Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Rhoes y Cadeirydd groeso i bawb i’r cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol. Nododd yr ymddiheuriadau am absenoldeb a dywedodd nad oedd y Cynghorydd Jim Evans yn bresennol am ei fod wedi cael codwm. Ar ran Aelodau’r Pwyllgor, dymunodd i’r Cynghorydd Jim Evans, adferiad iechyd llawn a buan. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb. |
|
Cofnodion Cyfarfod 13 Ionawr, 2015 PDF 200 KB Cyflwyno cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 13 Ionawr, 2015.
(Bydd cofnodion cyfarfod 3ydd Chwefror yn cael eu cyflwyno i’r cyfarfod nesaf)
Cofnodion: Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir – gofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 13 Ionawr, 2015.
Cadarnhaodd y Cadeirydd fod y Rheolydd Sgriwtini, yn dilyn y cyfarfod diwethaf, wedi cymryd camau i symud ymlaen gyda’r camau gweithredu isod a nodwyd gan y Pwyllgor -
• Trefniadau ar gyfer hyfforddiant penodol i holl aelodau cyrff llywodraethu ysgolion o ran gwella a herio ysgolion – cafwyd trafodaeth ynghylch hyn gyda’r Pennaeth Dysgu. • Cyfuno diweddariad ar y Gwasanaethau Plant gyda sesiwn friffio sydd wedi cael ei chynllunio ar gyfer yr Aelodau mewn perthynas â’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) – cafwyd trafodaeth gyda’r Cyfarwyddwr Cymuned yn ei chylch. • Dwyn at sylw’r Arweinydd cyn cadarnhau’r cynigion cyllidebol ar gyfer 2015/16, adroddiadau’r Panel Canlyniad Sgriwtini ar Reoli Absenoldeb Salwch ac Arbedion Cyllidebol 2014/15.
Dywedodd y Rheolydd Sgriwtini wrth y Pwyllgor fod y Cynghorydd R. Meirion Jones, Cadeirydd y Pwyllgor wedi cysylltu gyda’r Prif Weithredwr i fynegi ei siomedigaeth nad oedd yr Adroddiad Monitro Perfformiad ar y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 3 2014/15 ar gael i’r Pwyllgor mewn pryd ar gyfer y cyfarfod hwn. Mae’r adroddiad ers hynny wedi cael ei gyhoeddi fel rhan o’r rhaglen a’r papurau ar gyfer y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhelir ar 16 Chwefror ond ni fedrir ei drafod yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol oherwydd nad oedd wedi ei gynnwys fel eitem i’w thrafod yn y cyfarfod – yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, rhaid rhoi rhybudd cyhoeddus digonol ynghylch hyn. Wedi ystyried y mater ac yn wyneb y ffaith na fydd y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor hwn yn cael ei gynnal hyd fis Ebrill, roedd y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd o’r farn bod angen cynnal cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor cyn hynny er mwyn ystyried Adroddiadau Monitro Perfformiad Chwarter 3.
Cytunodd y Pwyllgor y dylid cynnal cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor am y rhesymau a roddwyd.
GWEITHREDU: Y Rheolydd Sgriwtini i ymgynghori gyda’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd i gadarnhau’r trefniadau ar gyfer y cyfarfod arbennig. |
|
Bidiau Cyfalaf 2015/16 PDF 362 KB Cyflwyno’r bidiau Cyfalaf drafft ar gyfer 2015/16.
(Adroddiad a gyflwynwyd i gyfarfod 15 Rhgafyr, 2014 y Pwyllgor Gwaith) Cofnodion: Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor – adroddiad gan y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro yn cynnwys rhestr o fidiau cyfalaf arfaethedig a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 15 Rhagfyr, 2014 ar gyfer eu cynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2015/16 – 2019/20.
Dywedodd y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro mai hon oedd y flwyddyn gyntaf i’r Cyngor gael rhaglen gyfalaf gynhwysfawr sy’n dwyn ynghyd yr holl geisiadau am arian cyfalaf. Eleni, cydnabuwyd bod nifer o brosiectau pwysig yn mynd rhagddynt yn y Cyngor a bod blaenoriaeth uchel i bob un ohonynt ond nad ydynt erioed wedi cael eu hasesu gyda’i gilydd o ran ba mor fforddiadwy ydynt yng nghyd-destun adnoddau cyfalaf prin. Roedd yr adroddiad yn dwyn ynghyd yr holl geisiadau a gafwyd gan y gwasanaethau am arian cyfalaf yn 2015/16 ac oherwydd y cafwyd cymaint o geisiadau, nid yw 80% yn fforddiadwy. O’r herwydd, sefydlwyd trefn restrol fel y gall Aelodau lunio barn ar y prosiectau hynny a fydd yn mynd yn eu blaenau. Mae’r system yn ymwneud â gwerthuso pob cais am arian yn seiliedig ar y modd y mae’n cyflawni yn erbyn amcanion a blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor; y lefel o risg gorfforaethol y maent yn eu lliniaru; y modd y maent yn bodloni cyfrifoldebau statudol, e.e. Y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd; lefel y cyllid cyfatebol a all fod ar gael; yr effaith ar y gyllideb refeniw neu’r potensial o ran gwario i arbed ac ansawdd y trefniadau rheoli prosiect. Er mwyn mwyn mynd i’r afael â’r llithriad sydd wedi bod yn digwydd ar raddfa fawr mewn perthynas â’r rhaglen gyfalaf yn y gorffennol, bwriedir y bydd adroddiadau monitro cynnydd mewn perthynas â’r prosiectau a gymeradwyir yn cael eu cyflwyno’n rheolaidd i’r Pwyllgor Gwaith a byddir yn gofyn i’r rheolydd gwasanaeth perthnasol ddarparu atborth ar ei gyfer.
