Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a rhoddodd groeso arbennig i Christine Jones o Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a oedd yn bresennol i arwain ar eitem 2 ar y rhaglen. Cymerodd y Cadeirydd y cyfle hefyd i longyfarch Dr Caroline Turner, Prif Weithredwr Cynorthwyol a Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol, ar ei phenodiad fel Prif Weithredwr Cyngor Sir Powys, ac wrth ddymuno’n dda iddi yn ei swydd newydd, diolchodd iddi am ei gwaith yng Nghyngor Sir Ynys Môn. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb. |
|
Arolwg Arolygiaeth Gofal Cymru o'r Gwasanaethau Plant PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd. Cofnodion: Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn crynhoi canlyniad yr ail-arolwg gan AGC o’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yng Nghyngor Sir Ynys Môn ym mis Hydref, 2018. Roedd yr adroddiad yn cyfeirio ar y gwelliannau y mae AGC yn cydnabod sydd wedi digwydd ers yr arolwg gwreiddiol ym mis Tachwedd, 2016, a oedd wedi arwain at nifer o bryderon sylweddol; y meysydd i’w datblygu a sefyllfa’r Gwasanaeth ym mhob maes ynghyd â’r camau i’w cymryd yn dilyn yr ail-arolwg. Roedd copi llawn o adroddiad AGC o’r ail-arolwg ynghlwm at sylw’r Pwyllgor.
Rhoddodd Christine Jones, AGC gyflwyniad i’r Pwyllgor ar y prif ganfyddiadau o adroddiad yr Arolygiaeth. Fel rhan o’r arolwg dilyn-i-fyny, roedd AGC wedi gwerthuso ansawdd yr ymarfer, penderfyniadau a wneir a gwaith aml-asiantaeth ynghyd ag ansawdd yr arweinyddiaeth, rheolaeth a llywodraethiant.
Roedd y prif ganfyddiadau ym mis Hydref, 2018 yn cynnwys y canlynol – • Mae Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Ynys Môn yn gallu dangos gwelliant sylweddol mewn nifer o feysydd allweddol ond mae dal angen gwaith pellach mewn rhai meysydd. • Mae morâl staff yn uchel ac mae angerdd ac ymroddiad ar bob lefel i barhau i weithio’n galed ar y daith wella er mwyn cyflwyno gwasanaethau rhagorol i blant. • Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAA) wedi gwella’n sylweddol ers yr arolwg diwethaf ym mis Tachwedd 2016. • Mae ymatebion i faterion diogelu yn amserol ac yn gymesur gan amlaf. Mae lle i wella o ran dwyn ynghyd a chofnodi tystiolaeth a dadansoddi risg. • Mae gwelliannau mewn goruchwyliaeth gan reolwyr ac atebolrwydd proffesiynol ar bob lefel yn parhau i amlygu achosion lle collwyd cyfleoedd i gefnogi plant yn y blynyddoedd cynt. • Mae diffyg lleoliadau addas i blant. Mae angen rhagor o waith i sicrhau bod dewisiadau lleoliad yn cwrdd ag anghenion penodol y plant o fewn eu cymuned. • Mae arweinyddiaeth a llywodraethiant cryf yng Nghyngor Sir Ynys Môn. Mae Uwch Swyddogion yn weladwy, ar gael ac yn gyrru gwelliannau. • Mae adborth positif gan bartneriaid ynglŷn â’r newidiadau maent wedi eu gweld yn Ynys Môn, gan ddisgrifio diwylliant agored newydd a chydweithio da.
Dywedodd Ms Jones, ar y cyfan, fod Gwasanaethau Plant Ynys Môn mewn lle llawer gwell o gymharu â lle’r oeddynt ym mis Tachwedd, 2016 a bod gan y Gwasanaeth ddealltwriaeth dda o’i gryfderau a’i wendidau a’r meysydd lle mae angen mwy o waith. Dyma yw’r camau cynnar mewn siwrnai barhaus o welliant ar gyfer y Gwasanaethau Plant yn Ynys Môn a bydd hynny’n cynnwys rhoi ar waith y polisïau, gweithdrefnau a phrosesau newydd sydd wedi’u datblygu a sicrhau bod gwell perfformiad yn erbyn dangosyddion allweddol yn cael ei wreiddio. Y nod yw cyflawni gwelliant cynaliadwy a sicrhau, trwy ddod yn wasanaeth da, bod y Gwasanaethau Plant yn Ynys Môn yn parhau i fod yn wasanaeth da yn y tymor hir. Dylai’r Gwasanaeth fonitro’r meysydd hynny y mae wedi eu datblygu, gan osod disgwyliadau uchel a chadw’r ffocws ar archwilio a chyflawni’r polisïau ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2. |
|
Mater er Gwybodaeth - Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Llyfrgell 2017/18 PDF 1 MB Cyflwyno er gwybodaeth adroddiad y Pennaeth Dysgu. Cofnodion: Cyflwynwyd er gwybodaeth i’r Pwyllgor – adroddiad y Pennaeth Dysgu yn ymgorffori Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Llyfrgelloedd ar gyfer 2017/18. Roedd yr adroddiad yn amlygu cryfderau a gwendidau cymharol y Gwasanaeth Llyfrgelloedd a Gwybodaeth fel y nodwyd yn yr Adroddiad Blynyddol 2017/18 ynghyd ag asesiad (MALD) Llywodraeth Cymru o Adroddiad Blynyddol 2017/18 y Gwasanaeth Llyfrgelloedd a’r materion sy’n codi.
Nodwyd yr adroddiad er gwybodaeth. |