 2013/14.

(Adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith 9ed Mehefin, 2014)

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth i’r Pwyllgor, adroddiad ar y sefyllfa arwyddol derfynol mewn perthynas â gwariant refeniw yng Nghronfa’r Cyngor ar gyfer 2013/14 fel y cafodd ei gyflwyno i’r cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith ar 9 Gorffennaf 2014.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfrifeg Dros Dro fod y cyfanswm tanwariant ar adeg cau cyfrifon  2013/14 yn £1.2m.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Adran 151 dros dro fod cyfrifon 2013/14 wedi eu cau cyn diwedd 30 Mehefin, sef y dyddiad cau statudol, a’i fod yn dymuno cofnodi ei ddiolchgarwch am ymdrechion staff y Gwasanaeth Cyfrifeg ac am y cyfraniad a wnaed gan staff eraill i’r broses o gau’r cyfrifon.  Bydd y cyfrifon yn awr yn cael eu harchwilio’n allanol.

 

Penderfynwyd nodi’r adroddiad.

 

DIM CAM GWEITHREDU PELLACH YN CODI

 

 

9.

Bwrdd Rhaglen Trawsnewid Corfforaethol pdf eicon PDF 225 KB

Derbyn diweddariad ar gynnydd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan Reolydd y Rhaglen Trawsnewid yn amlinellu’r cynnydd hyd yma mewn perthynas ag elfennau o’r Byrddau Trawsnewid Corfforaethol. 

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Cymuned ar y gwaith a wnaed hyd yma gan y Bwrdd Rhaglen Trawsnewid Busnes gan gyfeirio’n benodol at ffrydiau gwaith a oedd yn ymwneud â gofal cymdeithasol.

 

Penderfynwyd nodi’r wybodaeth.

 

DIM CAM GWEITHREDU PELLACH YN CODI

 

10.

Cyfarfod Nesaf

Dydd Llun , 8 Medi, am 2 o’r gloch y prynhawn.

Cofnodion:

Adroddwyd a nodwyd bod cyfarfod nesaf y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi ei drefnu ar gyfer Dydd Llun 1 Medi 2014 am 2:00 p.m.