Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Iau, 17eg Medi, 2015 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd.

Cofnodion:

Cynigwyd y Cynghorydd Jim Evans gan y Cadeirydd i wasanaethu yn lle’r Cyngorydd Peter Rogers ar y Bwrdd Prosiect Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmer.  Cymeradwywyd yr enwebiad gan y Pwyllgor.

           Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor fod rhai newidiadau yn cael eu cynnig i Flaenraglen Waith y Pwyllgor Sgriwtini yn dilyn cyfarfod y Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Sgriwtini a gynhaliwyd ar 24 Gorffennaf 2015 a hynny er mwyn hwyluso trefniadau sgriwtini ar gyfer cynigion cychwynnol Cyllideb 2016/17.  Ymhelaethir ar y newidiadau a gynigir dan eitem 11 ar y rhaglen.

           Cyfeiriodd yr Is-gadeirydd at gyfweliad a gafodd Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn y diwrnod cynt gyda chynrychiolydd o Swyddfa Archwilio Cymru fel rhan o Asesiad Cydnerthedd Ariannol a Chyllid Llywodraeth Leol a gynhelir gan SAC mewn perthynas â’r Awdurdod hwn.

           Cafwyd crynodeb gan y Cynghorydd Llinos Huws o’r busnes a gafodd sylw yng nghyfarfod y Bwrdd Prosiect Trawsnewid Addysg ar 9 Medi a oedd yn cynnwys y cynnydd gyda’r rhaglen moderneiddio ysgolion yn ardaloedd Caergybi a’r Llannau; yr adolygiad Gateway a fydd yn digwydd ym mis Hydref 2015 a safonau ysgol a oedd yn fater a grybwyllwyd cyn cyhoeddi data perfformiad ysgolion 2014/15.

3.

Cofnodion Cyfarfod 6 Gorffennaf, 2015 pdf eicon PDF 204 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf, 2015.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2015 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

4.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol (Cynllun Gwella) 2014/15 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol (Cynllun Gwella) am 2014/15.

Cofnodion:

Cyflwynwyd drafft o Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2014/15 i sylw’r Pwyllgor. Roedd yr adroddiad drafft yn gwerthuso’r canlyniadau a’r allbynnau yn erbyn amcanion gwella’r Cyngor ar gyfer 2014/15 fel yr amlinellir hwy trwy’r saith maes allweddol yn Nogfen Gyflawni Flynyddol 2014/15.

 

Pan gyflwynwyd y ddogfen ddrafft gychwynnol i’r Pwyllgor ym mis Gorffennaf 2015 dywedodd Rheolydd y Rhaglen Gorfforaethol fod y Pwyllgor wedi nodi ar y pryd y byddai’n fuddiol pe bai’r ddogfen honno wedi cynnwys y canlyniadau yn erbyn dangosyddion perthnasol er mwyn medru asesu perfformiad y Cyngor trwy ddull mwy gwybodus ac ystyrlon.  Er bod yr adroddiad bellach yn ymgorffori gwybodaeth am ddangosyddion perfformiad a feincnodwyd yn erbyn awdurdodau eraill yng Nghymru, ac er bod y wybodaeth honno’n adlewyrchu gwelliant mewn perfformiad, mae’n seiliedig ar gyfrifiadau mewnol ac nid yw wedi’i gwirio gan Lywodraeth Cymru.  Fodd bynnag, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi adolygu’r adroddiad drafft ac wedi cadarnhau ei fod yn cydymffurfio gyda’r gofynion statudol a’i fod yn adroddiad cytbwys sy’n cymryd i ystyriaeth y meysydd  hynny y gellir eu gwella ymhellach yn ogystal â chyflawniadau.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i’r adroddiad a chyflwynodd y sylwadau a ganlyn arno

