Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Gwnaed datganiadau o ddiddordeb gan y Cynghorydd R. Meirion Jones a’r Cynghorydd Ieuan Williams (nad yw’n aelod o’r Pwyllgor) mewn perthynas ag Eitem 2 ar y rhaglen ynghylch gostyngiad arfaethedig o 10% yn nyraniad yr Awdurdod i Cwmni Cynnal (cynnig yr adroddwyd arno ar lafar fel un ychwanegol ar gyfer arbedion) yn rhinwedd eu swyddi fel cyfarwyddwyr Cyngor Sir Ynys Môn ar y cwmni.
Gwnaed datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd Llinos Medi Huws mewn perthynas ag eitem 2 ar y rhaglen ynglŷn â’r materion a nodir isod a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth arnynt:
• Y gostyngiad arfaethedig yn y cyfraniad Grant i’r Urdd • Y gostyngiad arfaethedig yn y cyfraniad Grant i’r Ffermwyr Ifanc • Y gostyngiad arfaethedig yn y cyfraniad i Wasanaeth Cerdd Williams Mathias • Y bwriad i gyflwyno Ffi ar gyfer Disgyblion nad ydynt yn derbyn Prydau Ysgol Am Ddim mewn perthynas â brecwast am ddim yn yr ysgol.
Gwnaed datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd Nicola Roberts (nad yw’n aelod o’r Pwyllgor) mewn perthynas ag eitem 2 ar y rhaglen ynghylch y gostyngiad arfaethedig yn y Grant i’r Urdd a’r bwriad i gyflwyno ffi ar gyfer disgyblion nad ydynt yn derbyn Prydau Ysgol Am Ddim mewn perthynas â brecwast am ddim yn yr ysgol. Gadawodd y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth ar y materion hynny. |
|
Cynigion Cychwynnol ar gyfer Cyllideb 2015/16 Ystyried cynigion cychwynnol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer Cyllideb 2015/16.
Mae adroddiad y Pennaeth Adnoddau a Swyddog Adran 151 Dros Dro ynglyn â Chyllideb Refeniw ddrafft 2015/16 a gyflwynwyd i gyfarfod 15 Rhagfyr , 2014 y Pwyllgor Gwaith ynghlwm.
Mae’r ddogfen sy’n sail i’r Ymgynghori cyhoeddus (ddaeth i ben ar 23 Ionawr, 2015) ar gael trwy’r linc canlynol :
http://www.ynysmon.gov.uk/Journals/2015/01/05/g/e/v/CynigionCyllideb_201516_Cymraeg.pdf
Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor sylw i gynigion cychwynnol drafft y Pwyllgor Gwaith ar gyfer Cyllideb Refeniw 2015/16 fel y cawsant eu nodi yn yr adroddiad gan y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro a gyflwynwyd i gyfarfod o Bwyllgor Gwaith y Cyngor ar 15 Rhagfyr 2014.
Edrychodd y Pwyllgor yn fanwl ar y cynigion ar gyfer Arbedion Effeithlonrwydd a gyflwynwyd fesul gwasanaeth (Atodiad B i’r adroddiad). Roedd y Cyfarwyddwyr Corfforaethol a’u Penaethiaid Gwasanaeth perthnasol, ynghyd â’r Aelodau Portffolio a’r Aelodau Portffolio Cysgodol perthnasol wedi cael gwahoddiad i fynychu’r cyfarfod hefyd yn ôl amserlen a drefnwyd ymlaen llaw. Holwyd y Swyddogion a’r Aelodau Portffolio gan y Pwyllgor ynghylch -
• Y rhesymeg ar gyfer y cynigion arbedion a gyflwynwyd ac a gynigiwyd ar gyfer eu gweithredu • Effaith pob cynnig ar ddarparu’r gwasanaeth dan sylw ac ar y rheini sy’n derbyn y gwasanaeth / grwpiau cleient pan fo’n berthnasol • Y risgiau i’r dyfodol yn sgil gostwng neu beidio â darparu gwasanaeth, sef y risg i’r gwasanaeth dan sylw a’r grŵp cleient a allai gael ei effeithio ac ar y Cyngor fel corfforaeth yn gyffredinol. • Opsiynau wrth gefn posib ar gyfer gostwng cyllidebau a ph’un a oedd dewisiadau eraill wedi eu hystyried. • P’un a oedd modd gwireddu’n llawn y cynigion a gyflwynwyd yn 2015/16.
Cyflwynodd y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad llafar ar naw llinell ychwanegol o gynigion arbedion ar draws gwasanaethau nad oeddent wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig. Nodwyd y rhain gan y Pwyllgor ac fe’u cymerwyd i ystyriaeth wrth werthuso’r pecyn cyllidebol drafft.
Yn y drafodaeth ddilynol, dygodd y Pwyllgor sylw at yr isod fel materion yr oedd yn dymuno cael rhagor o eglurhad yn eu cylch o ran goblygiadau’r cynnig:
• Cymuned
• Gofynnwyd am eglurhad ar y risg o roi'r gorau i ddefnyddio Cadeirydd Annibynnol ar gyfer y Panel Maethu a chyflawni’r swyddogaeth honno’n fewnol (£4K).
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant fod yr ystyriaethau’n cynnwys tynnu amser swyddog o waith arall i ymgymryd â'r rôl honno a cholli arbenigedd a sgriwtini allanol yr oedd cadeirydd annibynnol yn medru eu darparu ar gyfer y dasg. Oherwydd bod y Gwasanaeth Maethu yn un a reoleiddir, gellir disgwyl efallai i reoleiddwyr allanol herio’r cynnig fel cam yn ôl. Fel lliniariad, bydd y Gwasanaeth yn ymdrechu i adnabod swm sydd gyfwerth â’r arbediad o £4k o ran arall o’r gyllideb, a hynny er mwyn sicrhau fod y swyddog a ddynodwyd i wneud y gwaith yn cysgodi’r cadeirydd annibynnol yn y rôl honno ac i ostwng y risg o golli arbenigedd.
• Gostyngiad arfaethedig yng nghostau Asiantaethau Maethu Annibynnol (£75K).
Gofynnodd y Pwyllgor am sicrwydd bod y Gwasanaethau Plant yn medru gweithredu'r cynnig yn broffesiynol ac yn ddiogel a’u bod wedi rhoi sylw priodol i unrhyw effaith bosib ar y plant / pobl ifanc sydd wedi eu lleoli gydag asiantaethau annibynnol.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant mai’r risg yw anallu i wireddu’r arbedion dan y cynnig hwn yn llawn oherwydd bod ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2. |