Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd yr holl Aelodau a Swyddogion i’r cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a fyddai’n ystyried y cynigion cychwynnol ar gyfer gosod y cyllidebau cyfalaf a refeniw ar gyfer 2021/22.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion y Cyfarfodydd Blaenorol pdf eicon PDF 340 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol 

 

·         17 Tachwedd, 2020

·         10 Rhagfyr, 2020 (arbennig)

·         17 Rhagfyr, 2020 (arbennig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwywyd a chadarnhawyd cofnodion blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol fel rhai cywir

 

17 Tachwedd, 2020

10 Rhagfyr, 2020 (arbennig)

17 Rhagfyr, 2020 (arbennig)

3.

Gosod Cyllideb 2021/2022 (Cyllideb Refeniw) pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Rheolwr Sgriwtini a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini i’w Pwyllgor ei ystyried. Roedd yr adroddiad yn amlinellu cyd-destun y broses gosod Cyllideb ar gyfer 2021/22 ynghyd â’r prif faterion a chwestiynau ar gyfer Sgriwtini wrth arfarnu cynigion cyllideb cychwynnol y Pwyllgor Gwaith gan gymryd i ystyriaeth y prif negeseuon o’r ymgynghoriad cyhoeddus. Roedd y dogfennau a ganlyn ynghlwm i’r adroddiad –

 

3.1       Adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 ar y cynigion cychwynnol ar gyfer cyllideb refeniw 2021/22 a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 18 Ionawr 2020 ac a oedd yn cynnwys datganiad ar y sefyllfa mewn perthynas â chynigion cyllidebol cychwynnol y Pwyllgor Gwaith; setliad amodol Llywodraeth Cymru ar gyfer Llywodraeth Leol; y sefyllfa gychwynnol ar gyfer cyllideb 2021/22; y Dreth Gyngor; cronfeydd wrth gefn a balansau’r Cyngor; cynigion ar gyfer arbedion; pwysau ar y gyllideb; risgiau a’r effaith ar y Cynllun Ariannol Tymor Canol.

 

Cyflwynodd yr Aelod Portffolio Cyllid yr adroddiad cyllideb a’r cynigion cyllideb drwy ddweud y deuant ar ddiwedd blwyddyn o heriau na welwyd eu tebyg o’r blaen. Mae’n rhaid i’r Cyngor gydbwyso ei ddyhead i gadw cynnydd yn y Dreth Gyngor mor isel â phosib gyda’r angen i ymgorffori gwydnwch yn ei gyllideb mewn parodrwydd ar gyfer heriau yn y dyfodol. Roedd yn cydnabod bod y Dreth Gyngor yn fater cynhennus gan fod disgwyl i’r dreth godi bob blwyddyn; yn bersonol roedd yn credu ei bod yn system annheg ac amhriodol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Ond, oherwydd i Ynys Môn dderbyn setliad amodol gwell na’r disgwyl ar gyfer 2021/22 gan Lywodraeth Cymru roedd yn bosib i’r Cyngor gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar sail cynnydd arfaethedig o 3.75% yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2021/22. Fodd bynnag, mae amseriad setliad Llywodraeth Cymru yn broblem o hyd ac mae’n ffordd anfoddhaol o ariannu cynghorau lleol ac ni fydd y setliad terfynol yn cael ei gyhoeddi tan 2 Mawrth 2021 - wythnos yn unig cyn y mae disgwyl i’r Cyngor gwblhau a gosod ei gyllideb ar gyfer 2021/22. Mae’r adroddiad cyllideb yn nodi nifer o ystyriaethau ar gyfer gosod cyllideb 2021/22 ac un o’r elfennau allweddol yw’r Contract Casglu Gwastraff a Glanhau Strydoedd newydd fydd yn weithredol o 1 Ebrill 2021. Mae cost y contract newydd yn sylweddol uwch na’r gyllideb bresennol ac ynddo’i hyn mae'n gyfystyr â chynnydd o 3% yn y Dreth Gyngor. Hefyd, mae’r Pwyllgor Gwaith wedi nodi’r angen i sicrhau cyflenwad o weithwyr sydd â chymwysterau a phrofiad addas ar gyfer y dyfodol fel maes blaenoriaeth ac mae’n awyddus i ailsefydlu’r Rhaglen Hyfforddi Broffesiynol i gynorthwyo i fynd i’r afael ag unrhyw brinder sgiliau posib y gallai’r Cyngor ei wynebu.

