Eitemau
Rhif. |
Eitem |
1. |
Datganiadau o Ddiddordeb.
Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan
unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y
rhaglen.
Cofnodion:
Gwnaed datganiad o ddiddordeb personol yn eitem 4 gan
y Cynghorydd R Meirion Jones oherwydd ei fod wedi gweithio gyda
Gateways.
|
2. |
Cyhoeddiadau’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd
Derbyn diweddariad gan y Cadeirydd
ac/neu’r Is-gadeirydd.
Cofnodion:
Gofynnodd yr Is-gadeirydd am i enwau'r Aelodau
Etholedig sy'n gwasanaethu ar y Byrddau Rhaglen a’r
Byrddau Trawsnewid gael
eu cynnwys yn Eitem 2 ar gyfer pob Pwyllgor.
Gweithredu:
Fel y nodir uchod.
|
3. |
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mawrth, 2016 PDF 248 KB
Cyflwyno cofnodion y cyfarfod diwethaf
o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 14
Mawrth, 2016.
Cofnodion:
Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod diwethaf y
Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 14 Mawrth yn gywir
yn amodol ar y canlynol: -
Materion yn codi:-
Eitem 3 – Cofnodion
– Cyfarfod 1 Chwefror, 2016
Eitem 9 – Cofnodion – 1 Rhagfyr, 2015
– Gwerthusiad Blynyddol AGGCC o Berfformiad y Gwasanaethau
Cymdeithasol yn 2014/15
Dywedodd y Cadeirydd fod gwybodaeth sy’n ymwneud â'r
uchod bellach wedi dod i law ac yr adroddir yn ôl i'r
Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn ei gyfarfod nesaf.
Gweithredu:
Fel y nodir uchod.
|
4. |
Gwasanaeth Anabledd Dysgu – Trawsnewid PDF 282 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau
Oedolion ynghylch trawsnewid y Gwasanaeth Anableddau Dysgu.
Cofnodion:
Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau
Oedolion ar y gwaith o drawsnewid y tîm Anableddau
Dysgu.
Adroddodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y Gwasanaeth yn cael ei ddarparu
mewn partneriaeth â'r bwrdd iechyd gan y Tîm Anableddau
Dysgu Cymunedol (TADC), sy'n darparu gwasanaeth cynhwysfawr i
unigolion a theuluoedd, gan alluogi pobl i fyw'n annibynnol gyda
chefnogaeth yn y gymuned. Mae'r Gwasanaeth Anableddau Dysgu yn
hyrwyddo egwyddorion Strategaeth Anfantais Feddyliol Cymru Gyfan
1984, sy'n gosod y fframwaith o fewn model cymdeithasol o ofal a
ategir gan ddull o weithredu sy'n seiliedig ar hawliau.
Gofynnwyd am eglurhad ar y materion canlynol:-
• A yw'r trothwy ar gyfer y Gofrestr Anabledd Dysgu yn cael ei
benderfynu’n lleol ynteu’n genedlaethol, ac a yw'n
newid yn unol â'r adnoddau sydd ar gael? Ymatebodd Rheolwr y
Gwasanaeth trwy ddweud fod y trothwy yn cael ei benderfynu’n
genedlaethol, a hynny trwy asesiad tair rhan, sef prawf IQ, sgiliau
ac anghenion cymdeithasol. Dywedodd hefyd nad oedd y trothwy yn
newid pan fo adnoddau’n cynyddu neu’n gostwng.
• A yw’r ddarpariaeth gwasanaeth wedi dirywio dros y
blynyddoedd diwethaf? Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth na welwyd
dirywiad yn y ddarpariaeth a bod angen asesu a yw'r model cyfredol
yn gynaliadwy ac yn diwallu anghenion unigolion.
• Trafodwyd cyllideb y Gwasanaeth Anableddau Dysgu ynghyd
â gwariant cymharol gydag awdurdodau eraill. Dywedodd y
Rheolwr Gwasanaeth fod y gwariant gros ar gyfer 2014/15 o gwmpas 8m
ac y bu gostyngiad o tua 1.2m yn y gwariant dros 5 mlynedd.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod cyflawni canlyniadau
yn hanfodol i gwrdd ag anghenion defnyddwyr gwasanaeth, a
chadarnhaodd bod digon o arian ar gael i gomisiynu gwasanaethau.
