Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Llun, 12fed Medi, 2016 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiadau o ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 195 KB

Cyflwyno cofnodion drafft cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf, 2016.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf, 2016 a chadarnhawyd eu bod yn gywir, yn amodol ar y canlynol: -

           

Cofnodion - 11 Gorffennaf, 2016

 

Eitem 3 - Diweddariadau gan Aelodau

 

Adroddodd y Rheolwr Sgriwtini bod y Pennaeth Trawsnewid wedi rhoi crynodeb o'r prif bwyntiau a drafodwyd yn y cyfarfod blaenorol, a daeth i'r casgliad mai’r fformat gorau i Aelodau adrodd yn ôl o Fyrddau’r Rhaglen Drawsnewid a’r Byrddau Prosiect  fyddai trwy Ddangosfwrdd a fyddai’n cynnwys gwybodaeth ynghylch cynnydd a wneir gyda’r rhaglenni, y prosiectau a’r tasgau sy'n gysylltiedig â phob Bwrdd. Mae hyn bellach wedi ei ymgorffori yn yr adroddiad ar y Cerdyn Sgorio a gaiff sylw bob chwarter gan y Pwyllgor. ‘Roedd y Pwyllgor yn pryderu y gellid gofyn i'r Aelodau am atborth ar y cynnydd mewn perthynas â'r rhaglenni, y prosiectau a’r tasgau cysylltiedig, ac y gellid eu herio nhw gan mai Aelodau Portffolio a swyddogion sy’n atebol am gyflawni mewn perthynas ag unrhyw faterion oherwydd mai nhw yw  cynrychiolwyr y Byrddau Rhaglen a Phrosiect.  Nodwyd nad hon oedd y ffordd ymlaen a gynigir.

 

Holodd yr Aelodau ynghylch eu rolau ar y Byrddau Rhaglen a Phrosiect a thynnwyd  sylw at anghysondebau o ran adrodd yn ôl o gyfarfodydd. Gofynnwyd am eglurhad ar y swyddogaeth adrodd.

                           

Mewn ymateb, rhoddodd y Prif Weithredwr enghraifft o'r Bwrdd Rhaglen Trawsnewid  Addysg sy'n cynnwys y rhaglen moderneiddio ysgolion fel rhan o'i gylch gwaith. Nodwyd bod perfformiad a moderneiddio ysgolion (sy'n rhan o’r rhaglen codi safonau) yn faterion sy’n cael sylw gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, ac mai’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaethau ac Adfywio sy’n rhoi sylw i rai agweddau eraill e.e. trefniadau partneriaeth.

 

Adroddwyd gan y Rheolwr Rhaglen a Chynllunio Busnes mai diben cynrychiolaeth Sgriwtini ar y Byrddau Trawsnewid Corfforaethol a’r Byrddau Partneriaeth a  Llywodraethu yw nodi, trwy Gadeirydd pob Bwrdd, y materion hynny a allai elwa o gymorth sgriwtini pellach.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Bod y Cadeirydd yn cyfleu i'r Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol bryderon y Pwyllgor fel y nodir nhw uchod mewn perthynas ag atborth o’r Byrddau Rhaglen a Phrosiect.

  Egluro rolau a chyfrifoldebau cynrychiolwyr Sgriwtini ynghylch tasgau, prosiectau a rhaglenni cyn y cyfarfod nesaf.

  Bod yr Aelodau Sgriwtni ar Fyrddau’r Rhaglen Drawsnewid Gorfforaethol yn nodi materion i'w cynnwys ar Raglen Waith y Pwyllgor Sgriwtini ar y cyd â Chadeirydd y ddau Fwrdd.

 

Eitem 4 - Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2015-16

 

Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion ynghylch heriau o fewn y system gofal cartref gyfredol a’r newidiadau y bwriedir eu gwneud i’r dyfodol.