Cynhaliwyd ymarfer sgorio cychwynnol gan y Gwasanaeth Cyllid a dilyswyd y sgorau wedyn gan grŵp ac arno swyddogion o wasanaethau ar draws y Cyngor ac mae’r grŵp hwnnw wedi cynhyrchu rhestr o brosiectau yn nhrefn ranc a fyddai, fe dybir, yn bodloni amcanion y Cyngor orau. Nid yw unrhyw un o’r prosiectau nad ydynt wedi eu cynnwys yn y rhestr o ddeg prosiect sydd ar y brig yn rhai dibwys ac efallai y bydd gwahaniaeth barn o ran y modd y cawsant eu blaenoriaethu.
Roedd yr Aelod Portffolio Cyllid yn cefnogi’r sylwadau a wnaed a dywedodd bod effeithiolrwydd yr Awdurdod o ran cael gwared ar asedau hefyd yn ystyriaeth o ran dod â derbynebiadau cyfalaf i mewn ac y gall hyn, ynghyd â ffactorau eraill megis cynnydd a graddfa o ran gwariant cyfalaf arwain at elfen o hyblygrwydd a fydd, efallai, yn caniatáu ystyried rhai o’r prosiectau eraill.
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y materion isod mewn perthynas â’r wybodaeth a gyflwynwyd–
• A fu ymgynghori a sgriwtini mewn perthynas â’r ffactorau pwysoliad. Mynegwyd rhywfaint o amheuaeth o ran y pwysoliad a briodolwyd i rai ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |
|
Cyllideb Ddrafft 2015/16 - Ymateb i'r Ymgynghoriad Cyhoeddus PDF 953 KB Cyflwyno adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr ynglyn â’r ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion ar gyfer Cyllideb 2015/16.
(Adroddiad i ddilyn)
Cofnodion: Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor - adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr yn nodi’r ymateb i’r ymarfer Ymgynghori ar y Gyllideb - Cwrdd â’r heriau: Ein Cynigion Cychwynnol ar gyfer Cyllideb 2015/16 a chanlyniadau’r ymgynghoriad hwnnw.
Dywedodd y Rheolwr cynllunio Busnes y cafwyd 433 o ymatebion i’r drafodaeth Gwneud Gwahaniaeth a gynhaliwyd yn ystod yr hydref 2014 lle gofynnwyd am farn y cyhoedd ynghylch y meysydd hynny y dylai’r Awdurdod ganolbwyntio ei ymdrechion arnynt yn ystod y tair blynedd nesaf ac y cafwyd 73 o ymatebion i’r ymgynghoriad ar gyllideb 2015/16, Cwrdd â’r Heriau. Roedd ymatebion gan y Cynghorau Tref a Chymuned yn dwyn sylw at y pryderon penodol a amlinellwyd yn yr adroddiad. Er mai nifer fechan a ymatebodd i’r ymgynghoriad ar y gyllideb o gymharu â phoblogaeth yr Ynys, gellir eu dehongli fel bod cynigion cyllidebol y Cyngor, yn gyffredinol, yn cyd-fynd â disgwyliadau’r dinasyddion.
Nododd y Pwyllgor fod y nifer isel yr ymatebwyr i’r ymgynghoriad ar gynigion cyllidebol 2015/16 yn siomedig ac awgrymwyd nad oedd yn cynrychioli barn trigolion Ynys Môn.
Penderfynwyd derbyn yr adroddiad fel gwybodaeth heb unrhyw sylwadau pellach.
DIM CAMAU PELLACH YN CODI |
|
Hunan Asesiad Corfforaethol PDF 1 MB Derbyn adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr. Cofnodion: Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor – adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr yn ymgorffori adroddiad Hunanasesiad Ynys Môn.
Soniodd y Dirprwy Brif Weithredwr am y fethodoleg a’r dull o ymdrin â’r hunanasesiad sy’n darparu datganiad sefyllfa ar y cynnydd a wnaed gan yr Awdurdod o ran datblygu fel sefydliad dros y 20 mis diwethaf a’i fod yn seiliedig ar y chwe thema allweddol a nodwyd yn y Cynllun Corfforaethol ac y rhoddwyd iddynt ddynodiad CAG fel arwydd o’r sefyllfa a’r cynnydd a wnaed.
Cafodd y Pwyllgor y cyfle i ofyn cwestiynau i’r Swyddog ar yr hunanasesiad a chodwyd materion mewn perthynas ag asesu risg; datblygu pobl, hyfforddiant a chydraddoldeb o ran lwfansau cynhaliaeth.
Dywedodd yr Arweinydd y gwnaed ymdrech yn yr hunanasesiad i gyflwyno persbectif cytbwys ac y byddir yn cyflwyno Cynllun Gweithredu fel y gellir gwneud cynnydd pellach.
Penderfynwyd argymell y gwelliannau a nodwyd yn yr Hunanasesiad i’r Pwyllgor Gwaith a chytuno i fonitro cydymffurfiaeth gyda’r camau gweithredu hyn bob chwe mis ac i ddal y Prif Weithredwr i gyfrif am eu cyflawni.
GWEITHREDU: Y Rheolydd Sgriwtini i drefnu adolygiadau cynnydd 6 mis mewn perthynas â rhaglen waith y Pwyllgor. |