Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni wnaed yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Diweddariad y Cadeirydd ac Aelodau Derbyn diweddariad ar ddatblygiadau gan y Cadeirydd ac Aelodau. Cofnodion: Adroddodd y Cadeirydd fel a ganlyn:
• Roedd y Panel Canlyniad Sgriwtini ar gyfer Absenoldeb Salwch wedi cyfarfod ar 6 a 10 Tachwedd. • Roedd dau gyfarfod o’r Panel Arbedion Effeithlonrwydd wedi eu cynnal a rhaglennwyd cyfarfod arall ar gyfer 25 Tachwedd. • Cafwyd rhag-gyfarfod o’r Panel Canlyniad Sgriwtini ar gyfer Cael Gwared ar Asedau ar 9 Hydref; gohiriwyd y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 13 Hydref ac mae’n cael ei aildrefnu i ddyddiad ac amser i’w cadarnhau. • Adroddodd y Cynghorydd Ann Griffith ar faterion a gafodd sylw gan y Panel Rhiantu Corfforaethol yn ei gyfarfod ar 8 Medi 2014. (Cyflwynwyd y cofnodion i’r cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith ar 20 Hydref). • Adroddodd y Cynghorydd Llinos Medi Huws ar drafodaethau yn y cyfarfod o’r Bwrdd Trawsnewid Addysg ar 23 Hydref lle cafwyd diweddariad ar y rhaglen moderneiddio ysgolion mewn perthynas â’r Llannau a Chaergybi a’r broses ymgynghori anstatudol ar foderneiddio ysgolion yn ne-orllewin Ynys Môn. Darparwyd ac ystyriwyd diweddariad hefyd ar berfformiad yr ysgolion a chafwyd trafodaeth ar y gostyngiad yn y niferoedd sy’n hawlio prydau ysgol am ddim a’r rhesymau posib am hynny. |
|
Cofnodion Cyfarfod 15 Hydref, 2014 Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd:
· 15 Hydref, 2014 · 4 Tachwedd, 2014 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau a ganlyn a chadarnhawyd eu bod yn gywir yn amodol ar y mater a nodir isod mewn perthynas â chofnodion cyfarfod 4 Tachwedd 2014:
• 15 Hydref, 2014
• 4 Tachwedd, 2014. Penderfynwyd newid geiriad y cyngor yr oedd y Cadeirydd wedi dweud fod y Rheolydd Sgriwtini wedi ei roi mewn perthynas â’r materion a oedd yn codi mewn perthynas â’r ffaith nad oedd y cyfarfod wedi ei hysbysebu fel un cyhoeddus i ddarllen: “Yna dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor fod y Rheolydd Sgriwtini wedi codi’r pwynt nad oedd neb o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol oherwydd bod y cyfarfod wedi ei hysbysebu fel un lle roedd yr eitem a fyddai’n cael ei thrafod wedi ei heithrio ac y dylid gwneud ymholiad efallai mewn perthynas â gohirio’r drafodaeth er mwyn caniatáu diweddariad ar gyfer y cyhoedd a’r wasg, neu bod y Pwyllgor yn bwrw ymlaen gyda’r cyfarfod heddiw ac yn cyhoeddi ei gasgliadau.” |
|
Cerdyn Sgorfwrdd Corfforaethol Chwarter 2 Cyflwyno’r Cerdyn Sgorfwrdd Corfforaethol am Chwarter 2 2014/15. Cofnodion: Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor wybodaeth ynghylch perfformiad yn erbyn dangosyddion allweddol mewn perthynas â Rheoli Pobl, Rheolaeth Ariannol, Rheoli Perfformiad a Gwasanaeth Cwsmer ar ddiwedd Chwarter 2 2014/15 fel y cafodd ei grynhoi yn y Cerdyn Sgorio Corfforaethol. Cyflwynwyd y Cerdyn Sgorio Corfforaethol gan yr Aelod Portffolio ar gyfer Perfformiad a’r Cynllun Corfforaethol fel un a oedd yn adlewyrchu gwelliant cyffredinol yn erbyn y Dangosyddion Perfformio gyda’r eithriadau yn cael sylw yn y naratif a gyflwynwyd gyda’r Cerdyn Sgorio.