 

Adroddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes) fod y gwaith mewn perthynas â heriau yn y Gwasanaethau Plant wedi cael ei wneud ac y bydd yn cael ei adlewyrchu yn fersiwn derfynol yr adroddiad a fydd yn cael  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Diweddariadau gan Aelodau

Derbyn diweddariadau gan y cynrychiolwyr Sgriwtini mewn perthynas â’r isod:-

 

Byrddau’r Rhaglen Drawsnewid:

 

·      Llywodraethiant a Phrosesau Busnes - Y Cynghorydd R Meirion Jones

·      Plant  - Y Cynghorydd Gwilym O Jones

 

Byrddau’r Prosiectau Trawsnewid:

 

·      Oedolion - Y Cynghorydd Robert Llewelyn Jones

·      Moderneiddio Ysgolion - Y Cynghorydd Llinos Medi Huws

·      Gwasanaethau Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant - Y Cynghorydd Gwilym O Jones

Cofnodion:

Trafodwyd yr eitem hon dan eitem 2 yng nghofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf  2016.

 

PENDERFYNWYD bod diweddariadau gan yr Aelodau yn cael eu cofnodi trwy Ddangosfwrdd yn y dyfodol fel rhan o'r Cerdyn Sgorio Corfforaethol.

4.

Cerdyn Sgorio Corfforaethol – Chwarter 1, 2016/17 pdf eicon PDF 823 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol a oedd yn  cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol a oedd yn portreadu sefyllfa'r Cyngor yn erbyn ei amcanion gweithredol fel yr amlinellwyd ac y cytunwyd arnynt rhwng yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth, y Pwyllgor Gwaith a’r Pwyllgor Gwaith Cysgodol ar ddiwedd Chwarter 1.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i’r Cerdyn Sgorio, a nodwyd y materion canlynol: -

 

  Cost absenoldeb mamolaeth a thadolaeth - nid yw ar y Cerdyn Sgorio;

  Rheolaeth Ariannol - (4 cochstatws Coch / Ambr / Gwyrdd (statws CAG) - gorwariant o 300k ar hyn o bryd. Dim pryderon ariannol ar hyn o bryd.

  Amrywiad o 87% o ran costau asiantaeth (statws Coch)  - yn uwch na'r disgwyl, ond nid oes unrhyw bryder mawr yn Ch1.

  Gofal cwsmeriaid - Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth - dim digon o staff i ddelio â cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth? Mae llawer o geisiadau mewn perthynas ag un pwnc, 2% o wahaniaeth ers y llynedd. Mae'r sefyllfa gyfredol yn llawer gwell gan fod 76% o’r ceisiadau wedi eu hateb. Sicrwyddbod yr UDA yn trafod ffigyrau gyda gwasanaethau perthnasol i wella perfformiad.

  Galwadau ffôn - y duedd yn mynd i lawr, dim pryderon ar hyn o bryd, yn dal i fod o fewn y targed corfforaethol (statws Gwyrdd).

  Ysgolion - angen gostwng y gyfradd salwch yn yr ysgolion.

 

Dywedodd y Pwyllgor fod yr Aelodau wedi gofyn am ddadansoddiad o gostau tybiedig salwch i'r Awdurdod ond nad yw wedi dod i law hyd yma. 

Ymatebodd y Rheolwr Rhaglen a Chynllunio Busnes (GM) fod cost dybiannol salwch wedi'i gynnwys yn y Cerdyn Sgorio ar gyfer y llynedd. Penderfynwyd  yn y gweithdy a fynychwyd gan y Pwyllgor Gwaith, y Pwyllgor Gwaith Cysgodol a'r UDA a fu’n adolygu'r Cerdyn Sgorio y dylid tynnu’r ffigyrau ar gyfer eleni, oherwydd gallant fod yn gamarweiniol, ac mae angen gwneud gwaith llawer manylach.

 

Nodwyd y byddai Swyddfa Archwilio Cymru yn adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Gwaith yn Chwarter 3 (argymhelliad 3.1.4 yr adroddiad) ar waith sy’n ymwneud â salwch, ac awgrymwyd y dylai'r Pwyllgor aros am y diweddariad hwn yn hytrach na gofyn am diweddariad ar gyfer y cyfarfod nesaf. Gan gyfeirio at yr argymhelliad uchod, gofynnwyd am eglurhad ynghylch pryd y byddai materion salwch yn destun sgriwtini gan fod adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru wedi ei raglennu i’w gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Gan gyfeirio at argymhelliad 3.1.3, gofynnwyd am eglurhad ynghylch aelodaeth y panel her salwch. Dywedodd y Prif Weithredwr fod y panel yn cynnwys y canlynol: Y Prif Weithredwr, Prif Weithredwyr Cynorthwyol; aelodau eraill o'r UDA sy'n cydgysylltu â Phenaethiaid Gwasanaeth a chynrychiolwyr Adnoddau Dynol.

