Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Dylan Rees ddiddordeb personol nad oedd yn rhagfarnu yn eitem 4 ar y rhaglen gan ei fod yn Gadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Bodffordd.
Datganodd y Cynghorydd Nicola Roberts ddatganiad personol nad oedd yn rhagfarnu yn eitem 4 ar y rhaglen gan ei bod yn llywodraethwr yn Ysgol y Talwrn ac Ysgol y Graig a’i merch yn ddisgybl yn Ysgol y Graig. |
|
Cofnodion y Cyfarfodydd Blaenorol PDF 290 KB Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol –
· 12 Medi, 2018 · 20 Medi, 2018 (Galw i fewn)
· Bydd cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 8 Hydref, 2018 yn cael eu cyflwyno i gyfarfod 5 Tachwedd y Pwyllgor hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol, a chadarnhawyd eu bod yn gywir –
• 12 Medi, 2018 • 20 Medi, 2018 (cyfarfod galw i mewn) |
|
Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd PDF 163 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol -
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
Cofnodion: Penderfynwyd dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm. |
|
Moderneiddio Ysgolion - Achos Strategol Amlinellol/Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Ysgol Gynradd Newydd i gymryd lle Ysgol Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dysgu. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Dysgu yn ymgorffori’r Achos Strategol Amlinellol a’r Achos Busnes Amlinellol (ASA/ABA) ar y cyd ar gyfer ysgol gynradd newydd i gymryd lle Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir er mwyn i’r Pwyllgor eu hystyried a darparu sylwadau arnynt.
Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid at y cysylltiad rhwng yr ASA/ABA a Chynllun y Cyngor a blaenoriaethau corfforaethol eraill. Mae’r adroddiad yn nodi’r sail strategol, economaidd, masnachol ariannol a rheolaethol ar gyfer yr ysgol newydd yn unol â phroses Achos Busnes Ysgolion yr 21ain ganrif er mwyn derbyn cyllid cyfalaf ar gyfer y prosiect.
Cyflwynodd y Pennaeth Dysgu grynodeb o fanylion yr ysgol newydd fydd â lle i 360 o ddisgyblion ac a fydd yn ysgol gymunedol a fydd, o ganlyniad i hynny, yn cynnwys ardaloedd cymunedol; penderfynwyd ar safle’r ysgol newydd yn dilyn proses fanwl o arfarnu safleoedd; y broses gaffael ac amserlen cyflenwi’r prosiect.
Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a chodwyd y pwyntiau canlynol –
• Nododd y Pwyllgor fod safle’r ysgol newydd ar dir i’r gogledd o’r B5109, yn union wedi’r troad i’r dde i stad Bryn Meurig yn Llangefni, yn safle ar oleddf ac oherwydd amodau’r safle nodwyd bod angen gwneud gwaith ar y briffordd. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynglŷn â pha waith fyddai’n rhaid ei wneud.
Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo Dros Dro bod y safle a ddewiswyd wedi cael ei asesu ac nad oedd unrhyw broblemau’n bodoli fyddai’n golygu ei fod yn anaddas o safbwynt priffyrdd cyhyd ag y bo’r datblygwr yn gwneud gwaith penodol fel rhan o gostau’r cynllun er mwyn lliniaru pryderon ynglŷn â Phriffyrdd. Cadarnhaodd y Swyddog fod trafodaethau manwl wedi eu cynnal ag ymgynghorydd Dylunio Priffyrdd y cynllun a bod nifer o opsiynau wedi cael eu hystyried. Cyfeiriodd at y Cynllun Priffyrdd a gynhwyswyd ym mhapurau’r pwyllgor sy’n manylu ar fân gylchfan arfaethedig a mynedfa oddi ar y B5109 i safle’r ysgol newydd. Argymhellir creu cylchfan er mwyn rheoli a diogelu llif y traffig a symudiadau i safle’r ysgol oddi ar y B5019 i gyfeiriad Bodffordd yn ystod yr adegau prysuraf yn y bore a’r prynhawn. Bydd y gylchfan hefyd yn gweithredu fel mesur tawelu traffig. Tynnodd y Swyddog sylw at groesfan i gerddwyr ar y dde i’r gylchfan ar y cynllun ar gyfer plant fydd yn croesi i’r ysgol newydd o ardal Corn Hir. Yn ogystal, argymhellir creu llwybr troed a llwybr beicio cyfunol, o led penodol, wrth ochr y groesfan fydd yn cynorthwyo i gwrdd ag amcanion Teithio Llesol. Bydd llwybr troed hefyd yn cael ei greu ar ochr yr ysgol o’r B5109 yn ymestyn cyn belled â chyffordd Lôn Rhostrehwfa ar gyfer plant sy’n teithio i’r ysgol o’r ardal honno. Y nod yw gwneud yr holl waith priffyrdd yn unol â’r amcangyfrif cost a amlinellir yn yr adroddiad, gyda’r costau hynny’n rhan o gostau cyffredinol datblygu’r safle.
• Nododd y Pwyllgor yr eglurhad a ddarparwyd ac awgrymwyd y dylid ystyried gweithredu un neu fwy ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |