Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor - Swyddfeydd y Cyngor ac yn rhithiol ar Zoom
Cyswllt: Ann Holmes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd Jeff Evans ddatgan diddordeb personol a rhagfarnol yn eitemau 6 ac 8 am ei fod yn Llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Caergybi, a bod aelodau o’i deulu yn gweithio yn yr ysgol. Yn dilyn derbyn caniatâd arbennig gan Banel Caniatâd Arbennig - Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd at 9 Hydref 2025, roedd ganddo’r hawl i gymryd rhan a phleidleisio ar y materion hyn.
Bu i’r Cynghorydd Keith Roberts ddatgan diddordeb personol a rhagfarnol yn eitemau 6 ac 8 am ei fod yn Llywodraethwr i Ysgol Uwchradd Caergybi. Yn dilyn derbyn caniatâd arbennig gan Banel Caniatâd Arbennig - Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd at 9 Hydref 2025, roedd ganddo’r hawl i gymryd rhan a phleidleisio ar y materion hyn.
Bu i’r Cynghorydd Robert Ll Jones ddatgan diddordeb personol yn eitemau 6 ac 8 am fod aelod o’i deulu yn gweithio yn yr ysgol.
Bu i’r Cynghorydd Ieuan Williams ddatgan diddordeb personol yn eitemau 6 ac 8 am iddo gael ei gyfethol fel Llywodraethwr Ysgol Uwchradd Caergybi.
|
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 17 Medi 2025. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 17 Medi 2025 a chadarnhawyd eu bod yn gywir, yn amodol ar gynnwys enw’r Cynghorydd Llio Angharad Owen ymhlith y rheiny oedd yn bresennol.
Camau o’r cyfarfod diwethaf
· Fod y data diweddaraf mewn perthynas â thueddiadau poblogaidd yn cael eu cyflwyno mewn sesiwn briffio i aelodau yn y dyfodol. - Wedi ei raglennu fel eitem ar gyfer sesiynau briffio’r aelodau ar gyfer y dyfodol. · Bydd yr Aelod Portffolio Hamdden, Twristiaeth a Morwrol yn trafod y gwaith o drefnu gweithgarwch gyda Rheolwr Môn Actif, gan gynnwys hyfywedd sesiynau ar y penwythnos a rhai buan/hwyr - Cam wedi’i gwblhau gan fod y Aelod Portffolio Hamdden, Twristiaeth a Morwrol wedi trafod yr amserlenni’n llawn gyda Thîm Môn Actif. · Bod adroddiad chwarterol ar weithgareddau’r Cyngor, sy’n ymwneud â newid hinsawdd, a’i gynnydd tuag at gyflawni statws net sero yn cael ei gynnwys fel eitem sefydlog ar agenda’r pwyllgor, yn amodol ar y mater yn cael ei ystyried gan Arweinyddion y Grwpiau Gwleidyddol yn gyntaf. - Cam wedi’i gwblhau - Trafodwyd y mater yng nghyfarfod yr Arweinyddion Grŵp Gwleidyddol a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2025, a chytunwyd bod trefniadau clir ac addas ar waith mewn perthynas â materion newid hinsawdd a bod diweddariadau cyson yn cael eu darparu pan fo hynny’n amserol a phriodol.