 

Cyfeiriwyd at y Dangosfwrdd a chafwyd diweddariad gan y Rheolwr Rhaglen am statws CAG tasgau, prosiectau a rhaglenni’r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD argymell i'r Pwyllgor Gwaith:  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2016/17 – Chwarter 1 pdf eicon PDF 331 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau’r Cyngor ar gyfer  chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol a'r sefyllfa a ragwelir ar gyfer 2016/17. Roedd crynodeb o'r gwariant yn erbyn y gyllideb hyd at ddiwedd Mehefin, 2016 ynghlwm fel Atodiad A i’r adroddiad.

             

Adroddodd y Pennaeth Adnoddau fod yr adroddiad Chwarter 1 yn rhoi arwydd cynnar o unrhyw bwysau cyllidebol sylweddol a ragwelir. Dywedodd bod tanwariant eleni ond nad yw'n sylweddol ac y bydd yn cael ei ariannu o gronfeydd wrth gefn cyffredinol y Cyngor o £7m. Nid yw'r gorwariant a ragwelir o £0.3m yn bryder mawr i'r Cyngor ar hyn o bryd.

 

Mynegwyd pryder gan yr Aelodau ynghylch y diffyg o ran yr incwm o feysydd parcio a’r ffaith nad yw’n ariannu ei hun. Nodwyd bod y gyllideb ar gyfer ffioedd o'r peiriannau meysydd parcio yn dod ag incwm i mewn, sy’n warged ar gyfer y Cyngor. Mae’r elfen orfodfaeth - rhoi dirwyon ar gyfer parcio ar y stryd ac oddi ar y stryd, erlyniadau, cyflogau cynorthwywyr y meysydd parcio - yn cael eu sybsideiddio gan y Cyngor. Nodwyd bod angen gwella gorfodaeth ac annog pobl i dalu.

 

PENDERFYNWYD argymell i'r Pwyllgor Gwaith: -

 

  Ei fod yn nodi'r sefyllfa a nodir mewn perthynas â’r perfformiad ariannol hyd yn hyn.

  Argymell i'r Pwyllgor Gwaith bod unrhyw incwm dros ben o Datblygiadau Cynllunio Mawr yn cael ei drosglwyddo i gronfa wrth gefn  glustnodedig ar ddiwedd y flwyddyn i ariannu cymorth yr Awdurdod tuag at ddatblygiadau mawr yn y dyfodol.

6.

Adroddiad Monitro Cyllideb Gyfalaf 2016/17 – Chwarter 1 pdf eicon PDF 424 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor, adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol y gyllideb gyfalaf ar gyfer chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol.  Roedd crynodeb o'r gwariant yn erbyn y gyllideb hyd at ddiwedd mis Mehefin, 2016 ynghlwm fel Atodiad A i’r adroddiad.

 

Gofynnodd yr Aelodau pam nad oedd darpariaeth ariannol wedi ei gwneud ar gyfer peiriant telegludo a phont bwyso newydd ym Mhenhesgyn.  Awgrymwyd y gallai rhentu fod yn ddewis gwell na phrynu peiriant telegludo yn y dyfodol. Ymatebodd y Pennaeth Adnoddau nad yw’n rhan o'r Cynllun Cyfalaf, pan fo’r Cyngor yn prynu cerbydau, i wneud darpariaeth ariannol i brynu peiriannau newydd ar ddiwedd eu hoes gweithredol. Fodd bynnag, dywedodd bod angen i’r  Cyngor sicrhau bod cyllid ar gael ar gyfer pryniannau yn y dyfodol, gan nad yw'n bolisi gan y Cyngor i rentu neu brydlesu cerbydau gan y byddai’r costau’n dod o’r gyllideb refeniw. Defnyddir grantiau cyffredinol ar gyfer pryniannau cyfalaf gan Lywodraeth Cymru i brynu cerbydau ac nid ydynt yn effeithio ar y gyllideb refeniw. Prynir cerbydau newydd yn unol â Pholisi Caffael y Cyngor.