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar y ffaith fod y data perfformiad yn Nhabl 3 yr adroddiad yn  dangos bod Ynys Môn yn ail yn y gynghrair o awdurdodau lleol yng Nghymru mewn perthynas â pherfformiad yn erbyn DP SCA/007 tra bod y naratif ar y dudalen honno yn cyfeirio at 4 DP yn y chwartel isaf.  Dywedodd Rheolydd y Rhaglen Gorfforaethol nad yw’r naratif yn cyfeirio at Dabl 3 ond mewn ffordd sy’n gyson ag asesiad SAC o’r adroddiad fel un cytbwys, mae’n cyfeirio at feysydd lle mae’r perfformiad yn erbyn DP perthnasol wedi bod yn wan mewn perthynas â Gwasanaethau Oedolion ac mae’n amlygu hefyd fod perfformiad yn erbyn dau o’r DP hynny wedi gwella ac mae’n darparu esboniadau lliniarol yn achos y ddau arall.  Er bod perfformiad Ynys Môn wedi gwella dygodd y Swyddog sylw penodol at y ffaith fod perfformiad awdurdodau eraill yng Nghymru wedi gwella mwy a bod hynny’n ffactor y mae angen ei gadw mewn cof wrth bennu targedau i’r dyfodol.

           Yng nghyd-destun hyrwyddo’r economi ymwelwyr, nododd y Pwyllgor y byddai unrhyw effaith yn sgil cau’r Ganolfan Groeso yn Llanfairpwll yn y flwyddyn ariannol hon yn cael ei gweld yn Adroddiad Perfformiad 2015/16 gan nodi y bydd yn dymuno sgriwtineiddio’r wybodaeth gymharol ar gyfer 2013/14, 2014/15 a 2015/16 ar yr amser priodol i asesu’n well effeithiau cau’r ganolfan.

           Mewn perthynas â sicrhau sgiliau ac adnoddau i foderneiddio isadeiledd er mwyn cefnogi ynni carbon isel nododd y Pwyllgor nad oedd unrhyw gadarnhad yn yr adroddiad o gamau a gymerwyd i gwrdd â’r amcan penodol hwnnw.  Dywedodd Rheolydd y Rhaglen Gorfforaethol fod y Cynllun Corfforaethol yn ymwneud â chyfnod o 4 blynedd o 2013-2017 ac nad yw’n fwriad cyflawni pob un o’r dyheadau ynddo mewn un flwyddyncynlluniwyd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Monitro Perfformiad - Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 1 2015/16 pdf eicon PDF 442 KB

Cyflwyno’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol am Chwarter 1 2015/16.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad y Pennaeth Trawsnewid a oedd yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol sy’n dangos y sefyllfa ar ddiwedd Chwarter 1 2015/16.

 

Codwyd y materion a ganlyn gan y Pwyllgor ar y wybodaeth a gyflwynwyd

 

           Mewn perthynas â Rheoli Pobl, nododd y Pwyllgor gyda siom, er bod cyfraddau salwch yn gwella bob blwyddyn, fod sefyllfa’r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 1 wedi dirywio o gymharu â llynedd a’i darged corfforaethol o 10 o ddyddiau am bob Gweithiwr Llawn Amser Cyfatebol.  Un o’r prif ffactorau oedd yn cyfrannu at y methiant i gyflawni’r targed corfforaethol o 2.5 o ddyddiau ar gyfer Chwarter 1 oedd cyfraddau salwch tymor hir sydd wedi gwaethygu’n sylweddol o gymharu â Chwarter 1 2013 a 2014.  Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor yn bwriadu sgriwtineiddio’r sefyllfa salwch yn fanylach yn y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer mis Tachwedd.  Dywedodd Rheolydd y Rhaglen Gorfforaethol fod yr UDA a’r Penaethiaid wedi adnabod cyfraddau salwch tymor hir fel maes y mae angen rhoi sylw iddo i ddeall yn well y rhesymau am y dirywiad yn y perfformiad ac i benderfynu pa gamau y mae angen eu cymryd i wella’r sefyllfa gan gadw mewn cof bod angen trin staff sydd ar absenoldeb tymor hir ar sail achos wrth achos a rhoi pob cefnogaeth iddynt ddychwelyd i’r gwaith.  Nododd y Pwyllgor hefyd fod angen sgriwtineiddio absenoldebau salwch yng nghyd-destun y meysydd gwasanaeth hynny lle maent yn cael yr effaith fwyaf.