 

Cafwyd cyflwyniad gweledol gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 a oedd yn rhoi trosolwg a chyd-destun y gyllideb refeniw, a thynnodd sylw at y prif agweddau ac ystyriaethau a oedd yn effeithio ar lefel y Dreth Gyngor fel a ganlyn –

 

           Roedd y gyllideb gychwynnol ar gyfer 2021/22, ar sail y rhagamcan yn y Cynllun Ariannol Tymor Canol, yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Gosod Cyllideb 2021/2022 (Cyllideb Gyfalaf) pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Rheolwr Sgriwtini a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini i’r Pwyllgor ei ystyried. Roedd yr adroddiad yn amlinellu cyd-destun y broses gosod Cyllideb Gyfalaf 2021/22 ynghyd â’r prif faterion a chwestiynau ar gyfer Sgriwtini wrth werthuso cynigion cychwynnol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y gyllideb gyfalaf gan gymryd i ystyriaeth y prif negeseuon o’r ymgynghoriad cyhoeddus. Roedd y dogfennau a ganlyn ynghlwm i’r adroddiad

 

4.1   Adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ar gynigion cychwynnol cyllideb gyfalaf 2021/22 a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 18 Ionawr 2021 ac a oedd yn cynnwys datganiad ar y sefyllfa mewn perthynas â sefyllfa cyllideb gyfalaf gychwynnol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer 2021/22; lefel y gwariant cyfalaf; effaith benthyca ar y gyllideb refeniw oherwydd costau cyllido cyfalaf; costau refeniw parhaus (e.e. cynnaliaeth); pwysau cyllidebol a risgiau, a’r effaith ar y Cynllun Ariannol Tymor Canol a Chynllun y Cyngor.

 

Adroddodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, bod rhaglen gyfalaf gwerth £36.155m yn cael ei chynnig ar gyfer 2021/22. Yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, gan fod diffyg o thua £900k yn y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2021/22 y bwriad yw defnyddio’r tanwariant disgwyliedig yn y cyfrif refeniw yn 2020/21 i bontio’r bwlch er mwyn cyflawni’r rhaglen a gynlluniwyd. Mae mwyafrif y gwariant cyfalaf yn 2021/22 yn gysylltiedig â’r Cyfrif Refeniw Tai (CRT) sydd yn cynnal ac yn datblygu stoc dai’r Cyngor.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 drosolwg o broses y gyllideb gyfalaf drwy gyfrwng cyflwyniad gweledol a sylwebaeth lafar ac amlygwyd y pwyntiau allweddol fel a ganlyn

 

           Nid yw lefel y cyllid gan Lywodraeth Cymru, drwy’r Grant Cyfalaf Cyffredinol a Benthyca â Chymorth, wedi cynyddu ers nifer o flynyddoedd ac ni ddisgwylir y bydd fawr o newid yn y setliad amodol a’r setliad terfynol.

           Mae strategaeth cyfalaf y Cyngor yn darparu ar gyfer dyrannu cyllid yn flynyddol i fuddsoddi mewn asedau presennol. Felly, mae’r rhaglen yn cynnwys £1m ar gyfer adnewyddu adeiladau ysgol; £60k ar gyfer adeiladau eraill y Cyngor; £1.25m ar gyfer Priffyrdd; £195k ar gyfer adnewyddu cerbydau a £292k ar gyfer uwchraddio asedau TG. Mae dyraniad o £50k ar gyfer y Grant Cyfleusterau i’r Anabl wedi’i gynnwys yn y rhaglen hefyd ac mae’r grant yn rhwymedigaeth statudol.

           Mae buddsoddiad cyfalaf o £6.6m wedi’i gynllunio ar gyfer ysgolion newydd (ardal Llangefniyn amodol ar y penderfyniad terfynol) yn unol ag ymrwymiad y Cyngor i’r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

           Cyllidir y rhaglen gyfalaf drwy gyfuniad o grantiau allanol, y Grant Cyfalaf Cyffredinol, a benthyca â chymorth a benthyca digymorth (yn unol â’r manylion yn Nhabl 1, paragraff 3.1 yr adroddiad). Cyllidir prosiectau CRT gyda chyllid CRT sydd wedi ei glustnodi ar gyfer y diben hwnnw.

           Mae prosiectau cyfalaf unwaith ac am byth newydd gwerth £1.105m wedi’u cynnwys yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2021/22 ac maent yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Adroddiad Cynnydd y Panel Sgriwtini Cyllid

Cadeirydd y Panel i adrodd ar lafar.

Cofnodion:

Adroddodd y Cynghorydd Dafydd Roberts bod y Panel, yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Chwefror 2021, wedi archwilio’r cynigion ar gyfer y Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf am 2021/22 a bod yr adborth yn unol â’r hyn a adroddwyd o dan eitemau 3 a 4 uchod.

6.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 1019 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini, yn ymgorffori’r Blaen Raglen Waith hyd at Ebrill 2021 i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r ddwy eitem ddilynol yn ymwneud â lles staff y Cyngor a chymunedau a monitro effeithiolrwydd y system brofi ac olrhain, y cytunwyd arnynt wedi i’r Pwyllgor graffu ar ymateb y Cyngor i Covid-19, gael eu hamserlennu i gyfarfod mis Ebrill y Pwyllgor.

 

Penderfynwyd

           Cytuno i’r fersiwn gyfredol o’r flaen raglen waith yn amodol ar amserlennu’r ddwy eitem ddilynol yn ymwneud ag ymateb y Cyngor i Covid-19 i gyfarfod mis Ebrill y Pwyllgor.

           Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu’r flaen raglen waith.

 

GWEITHRED: Y Rheolwr Sgriwtini i ddweddaru’r Flaen Raglen Waith yn unol â’r hyn a nodwyd.