|
|
|
Cyflwyno adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol. Cofnodion: Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru (Rhan 9:Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol) 2024/25 i’w ystyried gan y pwyllgor.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau oedolion a Diogelwch Cymunedol mai nod Bwrdd Partneriaeth Gogledd Cymru yw gweithio ar y cyd ar draws gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i helpu i gefnogi cymunedau gwydn a sicrhau bod gwasanaeth o safon yn cael i gynnig unigolion y mae angen gofal a chefnogaeth arnynt. Dywedodd fod y Bwrdd yn cynnwys aelodau o’r 6 awdurdod lleol yng ngogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Gogledd Cymru a sefydliadau’r trydydd sector. Dywedodd bod y Bwrdd wedi datblygu’n sylweddol ers ei sefydlu i fod yn bartneriaeth cyfartal effeithiol ledled y rhanbarth. Sefydlwyd gweithdai er mwyn trafod elfennau gwahanol o waith y Bwrdd sydd wedi ychwanegu gwerth. Mae'r 6 Aelod Portffolio sydd â chyfrifoldeb am Wasanaethau Cymdeithasol ar draws awdurdodau lleol Gogledd Cymru hefyd yn cyfarfod yn fisol.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr Awdurdod yn elwa o'r gwaith a wneir yn rhanbarthol gan fod yr Awdurdod yn bartner cyfartal o fewn y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Cyfeiriodd at y prosiectau lleol i Ynys Môn fel y nodir yn yr adroddiad. Fel partner yn y Bwrdd Partneriaeth, mae'r Awdurdod yn gallu sicrhau cyllid grant ychwanegol ar gyfer prosiectau er budd trigolion Ynys Môn. Mae hyn yn cyd-fynd â'r blaenoriaethau a nodir yng Nghynllun y Cyngor 2023-2028. Aeth ymlaen i ddweud y gall y sefydliadau partner ddysgu gwersi o ran gwahanol brosiectau oddi wrth ei gilydd, gyda phob sir bellach wedi sefydlu prosiect tebyg i brosiect Cartrefi Clyd, a sefydlwyd gan yr Awdurdod hwn. Gwnaed buddsoddiadau gwerth £4 miliwn i’r prosiectau hyn ledled Gogledd Cymru.
Dywedodd Mr Jospeh Griffiths o Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru fod nifer o brosiectau wedi cael eu sefydlu ar Ynys Môn. Mae Canolfan Glanhwfa yn Llangefni yn enghraifft sydd â chyfleuster cymorth Dementia. Mae cyfleuster Gofal Ychwanegol hefyd wedi cael cefnogaeth ym Mhorthaethwy. Cyfeiriodd at Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol sy'n cael ei rhannu rhwng y 6 awdurdod lleol a'r Bwrdd Iechyd ac amlygwyd enghreifftiau o'r prosiectau sydd wedi elwa o'r cyllid yn yr adroddiad. Trafododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol:-
· Cyfeiriwyd at y ffaith ei fod wedi'i nodi yn yr adroddiad bod y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn cwestiynu ei strwythur llywodraethu ei hun. Nodwyd bod diffyg proses graffu ranbarthol o fewn y Bwrdd. Awgrymwyd y dylai pob awdurdod lleol graffu ar un o'r 6 model o ddarpariaeth gofal a amlygwyd yn yr adroddiad neu fod angen sefydlu Pwyllgor Craffu Rhanbarthol. · Nodwyd nad yw'r adroddiad yn glir ynghylch gwerth y gefnogaeth a roddir gan y Bwrdd i bobl sydd angen cefnogaeth ychwanegol o fewn y ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol. · Cyfeiriwyd at y Cynllun Gweithredu a oedd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad. Nodwyd bod diffyg costio sy'n gysylltiedig â'r prosiectau yn y Cynllun. · Cyfeiriwyd at y ffaith bod yr adroddiadau’n tynnu sylw at sawl llwyddiant a gyflawnwyd gan y Bwrdd, fodd bynnag, ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |
|
|
Cyflwyno adroddiad blynyddol CGC-GCAGC am 2024/25. Cofnodion: Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru ar gyfer 2024/2025 i’r Pwyllgor ei ystyried.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd fod yr Adroddiad Blynyddol yn rhoi trosolwg o weithgarwch y gwasanaeth yn ystod 2023/24. Mae gan y Cyngor ddyletswyddau cynllunio ac ymateb i argyfyngau dan y ddeddfwriaeth a'r rheoliadau perthnasol ac mae'n brif ymatebydd. Mae’r Cyngor yn cyflawni ei rwymedigaethau trwy gydweithio ag Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru trwy Wasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru. Mae'r adroddiad yn crynhoi gweithgaredd rhanbarthol yn ystod y flwyddyn o ran rheoli digwyddiadau ac ymateb i argyfyngau yn ogystal â gweithgaredd o fewn chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru yn unigol. Nododd fod yr Adroddiad Blynyddol hwn yn cynnwys manylion sylweddol am y gwaith a wnaed a phwrpas y Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol.
