Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Mawrth, 13eg Ionawr, 2015 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Dweddariad y Cadeirydd a'r Aelodau

Derbyn diweddariad gan y Cadeirydd ac Aelodau.

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr isod yr oedd wedi eu mynychu

 

  Cyfarfod gyda Swyddogion GwE yn gynharach yn ystod y dydd i drafod sgriwtineiddio materion addysg.

Cyflwynwyd adroddiad ar y gweithdrefnau o fewn GwE i’r cyfarfod o’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaethau ac Adfywio a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2014.

  Cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith ar 12 Ionawr lle trafodwyd ailsefydlu Parc Sglefrio Llangefni a dyfodol Cwrs Golff Llangefni, sef dau fater yr oedd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi cael mewnbwn iddynt.  Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi nodi bod angen dysgu gwersi o’r ffordd ddisymwth yr oedd Parc Sglefrio Llangefni wedi ei gau a bod angen cyfathrebu’r gwersi hynny i bob swyddog yn y Cyngor ac nid dim ond i swyddogion yn yr Adran Hamdden fel yr adran a oedd yn gyfrifol yn yr achos hwn.  Mewn perthynas â mater Clwb Golff Llangefni, cywirwyd ac eglurwyd camgymeriad yn yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith a oedd yn cyfeirio at y ffaith nad oedd cofnodion y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2014 ar gael.  Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn bwysig, er budd ychwanegu gwerth, fod mewnbwn y Pwyllgor Sgriwtini ar faterion yn cael ei anfon ymlaen i’r fforwm perthnasol mewn ffordd systemataidd ac amserol.

  Dygodd y Cadeirydd sylw hefyd at ddau newid yr oedd y Pwyllgor Gwaith wedi gofyn amdanynt i drefniadau’r Pwyllgor ar gyfer sgriwtineiddio cynigion ar gyfer Cyllideb 2015/16.  Dywedodd wrth yr Aelodau y bydd y Pwyllgor yn awr yn ystyried y cynigion cychwynnol ar gyfer Cyllideb 2015/16 mewn cyfarfod ar brynhawn 3 Chwefror (yn hytrach nag ar 10 Chwefror) ar ôl cael sesiwn friffio ar y Gyllideb ar fore 3 Chwefror.  Bydd y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 10 Chwefror yn parhau i gael ei gynnal yn ogystal â chadarnhau’r adroddiad drafft o’r cyfarfod sgriwtini ar y gyllideb ar 3 Chwefror.  Bydd hefyd yn ystyried eitemau a drefnwyd yn wreiddiol ar gyfer y cyfarfod hwnnw yn y Rhaglen Waith.  Nododd y Pwyllgor y trefniadau newydd ar gyfer Sgriwtineiddio’r Gyllideb yn ffurfiol.

3.

Y Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 448 KB

Cyflwyno copi o Flaen Rhaglen Waith y Pwyllgor.

Cofnodion:

Cyflwynwyd copi o Flaenraglen Waith y Pwyllgor hyd at Ebrill 2015 er sylw’r Pwyllgor.  Roedd y Rhaglen Waith yn dangos y newidiadau a oedd wedi digwydd i’r rhestr o eitemau i’w trafod gan y pwyllgor ers Ebrill 2014.  Nodwyd y newidiadau gan y Pwyllgor.

 

DIM CAM GWEITHREDU PELLACH YN CODI

4.

Cofnodion Cyfarfod 24 Tachwedd, 2014 pdf eicon PDF 237 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd, 2014.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2014 fel rhai cywir.

 

Yn codi o’r cofnodion

 

  Dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith ei bod yn siomedig nad oedd ei disgrifiad o’r trafodaethau yn y cyfarfod o’r Panel Rhiantu Corfforaethol ar 8 Medi 2014 wedi ei adlewyrchu yng nghofnodion y Pwyllgor Sgriwtini a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd.  Er yn cydnabod bod angen i’r cofnodion fod yn gryno mewn perthynas â materion yr adroddir arnynt er gwybodaeth, a bod cofnodion cyfarfodydd y Panel Rhiantu Corfforaethol ar gael beth bynnag i bob Aelod trwy raglen y Pwyllgor Gwaith ar sail chwarterol, roedd y Pwyllgor yn cytuno y dylai cofnodion ei gyfarfodydd gynnwys crynodeb, ar ffurf pwyntiau bwled, o atborth gan Aelodau o gyfarfodydd y Panel Rhiantu Corfforaethol.