           Nododd y Pwyllgor y gwelliant yng nghanran y Cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith a gynhaliwyd gan awgrymu ymhellach y byddai’n fuddiol iddo dderbyn data ynghylch nifer y cyfweliadau a gwblhawyd y tu allan i’r polisi corfforaethol o 5 diwrnod gwaith.

           Mewn perthynas â DP 23 o dan Rheoli Perfformiad (nifer y dyddiau calendr a gymerir ar gyfartaledd i osod llety - heb gynnwys Llety sy’n Anodd eu Gosod) a oedd yn dangos yn Goch, dywedodd y Rheolydd Gwasanaethau Technegol Tai fod sawl uned yn y Gwasanaethau Tai wedi bod trwy gyfnod o drawsnewid gan gynnwys yr Uned Gosod Tai.  Dywedodd y Rheolydd Opsiynau Tai bod adolygiad yn cael ei gynnal o’r holl geisiadau am dai er mwyn ceisio cyfateb anghenion yr ymgeiswyr yn well gyda’r eiddo sydd ar gael i ostwng nifer y cynigion sy’n cael eu gwrthod a all gael effaith ar ddata perfformiad.  Nododd y Pwyllgor y byddai data ynglŷn â nifer y gwrthodiadau cyn Chwarter 2 yn fuddiol i’w gynorthwyo i gymharu perfformiad ac i sefydlu a fu unrhyw welliant o ganlyniad i’r camau a gymerwyd.  Nododd y Pwyllgor hefyd fod gan ymgeiswyr hawl i wrthod 3 chynnig cyn eu hatal oddi ar y rhestr dai a fedr arafu’r broses gosod tai.  Pwysleisiodd y Pwyllgor y byddai cael gwybodaeth gywir gan yr ymgeiswyr ar eu ffurflenni ymgeisio o gymorth iddynt sicrhau o’r cychwyn cyntaf bod y llety a gynigir iddynt yn briodol ar gyfer eu hanghenion ac wrth eu bodd.

•  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Monitro'r Gyllideb - Y Gyllideb Gyfalaf Chwarter 1 2015/16 pdf eicon PDF 528 KB

Cyflwyno adroddiad monitro’r Gyllideb Gyfalaf am Chwarter 1 2015/16.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad y Pennaeth Adnoddau a Swyddog Adran 151 Dros Dro a oedd yn amlinellu perfformiad ariannol y gyllideb gyfalaf ar gyfer chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol 2015/16.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio  ar gyfer Cyllid fod y sefyllfa wedi gwella mewn perthynas â derbyniadau cyfalaf a’u bod yn £927k ar hyn o bryd.  Y targed yn y gyllideb ar gyfer derbyniadau cyfalaf am y flwyddyn oedd £4.646m; mae cwrdd â’r targed yn bwysig o ran ceisio rheoli a gostwng rhwymedigaethau benthyca’r Awdurdod.  Mewn perthynas â’r ysgol gynradd newydd yng Nghaergybi, mae’r costau prosiect diwygiedig o £10.352m yn dangos cynnydd o £1.942m yn y gost yn erbyn cyllideb o £8.410m a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru.  Cafwyd ar ddeall y bydd Llywodraeth Cymru yn cyllido 50% o’r cynnydd sy’n golygu y bydd angen i’r Awdurdod gwrdd â’r costau  £1m ychwanegol eraill ar gyfer y prosiect hwn.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr wrth y Pwyllgor fod gohebiaeth wedi ei derbyn sy’n cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn cyllido 50% o’r costau ychwanegol ar y prosiect.

 

Rhoes y Pwyllgor sylw i’r wybodaeth a gyflwynwyd gan nodi’r prosiectau mwyaf arwyddocaol o ran y risg fel yr amlinellwyd nhw ym mharagraff 2.3.21 yr adroddiad fel rhai yr ystyrir bod angen eu monitro’n ofalus, gyda chyfeiriad arbennig at y cyllid grant dan Raglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid y Llywodraeth sydd, oherwydd y modd y caiff y rhan fwyaf o’r gwariant dan y grant ei broffilio ar gyfer Chwarter 4, mewn perygl mawr o golli arian oni fydd modd ei wario’n llawn yn ystod y chwarter olaf.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod Panel Canlyniad Sgriwtini’r Pwyllgor ar Reoli Asedau yn edrych, ymysg pethau eraill, ar y rhaglen gwella mân-ddaliadau ac y bydd yn cyflwyno adroddiad ym mis Chwefror 2016.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys.