Yn y drafodaeth ddilynol ar y wybodaeth a gyflwynwyd codwyd y pwyntiau a ganlyn gan y Pwyllgor:
• Mewn perthynas â Gwasanaeth Cwsmer, cyfeiriwyd at y ffaith, yn achos gohebiaeth gyda chynghorau cymuned, nad oedd y Cyngor ond wedi ymateb 2 waith allan o 12 o fewn yr amserlen ofynnol sy’n awgrymu nad yw gwelliannau damcaniaethol yn y gwasanaeth i’r cwsmer bob amser yn cael eu gweithredu’n ymarferol. Cadarnhaodd y Pennaeth Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd fod yr ohebiaeth dan sylw wedi ei hanfon ymlaen at y gwasanaethau perthnasol am ymateb. Roedd y Pwyllgor yn cydnabod y gwaith clodwiw a oedd yn cael ei wneud gan staff fel y tystiolaethir yn Nangosyddion Perfformio 1, 3 a 4 ar gyfer Gwasanaeth cwsmer ond roedd angen atgyfnerthu hynny trwy barhau i wneud gwelliannau yn y maes hwn ac mewn meysydd eraill.
• Nid oes manylion wedi eu cynnwys gyda rhai Dangosyddion Perfformiad a fyddai wedi cynorthwyo’r Pwyllgor i werthuso perfformiad e.e. Sgorau Cwsmeriaid Cudd a Dangosyddion Perfformio Addysg mewn perthynas â phresenoldeb disgyblion, gwaharddiadau a nifer y prentisiaethau a grëwyd dan y cynllun Prentisiaeth Menai. Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Perfformiad y byddai’r Siarter Gwasanaeth Cwsmeriaid a gymeradwywyd yn ddiweddar gan y Pwyllgor Gwaith yn cyfrannu tuag at lenwi bylchau yn y data. Esboniodd y Rheolydd Rhaglen a Chynllunio Busnes fod y cysyniad Cwsmer Cudd yn Ddangosydd newydd a bod gwaith yn cael ei wneud i sefydlu’r prosesau a fydd yn darparu sail tystiolaeth ar ei gyfer. Bydd hwn yn Ddangosydd blynyddol ac erbyn diwedd Chwarter 4 bydd y bylchau wedi eu llenwi. Wrth i’r prosesau gwasanaeth cwsmer wella bydd modd ei gynnwys yn fwy rheolaidd o fewn prosesau fel bod modd adrodd yn chwarterol. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes fod prentisiaethau wedi eu creu ond bod angen i’r wybodaeth gael ei bwydo i mewn i’r system cofnodi perfformiad. Mewn perthynas â’r Dangosyddion eraill yn y maes Addysg lle na roddwyd data ar eu cyfer, dywedodd y Pennaeth Dysgu nad yw’r amserlen ar gyfer y Cerdyn Sgorio Corfforaethol yn cyd-fynd gyda’r amserlen sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyhoeddi data ynglŷn â chanlyniadau arholiadau’r haf diwethaf. Nid yw’r holl ddata a gasglwyd hyd yma ynghylch perfformiad y llynedd wedi ei ddilysu gan Lywodraeth Cymru eto. Mae rhywfaint o’r data yn dechrau dod trwodd yn awr a bydd gwybodaeth ynghylch gwaharddiadau dros dro a pharhaol hefyd yn dechrau dod ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Monitro'r Gyllideb - Cyllideb Gyfalaf Chwarter 2 2014/15 Cyflwyno adroddiad monitro’r Gyllideb Gyfalaf am Chwarter 2 2014/15 (Adroddiad i gyfarfod 3 Tachwedd 2014 y Pwyllgor Gwaith)
Cofnodion: Cyflwynwyd i sylw ‘r Pwyllgor adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro ar y sefyllfa mewn perthynas â’r gyllideb gyfalaf ar ddiwedd Chwarter 2 2014/15. Roedd crynodeb o’r gwariant yn erbyn y gyllideb hyd at ddiwedd Medi 2014 wedi ei atodi yn Atodiad B ac roedd rhaglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2014/15 wedi ei hatodi yn Atodiad C.
Gofynnodd Aelod am eglurhad ar y broses dendro a holodd a oedd trefniadau wedi eu gwneud i sicrhau bod gwaith a wnaed dan dendrau a ddyfarnwyd yn rhoi gwerth am arian. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) Dros Dro fod raid i’r holl wasanaethau gyflwyno cais manwl am gyllid cyfalaf gan gynnwys gwybodaeth am wariant a ragwelir a ffynonellau eraill o gyllid. Mae disgwyliad o’r cychwyn y byddai dadansoddiad manwl yn cael ei ddarparu ynghylch pa waith fydd yn cael ei wneud a sut y caiff ei gyllido. Mae’r Cyfrifydd Cyfalaf a’r Adran Gwasanaeth berthnasol yn monitro prosiectau wrth iddynt fwrw ymlaen. Mae’r manylion y tu ôl i’r ffigyrau ar gael i’r Aelodau fel unigolion neu fel pwyllgor yn amodol ar gyfyngiadau fel y bydd angen.
