Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes..

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yn un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion y Cyfarfodydd Blaenorol pdf eicon PDF 337 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:

 

·         27 Chwefror, 2020 (heb eu cyflwyno gerbron yn flaenorol)

·         14 Medi, 2020

·         22 Medi, 2020 (arbennig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd fod cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol yn gywir:-

 

           Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Chwefror, 2020 (nad oeddent eisoes wedi cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor);

           Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Medi, 2020

           Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Medi, 2020 (Arbennig).

3.

Strategaeth Ataliol Corfforaethol pdf eicon PDF 666 KB

Cyflwyno adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (dros dro) a oedd yn rhoi trosolwg o’r Strategaeth Ataliol ac Ymyrraeth Gynnar Gorfforaethol a’r amserlen ar gyfer ei gweithredu.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor mai diben y strategaeth yw cynorthwyo pobl i gael ansawdd bywyd gwell. Diffinnir gweithredu Ataliol fel mabwysiadu dulliau sy’n ychwanegu at ymwneud defnyddwyr gwasanaeth a chymunedau i sicrhau gwell canlyniadau a chyfrannu’n sylweddol at wneud y defnydd gorau posib o arian ac asedau eraill. Mae gweithredu fel hyn yn helpu i ddileu dyblygu a gwastraff, gan leihau’n sylweddol galw o’r system yn y tymor hwy. Mae’n hanfodol parhau i ddatblygu cysylltiadau cryfach tu fewn i’r Cyngor a gyda phartneriaid, cymunedau a phreswylwyr er mwyn canfod ffyrdd newydd o weithio a darparu gwasanaethau er mwyn mynd i’r afael ag anghenion lleol.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Datblygu (Gwasanaethau Tai) fod gan Atal ac Ymyrraeth Gynnar rôl hanfodol i’w chwarae wrth leihau’r galw ar ddarpariaeth statudol, rheng flaen, a thrwy hynny leihau costau a sicrhau fod pob dinesydd, gan gynnwys rhai o’r dinasyddion mwyaf bregus, yn derbyn ymyraethau amserol i ddiwallu eu hanghenion amrywiol. Bydd y Strategaeth yn canolbwyntio ar ddull gweithredu ar draws yr Awdurdod, fel yr amlinellir yn y Cynllun Gweithredu, a bydd yn cael ei weithredu ochr yn ochr â Chynllun Corfforaethol y Cyngor er mwyn cyflawni’r 3 nod craidd corfforaethol fel yr amlinellir yn yr adroddiad. Ychwanegodd fod angen dull corfforaethol a pherchnogaeth o’r Strategaeth Ataliol, sy’n cynnwys cyllid ac amser staff ar draws holl adrannau’r Cyngor, os am gyflawni’r Strategaeth Ataliol ac Ymyrraeth Gynnar yn llawn. Bydd ymrwymiad ariannol yn cael ei nodi yn ystod y 18 mis i ddwy flynedd nesaf wrth i’r anghenion a blaenoriaethau ddod yn amlycach.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, codwyd y cwestiynau a ganlyn gan y Pwyllgor:-

 

           Gofynnwyd am eglurhad ynghylch oblygiadau ariannol y Strategaeth Ataliol ac Ymyrraeth Gynnar Gorfforaethol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 na fydd Llywodraeth Cymru’n darparu arian ychwanegol ond mai pwrpas y Strategaeth yw arbed pwysau ariannol pellach ar wasanaethau cyhoeddus. Bydd angen rhoi rhaglen buddsoddi i arbed mewn lle i gychwyn y broses fydd yn creu arbedion yn yr hirdymor ac efallai na ddaw buddion y Strategaeth i’r amlwg am nifer o flynyddoedd;

           Cyfeiriwyd at y dulliau seiliedig ar asedau a sefydlwyd yn ardal Seiriol ac sydd wedi llwyddo i feithrin hunanddibyniaeth a gwytnwch yn hytrach na dibyniaeth ar wasanaethau cyhoeddus eraill. Gofynnwyd a fyddai modd rhoi enghreifftiau i’r Pwyllgor. Dywedodd y Pennaeth Tai fod grŵp gweithredol ar waith yn ardal Seiriol sy’n cynnwys y cynllunTro Da’ i gasglu presgripsiynau, siopa ac ymateb i anghenion eraill pobl fregus yn yr ardal;