Dywedodd Rheolwr Rhanbarthol Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru fod y Gwasanaeth wedi gwneud gwaith sylweddol oherwydd y cynnydd mewn stormydd a rhybuddion tywydd sydd wedi digwydd, yn enwedig Storm Darragh a Storm Amy yn ddiweddar. Nododd fod gwaith sylweddol hefyd wedi'i wneud gan y Gwasanaeth gyda'r Siarter i’r Rheiny mewn Profedigaeth. Mae'r Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol wedi bod yn rhan annatod o Grŵp Tasg a Gorffen Menai sy'n canolbwyntio ar gau'r pontydd ar yr un pryd. Mynegodd fod y Gwasanaeth wedi'i sefydlu'n bennaf i leihau dyblygu ar draws Gogledd Cymru a sicrhau bod mwy o adnoddau ar gael i awdurdodau lleol.
Fe wnaeth aelodau’r pwyllgor drafod y materion a ganlyn wrth ystyried yr adroddiad:-
· Cyfeiriwyd at y pryderon ynghylch cau Pont Menai yn sydyn yn ddiweddar. Mynegwyd ei bod yn amlwg nad yw Llywodraeth Cymru yn gwrando ar bryderon y gymuned leol gan fod y bont wedi cau heb rybudd yn ddiweddar gan achosi oedi sylweddol; mynegwyd pryderon hefyd, pe bai angen cau Pont Britannia hefyd, y gallai hyn achosi amhariadau sylweddol ar yr Ynys i'r Gwasanaethau Brys sy'n cludo cleifion i Ysbyty Gwynedd a phlant a phobl ifanc mewn ysgolion a cholegau. Mynegwyd pryderon hefyd bod busnesau ym Mhorthaethwy yn cael eu heffeithio'n fawr, gyda phobl yn osgoi'r ardal. Codwyd cwestiynau ynghylch a oes diweddariad ynghylch yr amserlen ar gyfer gorffen y gwaith ar Bont Menai.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd nad yw'r Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol yn gyfrifol am gau Pont Menai nac am ddiffyg cynnal a chadw'r bont. Atgoffodd y Pwyllgor mai cyfrifoldeb y Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol yw cynllunio a rheoli'r sefyllfa pan fydd y ddwy bont ar gau oherwydd stormydd a rhybuddion tywydd. Cyfeiriodd at storm ddiweddar pan gododd y sefyllfa ynghylch yr angen posibl i gau Pont Britannia a'r cyfyngiadau ar Bont Menai. Cyfrifoldeb y Gwasanaeth Brys Rhanbarthol yw rhoi Cynllun Gweithredu ar waith i fynd i'r afael â'r sefyllfa mewn cydweithrediad â'r Fforwm Gwytnwch Lleol a'r Gwasanaethau Brys a sefydliadau eraill i sicrhau bod y Cynllun yn mynd i'r afael ag anghenion a phryderon trigolion yr Ynys.
Dywedodd y Prif Weithredwr mai rôl y Gwasanaethau Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol yw cydweithio â ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
|
Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad y Rheolwr Sgriwtini yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor hyd at fis Ebrill 2026.
Gofynnodd y Pwyllgor i gynnwys parhad busnes sy'n seiliedig ar TG yn y Blaen Rhaglen Waith.
PENDERFYNWYD:-
· I cytuno’r fersiwn gyfredol o’r Flaen Raglen Waith ar gyfer 2025/26, gan gynnwys y newidiadau a nodwyd, yn amodol ar gynnwys eitem ynglyn a pharhad busnes sy’n seiliedig ar TG. · Nodi’r cynnydd a waned hyd yma o ran gweithredu’r Blaen Raglen Waith. |
|
|
Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc i’r Pwyllgor ei ystyried.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod yr adroddiad yn canolbwyntio ar ganlyniad y broses ymgynghori ar y cynnig i adleoli Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad ysgol newydd. Mae gan y Cyngor ddyletswydd dan y Cod Trefniadaeth Ysgolion i ymgynghori â rhanddeiliaid wrth ystyried cynigion ad-drefnu ysgolion. Cynhaliwyd proses ymgynghori rhwng 5 Mehefin, 2025 a 17 Gorffennaf, 2025 i adleoli Ysgol Uwchradd Caergybi i safle newydd. Cynhaliwyd ymgynghoriad â phlant a phobl ifanc ynghylch y cynnig i adleoli'r ysgol i safle newydd.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod 79% o’r ymatebwyr yn cytuno â’r cynnig i adleoli Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad ysgol newydd ar gyfer plant 11-18 oed. Nododd fod 20% o'r sylwadau a dderbyniwyd gan randdeiliaid yn ystyried bod y safle arfaethedig i adleoli'r ysgol yn rhy bell o ganol y dref, y dylid diweddaru neu ailadeiladu'r adeilad presennol ar y safle presennol.
