Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor - Swyddfeydd y Cyngor a Zoom
Cyswllt: Ann Holmes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Roedd y Cadeirydd, y Cynghorydd Douglas Fowlie, yn bresennol yn ystod y cyflwyniadau cychwynnol ond fe adawodd y cyfarfod yn syth wedyn oherwydd ymrwymiad personol. Cadeiriwyd gweddill y cyfarfod gan yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Sonia Williams. Etholwyd Y Cynghorydd Geraint Bebb i fod yn Is-gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn yn unig.
|
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Jackie Lewis a’r Cynghorydd Llio Angharad Owen ddiddordeb personol yn unig mewn perthynas ag eitem 3 ar y rhaglen.
|
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2025. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2025 a chadarnhawyd eu bod yn gywir. Amlinellwyd a nodwyd cynnydd yn erbyn y gweithredoedd a gytunwyd yn y cyfarfod hwnnw.
|
|
|
Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion. Cofnodion: Cyflwynwyd, i’r pwyllgor ei ystyried a’i graffu, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a oedd yn nodi cynnydd yn ystod y chwe mis diwethaf yn erbyn yr holl feysydd gwella yr oedd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi eu nodi yn dilyn ei arolygiad o’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2022, a’r adolygiad gwiriad gwella dilynol ym mis Mehefin 2024.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion, Cydraddoldeb a Diogelwch Cymunedol. Cyflwynodd grynodeb o’r cefndir, gan ddweud bod AGC wedi adolygu’r Gwasanaethau Cymdeithasol (y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a’r Gwasanaethau Oedolion) ym mis Hydref 2022 fel rhan o’i Arolygiad Gwerthuso Perfformiad arferol. Roedd yr arolygiad yn amlygu meysydd cryfder, arfer dda a datblygiadau o fewn y gwasanaeth ac ni nodwyd unrhyw risgiau arwyddocaol na materion diogelu. Roedd yr ymweliad gwiriad gwella a gynhaliwyd gan AGC ym mis Mehefin 2024 yn asesu cynnydd mewn perthynas â’r meysydd i’w gwella a nodwyd yn flaenorol ac mae’r adroddiad yn crynhoi’r canfyddiadau a thystiolaeth. Lluniwyd Cynllun Datblygu er mwyn monitro gwelliannau a chyflwynwyd y cynllun a’r adroddiad i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ym mis Hydref 2024. Gofynnodd y pwyllgor am ddiweddariad pellach mewn chwe mis ac mae’r adroddiad hwn yn ymateb i’r cais hwnnw ac mae’n cynnwys, yn Atodiad 1, gynllun datblygu gwasanaeth a ddiwygiwyd sydd yn manylu ar gynnydd yn ystod y cyfnod hwnnw, yn erbyn y meysydd gwella a amlygwyd gan CIW.
Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod adroddiadau a gwybodaeth wedi’u rhannu’n gyson ag AGC trwy gydol y broses a bod yr Arolygiaeth yn fodlon â’r hyn a gyflwynwyd. Trefnwyd cyfarfod terfynol ym mis Mai er mwyn cwblhau’r broses.
Wrth gydnabod y cynnydd cadarnhaol a’r gwelliant yn y Gwasanaethau Cymdeithasol a amlygir yn yr adroddiad diweddaru, codwyd nifer o faterion gan y pwyllgor yn ystod y drafodaeth a ddilynodd ac ymatebodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion, Cydraddoldeb a Diogelwch Cymunedol a’r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion iddynt fel a ganlyn –
· Gofynnwyd cwestiynau am yr hyfforddiant a ddarperir i staff gofal cartref a gofynnwyd am sicrwydd bod yr holl staff yn cwblhau rhaglen hyfforddi gynhwysfawr er mwyn eu galluogi i ddiwallu anghenion cleientiaid, gan sicrhau profiad cadarnhaol i’r cleient yn sgil hynny. Holwyd ymhellach am drosolwg a monitro trefniadau a gwasanaethau a ddarperir.
Hysbyswyd y pwyllgor fod gan AGC ofynion caeth o ran rheoleiddio staff ac mae ganddo ddisgwyliadau uchel o ran hyfforddi staff. Dylid dwyn unrhyw bryderon am y maes hwn i sylw’r gwasanaeth yn ddiymdroi. Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod y gwasanaeth yn monitro ac adolygu ansawdd y ddarpariaeth gofal cartref ac mae’n cael ei reoleiddio a’i arolygu gan gorff allanol hefyd, sef AGC.
· Holwyd am restrau aros a ph’un a fyddai unigolion yn parhau i wynebu oedi cyn derbyn gofal a chymorth.