 

DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI

7.

Monitro'r Gyllideb - Y Gyllideb Refeniw Chwarter 1 2015/6 pdf eicon PDF 396 KB

Cyflwyno adroddiad monitro’r Gyllideb Refeniw am Chwarter 1 2015/16.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor - adroddiad y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau’r Cyngor ar gyfer chwarter cyntaf 2015/16 a’r sefyllfa a ragamcenir am y flwyddyn gyfan gan gynnwys ffynonellau’r prif wahaniaethau.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer cyllid mai’r sefyllfa ariannol gyffredinol a ragamcenir ar gyfer 2015/16 yw gorwariant o £1,62m sef 1.3% o gyllideb net y Cyngor am 2015/16.

 

Fodd bynnag, mewn canlyniad sy’n adlewyrchu chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol flaenorol, nid yw’r ffigyrau ar gyfer Chwarter 1 2015/16 o angenrheidrwydd yn arwydd o unrhyw batrwm ac mae modd adfer y sefyllfa. Ceir gwell dealltwriaeth o’r sefyllfa ariannol a’r rhagolygon ar draws y Cyngor o’r adroddiad canol blwyddyn a gyhoeddir ym mis Tachwedd ac er ystyrir y byddai’n gynamserol i gymryd unrhyw gamau ar hyn o bryd, bydd yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn monitro’r sefyllfa’n rheolaidd ac yn cymryd camau adfer yn ôl yr angen. Mae rhai o’r cyllidebau gwasanaeth yn rhai sy’n dibynnu ar y galw am y gwasanaeth sy’n ei gwneud yn anos i ddarparu rhagamcanion ystyrlon.

 

Nododd y Pwyllgor y sefyllfa a’i bod yn cael ei hadolygu’n rheolaidd. Cyfeiriwyd hefyd at y gorwariant o £50k ar Gwrs Golff Llangefni oherwydd nad yw wedi cwrdd â’r targedau o ran incwm a phwysleisiwyd bod angen dwyn sylw at hyn yn y gymuned wrth i’r Awdurdod geisio trosglwyddo asedau i’r gymuned a thrydydd partïon.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys.

 

DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI

8.

Cynllun Ymgynghori: Cyllideb 2016/17 pdf eicon PDF 489 KB

Cyflwyno’r cynllun ymgynghori ar gyfer Cyllideb 2016/17.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgoradroddiad y Pennaeth Trawsnewid yn cynnwys y Cynllun Ymgynghori ar Gyllideb 2016/17 i’w weithredu yn ystod y cyfnod rhwng 19 Hydref a 31 Rhagfyr, 2015.

 

Dywedodd Rheolydd y Rhaglen Gorfforaethol bod y cynllun yn ceisio sicrhau’r cyfranogiad a’r atborth mwyaf posibl o’r broses o ymgynghori ar y gyllideb ac, yn arbennig felly, i ymgysylltu gyda phobl ifanc yr ynys yn ystod y broses drwy ddefnyddio amryfal ddulliau gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid, bod y broses o ymgynghori ar y gyllideb yn hanesyddol wedi canolbwyntio ar y cynigion ar gyfer arbedion a’r modd y byddai’r rheiny’n cael effaith ar y ddarpariaeth o wasanaethau; fodd bynnag, mae angen sicrhau cydbwysedd rhwng yr arbedion ar y naill law a’r cynigion ar gyfer y Dreth Gyngor ar y llall gan geisio hefyd gael sylwadau’r dinasyddion ar y cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor, sydd, ar gyfradd o 4.5%, yn sylweddol uwch na chwyddiant.

 

Penderfynwyd derbyn a chefnogi’r Cynllun Ymgynghori ar gyfer Cyllideb 2016/17 fel y caiff ei amlinellu yn Atodiad A yr adroddiad.  

 

DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI

9.