Holodd y Cadeirydd a oedd DP 16, 17 a 18 o dan Rheolaeth Ariannol ar y Cerdyn Sgorio Corfforaethol yn berthnasol fel ffynhonnell gwybodaeth yng nghyswllt y mater o gyllid ar gyfer gwaith cyfalaf a sicrhau gwerth am arian. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfrifeg Dros Dro y bydd y Gwasanaeth Cyllid yn darparu’r data i boblogeiddio’r Dangosyddion hynny.
Holodd y Cadeirydd a oedd unrhyw ddarpariaeth wedi ei gwneud yn y rhaglen gyfalaf gyfredol ar gyfer y prosiect gweithio’n gallach. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) Dros Dro mai cynnig oedd y prosiect gweithio’n gallach a fwriadwyd i’w weithredu o fis Ebrill nesaf ymlaen ac felly bydd yn dod o dan yr adroddiad monitro cyllideb gyfalaf am y cyfnod cyfatebol yn 2015/16. Mae’r cynnig ar hyn o bryd yn mynd drwy’r broses o gael caniatâd democrataidd ac y mae gwariant ar y prosiect wedi ei gynllunio ar gyfer 2015/16.
Penderfynwyd nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd.
DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH |
|
Monitro'r Gyllideb - Cyllideb Refeniw Chwarter 2 2014/15 Cyflwyno adroddiad monitro’r Gyllideb Refeniw am Chwarter 2 2014/15. (Adroddiad i gyfarfod 3ydd Tachwedd, 2014 y Pwyllgor Gwaith)
Cofnodion: Cyflwynwyd i ystyriaeth y Pwyllgor adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) Dros Dro yn amlinellu’r sefyllfa ar wariant refeniw y Cyngor ar ddiwedd Chwarter 2 2014/15, y sefyllfa oedd yn cael ei rhagamcanu ar gyfer y flwyddyn gyfan a hefyd y prif wahaniaethau.
Penderfynwyd nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd heb unrhyw sylw.
DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH |
|
Cynigion ar gyfer Cyllideb Refeniw 2015/16 Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Adnoddau a Swyddog Adran 151 Dros Dro (Adroddiad i gyfarfod Pwyllgor Gwaith 20 Hydref, 2014)
Cofnodion: Yr eitem wedi ei dynnu yn ôl.
|
|
Diweddariad ar y Rhaglen Drawsnewid Derbyn diweddariad ar lafar ar gynnydd mewn perthynas â’r canlynol –
· Bwrdd Rhaglen Rhagoriaeth Gwasanaeth · Bwrdd Rhaglen Trawsnewid Busnes Cofnodion: Penderfynwyd gohirio ystyried yr eitem hon tan y cyfarfod nesaf. |
|
Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”
Cofnodion: Penderfynwyd dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm. |
|
Cytundebau Bysiau Ysgol - Tendrau a Strwythur Taliadau Cyflwyno adroddiad y Swyddog Addysg Uwchradd. Cofnodion: Penderfynwyd dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad y Swyddog Addysg Uwchradd yn amlinellu newidiadau arfaethedig i'r tendrau bws ysgol a’r strwythur taliadau. Roedd yr adroddiad yn nodi'r materion sydd angen cael sylw fel rhan o’r broses ail-dendro, a hefyd y cynigion i gyflwyno'r polisi dim pas, dim teithio i’r holl ddisgyblion; hefyd y cynnydd mewn taliadau yn unol â chostau gwirioneddol a rhesymoli gwasanaethau bysiau anstatudol.
Dywedodd y Swyddog Addysg Uwchradd beth oedd y rhesymeg dros gyflwyno y polisi dim pas dim teithio fyddai’n ei gwneud yn haws i’r Awdurdod Addysg sicrhau’r trefniadau iechyd a diogelwch o ran gallu darparu rhestr o deithwyr mewn amgylchiadau lle bo angen hynny. O ran y taliadau, eglurodd y Swyddog y bydd y contractau newydd ar gyfer teithio ar y bws yn parhau i gynnwys newidiadau blynyddol ar gyfer chwyddiant i’r adran. Tra bod yr adran hyd yn hyn wedi gallu derbyn y costau hyn heb gynyddu’r gost i’r teithiwr, mae’r sefyllfa ariannol bresennol yn ei gwneud yn anodd i gadw’r sefyllfa hon. Cyfeiriodd at y strwythur codi tâl presennol o’i gymharu â'r sefyllfa mewn siroedd eraill ac ehangodd ar yr opsiynau dros newid a’u goblygiadau refeniw. Mewn perthynas â darparu gwasanaethau bws anstatudol, dywedodd y Swyddog mai’r bwriad yw stopio darparu'r gwasanaethau anstatudol oedd i’w weld yn yr adroddiad ac sydd yn seiliedig ar drefniadau hanesyddol ac nad ydynt yn unol â pholisi cludiant presennol y Cyngor. Byddai hyn hefyd yn sicrhau cysondeb o ran cyfle i’r holl deuluoedd ar draws yr Ynys nad ydynt yn cael dewis darpariaeth o’r fath ar hyn o bryd.