             

Codwyd cwestiwn gan Aelod am y risgiau sy'n gysylltiedig â’r cynlluniau Grant Cyfalaf yn y Rhaglen Gyfalaf mewn perthynas â'r canlynol: -

 

  Prosiect Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain;

  Grant Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid (VVP);

  Cynllun Ffordd Gyswllt Llangefni;

  Cynllun Atal Llifogydd Biwmares;

  Seilwaith Strategol Caergybi & Llangefni.

 

Ymatebodd y Pennaeth Adnoddau bod risg sylweddol gyda phrosiectau a ariennir â Grant Cyfalaf y gallai Llywodraeth Cymru dynnu cyllid yn ôl os nad yw amserlenni a thargedau yn cael eu bodloni. Nodwyd bod risgiau bod cynlluniau’n llithro pan fo gwaith yn dechrau ar brosiectau e.e. cynlluniau ysgolion. Nid oes unrhyw brosiectau mewn perygl ar hyn o bryd, ond mae'n rhaid i'r Cyngor sicrhau bod prosiectau yn cael eu cwblhau ar amser. Os ceir tywydd drwg neu os bydd amgylchiadau annisgwyl sy’n achosi oedi, yna byddai angen i'r Cyngor drafod gyda Llywodraeth Cymru i ailbroffilio grantiau. Nodwyd ymhellach y byddai'r grant VVP yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn ac y byddai unrhyw arian na chafodd ei wario’n cael ei golli.

 

PENDERFYNWYD argymell i'r Pwyllgor Gwaith: -

 

  Ei fod yn nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn y gyllideb gyfalaf.

  Ei fod yn nodi'r newid yn y prosiect cyfalaf ar gyfer y cynllun rheoli gwastraff, i brynu peiriant telegludo a phont bwyso newydd.

7.

Gwahodd Tendrau ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cartref yn Ynys Môn pdf eicon PDF 250 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion ar ddarparu pecynnau gofal sy'n cydymffurfio â gofynion rheolau sefydlog caffael yr Awdurdod.

 

Mae'r Rhaglen Trawsnewid Gofal i Bobl Hŷn wedi archwilio opsiynau a chytunwyd mai comisiynu sy'n seiliedig ar ardaloedd penodol yw'r ffordd ymlaen i gryfhau'r ddarpariaeth bresennol. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn amodol ymrwymedig i gydgomisiynu gofal cartref yn y dyfodol.

 

Bwriedir mynd allan i dendro ar gyfer tair lot sy’n seiliedig ar dair ardal ddaearyddol h.y. Gogledd, Canol a De'r ynys. Bydd cytundebau newydd yn cael eu rhoi ar waith yn raddol dros gyfnod o ddeuddeng mis, a bydd y broses dendro yn dechrau ym mis Hydref / Tachwedd, 2016. Cynhelir digwyddiadau 'Cwrdd â'r Prynwr' i gynorthwyo'r broses dendro.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a dywedodd wrth y Pwyllgor fod saith darparwr allanol yn darparu gofal cartref ar Ynys Môn ar hyn o bryd. Cyfeiriodd at broblemau a gafwyd gyda'r pecynnau 'dewis a dethol', nad ydynt yn cael eu defnyddio mewn rhai ardaloedd sy’n golygu bod rhaid i ddarparwyr mewnol gymryd y gwaith. Cynigir y bydd yn rhaid i ddarparwyr edrych ar bob pecyn gofal yn ddieithriad. Bydd y gwasanaeth newydd yn dechrau ym mis Mai y flwyddyn nesaf, a bydd pecynnau llai dwys yn cael sylw gyntaf.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod materion / heriau o fewn y Gwasanaeth yn ddyddiol ac adroddodd ar y pwyntiau canlynol: -

 

  Bod perfformiad ynghylch pobl sy'n gadael yr ysbyty wedi gwaethygu a bod angen mynd i'r afael â’r mater;

  Nid yw’r ddarpariaeth gofal yn gyson ar draws ac nid yw hynny’n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol;

  Mae angen mynd allan i’r farchnad i fodloni rheolau sefydlog y Cyngor;

  Mae trafodaethau cychwynnol wedi eu cynnal gyda defnyddwyr gwasanaeth a darparwyr gwasanaeth i fodloni manyleb y Gwasanaeth Oedolion;

