Rhaglen a chofnodion

Cyllideb, Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Llun, 16eg Tachwedd, 2015 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes, 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion Cyfarfod 17 Medi, 2015 pdf eicon PDF 178 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 17 Medi , 2015.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 17 Medi 2015 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

3.

Enwebiad i Fwrdd Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Plant pdf eicon PDF 233 KB

Cyflwno adroddiad y Swyddog Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini yn ceisio cefnogaeth y Pwyllgor i benodi Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ac Arweinydd yr Wrthblaid yn aelodau o’r Bwrdd Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Plant.  Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth gefndirol ynglŷn â sefydlu’r Bwrdd Trawsnewid Gwasanaethau Plant fel Bwrdd sy’n sefyll ar ei ben ei hun ynghyd â’i nodau ac amcanion.

 

Penderfynodd y Pwyllgor roi ei gefnogaeth i benodi Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ac Arweinydd yr Wrthblaid yn aelodau o’r Bwrdd Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Plant.

 

DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI

4.

Cyllideb Refeniw Ddrafft 2016/17 pdf eicon PDF 406 KB

Ystyried cynigion cychwynnol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer Cyllideb Refeniw 2016/17.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Adnoddau a Swyddog Adran 151 i’r Pwyllgor ei ystyried a rhoi sylwadau arno. Roedd yr adroddiad yn ymgorffori'r gyllideb refeniw sefydlog lefel uchel ddrafft gychwynnol ar gyfer 2016/17 (Atodiad A). Roedd hefyd yn nodi’r bwlch tebygol yn y gyllideb yn seiliedig ar y setliad tebygol gan Lywodraeth Cymru ynghyd â’r cynigion arbedion (Atodiad B) a roddwyd ymlaen gan adrannau’r Cyngor i gyfrannu tuag at bontio’r bwlch ariannol.

 

Adroddodd Arweinydd y Cyngor ar y prif ystyriaethau fel a ganlyn:

 

  Mae’r Strategaeth Refeniw Tymor Canol sy’n ceisio adnabod y diffyg yn y gyllideb o ganlyniad i’r agenda llymder wedi cael ei diweddaru a chanlyniad hyn yw bod yr Awdurdod mewn sefyllfa lle bydd yn rhaid iddo wneud arbedion o tua £5.7m. Mae gwasanaethau’r Cyngor wedi adnabod arbedion gwerth £3.9m a chaiff y rhain eu rhestru yn Atodiad B.

  Disgwylir na fydd y setliad cychwynnol i Lywodraeth Leol yn cael ei gyhoeddi tan fis Rhagfyr 2015 yn ddibynnol ar ganlyniadau’r Adolygiad Gwario Cynhwysfawr ar 25 Tachwedd 2015 a disgwylir y Setliad Terfynol cyn 31 Mawrth 2016. Mae’r amserlen hon yn ei gwneud yn fwy anodd cynllunio’r gyllideb oherwydd yr ansicrwydd ynghylch union lefel y toriadau. Rydym wedi ymgorffori rhagamcan darbodus o leihad o 4.5% yn y Cyllid Allanol Cyfunol yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2016/17.

  Mae risg ariannol yn bodoli ar ffurf gostyngiadau mewn grantiau allanol. Disgwylir toriadau sylweddol yn yr holl gynlluniau grant allanol gan Lywodraeth Cymru. Dau o’r grantiau allweddol lle disgwylir lleihad yn y cyllid yw’r Grant Amgylchedd Sengl (SWMG ynghynt) a’r Grant Cymorth i Wasanaethau Bysus. Disgwylir gostyngiad o 25% i 30% yn lefel y grant cyntaf a allai olygu colled o £400-500k i’r Awdurdod ac yn achos yr ail grant, gallai adolygiad gan Lywodraeth Cymru olygu y bydd y grant yn cael ei ailddosbarthu rhwng y rhanbarthau gyda deilliant mwy ffafriol i ardaloedd trefol De Cymru.