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r cynigion gan geisio cael sicrwydd ynglŷn â’r materion a ganlyn:
• Na fyddai’r cynnydd arfaethedig yn y taliadau yn anfanteisio'r disgyblion o ardaloedd difreintiedig. Cadarnhaodd y Swyddog Addysg Uwchradd bod system o gefnogaeth ar gael i deuluoedd tlotach o dan y Lwfans Cynhaliaeth Addysgol ar gyfer y rhai mewn addysg bellach. Bydd asesiad effaith ac ymgynghori llawn yn cael ei gynnal gyda chydranddeiliaid er mwyn sicrhau na fydd unrhyw rhieni/disgyblion/ysgolion yn dioddef eu hanfanteisio a bod system dalu deg yn cael ei chyflwyno.
• Y bydd elfen o ddiogelwch er mwyn sicrhau na fydd disgyblion sy’n colli eu tocyn teithio yn cael eu rhwystro rhag derbyn gwasanaeth bws ac y bydd eu diogelwch yn cael ei sicrhau bob amser. Dywedodd y Swyddog Addysg Uwchradd y bydd angen sefydlu trefniadau dros dro digonol i ddisgyblion sydd wedi colli eu pasys.
• Trefniadau ar gyfer monitro gweinyddu’r system. Dywedodd y Pennaeth Dysgu mai’r ffordd ymlaen oedd yn cael ei ffafrio yw symud tuag at system electronig e.e. trwy ymestyn y system Squid ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”
(PRAWF BUDD Y CYHOEDD – ADRODDIAD HWYR)
Cofnodion: Penderfynwyd dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm. |
|
Clwb Golff Llangefni Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Economaidd ac Adfywio Cymunedol.
(ADRODDIAD HWYR) Cofnodion: Penderfynwyd dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad y Pennaeth Adfywio Economaidd a Chymunedol ynglŷn ag opsiynau datblygu Cwrs Golff Llangefni yn y dyfodol. Roedd yr adroddiad a’r dogfennau cefnogol yn delio ag agweddau mewn perthynas â’r gwasanaeth cyfredol, gwerthusiad o opsiynau trawsnewid y ddarpariaeth o wasanaeth posibl yn y dyfodol ac argymhellion ar sut i symud ymlaen. Roedd rhestr hir o chwech o opsiynau oedd wedi eu nodi a dadansoddiad ohonynt yn cael eu rhoi ymlaen fel sail ar gyfer eu hymchwilio ymhellach.
Rhoddodd y Deilydd Portffolio Datblygu Economaidd, Twristiaeth a Hamdden a’r Pennaeth Adfywio Economaidd a Chymunedol adroddiad ar y cefndir, y cyd-destynau strategol a lleol, y cyd-destun ariannol o gyllid cyhoeddus yn lleihau a hefyd yr angen i sicrhau arbedion caled ynghyd â’r ystyriaethau a risgiau oedd ynglŷn â cheisio sicrhau trawsnewid y gwasanaeth.
Rhoddodd y Prif Weithredwr adroddiad ar y prif faterion a’r casgliadau o safbwynt yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Adnoddau) Dros Dro am y sefyllfa o safbwynt refeniw a chyfalaf a chadarnhaodd bod y gofynion ar y rhaglen gyfalaf eisoes yn drwm iawn. Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth ofalus i’r wybodaeth a gyflwynwyd gan geisio cael eglurhad gan y Deilydd Portffolio a Swyddogion ynglŷn â beth yr oedd yr opsiynau oedd yn yr adroddiad yn ei olygu a goblygiadau o ran darparu gwasanaeth ac ymarferoldeb a hefyd o safbwynt ymrwymiadau cyllido. Yn dilyn ystyried a gwerthuso’r opsiynau, ystyriodd y Pwyllgor ddau opsiwn pellach y manylwyd arnynt ac a roddwyd ymlaen gan Aelodau unigol o’r Pwyllgor fel opsiwn 7 (cyfuno elfennau o opsiwn 4b a 6 yn yr adroddiad) ac Opsiwn 8 (amrywiad ar Opsiwn 7) a chytunwyd i ychwanegu’r rhain i’r rhestr hir o opsiynau i’w cyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith.
Penderfynwyd nodi adroddiad y Pennaeth Adfywio Economaidd a Chymunedol a’r 6 Opsiwn a gyflwynwyd ynddo a bod y ddau opsiwn ychwanegol a ffurfiwyd ac a gytunwyd gan y Pwyllgor - Opsiynau 7 a 8 - yn cael eu hychwanegu i’r rhestr hir o opsiynau i’w cyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith.
DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI. |