  Mae angen cryfhau'r farchnad a’r cymorth sydd ar gael yn y tymor canol a'r tymor hir, er mwyn galluogi darpariaeth sy’n cwrdd ag anghenion  defnyddwyr gwasanaeth yn gyson;

  Gallai nifer fach o ddarparwyr gyflawni rhai darpariaethau, ond ni fyddent yn cwrdd ag anghenion y pecynnau dwysach;

  Bydd y Cyngor yn gweithio ar y cyd gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn y dyfodol ac yn gobeithio mynd allan i’r farchnad gyda phecynnau gofal;

  Mae rhai defnyddwyr gwasanaeth yn cael pecynnau gofal yn y cartref ac mae pecynnau diwedd oes hefyd;

  Bydd gan y contractwyr mawr gyfle i is-gontractio;

  Taliadau uniongyrchol - cynnig pecyn ariannol. Amlygwyd pwysigrwydd cynyddu nifer y taliadau uniongyrchol;

  Arwyddo contract am gyfnod o amser;

  Gall ddod â phobl i dasg;

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion y bydd mynd allan i'r farchnad yn lleihau'r risg mewn perthynas â sicrhau darpariaeth tymor hir ac yn cryfhau'r ffordd y mae'r Cyngor yn gweithio gyda darparwyr, o ran cydweithio â  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Panel Canlyniad Sgriwtini: Diogelu Corfforaethol pdf eicon PDF 338 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Panel Canlyniad Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan Gadeirydd y Panel Canlyniad Sgriwtini yn amlinellu adolygiad y Panel ar drefniadau i sicrhau bod yr Awdurdod Lleol yn gallu cyflawni ei gyfrifoldebau Diogelu. Nododd y Rheolwr Sgriwtini bod y gairCorfforaetholwedi ei adael allan yn argymhelliad 6 yr adroddiad a bod angen ei gynnwys ar ôl y geiriau 'Polisi Diogelu'. Yn amodol ar y cywiriad hwnnw, gofynnwyd i'r Pwyllgor Sgriwtini dderbyn y 6 argymhelliad a mabwysiadu'r adroddiad, a fydd wedyn yn cael ei anfon ymlaen i'r Pwyllgor Gwaith am benderfyniad.

 

Roedd argymhellion y Panel fel a ganlyn: -

 

  Bod Penaethiaid Gwasanaeth yn gyfrifol yn y pen draw am gydymffurfio â'r Polisi Diogelu ac y bydd angen ei fesur a’i gynnwys ar y Cerdyn Sgorio Corfforaethol;

  O ran Cam Gweithredu 4.6: tystiolaeth o hyfforddiant diogelu priodol ar gyfer yr holl gontractwyr, staff asiantaeth a gwirfoddolwyr y mae’r  Cyngor yn eu defnyddio i wneud gwaith ar ei ran  - bydd angen cynnal Gwiriadau gyda’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer eu hymgorffori yng Nghytundeb Contractio’r Cyngor a bydd angen i’r  gwasanaethau unigol eu gweithredu.

  Dylai aelodaeth y Bwrdd Diogelu Corfforaethol gynnwys aelod o'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol i wella cyfathrebu rhwng y Bwrdd a'r Pwyllgor.

  Mae angen cyfathrebu’r Cynllun Diogelu mewn ffordd gliriach. Nodwyd bod sefydlu'r Grŵp Diogelu Cydlynwyr yn cefnogi'r berchnogaeth o fewn gwasanaethau, ond roedd angen mwy o sesiynau gwybodaeth i gefnogi’r rôl.

  Defnyddio'r system newydd ar gyfer monitro polisïau i sicrhau bod yr holl staff yn darllen y Polisi Diogelu diwygiedig - a fyddai'n cynnwys rhoi gwybod am  amheuon.

  Mae angen mwy o waith ar y Polisi Diogelu.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Cymeradwyo Adroddiad Terfynol y Panel Canlyniad Sgriwtini gyda'i 6 argymhelliad.

  Bod yr adroddiad terfynol, sydd bellach yn Adroddiad a fabwysiadwyd gan y Pwyllgor Sgriwtini, yn cael ei gyflwyno i gyfarfod cynharaf y Pwyllgor Gwaith, yn unol 4.5.11 y Cyfansoddiad.