 

Penderfynwyd cynnwys yn y cofnodion grynodeb pwyntiau bwled o atborth Aelodau o gyfarfodydd y Panel Rhiantu Corfforaethol.

 

CAM GWEITHREDU YN CODI: Y Swyddog Pwyllgor i weithredu’r uchod.

 

  Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y sefyllfa gyda’r Cynghorydd Peter Rogers yn ei rôl fel Eiriolydd Sgriwtini a ph’un a oedd yn medru cyflawni’r swyddogaeth honno mwyach wedi iddo benderfynu ymddiswyddo o bwyllgorau’r Cyngor.  Awgrymodd y Cadeirydd y dylid cyfeirio’r mater i’r Prif Weithredwr i’w ystyried gan y Cyngor llawn fel y corff penodi.

 

Penderfynwyd cyfeirio’r mater i’r Prif Weithredwr i’w ystyried gan y Cyngor llawn fel y corff penodi.

 

CAM GWEITHREDU YN CODI: Rheolydd Sgriwtini i weithredu’r uchod.

 

  Cyfeiriodd y Rheolydd Sgriwtini at dudalennau 4 a 5 y cofnodion ac at wybodaeth yr oedd yr Aelod Portffolio ar gyfer Trawsnewid, y Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau Dynol wedi ei darparu i’r Cadeirydd ynghylch nifer y Bobl a Gyflogir ar sail Llawn Amser yn Haf 2014, a’r costau cysylltiedig, yn unol â chais y Pwyllgor yn ei gyfarfod diwethaf ac a gylchredwyd ganddi  i Aelodau’r Pwyllgor.  Cynghorodd y dylid gohirio rhoi sylw i’r wybodaeth tan y cyfarfod a gynhelir ar 3 Chwefror oherwydd ei fod yn ymwneud hefyd â sgriwtineiddio cynigion ar gyfer y Gyllideb.

 

Penderfynwyd bwrw ymlaen fel y cynghorwyd gan y Rheolydd Sgriwtini.

5.

Adroddiad Blynyddol ar y Gwasanaeth Addysg pdf eicon PDF 452 KB

Cyflwyno Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Addysg.

(Adroddiad i ddilyn)

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes yn ymgorffori canlyniadau ar ddiwedd Cyfnodau Allweddol yn ysgolion Ynys Môn am y flwyddyn ysgol 2013/14.  Roedd yr adroddiad hefyd yn cyfeirio at lefelau presenoldeb a chanlyniadau arolygiadau ysgol.

 

Adroddodd yr Uwch Reolydd Safonau Ysgolion a Chynhwysiad ar y canlyniadau ar gyfer pob cyfnod allweddol yng nghyd-destun yr hawl i dderbyn Prydau Ysgol am Ddim ac arwyddocâd y canlyniadau hynny o ran perfformiad yn y pum mlynedd a aeth heibio; y perfformiad yn erbyn y cyfartaledd cenedlaethol am yr un cyfnod a sefyllfa Ynys Môn o gymharu ag awdurdodau unigol eraill yng Nghymru, ynghyd â’r gwersi i’w dysgu o ran cynllunio ar gyfer gwelliant ar draws y sector ysgol cyfan ac mewn perthynas ag ysgolion sy’n tanberfformio.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw manwl a gofalus i’r wybodaeth a gyflwynwyd a holwyd y Swyddogion fel a ganlyn –

 

  Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar sut roedd cyfrifoldebau wedi eu rhannu rhwng Swyddogion yr Awdurdod ac Ymgynghorwyr Her GwE mewn perthynas â chefnogi ysgolion a hyrwyddo gwelliant ar draws y sector ysgolion fel y gallai fod yn glir ynghylch atebolrwydd ac o ran pwy sy’n gyfrifol am beth.