Moderneiddio Ysgolion - Ymgynghoriad Ffurfiol Ardaloedd Bro Rhosyr a Bro Aberffraw pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Rhaglen Moderneiddio Ysgolion.

Cofnodion:

Rhoes y Pennaeth Dysgu i’r Pwyllgor grynodeb o ymateb y cydranddeiliaid i’r ymgynghoriad ffurfiol a’r materion allweddol a oedd yn codi.

 

Rhoddwyd i’r Canon Robert Townsend, cynrychiolydd yr Eglwys yng Nghymru ar y Pwyllgor Sgriwtini ar gyfer materion addysgol, y cyfle i ymhelaethu ar yr ystyriaethau a gyfrannodd at lunio’r farn y daeth Adran Addysg Esgobaeth Bangor iddi fel y’i nodir yn adran 11 yr Adroddiad ar yr Ymateb i’r Ymgynghoriad.

 

Rhoes y Pwyllgor sylw gofalus i’r wybodaeth a gyflwynwyd ac yn y drafodaeth ddilynol, codwyd y materion isod

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch yr hyn yr oedd statws yr ysgol newydd arfaethedig fel Ysgol dan Reolaeth Wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru yn ei olygu o ran rheolaeth, cymeriad ac arferion dydd i ddydd. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod statws rheolaeth wirfoddol yn golygu bod yr Eglwys, ar adeg sefydlu’r ysgol yn wreiddiol, yn rhan o’r ysgol a dyna pam mae’r ysgol yn bodoli. O’r herwydd, mae’r Esgobaeth yn gweithredu fel ymddiriedolwr ar gyfer rhan o’r safle ac mae ganddi’r hawl i benodi chwarter o aelodau’r Corff Llywodraethu. Disgwylir i’r ysgol fod ag ethos Cristnogol a gweithred ddyddiol o addoliad yn unol â thraddodiad Cristnogol.  Disgwylir hefyd i’r Pennaeth, fel rhan o’i rôl, hyrwyddo cymeriad Cristnogol yr ysgol. Caiff cymeriad Cristnogol ac agweddau addoli ar y cyd ysgol yr Eglwys yng Nghymru eu harolygu gan yr Eglwys yn hytrach nag Estyn. 

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar y materion cyfreithiol sy’n codi yn sgil cau Canolfan Gymunedol Bodorgan a’r effaith bosibl ar y rhaglen foderneiddio a’r cynllun busnes yn Ne Orllewin Ynys Môn oni fedr y Cyngor werthu’r cyfleuster hwn. Oni fydd y ganolfan gymunedol yn cael ei gwerthu, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’n rhaid ffactora hynny i mewn i’r Cynllun Busnes. Fodd bynnag, roedd ef yn hyderus y gellir datrys y materion cyfreithiol.

           Roedd y Pwyllgor, tra’n cydnabod bod yr ymgynghoriad anffurfiol yn drwyadl ac yn gynhwysol, o’r farn bod yr ymgynghoriad ffurfiol yn llai boddhaol er ei fod yn cydnabod fod y broses statudol wedi ei llesteirio gan yr hyn a bennir yn y gyfraith. Awgrymodd y Pwyllgor nad oedd statws Eglwys yr ysgol newydd arfaethedig yn agwedd a oedd wedi ei chyfleu mor glir ag y gellid yn yr adroddiad. 

           Gofynnodd y Pwyllgor a ymgynghorwyd yn ddigonol gyda chydranddeiliaid yn Nwyran, Bodorgan a Niwbwrch ar statws Eglwys yr ysgol newydd ac a oedd rhieni yn y cymunedau hynny’n gwerthfawrogi’n llawn yr hyn yr oedd hynny’n ei olygu. Cafwyd cynnig i ymgynghori ymhellach gyda’r cymunedau hyn ynghylch statws yr ysgol newydd cyn gwneud unrhyw argymhelliad penodol. Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr holl ysgolion a oedd yn rhan o’r ymgynghoriad wedi cael yr un cyflwyniad dan arweiniad y Swyddogion Addysg ar sail yr opsiynau a amlinellir yn nhabl 6.2 yr adroddiad sy’n glir ynghylch  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Panelau Canlyniad Sgriwtini: Datganiad o'r Sefyllfa pdf eicon PDF 553 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro ar statws y panelau canlyniad sgriwtini cyfredol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgoradroddiad y Rheolydd Sgriwtini Dros Dro mewn perthynas â’r Panelau Canlyniad Sgriwtini cyfredol. Yn yr adroddiad, cafwyd diweddariad ar gynnydd a statws y Panelau Canlyniad Sgriwtini a sefydlwyd gan y Pwyllgor hwn – 7 ohonynt ar hyn o bryd (Atodiad 1) a rhoes amlinelliad o’r modd y mae’r Awdurdod yn bwriadu cryfhau ymhellach y berthynas rhwng y swyddogaeth Sgriwtini a blaenoriaethau strategol y Cyngor.

