Rhaglen a chofnodion

Galw i Mewn, Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Iau, 12fed Mai, 2016 9.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Galw i Mewn Penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith - Achos Busnes Llawr y Dref pdf eicon PDF 102 KB

Penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar  25 Ebrill, 2016 mewn perthynas ag Achos Busnes Llawr y Dref ac wedi’i alw i mewn gan y Cynghorwyr  Dylan Rees,  R. Meirion Jones, Llinos Medi Huws, Nicola Roberts ac R.G. Parry, OBE.

 

Mae’r ddogfennaeth berthnasol ynghlwm fel a ganlyn:

 

·        Copi o’r Penderfyniad a wnaed

 

·        Cais Galw i Mewn

 

·        Copi o’r adroddiad a gyflwynwyd i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar

25 Ebrill, 2016 ynglyn â’r mater.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb oedd yn bresennol i’r cyfarfod galw i mewn, yn dilyn penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith ar 25 Ebrill, 2016 mewn perthynas â'r Achos Busnes ar gyfer Llawr y Dref. Dywedodd fod y mater wedi cael ei alw i mewn gan y Cynghorwyr Dylan Rees, Llinos Medi Huws, Nicola Roberts, R G Parry OBE ac ef ei hun. Adroddodd y Cadeirydd ymhellach y byddai'r Cynghorydd Dylan Rees yn arwain ar y galw i mewn ac yn cyflwyno'r achos. Wedi hynny byddai'r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai yn cael gwahoddaid i ymateb.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dylan Rees at gofnod o benderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 25 Ebrill, 2016 a chanolbwyntiodd ar y pwynt bwled isod:-

 

Cytuno i newid dynodiad unedau 1- 4 a 6 - 29 yn Llawr y Dref, Llangefni o fod yn gynllun tai gwarchod i bobl 60+ oed i gynllun tai anghenion cyffredinol yn unol ag Opsiwn 1 yr adroddiad.

 

Mewn ymateb, amlygodd y Cynghorydd Rees y pwyntiau canlynol:-

 

  Roedd y broses ymgynghori yn annigonol cyn i'r Pwyllgor Gwaith wneud ei benderfyniad, sy'n groes i arferion da.

  Nodwyd yn Eitem 6 y Cynllun Busnes, y dylid bod wedi ymgynghori gyda’r 7 tenant sy'n byw ym Mlociau A a B, yn ogystal â thrigolion eraill yn Llawr y Dref, i ofyn am sylwadau cyn gweithredu un o'r ddau opsiwn.

  Roedd trigolion Llawr y Dref wedi gwneud sylwadau i'r Cyngor ynghylch y diffyg ymgynghori ac roedd rhai ohonynt wedi dod i’r cyfarfod.

  Awgrymwyd y dylid penodi eiriolydd annibynnol i ymghynghori gyda’r tenantiaiad a’r trigolion.

  Cyfeiriwyd at gwynion mewn adroddiad gan 'Help the Aged', lle roedd diffyg ymgynghori ystyrlon yn ffactor mewn sefyllfaoedd tebyg. Mae trigolion yn teimlo bod newidiadau’n cael eu gorfodi arnynt ac nad oes ganddynt unrhyw

lais a’u bod yn ddi-rym. Amlygwyd pwysigrwydd cael adborth yn ogystal â'r angen i gynnwys trigolion mewn unrhyw newid.

 

Yn dilyn cyfarfod o Gyngor Tref Llangefni ar 9 Mai, 2016, cyflwynwyd llythyr i’r Pwyllgor gan Glerc y Cyngor yn mynegi pryder am y diffyg ymgynghori gyda thrigolion a thenantiaid cyn i'r penderfyniad gael ei wneud. Roedd y llythyr hefyd yn dweud bod y Cyngor Tref yn bwriadu trefnu cyfarfod gyda thrigolion, y Cyngor Sir a'r Cyngor Tref i drafod y mater ymhellach.

 

Dywedodd y Cynghorydd Rees fod y broses ymgynghori a gynhaliwyd yn groes i Adran 4 Deddf Tai 1985 (Adran 105), a chyfeiriodd at y newid mewn dynodiad, sef y bwriad i ddynodi’r unedau yn gartrefi ar gyfer anghenion cyffredinol yn hytrach nag unedau i bobl oedrannus yn unig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Rees fod penderfyniad y Pwyllgor Gwaith yn cael ei ohirio ac y dylai tenantiaid a rhanddeiliaid gymryd rhan mewn proses ymgynghori newydd. Dylid adolygu unrhyw benderfyniad dilynol i gymryd i ystyriaeth adborth yng  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.