 

  Rhoddodd y Pwyllgor sylw manwl i’r mater Prydau Ysgol Am Ddim (PYADd) o ran ei oblygiadau ar gyfer cyllid ysgolion a’r Grant Cynnal Refeniw ac yn nhermau’r ddyletswydd foesol i gynorthwyo’r teuluoedd/disgyblion hynny sy’n gymwys i dderbyn PYADd i wireddu eu hawliau.  Gofynnodd yr Aelodau beth sy’n cael ei wneud gan yr Awdurdod i annog cymaint o bobl â phosib i fanteisio ar PYADd ac i roi sylw i’r stigma neu’r canfyddiad o stigma a all barhau i fod yn gysylltiedig â disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim.

 

   Dywedodd y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes fod camau cydunol wedi eu cymryd gan yr Awdurdod dros y ddwy flynedd ddiwethaf gan gynnwys ymgyrch i godi ymwybyddiaeth a chydweithio gyda’r Adain Budd-daliadau i dargedu teuluoedd sydd â hawl i dderbyn prydau ysgol am ddim ond nad ydynt yn gwneud hynny ar hyn o bryd.  Mae’r camau a gymerwyd wedi arwain at ganlyniadau ond gellid gwneud mwy.  Y ffactorau allweddol yw ymgysylltu gyda’r rhieni ac edrych ar systemau a phrosesau corfforaethol y Cyngor i hwyluso’r broses o wneud cais ac fel eu bod yn gyson gydag arferion mewn awdurdodau eraill.  Mewn perthynas â chael gwared ar y stigma sy’n gysylltiedig â PYADd, cyflwynwyd system fiometreg ar gyfer gwneud taliadau yn y sector uwchradd sy’n golygu na ellid gwahaniaethu rhwng y rheini sy’n derbyn PYADd a’r rheini nad ydynt.  Byddai angen buddsoddiad sylweddol i gyflwyno system debyg yn y sector cynradd ond mae gwaith yn cael ei wneud mewn un ysgol i dreialu system gyfrifiadurol ar gyfer rheoli PYADd.

 

  Nododd y Pwyllgor fod perfformiad ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 wedi disgyn yn ôl neu wedi aros yr un fath o gymharu â’r cyfartaledd trwy Gymru a bod awdurdodau eraill yng Nghymru wedi ennill tir o gymharu ag Ynys Môn.  Gofynnodd yr Aelodau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Adroddiad Dadansoddol: Ansawdd Gwaith Asesu Craidd - Gwasanaethau Plant pdf eicon PDF 398 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant yn nodi trefniadau’r gwasanaeth a dadansoddiad o berfformiad ac ansawdd mewn perthynas â chynnal Asesiadau Craidd ynghyd â’r camau gwella sydd wedi eu sefydlu.

 

Dywedodd y Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod yr adroddiad dadansoddol wedi ei lunio yn sgil pryderon a fynegwyd gan y Pwyllgor ynghylch perfformiad y gwasanaeth o gymharu â’r DP ar gyfer cynnal asesiadau craidd o fewn amserlenni fel yr adlewyrchwyd yn y Cerdyn Sgorio Corfforaethol.  Pwysleisiodd bod y waelodlin gychwynnol ar gyfer perfformiad, sef 22.34% (2010/11) yn isel iawn a bod y ffigyrau wedi gwella bob blwyddyn ac eithrio yn 2013/14 lle gwelwyd dirywiad mewn perfformiad.  Gall nifer fechan iawn o achosion sgiwio’r ystadegau hyn os ydynt yn rhai cymhleth a gallai’r rhain gael effaith ar berfformiad.  Er bod ffigyrau perfformiad ynddynt eu hunain yn rhan o’r naratif, nid ydynt yn rhoi darlun llawn o’r canlyniadau i blant nac o sgiliau, hyder a gallu’r gweithwyr cymdeithasol.  Gwnaed cryn waith mewn perthynas ag ansawdd arferion asesiadau craidd gan gynnwys hyfforddiant a goruchwyliaeth ar gyfer gweithwyr cymdeithasol i’w huwchsgilio yn y maes hwn; mabwysiadu Fframwaith Risg sy’n seiliedig ar dystiolaeth a sefydlu Fframwaith Sicrhau Ansawdd sy’n cynorthwyo ac yn hyrwyddo gwelliannau mewn arferion.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i’r adroddiad a chymerodd sicrwydd o’r wybodaeth a gyflwynwyd fod mesurau yn parhau i gael eu gweithredu i wella arferion ac allbwn mewn perthynas ag amseroldeb asesiadau craidd.  Gofynnodd y Pwyllgor am ragor o wybodaeth ac eglurhad gan y Swyddogion ynghylch y materion a ganlyn-

