Rhaglen a chofnodion

Arbennig (Cyllideb), Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Mercher, 19eg Hydref, 2016 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

2.

Cynllun Ymgynghori Cyllideb 2017/18 pdf eicon PDF 537 KB

Ystyried y Cynllun Ymgynghori arfaethedig ar gyfer Cyllideb 2017/18.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Trawsnewid) a oedd yn ymgorffori’r Cynllun Ymgynghori arfaethedig ar y Gyllideb y bwriedir ei weithredu yn ystod y cyfnod o 7 Tachwedd, 2016 hyd at 16 Rhagfyr 2016 er ystyriaeth a sylwadau'r Pwyllgor.

 

Dywedodd y Rheolwr Rhaglen a Chynllunio Busnes fod yr adroddiad yn tynnu sylw at y broses ymgynghori a gynlluniwyd a’r rhestr mewn perthynas â’r arbedion y mae’n rhaid i’r Cyngor eu gwireddu er mwyn sicrhau cyllideb gytbwys ar gyfer 2017/18.  Mae'r broses ymgynghori  wedi aeddfedu o flwyddyn i flwyddyn ac mae Cynllun eleni yn mabwysiadu agwedd traws-sector ac yn ceisio sylwadau gan ddinasyddion drwy amrywiaeth o gyfryngau a sianelau fel y rhestrwyd nhw yn rhan 1.2 o'r adroddiad. Yn ogystal, bwriedir cynnal sesiwn friffio i'r wasg fel y gall aelodau o'r wasg gael dealltwriaeth o natur yr arbedion a gynigir. Bydd arolwg ar-lein hefyd. Bydd y cynllun yn fodd i  swyddogion gasglu a choladu’r wybodaeth angenrheidiol i lunio adroddiad ar y gwahanol sylwadau a wneir gan randdeiliaid ar y gyllideb fel y gellir eu cyflwyno i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn ei gyfarfod ar 6 Chwefror; bydd y wybodaeth a'r atborth a geir drwy'r broses ymgynghori cyhoeddus hefyd yn helpu i siapio cynigion terfynol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y gyllideb a gyflwynir i'r Cyngor llawn ar ddiwedd mis Chwefror 2017.

 

Ystyriwyd y Cynllun Ymgynghori arfaethedig gan y Pwyllgor a’r Aelodau o’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio a oedd yn bresennol a gwnaed y pwyntiau canlynol:

 

           Cydnabu'r Pwyllgor yr her sy'n gysylltiedig â chyflwyno cynigion i’r cyhoedd ar gyfer arbedion o fewn gwasanaethau'r Cyngor flwyddyn ar ôl blwyddyn mewn ffordd nad yw'n creu ymateb negyddol yn awtomatig, a gofynnodd am eglurhad ar sut y bwriedir y byddai hyn yn cael ei wneud eleni. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen a Chynllunio Busnes y bydd y Cyngor, trwy'r Cynllun Ymgynghori, yn ceisio ymgysylltu'n gadarnhaol â'r cyhoedd ar y cynigion ar gyfer y gyllideb ac yn ceisio sicrhau bod y cynigion hynny'n cael eu llunio yn y fath fodd fel eu bod yn gwbl eglur i’r holl randdeiliaid a hefyd mewn ffordd a fydd yn anelu at sbarduno trafodaeth  ystyrlon.

           Yng ngoleuni cyhoeddiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru'r diwrnod cynt ynghylch setliad gwell na'r disgwyl i lywodraeth leol, ceisiodd y Pwyllgor eglurhad a fydd y neges i gymunedau am y rhagolygon ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod yn wahanol felly i'r hyn a fyddai wedi bod fel arall. Er yn cydnabod bod y sefyllfa o ran blwyddyn ariannol 2017/18 yn well, dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 nad oedd cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn rhoi syniad o'r rhagolygon ar gyfer blynyddoedd ariannol 2018/19 a 2019/20 ac felly mae’n rhaid i’r Cyngor gynllunio a pharatoi ar gyfer y tebygolrwydd y bydd llai o gyllid ar gyfer y blynyddoedd hynny. Bydd unrhyw arbedion a wneir yn 2017/18 yn cael effaith ar y ddwy  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 75 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau y wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”.

 

 

 

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem isod ar y sail ei bod yn golygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd fel y'i cyflwynwyd.