Hysbyswyd y pwyllgor bod rhestrau aros wedi gostwng ym mhob maes ers yr arolygiad. Serch hynny, mae heriau’n parhau o ran darparu gofal, yn enwedig mewn perthynas â recriwtio staff, er bod y sefyllfa staffio wedi sefydlogi bellach. Nodwyd y gallai’r sefyllfa newid, yn dibynnu ar ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |
|
|
Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.
Cofnodion: Cyflwynwyd, i’r pwyllgor ei ystyried a’i graffu, adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo a oedd yn cynnwys ymateb arfaethedig Cyngor Môn i’r ymgynghoriad ar Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.
Cyflwynodd yr adroddiad gan y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo, ac roedd yn amlinellu ymateb arfaethedig y Cyngor i ymgynghoriad Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru ar Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru. Mae’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn sefydlu blaenoriaethau ac ymyraethau ar gyfer gwahanol rannau o’r system drafnidiaeth ac mae’n gosod y cyfeiriad ar gyfer y bum mlynedd nesaf. Bydd Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru’n cael ei reoli a’i lywodraethu gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig sydd â dyletswydd statudol i greu Cynllun Datblygu Strategol a Chynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Mae’r Cyd-bwyllgor Corfforedig wedi sefydlu Is-bwyllgor Cynllunio Trafnidiaeth Strategol er mwyn cyflawni ei swyddogaethau statudol. Mae’r is-bwyllgor wedi cyfarfod ac mae gwaith wedi’i wneud er mwyn drafftio’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Anogodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas bawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol cyn y dyddiad cau, sef 14 Ebrill 2025, a nododd fod tua 1,400 o bobl wedi cymryd rhan yn barod a bod dros 500 o bobl wedi ymweld â’r neuadd gymuned rithwir. Cynhaliwyd dwy sesiwn galw heibio hefyd fel rhan o’r broses ymgynghori, yng Nghaergybi a Llangefni.
Esboniodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn ddogfen lefel uchel sydd yn amlinellu’r weledigaeth ar gyfer y rhanbarth. Nod ymateb arfaethedig y Cyngor i’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yw cyd-bwyso blaenoriaethau strategol y rhanbarth gydag anghenion unigryw Ynys Môn, sydd, oherwydd ei natur wledig, yn wahanol iawn i rannau eraill y rhanbarth. Bydd yr ymateb drafft hefyd yn ymgorffori safbwyntiau aelodau etholedig, cynghorau tref a chymuned, defnyddwyr gwasanaeth a’r cyhoedd. Gan fod disgwyl i’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol gyd-fynd â strategaeth Llywodraeth Cymru: Llwybr Newydd - Strategaeth Trafnidiaeth i Gymru 2021, mae’n rhaid i’r Cyngor sicrhau fod y dyheadau’n rhai y gellir eu cyflawni o fewn cyfyngiadau polisi Llywodraeth Cymru. Er hynny, mae adolygiad Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru, ac adolygiad o wytnwch pontydd y Fenai dan arweiniad yr Arglwydd Burns, yn darparu man cychwyn cadarn. Yn y pendraw, mae llwyddiant y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn dibynnu ar argaeledd adnoddau a chapasiti i roi’r Cynllun Cyflawni ar waith yn ystod y bum mlynedd nesaf. Mae’n hanfodol felly nad yw’r Cynllun yn codi disgwyliadau’n ormodol.
Codwyd y materion canlynol gan y pwyllgor yn ystod y drafodaeth ddilynol ynglŷn â’r ymateb arfaethedig i’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol –
· Oherwydd pwysigrwydd strategol Porthladd Caergybi o ran gwasanaethu Cymru, y DU ac ar lefel ryngwladol er mwyn cysylltu Iwerddon â thir mawr Ewrop, holwyd am amserlen ar gyfer ailagor y porthladd yn llawn ar ôl iddo gael ei ddifrodi yn ystod Storm Daragh.
Hysbyswyd y pwyllgor bod disgwyl i’r ail angorfa a ddifrodwyd ailagor erbyn haf 2025, ond mae’n hynny’n amodol ar dderbyn cadarnhad gan Stena. Ffurfiwyd grŵp tasg gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
|
Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad y Rheolwr Sgriwtini yn ymgorffori Blaen Raglen Waith arfaethedig y Pwyllgor ar gyfer 2025/26.
Mewn ymateb i awgrymiadau gan y Cynghorydd R. Llewelyn Jones ynglŷn â phynciau i’w cynnwys ar flaen raglen waith y pwyllgor, cadarnhaodd y Rheolwr Sgriwtini y byddai’n cyflwyno’r awgrymiadau i’r fforwm Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Sgriwtini i’w hadolygu a’u hystyried.
Penderfynwyd cytuno’r fersiwn gyfredol o’r Flaen Raglen Waith ar gyfer 2025/26.
|