Wrth ystyried yr adroddiad, gwnaed y sylwadau canlynol:-
· Codwyd cwestiynau ynghylch a fyddai darpariaeth ar gyfer dysgwyr ADY fel rhan o'r cynnig gan fod canllawiau ADY ar gyfer ysgolion yng Nghymru yn cefnogi dysgwyr o'u genedigaeth hyd at 25 oed.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc mai'r cynnig yw adleoli Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad ysgol newydd ar gyfer dysgwyr 11 i 18 oed.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod cydweithio’n digwydd rhwng yr Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg pan fydd person ifanc ag anghenion ADY yn cyrraedd 18 oed i gefnogi ei anghenion addysgol.
PENDERFYNWYD :-
· Cymeradwyo’r cynnig, yn dilyn canlyniad yr ymgynghoriad statudol i adleoli dysgwyr Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad ysgol newydd ar gyfer disgyblion 11-18 oed; · Awdurdodi swyddogion i gyhoeddi hysbysiad statudol mewn perthynas â'r cynnig.
|
|
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd Ystyried mabwysiadu’r canlynol –
“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”
Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-
“Penderfynu o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
|
|
|
Achos Strategol Amlinellol - Adleoli Dysgwyr Ysgol Uwchradd Caergybi i Adeilad Ysgol Uwchradd Newydd ar gyfer Dysgwyr 11-18 oed Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc i’r Pwyllgor ei ystyried.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg a'r Iaith Gymraeg fod yr Achos Amlinellol Strategol (SOC) yn cynnwys achos i adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Caergybi i gymryd lle'r adeilad presennol erbyn mis Medi 2030. Byddai adeilad newydd yr ysgol yn darparu lle i ddisgyblion sydd ar hyn o bryd yn Ysgol Uwchradd Caergybi ac unrhyw ddisgyblion ychwanegol o'r dalgylch. Amlinellwyd manylion y cynigion ariannu i adeiladu ysgol newydd i'r Pwyllgor.
Roedd yr Aelodau Lleol, a wahoddwyd i'r Pwyllgor, yn unfrydol yn cefnogi'r argymhellion a gyflwynwyd fel y'u hamlinellwyd yn yr adroddiad.
Ar ôl trafod yr Achos Amlinellol Strategol a'r cynnig ariannu i adeiladu ysgol newydd, PENDERFYNWYD argymell i'r Pwyllgor Gwaith:-
· Gymeradwyo’r Achos Amlinellol Strategol ar gyfer yr adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Caergybi; · Cymeradwyo cyflwyno’r Achos Amlinellol Strategol i Lywodraeth Cymru erbyn 8 Ionawr 2026 ar gyfer cyfarfod o’r Grwp Craffu ar Achosion Busnes a fydd yn cyfarfod bythefnos yn ddiweddarach; · Cymeradwyo clustnodi derbyniadau cyfalaf yn dilyn gwerthu safle presennol Ysgol Uwchradd Caergybi i ad-dalu rhan o fuddsoddiad y Cyngor tuag at adeiladu adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Caergybi; · Dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog A151 a Chyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro i ddiwygio’r Achos Amlinellol Strategol os oes angen - oni bai bod y newidiadau’n achosi newidiadau sylweddol (o ran polisi, egwyddorion, cyfraniad ariannol, risgiau a niwed i drydydd bartïon). I glustnodi arian datblygwyr o ddatblygiadau tai o fewn dalgylch Ysgol Uwchradd Caergybi i gyfrannu at gost y prosiect. |