           Gofynnwyd pa risgiau posib sy’n gysylltiedig â’r Strategaeth. Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y ddibyniaeth ar grantiau yn risg mewn perthynas â’r Strategaeth hon a bod pryderon  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2019/20 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Trawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr Adroddiad Gwella Blynyddol ar gyfer 2019/20 i’r Pwyllgor ei ystyried. Roedd yr adroddiad, y mae gofyn statudol ar yr Awdurdod ei gyhoeddi, yn darparu adolygiad o’r canlynol:-

 

           cynnydd yr Awdurdod yn erbyn ei Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer 2019/20, fel yr amlinellir dan y 3 amcan blaenoriaeth (fel y cyfeirir atynt ym mharagraff 1.3 yr adroddiad);

           ei berfformiad cyffredinol, gan gynnwys perfformiad a seilir ar ddangosyddion cenedlaethol (mesurau atebolrwydd cyhoeddus – PAM) a DPA lleol.

 

Amlygodd Arweinydd y Cyngor nifer o gyflawniadau o dan y 3 amcan allweddol wrth gydnabod hefyd y gellir gwneud cynnydd pellach mewn perthynas â pherfformiad mewn rhai meysydd. Cyfeiriodd at rai o gyflawniadau’r Cyngor, megis adnewyddu Llawr y Dref er mwyn darparu cartrefi cyfforddus ynghyd ag agor dau fflat hyfforddi ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal. Cyfeiriodd yr Arweinydd at nifer o gyflawniadau eraill hefyd, fel y’u nodir yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Rheoli Perfformiad fod yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol wedi cael ei wella a’i gryfhau drwy gynnwys astudiaethau achos yn y ddogfen sy’n darparu tystiolaeth ac yn rhoi sicrwydd ynghylch yr effaith y mae’r gwaith dydd i ddydd yn ei gael ar unigolion penodol a chymunedau yn gyffredinol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y pwyntiau canlynol:-

 

           Cyfeiriwyd at yr heriau y mae’r Cyngor yn eu hwynebu yn sgil y pandemig Covid-19. Gofynnwyd i ba raddau mae’r pandemig wedi effeithio ar berfformiad y Cyngor ac a oes angen i’r Cyngor newid ei flaenoriaethau a’i arferion gwaith ar gyfer 2020/21. Dywedodd Arweinydd y Cyngor na fu modd gorffen gwaith cynnal a chadw ar dai cymdeithasol o fewn yr amserlen ofynnol ac y bu oedi o ran gosod eiddo oherwydd cyfyngiadau mynediad o ganlyniad i’r pandemig.

           Gofynnwyd am y cyfleoedd swyddi posib yn deillio o Fargen Dwf Gogledd Cymru. Dywedodd Arweinydd y Cyngor y cyflwynwyd sesiwn friffio i Aelodau Etholedig ynghylch materion llywodraethiant yn ymwneud â’r Bwrdd Uchelgais yn ddiweddar. Os deuir i gytundeb erbyn diwedd y flwyddyn hon, bydd modd i gynllun Morlais symud yn ei flaen gan mai hwn yw’r prosiect mwyaf aeddfed yn y fargen dwf. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr y cyflwynir adroddiad i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ynghylch Cytundeb Llywodraethiant 2 Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Nododd y bydd nifer o swyddi’n deillio o brosiectau bid twf pan fyddant yn weithredol. Bydd angen rhoi strategaeth gaffael mewn lle mewn perthynas â’r strategaeth ariannol i sicrhau fod y gadwyn gyflenwi’n cynnig cyfleoedd cyflogaeth mewn ardaloedd gwledig;

           Roedd Aelodau o’r farn fod angen dynodi gogledd yr ynys yn Barth Menter er mwyn gallu denu grantiau i gynyddu cyflogaeth yn yr ardal. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod gwaith wedi cael ei wneud i ddenu swyddi i ogledd yr ynys. Defnyddiwyd arian grant gan yr NDA i ddarparu grantiau i fusnesau bach yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 418 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd blaen raglen waith y Pwyllgor i’w hystyried.

 

PENDERFYNWYD:-

 

           Cytuno ar fersiwn gyfredol y blaen raglen waith ar gyfer 2020/21

           Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu’r blaen raglen waith.

 

GWEITHREDU : Fel y nodir uchod.