 

  Addasrwydd i bwrpas y ddogfen asesiad craidd ac a yw wedi ei diweddaru o gofio’r gwendidau sydd wedi eu hamlygu yn y fformat

 

  Cynlluniau ar gyfer cydweithio ar hyfforddiant gyda phartneriaid a grwpiau craidd er mwyn sicrhau cysondeb ar sail ranbarthol

 

  Defnyddio genogramau i gefnogi dadansoddiad

 

  Perfformiad o ran cwrdd ag amserlenni a’r ffactorau dylanwadol.  Os nad yw’r targed gwasanaeth o 35 diwrnod yn cael ei gyflawni am ba reswm bynnag, dywedwyd wrth y pwyllgor bod ymdrechion yn cael eu gwneud i sicrhau bod yr asesiad craidd yn cael ei gwblhau wedyn o fewn amserlen resymol

 

  Argaeledd teclyn asesu ar gyfer asesu camdriniaeth rywiol.

 

  P’un a yw toriadau cyllidebol yn debygol o gael effaith ar gynnydd a/neu sefydlogrwydd y gwasanaeth.  Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor fod y Gwasanaethau Plant mewn cyfnod o newid a bod trawsnewid, newid diwylliant a gwneud rhai pethau’n wahanol yn her o fewn y cyd-destun ariannol cyfredol.

 

  Pwysigrwydd cael y wybodaeth iawn ar yr adeg iawn am deuluoedd a’u hamgylchiadau.

 

  Yr angen i friffio holl Aelodau’r Cyngor ar faterion sy’n ymwneud â’r Gwasanaethau Plant.  Awgrymwyd y gellid trefnu cyflwyniad i’r perwyl.  Hysbyswyd y Pwyllgor fod sesiwn wybodaeth wedi ei chynllunio ar gyfer Aelodau ar y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant newydd (Cymru) ac y gellid ei chyfuno gyda diweddariad ar ddatblygiadau yn y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Panelau Canlyniad Sgriwtini

Derbyn diweddariad ar lafar gan y Cadeirydd  ynglyn ag adroddiadau drafft y Panelau Canlyniad Sgriwtini mewn perthynas â’r canlynol:

 

·        Rheoli Absenoldeb Salwch

·        Arbedion Effeithlonrwydd 2014/15

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod yr adroddiadau drafft gan y ddau Banel Canlyniad Sgriwtini a sefydlwyd i edrych ar reoli absenoldeb salwch a gweithredu arbedion effeithlonrwydd ar gyfer 2014/15 wedi eu cylchredeg i Aelodau ar gyfer sgriwtini yn y rhag-gyfarfod briffio gyda golwg ar i’r Pwyllgor eu cymeradwyo ar gyfer eu cyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r adroddiadau drafft gan y Panelau Canlyniad Sgriwtini mewn perthynas â Rheoli Absenoldeb Salwch ac Arbedion Effeithlonrwydd 2014/15 ar gyfer eu cyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith.

 

CAM GWEITHREDU YN CODI: Bod y Rheolydd Sgriwtini yn briffio’r Arweinydd bod gan y ddau adroddiad oblygiadau ariannol ac felly gorau oll pe baent yn cael eu hystyried a’u derbyn cyn gosod Cyllideb 2015/16.