Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Iau, 16eg Ebrill, 2015 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

Estynnodd y Cadeirydd groeso i bawb i’r cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.  Dymunodd yn dda ar ran y Pwyllgor i Mr. Rees Roberts a fyddai’n ymddeol o’i swydd fel Cyfieithydd ar ddiwedd yr wythnos, a hefyd i Bev Symonds, Rheolydd Sgriwtini a oedd yn absennol o’i gwaith ar hyn o bryd oherwydd salwch.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2.

Diweddariad y Cadeirydd ac Aelodau

Y Cadeirydd ac Aelodau i adrodd ar ddatblygiadau/gweithgareddau ers y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd am y materion a ganlyn:

 

           Ei fod ef a’r Swyddog Sgriwtini wedi bod i gynhadledd undydd ar gyfer swyddogion proffesiynol yn y maes gwasanaethau cyhoeddus yn Llandrindod ar 27 Mawrth 2015 o’r enw Llwyddo drwy Gydweithio....Rhannu Atebolrwydd i’r Cyhoedd yng Nghymru. Roedd y gynhadledd yn rhoi sylw i ddysgu am sut i fynd ati i sgriwtineiddio gam wrth gam; dylanwadu ar y rhyngwyneb rhwng sgriwtini mewnol ac adolygiad allanol a rhoi gwybod am y meddylfryd diweddaraf ynghylch gwasanaethau cyhoeddus ac atebolrwydd yng Nghymru.  Dywedodd y Cadeirydd y byddai ef a’r Swyddog Sgriwtini yn rhoi cyflwyniad byr i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod nesaf ar brif bwyntiau’r gynhadledd a sut maent yn berthnasol i’r sefyllfa’n lleol.

 

           Adroddiadau Pwyllgorau Sgriwtini/Panelau Canlyniad Sgriwtini. Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Cadeirydd fod tri adroddiad wedi eu cynhyrchu - un gan y Pwyllgor mewn perthynas â chynigion ar gyfer cyllideb 2015/16 a dau gan Banelau Canlyniad Sgriwtini mewn perthynas â Rheoli Absenoldeb Salwch ac Adolygu Arbedion Effeithlonrwydd 2014/15.  Yn achos adroddiad Sgriwtineiddio’r Cyllideb 2015/16, dywedodd y Cadeirydd na chafodd yr adroddiad ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ac fe gafodd yn hytrach grynodeb o argymhellion y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.  Dywedodd ei fod yn credu y dylid adolygu’r broses ar gyfer adrodd ar y gyllideb gyda hyn cyn cynnal ymarfer ymgynghori ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf.  Mewn perthynas ag adroddiadau’r Panel Canlyniad Sgriwtini, gohiriwyd cyflwyno’r ddau adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith hyd nes y byddai cytundeb ynghylch eu cynnwys - yn y cyfarfod ym mis Mawrth penderfynodd y Pwyllgor y dylai’r panelau eu hunain benderfynu’r cynnwys ond gan gymryd i ystyriaeth hefyd fewnbwn y swyddogion.  Mae’r adolygiad hwnnw bellach wedi ei gynnal ac mae’r adroddiadau wedi eu cynnwys fel rhan o’r materion a fydd yn cael sylw gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 20 Ebrill.  Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn credu bod proses wedi ei chytuno bellach ar gyfer delio gydag adroddiadau canlyniad sgriwtini sy’n cael eu harwain gan yr Aelodau, o fewn y fframwaith adrodd corfforaethol, lle bydd adroddiadau drafft yn cael eu hanfon ymlaen i’r swyddogion hynny sydd wedi cyfrannu’n broffesiynol i’r adolygiad sgriwtini er mwyn iddynt wirio fod cynnwys yr adroddiadau drafft yn ffeithiol gywir, ar gyfer eu  cyflwyno wedyn i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol i’w cymeradwyo fel y rhiant-Bwyllgor cyn iddynt gael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith.

 

           Gofynnodd y Swyddog Sgriwtini i’r Pwyllgor ystyried enwebu aelod i wasanaethu yn lle’r Cynghorydd Ann Griffith ar y Bwrdd Prosiect Trawsnewid Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu oherwydd nad oedd hi’n teimlo ei bod yn medru cyflawni’r swyddogaeth honno oherwydd ymrwymiadau gwaith.  Penderfynwyd enwebu’r Cynghorydd R. Meirion Jones i wasanaethu ar y Bwrdd Prosiect Trawsnewid Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu.

3.

Cofnodion Cyfarfod 3ydd Chwefror, 2015 pdf eicon PDF 222 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol -

 

·         3ydd Chwefror, 2015 (arbennig – Y Gyllideb)

 

·         10ed Chwefror 2015

 

·         24ain Mawrth, 2015 (arbennig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod a chadarnhawyd eu bod yn gywir:

 

           3 Chwefror, 2015 (arbennig - Cyllideb)

           10 Chwefror, 2015

           24 Mawrth, 2015 (arbennig)

 

Yn codi o gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mawrth 2015:

 

Cadarnhaodd y Swyddog Sgriwtini ei fod wedi bod mewn cyswllt gyda’r Gwasanaeth Cyllid mewn perthynas ag argaeledd data perfformiad cyllid ar gyfer Chwarter 4 2014/15 mewn da bryd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ar 11 Mai.  Cadarnhaodd y Rheolydd Rhaglenni a Chynllunio Busnes y byddai’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 4 yn cael ei gyflwyno i’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth ar ddiwedd mis Ebrill cyn ei gyflwyno wedyn i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 11 Mai ac i’r Pwyllgor Gwaith ar ddiwedd Mai.