9.

Panel Canlyniad Sgriwtini: Gosod Tai'r Awdurdod Leol (Tai Gwag) pdf eicon PDF 997 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Panel Canlyniad Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Panel Canlyniad Sgriwtini a oedd yn archwilio'r dangosydd perfformiad sy’n tanberfformio yn y Gwasanaethau Tai h.y. Dangosydd Perfformiad 23 - nifer y dyddiau calendr a gymerir ar gyfartaledd i osod unedau y gellir eu gosod (ac eithrio eiddo sy’n anodd eu gosod) a oedd yn dangos yn goch o ran eu statws.

 

Dywedodd yr Is-Gadeirydd fod y Panel wedi cynnal dau gyfarfod llwyddiannus, sydd wedi eu nodi yn yr adroddiad.Roedd 4 argymhelliad y Panel fel a ganlyn: -

 

  Derbyn lliniariad y Gwasanaethau Tai am berfformiad gwael 'Dangosydd Perfformiad rhif 23'.

  Derbyn y targed o 25 diwrnod yn hytrach na newid y targed ar gyfer DP23 ar gyfer 2016/17, ond monitro'r sefyllfa’n agos a’i chymharu gyda pherfformiad awdurdodau cyfagos yng Ngogledd Cymru ar gyfer yr un DP ac ailystyried ei gynnwys neu newid y targed ar gyfer 2017/18. Cynigir y dylid ei ychwanegu at y Cerdyn Sgorio i hwyluso monitro corfforaethol.

  Mabwysiadu'r diffiniad newydd gan Housemark gyfer y DP yn y dyfodol (Para 4.4).

  Yn dilyn y sesiwn friffio i Aelodau ar y Polisi Gosod Tai, rhoi canllawiau maint A4 i Aelodau ar y rhestr dai a bandiau, gan gynnwys cyfeiriad yn benodol at yr hyn a fydd yn diwgydd os bydd tenant yn gwrthod cynnig o lety a’r cyfrifoldebau y mae’n rhaid i denantiaid y Cyngor eu cyflawni o ran safonau cynnal.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Cymeradwyo Adroddiad Terfynol y Panel Canlyniad Sgriwtini gyda'i 4 argymhelliad.

  Bod yr adroddiad terfynol, sydd bellach yn Adroddiad a fabwysiadwyd gan y Pwyllgor Sgriwtini, yn cael ei gyflwyno i gyfarfod cynharaf y Pwyllgor Gwaith, yn unol 4.5.11 y Cyfansoddiad.

10.

Rhaglen Waith y Pwyllgor Sgriwtini pdf eicon PDF 541 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth a sylwadau’r Pwyllgor, adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini a oedd yn ymgorffori Blaenraglen Waith y Pwyllgor hyd at fis Mai, 2017.

 

Adroddodd y Rheolwr Sgriwtini bod dwy eitem ar y rhaglen wedi llithro a’u bod wedi eu rhaglennu bellach ar gyfer y cyfarfod ar 21 Tachwedd, 2016.

 

1  Adroddiad ar Drawsnewid y Gwasanaethau Anableddau Dysgu;

2  Âdroddiad ar drefniadau ôl-ofal yn adroddiad y Gwasanaethau Plant.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Sgriwtini at y cyfarfod nesaf ar 14 Tachwedd a fyddai’n cynnwys rhoi sylw i opsiynau cyllidebol cychwynnol. Mynegodd y Cadeirydd bryder bod y ddogfen ymgynghorol yn cael ei dosbarthu ym mis Rhagfyr. Y llynedd gofynnwyd  i gael gweld y ddogfen yn y cyfarfod hwn cyn iddi gael ei gylchredeg.

 

Cynigiodd y Cadeirydd y dylid trafod amseru’r sesiynau cyllideb gyda'r Rheolwr Sgriwtini a Phrif Swyddogion.

 

Cam Gweithredu: Fel y nodir uchod.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi'r Rhaglen Waith y Pwyllgor Sgriwtini hyd at fis Mai, 2017.

  Y Rheolwr Sgriwtini i ddiweddaru'r Flaenraglen Waith yn unol â hynny.