 

Penderfynwyd

 

           Nodi’r sefyllfa gyfredol ynghylch gwaith y saith Panel Canlyniad Sgriwtini.

           Cefnogi ymdrechion y Swyddogion i gyflwyno adroddiadau diweddaru chwarterol ar waith y Panelau Canlyniad Sgriwtini i’r ddau Bwyllgor Sgriwtini, y Gweithgor Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Sgriwtini a’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth.

           Cryfhau ymhellach y cysylltiad a’r aliniad rhwng y Swyddogaeth Sgriwtini a blaenoriaethau strategol y Cyngor fel y nodir hynny yn Rhan 4 yr adroddiad.

 

DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI

11.

Blaen Rhaglen Waith 2014-15 pdf eicon PDF 511 KB

Adolygu’r Blaen Rhaglen Waith.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth a sylwadau’r Pwyllgor - adroddiad y Rheolydd Sgriwtini Dros Dro yn cynnwys Blaenraglen Waith y Pwyllgor hyd at fis Ebrill, 2016.

 

Dywedodd y Rheolydd Sgriwtini Dros Dro y bwriedir, gyda chaniatâd y Pwyllgor, wneud y newidiadau a ganlyn i’r Rhaglen Waith er mwyn sicrhau yn bennaf oll eu bod yn cyd-fynd a’r broses o ymgynghori ar y Gyllideb ar gyfer 2016/17 a’i chymeradwyo:

 

           Y bydd y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor sydd wedi ei drefnu ar gyfer 16 Tachwedd yn canolbwyntio ar drafod y cynigion cychwynnol ar gyfer y gyllideb yn codi o’r pedwar gweithdy cyllideb a gynhaliwyd yn ystod Medi a Hydref. 

           Bod busnes arferol y Pwyllgor a oedd i’w drafod yn y cyfarfod ar 16 Tachwedd yn cael ei aildrefnu, gyda chaniatâd y Cadeirydd, i gyfarfod a gynhelir ar 1 Rhagfyr 2015.

           Bod y cyfarfod o’r Pwyllgor a oedd wedi ei ddynodi fel cyfarfod i drafod y gyllideb ar 11 Ionawr 2016 yn cael ei ddileu.

           Y bydd Cyllideb 2016/17 yn cael ei thrafod eto yn y cyfarfod o’r Pwyllgor sydd wedi ei drefnu ar gyfer 1 Chwefror 2016 a hynny cyn i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo’r cynigion terfynol ar gyfer y Gyllideb ar 16 Chwefror yn barod i’w cyflwyno i’r Cyngor Sir ar ddiwedd mis Chwefror.

 

Dywedodd y Swyddog nad yw penderfyniad wedi cael ei wneud hyd yma ynglŷn â’r modd y bydd y baich gwaith yn cael ei rannu rhwng y ddau bwyllgor sgriwtini. Fodd bynnag, bydd newidiadau arfaethedig i gylch gorchwyl y pwyllgorau i ganiatáu trosglwyddo gwaith rhwng y ddau bwyllgor i ymateb i bwysau gwaith yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor Sir ar 29 Medi.

 

Penderfynwyd derbyn y newidiadau i’r Flaenraglen Waith fel y cawsant eu hamlinellu.

 

CAMAU GWEITHREDU’N CODI: Y Rheolydd Sgriwtini Dros Dro i ddiweddaru’r Flaenraglen Waith yn unol â’r manylion.