Mewn perthynas â materion cyllido ar y cyd â'r
gwasanaeth iechyd, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod
unigolion yn cael eu hasesu o dan feini prawf penodol.
• Lleoliadau dros dro a pharhaol y tu allan i'r sir
- ymatebodd y Rheolwr
Gwasanaeth trwy nodi, o gyfanswm o 303 o bobl, fod 23 yn cael eu
cefnogi y tu allan i Ynys Môn – 3 mewn ysbytai
arbenigol, 1 o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl; mae 11 mewn lleoliadau
preswyl yn derbyn cymorth arbenigol oherwydd na ellir cwrdd
â’u hanghenion yn lleol; mae 5 yn cael gofal mewn
cartrefi arbenigol sy'n darparu gofal nyrsio oherwydd eu hanghenion
iechyd acíwt.
• Taliadau am ofal nyrsio – fe soniodd y Rheolwr
Gwasanaeth am y trefniadau presennol, gan gynnwys rôl y
Cyngor Sir a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
• Materion ariannu mewn perthynas â phrosiectau
sy’n cyflawni Strategaeth Anabledd Dysgu Cymru Gyfan e.e.
Tyddyn Môn.
• Darparu hyfforddiant ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol
sy’n delio â materion aflonyddu ar sail anabledd a
throseddau casineb. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth fod staff yn
cael eu hyfforddi i fedru adnabod materion aflonyddu.
• Gwaith y Bwrdd Rhaglen Trawsnewid a gwelliannau a
gynlluniwyd i’r Gwasanaeth ac o ran cynnwys rhanddeiliaid
– dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod Mencap, sef un o'r
rhanddeiliaid allweddol, yn rhan o’r gwaith o ddatblygu
gwasanaethau yn y gymuned.
• Darparu gwasanaethau i bobl ...
Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.
|
5. |
Drafft o’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol
Derbyn
cyflwyniad gan y Pennaeth
Trawsnewid Corfforaethol.
Cofnodion:
Dygwyd sylw gan yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes,
Trawsnewid Perfformiad, y Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau Dynol
at y prif bwyntiau yn fersiwn ddrafft y Ddogfen Gyflawni Flynyddol
a gwahoddodd y Pwyllgor a'r Aelodau i wneud sylwadau ychwanegol ar
faterion i'w cynnwys yn y Ddogfen Derfynol, cyn iddi gael ei
chyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith nesaf.
Dywedodd y Rheolwr Rhaglen a Chynllunio Busnes fod 7 maes
blaenoriaeth y ddogfen drafft wedi eu nodi ar gyfer y flwyddyn i
ddod yn erbyn y Cynllun Corfforaethol.
Cododd yr aelodau y materion canlynol yn y drafodaeth: -
1. Trawsnewid Gofal
Cymdeithasol i Oedolion Hŷn
Holodd yr Aelodau am gost gofal dementia ar Ynys Môn a
gofynnwyd am ddadansoddiad o’r cyllid ac adroddiad yn
ôl i'r Pwyllgor.
Gweithredu:
Fel y nodir
uchod.
2. Adfywio ein Cymunedau a Datblygu'r
Economi
Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y prosiect Wylfa Newydd a'r effaith
ar swyddi a sgiliau. Byddai angen i'r Cyngor weithio gydag ysgolion
i ddatblygu’r economi ac i sicrhau bod pobl ifanc yn
dysgu’r sgiliau i’w paratoi ar gyfer cyfleoedd am swyddi yn y
dyfodol.
3. Gwella Addysg, Sgiliau a
Moderneiddio Ysgolion
• Nododd y Pwyllgor fod safonau ysgol wedi codi a bod cynnydd
yn cael ei wneud.
• Ni fyddai Wylfa Newydd yn weithredol tan tua 2025, gan
arwain at fwlch rhwng hyfforddiant a chyfleoedd gwaith yn y
cyfamser. Nodwyd bod allfudiad pobl ifanc yn parhau i fod yn
broblem a’i bod yn bwysig denu’r bobl ifanc hyn yn
ôl i Ynys Môn.