4.

Cyllideb 2017/18 - Y Broses Hyd Yma

Ystyried cynigion cychwynnol drafft ar gyfer Cyllideb 2017/18 ynghyd â’r broses hyd yma.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth a sylwadau'r Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 mewn perthynas â'r cynigion drafft cychwynnol ar gyfer Cyllideb 2017/18 a’r  arbedion a nodwyd hyd yma. Dosbarthwyd rhestr yn y cyfarfod o'r arbedion effeithlonrwydd arfaethedig fesul gwasanaeth.

 

Adroddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 fod asesiad cychwynnol wedi dangos y byddai angen i'r Cyngor ddarganfod arbedion o oddeutu £12m dros y tair blynedd nesaf, sef cyfanswm o £4m ym mhob un o'r blynyddoedd hynny. Gofynnwyd i’r gwasanaethau ddod  o hyd i gynilion o 4% o'u cyllidebau net. Cynhaliwyd cyfres o weithdai i aelodau etholedig dros yr wythnosau diwethaf i archwilio a herio'r cynigion a gyflwynwyd gan wasanaethau unigol ac fe arweiniodd hynny, ddydd Mercher diwethaf, sef 12 Hydref, at Weithdy Gosod Cyllideb i adolygu'r broses hyd yma ynghyd â’r arbedion a gynigiwyd a’r camau nesaf yn y broses.

Dywedodd y Swyddog mai bwriad y cyfarfod hwn oedd cymryd golwg ehangach ar y cynigion arbedion a gwerthuso eu heffaith strategol, os o gwbl, ar allu'r Cyngor i gyflawni'r blaenoriaethau a nodwyd yn ei Gynllun Corfforaethol ar gyfer 2013-17; ystyried a yw unrhyw un o'r cynigion yn achosi pryder sylweddol i’r Pwyllgor Sgriwtini ac a oes angen ailddrafftio rhai ohonynt i bwrpas yr  ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Ystyriodd y Pwyllgor, a’r Aelodau hynny a oedd yn bresennol ac yn cynrychioli’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio'r cynigion ar gyfer arbedion yng nghyd-destun tair ystyriaeth benodol a nodwyd yn yr adroddiad ac a ailadroddwyd gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 uchod, a gwnaed y sylwadau canlynol:   

 

4.1 Ydi unrhyw un o’r cynigion drafft sy’n codi o’r broses hyd yma yn effeithio ar allu’r Cyngor i gyflawni’r canlyniadau yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor mewn modd amserol?

 

           Nododd y Pwyllgor yr arbedion sydd wedi’u hargymell o dan y Gwasanaethau Oedolion gan gyfeirio’n benodol at arbediad o £250k drwy drawsnewid gwasanaethau h.y. drwy adolygu pecynnau gofal, lleoliadau preswyl a phecynnau cymorth sy’n canolbwyntio ar y canlyniad a gofynnwyd am gadarnhad o sut y byddai’r rhain yn effeithio ar nod y Cyngor i drawsnewid gofal cymdeithasol i oedolion hŷn ac i hyrwyddo annibyniaeth ac ail-alluogi pobl hŷn. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod y ffigwr cyfansawdd o £ 250k yn cynnwys sawl elfen yr   amcangyfrifir eu bod yn dod i gyfanswm o £250k gan gynnwys lleoliadau all-sirol, lleoliadau preswyl ac ailgyfeirio defnyddwyr gwasanaethau o leoliadau gofal dydd i hybiau cymunedol a chynlluniau Heneiddio’n Dda. Mae gwaith ar yr opsiwn yn mynd rhagddo er mwyn cadarnhau’r  cyfanswm arbedion. Cadarnhaodd y Swyddog na fyddai unrhyw effaith uniongyrchol o ran gallu'r Cyngor i gyflawni ei flaenoriaeth gorfforaethol.

           Nododd  y Pwyllgor fod arbediad nad oedd wedi ei gyfrifo hyd yma wedi cael ei roi yn erbyn y

prosiect Dementia dan y gyllideb Gofal Dydd o fewn y Gwasanaethau Oedolion a gofynnwyd am esboniad o'r hyn y mae'r arbediad yn ei olygu a sut mae'n berthnasol i'r nod corfforaethol o drawsnewid y ddarpariaeth gofal cymdeithasol i oedolion o ystyried bod dementia  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.