Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb. |
|
Cau Parc Sglefrio Llangefni Ystyried y penderfyniad i gau Parc Sglefrio Llangefni ac unrhyw wersi i’w dysgu o’r broses.
(I bwrpas cyfeirio mae’r Protocol Aelodau/Swyddogion ar gael trwy’r linc canlynol -
http://www.ynysmon.gov.uk/Journals/2014/08/11/t/l/r/Cyfansoddiad_2.6_PA_8_8_14.pdf Tud.238-243 )
Cofnodion: Rhoes y Cadeirydd groeso i bawb a oedd yn bresennol i’r cyfarfod arbennig hwn o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a drefnwyd i ystyried cau Parc Sglefrio Llangefni ac unrhyw wersi i’w dysgu o’r broses honno a hynny’n unol â’r cais a wnaed gan y Cynghorydd Victor Hughes ac a gymeradwywyd gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 1 Medi 2014.
Rhoddwyd i’r Pwyllgor wybodaeth gefndirol ynglŷn ag amgylchiadau gwneud y penderfyniad i gau’r Parc Sglefrio yn Llangefni.
Gofynnodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Victor Hughes egluro’r rhesymau dros ofyn i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ymchwilio i’r mater.
Nododd y Cynghorydd Victor Hughes y pwyntiau canlynol –
• Fel un o gyfarwyddwyr gweithredol Cwmni Tref Llangefni a fu’n allweddol yn y broses o sefydlu Parc Sglefrio Llangefni, roedd yn siomedig bod y parc wedi cau a’r modd y gwnaed hynny ac effaith andwyol y penderfyniad ar y gymuned leol a defnyddwyr y parc. • Disgrifiodd yr ymdrechion a wnaed yn 2002 i ddod â’r Parc Sglefrio i Langefni fel adnodd y gallai pobl ifanc y dref ei ddefnyddio a’r anawsterau a gafwyd i ddod o hyd i leoliad derbyniol ac addas. • Rhoes amlinelliad o fewnbwn y Cyngor Sir ar y pryd o ran cynorthwyo i ddiogelu cyllid grant a chaniatâd cynllunio (gohebiaeth ddyddiedig 10 Ebrill 2003 gan Bennaeth y Gwasanaethau Hamdden ar y pryd). • Wedi hynny, sefydlwyd y Parc Sglefrio a bu’n cael ei ddefnyddio yn gyson ers hynny. • Ar 11 Gorffennaf 2014 sylwodd fod offer y Parc Sglefrio yn cael ei gludo ymaith ar lori. Wedi ymholi, canfuwyd nad oedd yr Aelodau Lleol yn ymwybodol o’r datblygiad hwn ac nid oedd y Prif Weithredwr ychwaith yn ymwybodol pan ofynnwyd iddo’r diwrnod canlynol. • Rhoddwyd y gorau ar unwaith i ddefnyddio adnodd gwerth £70k ar sail dau adroddiad iechyd a diogelwch - y naill gan RoSPA a’r llall yn adroddiad archwilio ar wahân - a hynny heb ymchwilio ymhellach i’r posibilrwydd o drwsio’r offer. • Mae’r ail adroddiad yn argymell y dylid trin y rhannau o’r offer a oedd wedi rhydu gyda golwg ar ymestyn oes a sefydlogrwydd yr offer. • Disgrifiwyd sefyllfa debyg mewn newyddlen gymunedol ar gyfer cymuned Blaenau Ffestiniog lle cafodd penderfyniad i gau Parc Sglefrio lleol yr oedd ei gyflwr wedi ei dirywio ei wyrdroi gan ymdrech gydweithredol yn y gymuned i godi £15k ar gyfer gwaith trwsio. Nid yw swm oddeutu £15k yn swm mawr i wario ar drwsio’r offer o gofio’r buddsoddiad gwreiddiol o £70k ar Barc Sglefrio Llangefni. Chafodd cymuned Llangefni mo’r cyfle i wneud unrhyw waith trwsio. • Ei fod yn teimlo bod yr holiadur ynghylch Parc Sglefrio Plas Arthur a luniwyd i gynorthwyo gyda’r penderfyniad ynghylch dyfodol y parc, wedi ei eirio yn negyddol ac mewn modd a oedd yn cefnogi cau/ail-leoli’r parc.
Clywodd y Pwyllgor gan Mr Dave Barker, Y Prif Swyddog Hamdden, Mr James Stuart, Rheolwr Canolfan Hamdden Plas Arthur a Mr Arnold Milburn, cyn Glerc Cyngor Tref Llangefni a wahoddwyd i’r cyfarfod i roddi i’r Pwyllgor wybodaeth ynghylch ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2. |