• Nodwyd y dylid cyfeirio at Ysgol Aberffraw fel Ysgol Bro
Aberffraw.
4. Cynyddu Opsiynau Tai a
Lleihau Tlodi
Dim sylwadau.
5. Trawsnewid y Ddarpariaeth Hamdden a
Llyfrgelloedd
Dim sylwadau.
6. Canolbwynio ar y Cwsmer, y
Dinesydd a’r Gymuned
Gofynnwyd am eglurhad ar leoliadau gwaith y tu allan i brif
swyddfeydd y Cyngor. Ymatebodd y Rheolwr Rhaglen a Chynllunio
Busnes y gall gweithwyr maes ddefnyddio canolfan hamdden neu
lyfrgell i gael gafael ar wybodaeth. Mae'r broses yn debyg
i’r drefn rhannu desgiau a gallai Aelodau etholedig wneud defnydd
o'r gwasanaeth yn ogystal â staff.
7. Technoleg
Gwybodaeth
• Nodwyd bod y Cyngor wedi lansio gwasanaeth Microsoft Lync i
alluogi unigolion i gyfathrebu’n well.
• Cyfeiriodd y Pwyllgor hefyd at y broses o gyflwyno technoleg
Citrix i gefnogi gweithio o bell a digonolrwydd yr adnoddau o fewn
y Gwasanaeth TG. Nododd y Pennaeth Trawsnewid fod y dechnoleg hon
eisoes wedi cael ei threialu yn y Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd
a’r Gwasanaethau
Technegol. Adolygwyd y gwasanaeth TG yn ddiweddar, gan gynnwys y
lefelau staffio.
Cyfeiriodd y Rheolwr Rhaglen a Chynllunio Busnes at bwyntiau eraill
a godwyd gan Aelodau – cynhesu byd-eang; defnydd o ynni;
caffael, ffoaduriaid Syria ac ati. Dywedodd y byddai
trafodaethau’n digwydd gyda Swyddogion perthnasol i
benderfynu a oes capasiti i symud ymlaen ac ymgorffori'r materion
hyn yn y Ddogfen Gyflawni ddrafft a nodi sut y bydd y ffrydiau
gwaith hyn yn cael eu cyllido.
PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor
Sgriwtini Corfforaethol yn argymell i'r Pwyllgor Gwaith ar 25
Ebrill, 2016 y dylid cynnwys ...
Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.
|
6. |
Panel Canlyniad Sgriwtini – Rheoli Dyledion PDF 734 KB
Cyflwyno adroddiad y Panel Canlyniad Sgriwtini
ar reoli
dyledion.
Cofnodion:
Cyflwynwyd – adroddiad terfynol y Panel
Canlyniad Sgriwtini ar reoli dyledion.
Sefydlwyd y Panel Canlyniad Sgriwtini i archwilio trefniadau rheoli
dyledion yr Awdurdod (gan gynnwys dileu dyledion) mewn mwy o
fanylder. Strwythurwyd yr adolygiad yn unol â fframwaith
polisi'r Awdurdod er mwyn sicrhau cadernid, a chynhaliwyd 7
cyfarfod o’r Panel rhwng mis Gorffennaf 2015 a mis Chwefror,
2016.
Mynegodd yr Aelodau bryder ynglŷn ag effaith casglu dyledion
ar y bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas, a chyfrifoldebau’r
Cyngor o ran adennill dyledion a’i Strategaeth Gwrthdlodi. Ymatebodd
y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) fod yna gysylltiad cryf rhwng
Strategaeth Gwrthdlodi a Pholisi Casglu Dyledion y Cyngor. Dywedodd
fod drafft o’r Polisi Casglu Dyledion wedi bod gerbron y
Panel ond bod angen cwblhau’r Strategaeth Gwrthdlodi yn
derfynol i fynd i'r afael â'r materion hyn. Cynhelir
adolygiad ar hyn o bryd o’r gwasanaethau cynghori ar
ddyledion a gynigir gan y Cyngor a chymerir casgliadau ac
argymhellion yr adolygiad i ystyriaeth pan gwblheir y Strategaeth
Gwrthdlodi a’r Polisi Casglu Dyledion.
Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) fod y gwasanaeth yn
gweithio ar gynllun gweithredu i wella prosesau casglu incwm yn y
tymor byr a'r tymor canol gyda’r nod o sicrhau bod cwsmeriaid
yn talu i'r Cyngor yn y modd mwyaf effeithlon sydd ar gael e.e.
taliadau dros y rhyngrwyd, debydau uniongyrchol, taliadau dros
system ffôn awtomataidd.
Crynhodd y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro y tri phrif gasgliad gan y
Panel fel a ganlyn. Cyfeiriwyd hefyd at yr 8 argymhelliad unigol a
wnaed gan y Panel Canlyniad Sgriwtini:-
1. Mae'r prosesau a’r
arferion bilio a chasglu incwm wedi gwella yn ddiweddar, ond
roedd angen gwneud mwy er mwyn cynyddu canran y taliadau a wneir
ymlaen llaw am wasanaethau;
2. Mae'r drafft o’r Ddogfen Bolisi ar reoli dyledion yn fan
cychwyn da, ond roedd angen gwneud mwy o waith er mwyn sicrhau
aliniad strategol gyda nodau a blaenoriaethau'r Cyngor;
3. Mae'r ymarferiad meincnodi a gynhaliwyd gan y Panel ar yr
arferion rheoli dyledion wedi ychwanegu gwerth at yr adolygiad
Sgriwtini.
PENDERFYNWYD: -
• Cymeradwyo Adroddiad Terfynol y Panel Canlyniad Sgriwtini
gyda'r 3 phrif gasgliad a’r 8 argymhelliad unigol;
• Bod yr Adroddiad Terfynol yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor
Gwaith yn ei gyfarfod ar 25 Ebrill, 2016.
• Dylai'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adolygu cynnydd ar
ddatblygiadau rheoli dyledion ymhen 6 mis.
|
7. |
Panelau Canlyniad Sgriwtini PDF 689 KB
Cyflwyno
adroddiad ac argymhellion y Panelau
Canlyniad Sgriwtini mewn
perthynas â’r isod:-
(1)
Diogelu Corfforaethol
(2)
Gofalwyr Anffurfiol
(3)
Gosod Tai’r
Awdurdod Lleol, 2016
Cofnodion:
Cyflwynwyd – adroddiad ac argymhellion y
Panelau Canlyniad Sgriwtini mewn perthynas â'r
canlynol:-
1. Diogelu Corfforaethol
2. Gofalwyr Oedolion Anffurfiol
3. Gosod Tai Cyngor
Adrododd y Cadeirydd fod y Panel Gofalwyr Oedolion Anffurfiol wedi
cael ei ddirwyn i ben ac erbyn hyn nid oes ond dau Banel Canlyniad
Sgriwtini.
Dywedodd y Cadeirydd y byddai cyfarfod cyntaf y Panel Diogelu
Corfforaethol yn cael ei gynnal ar 25 Ebrill, 2016. Nododd mai
teitl cywir y Panel yw’r Panel Corfforaethol Diogelu Plant.
Adroddodd y Cynghorydd Gwilym O Jones ei fod wedi mynychu cyfarfod
o'r Panel Gosod Tai Cyngor lle’r oedd Pennaeth y Gwasanaethau
Tai a'r Rheolwr Gwasanaethau Technegol yn bresennol. (Cynhaliwyd y
cyfarfod i gael dealltwriaeth o'r weithdrefn ar gyfer gosod tai
cyngor a thai cymdeithasol, ac i weld a yw’r targedau yn
gyraeddadwy, ac a oes angen gwella perfformiad).
Adroddodd y Rheolwr Sgriwtini y byddai angen newid y dyddiad amodol
o 26 Ebrill a drefnwyd i gynnal y Panel Gosod Tai Cyngor.
PENDERFYNWYD derbyn Cylch
Gorchwyl y ddau Banel Canlyniad Sgriwtini fel y nodir yn yr
adroddiad ynghyd â’r enwebiadau i bob Panel fel y
cytunwyd yn y cyfarfod diwethaf.
|