4.

Dogfen Gyflawni Flynyddol 2015/16 pdf eicon PDF 637 KB

Cyflwyno’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol am 2015/16.

Cofnodion:

Estynnodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Trawsnewid Perfformiad, y Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau Dynol wahoddiad i’r Pwyllgor gyflwyno eu sylwadau a’u syniadau mewn perthynas â’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol yn y cyfarfod hwn a hefyd yn y cyfnod hyd at ddiwedd mis Ebrill cyn y byddai’r ddogfen yn cael ei chyflwyno i’w chymeradwyo gan y Cyngor Sir ym Mai yn unol â thelerau’r Cyfansoddiad.  Dywedodd yr Aelod Portffolio bod y ddogfen yn seiliedig ar flaenoriaethau’r Cynllun Corfforaethol a’r rheini a amlygwyd yn yr hunanasesiad corfforaethol a’i bod wedi ei chwblhau erbyn hyn i bob pwrpas yn amodol ar wneud rhai newidiadau i fanylion.

 

Dywedodd y Rheolydd Rhaglenni a Chynllunio Busnes mai’r cwestiwn allweddol yw a oes modd cyflawni amcanion y ddogfen yn ymarferol a beth yw’r sail dystiolaeth ar gyfer hynny.  Mae’r dystiolaeth o’r gallu i gyflawni amcanion y ddogfen wedi ei thynnu o dair ffynhonnell:-

 

           Cynlluniau Darparu Gwasanaeth.  Cwblhawyd y rhain yn dilyn setlo Cyllideb 2015/16 ac maent yn seiliedig felly ar y ddealltwriaeth bod yr adnoddau sydd eu hangen i’w gwireddu ar gael. 

           Prosiectau unigol sy’n parhau ac sydd hefyd yn cydnabod yr angen i adnoddau priodol fod ar gael.

           Casgliadau’r Hunanasesiad Corfforaethol.  Mae’r Penaethiaid Gwasanaeth a’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth wedi nodi bod angen alinio blaenoriaethau i sicrhau bod modd cyflawni allbwn yr hunanasesiad a bydd yr agwedd hon yn cael sylw cyn i’r ddogfen gyflawni gael ei chyflwyno i’r Cyngor Sir.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i bob maes blaenoriaeth unigol a nodwyd yn y Ddogfen Gyflawni Flynyddol a gwnaed y sylwadau a ganlyn arnynt:-

 

           Ein bod yn Trawsnewid Gofal Cymdeithasol i Oedolion Hŷn

 

           Mewn perthynas â’r crynodeb awgrymwyd y dylid ail-eirio’r paragraff cyntaf i adlewyrchu’r posibilrwydd na fydd y gwaith cynllunio a’r prosesau mewn perthynas â’r cynllun gofal ychwanegol yn Amlwch wedi aeddfedu i’r un graddau â’r cynllun yn Llangefni erbyn diwedd 2015/16 fel bod modd cychwyn y gwaith adeiladu arno.  Cadarnhaodd y Rheolydd Rhaglenni a Chynllunio Busnes y byddai’r paragraff dan sylw’n cael ei ail-eirio yn y ffordd a awgrymwyd.

 

           Adfywio ein Cymunedau a Datblygu’r Economi

 

           Mewn perthynas â’r crynodeb, awgrymwyd bod yr ymadrodd “gobaith” yn anarferol yng nghyd-destun dogfen sy’n nodi sut y bydd blaenoriaethau’n cael eu cyflawni ac y dylid ei ddileu.  Fel rhan o waith i gwblhau’r ddogfen gyflawni’n derfynol, cadarnhaodd y Rheolydd Rhaglen a Chynllunio Busnes y bydd y ddogfen yn cael ei hadolygu ar gyfer cysondeb iaith a therminoleg.

           Mynegodd y Pwyllgor rywfaint o bryder fod y ddogfen gyflawni’n cynnwys rhai ymrwymiadau sydd y tu hwnt i reolaeth yr Awdurdod ac y gallai felly fod yn gosod ei hun i fyny i fethu.  Cyfeiriodd at ffactorau fel creu swyddi newydd a diogelu swyddi cyfredol fel enghraifft o hynny.  Pwysleisiodd y Pwyllgor bod rhaid dangos bod y blaenoriaethau’n realistig ac yn gyraeddadwy ac felly rhaid iddynt fod o fewn maes dylanwad yr Awdurdod.  Dywedodd y Rheolydd Rhaglen a Chynllunio Busnes y byddai’r agwedd honno’n cael ei hadolygu. 

           Mewn perthynas â’r nod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Rhaglen Waith y Pwyllgor pdf eicon PDF 465 KB

Cyflwyno Rhaglen Waith y Pwyllgor hyd at ddiwedd Mai, 2015.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Waith y Pwyllgor hyd at ddiwedd mis Mai 2015 i sylw’r Pwyllgor.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y 3 Panel Canlyniad Sgriwtini sydd yn yr arfaeth mewn perthynas â mater Gwasanaethau Plant, Asedau Corfforaethol a Dileu Dyledion.  Dywedodd y byddai’r rheini’n cael sylw ym mlwyddyn newydd y Cyngor.

 

Penderfynwyd nodi’r Rhaglen Waith hyd at ddiwedd Mai 2015.

 

DIM CAM GWEITHREDU PELLACH YN CODI