  Byddai gostyngiad o 4.5% yn y Grant Cymorth Refeniw yn golygu setliad o thua £88.8m. Byddai cynnydd arfaethedig o 4.5% yn y Dreth Gyngor yn cynhyrchu £32.3m sy’n rhoi cyfanswm o £121.131m. Mae’r tabl ym mharagraff 2.3.4 yn rhoi lefelau amrywiol y dreth gyngor a’r arbedion fyddai eu hangen ar gyfer pob un.

  Fel rhan o’r fframwaith cynllunio gwasanaeth a chyllideb, mae strategaeth effeithlonrwydd wedi cael ei pharatoi bellach yn seiliedig ar gyfres o egwyddorion craidd y mae’r broses o adnabod arbedion yn seiliedig arnynt fel yr amlinellir ym mharagraff 3.1 yr adroddiad.

  Mae bwlch cyllidol sylweddol o thua £1.652m yn weddill os caiff yr holl gynigion arbedion eu derbyn ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar ymchwilio i fesurau all gyfrannu tuag at leihau’r bwlch e.e. diswyddo gwirfoddol pan fo hynny’n ymarferol, ac edrych yn agosach ar swyddogaethau anstatudol yr Awdurdod ynghyd â ffordd amgen o ddarparu’r swyddogaeth cartrefi gofal mewnol – nid oes costau yn erbyn yr opsiwn hwn eto, ond mae dal yn opsiwn y gellir edrych arno.

  Nid yw’n fwriad tynnu ar gronfeydd wrth  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Bidiau Cyfalaf 2016/17 pdf eicon PDF 431 KB

Ystyried y rhestr o Fidiau Cyfalaf arfaethedig i’w cynnwys yn Rhaglen Gyfalaf 2016/17 i 2020/21.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys rhestr o geisiadau cyfalaf yr argymhellir eu cymeradwyo ar gyfer rhaglen gyfalaf 2016/17 i 2020/21 er ystyriaeth a sylw gan y Pwyllgor.

 

Amlygodd y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 fod Cynllun Tai Gofal Ychwanegol Amlwch wedi cael ei adael allan o'r rhestr o brosiectau yr argymhellir eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith ac eglurodd, er bod y cynllun yn sgorio’n uwch na rhai o'r prosiectau sydd wedi cael eu cynnwys yn y rhaglen, y byddai cynnwys y cynllun wedi golygu, oherwydd ei faint, y byddai nifer o gynlluniau eraill wedi gorfod dod allan o'r rhaglen ac nad oedd y cynllunchwaith wedi denu buddsoddiad allanol hyd yn hyn.

 

Oherwydd bod cynlluniau Tai Gofal Ychwanegol yn Llangefni ac Amlwch wedi’u cynnwys yn Rhaglen Gyfalaf 2015/16 nododd y Pwyllgor fod tynnu’r cynllun yn Amlwch allan o’r rhaglen ar gyfer y flwyddyn ddilynol yn ymddangos fel petai’n anghyson. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad hefyd dros gynnwys prosiectau Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, sef Ysgol Parc y Bont ac Ysgol Bro Rhosyr o fewn y rhaglen fel dau gais cyfalaf ar wahân pan gafwyd ar ddeall mai un cais ydyw. Dywedodd y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 y byddai'n adrodd yn ôl ar statws y ceisiadau hynny.

 

Penderfynwyd -

 

  Nodi'r eitemau a oedd wedi’u hamlygu yn Atodiad A yr adroddiad (a oedd yn werth £26.301m) ar gyfer eu cynnwys yn Rhaglen Gyfalaf 2016/17 i 2020/21.

  Nodi'r eitemau ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai a oedd wedi’u hamlygu yn yr ail dabl yn Atodiad A yr adroddiad (a oedd yn werth £11.636m) i’w cyfeirio i sylw’r Bwrdd Gwasanaethau Tai i'w hystyried ar gyfer rhaglen Gyfalaf 2016/17 i 2020/21.