Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor - Swyddfeydd y Cyngor ac yn rhithiol ar Zoom
Cyswllt: Ann Holmes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Croesawodd y Cadeirydd bawb oedd yn bresennol i’r cyfarfod ac estynnodd groeso arbennig i’r Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, a benodwyd yn aelod o’r pwyllgor yn ddiweddar. Mynegodd y Cadeirydd ei dristwch yn dilyn marwolaeth y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE, yr wythnos ddiwethaf. Bu’n aelod o’r Cyngor ers blynyddoedd maith. Ar ran y pwyllgor, cydymdeimlodd yn ddwys â theulu a ffrindiau’r Cynghorydd Hughes. Safodd yr Aelodau a swyddogion fel arwydd o barch a chydymdeimlad.
|
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2025. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2025 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
|
|
|
Monitro Perfformiad:Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 2 2025/26 Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid oedd yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 2 blwyddyn ariannol 2025/26 i’w ystyried gan y Pwyllgor. Mae adroddiad y cerdyn sgorio yn manylu ar berfformiad y dangosyddion allweddol sy’n gysylltiedig â chyflawni gweithredoedd dyddiol y Cyngor er mwyn cefnogi amcanion ehangach Cynllun y Cyngor.
Cyflwynodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Tai a Diogelwch Cymunedol, adroddiad y cerdyn sgorio yn ei rôl flaenorol fel aelod portffolio busnes corfforaethol a phrofiad y cwsmer. Nododd bod mwyafrif y dangosyddion (87%) sydd â thargedau penodol wedi perfformio’n dda yn ystod y chwarter, a bod eu statws yn Wyrdd neu Felyn. Roedd enghreifftiau nodedig o berfformiad da y cyfeirir atynt yn adran 2.3 yn yr adroddiad yn cynnwys gosod 11 system wresogi carbon isel yn adeiladu’r Cyngor fel rhan o brosiectau’r cyngor i fynd i’r afael â newid hinsawdd a’i ymrwymiad i fod yn gyngor sero net. Nododd hefyd fod rheolaeth ariannol gadarn, gan gynnwys monitro cyllidebau refeniw a chyfalaf yn effeithiol, yn holl bwysig er mwyn caniatáu i’r Cyngor ddarparu gwasanaethau a chyflawni ei nodau strategol. Cyfeiriodd y Cynghorydd Carwyn Jones at saith dangosydd sy’n Goch neu’n Oren yn erbyn eu targedau ar hyn o bryd, fel yr amlinellir yn adran 2.2, ynghyd â’r mesurau lliniaru cysylltiedig. Roedd y meysydd hyn yn ymwneud â Thai (ail-osod eiddo gwag a gwireddu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl), yr Economi (nifer y contractau angori blynyddol a chanran y busnesau risg uchel a archwiliwyd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth hylendid bwyd), Newid Hinsawdd (ailgylchu gwastraff o’r cartref yn benodol) ac Iechyd Cyngor Cyfan (ymateb i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn unol â’r amserlen). Cadarnhaodd fod yr holl feysydd hyn yn cael eu monitro gan y Tîm Arweinyddiaeth.
Wrth adolygu’r cerdyn sgorio corfforaethol ar gyfer yr ail chwarter, cododd y pwyllgor y pwyntiau canlynol:-
· Mynegodd aelod o’r pwyllgor bryderon am dipio anghyfreithlon yn ardal Ynys Gybi a Chaergybi. Dywedodd yr aelod fod Biffa yn ymateb yn brydlon i ddigwyddiadau o’r fath a’i fod yn gwerthfawrogi hynny, ond gofynnod a oedd y sefyllfa wedi gwella.
Cadarnhaodd y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Portffolio, Priffyrdd a Gwastraff, fod y dangosydd sy’n mesur nifer y diwrnodau gwaith a gymerwyd ar gyfartaledd i glirio digwyddiadau tipio anghyfreithlon yn Wyrdd ac yn unol â’r targed, ac mae’n dyst i effeithlonrwydd ymateb Biffa. Nododd, fodd bynnag, fod 70% o dipio anghyfreithlon yn digwydd mewn un ardal benodol yng Nghaergybi. Codwyd y mater gyda’r Prif Swyddog Rheoli Gwastraff a chadarnhaodd fod pob ateb posib yn cael ei ystyried. Gwelwyd rhywfaint o welliant, ac mae llai o eitemau mawr yn cael eu tipio’n anghyfreithlon, er bod digwyddiadau dros nos yn parhau i greu heriau o ran darganfod pwy sy’n gyfrifol ac o safbwynt gorfodaeth. Cynhelir cyfarfod pellach i drafod y mater hwn.
Mewn cwestiwn dilynol, gofynnodd y pwyllgor pa mor debygol yw’r Cyngor o gyflawni’r targed a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, sef ailgylchu 70%, a ph’un a yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi arwydd y byddai’n ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |
|
|
Adroddiad Hunan Asesiad a Pherfformiad (Llesiant) 2024/25 Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid. Cofnodion: Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid yn ymgorffori’r Adroddiad Hunanasesiad a Pherfformiad (Llesiant) 2024/25. Mae’n ofynnol llunio a chyhoeddi’r adroddiad o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2021 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Cyflwynodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Tai a Diogelwch Cymunedol, adroddiad y cerdyn sgorio yn ei rôl flaenorol fel aelod portffolio busnes corfforaethol a phrofiad y cwsmer, a nododd mai’r adroddiad ar gyfer 2024/25 oedd y tro cyntaf i’r Cyngor gyfuno ei adroddiad hunanasesiad, perfformiad a llesiant. Mae’r ddogfen yn dangos fod y Cyngor yn defnyddio dull integredig ar gyfer cynllunio, rheoli perfformiad a hyrwyddo llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Mae’n darparu tystiolaeth i ddangos sut y gwnaeth y Cyngor gyflawni ei amcanion strategol a’i flaenoriaethau, sut y bu iddo ddefnyddio adnoddau’n effeithlon a rheoli risgiau’n effeithiol.
Mae’r adroddiad yn cynnig trosolwg clir o gynnydd yn erbyn ymrwymiadau 2024/25 yn y Ddogfen Gyflawni Flynyddol, yr amcanion strategol hir dymor a nodir yng Nghynllun y Cyngor hyd at 2028, ac ymrwymiadau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae hefyd yn adlewyrchu canlyniadau’r broses adolygu gwasanaethau, lle bu i’r naw gwasanaeth o fewn y Cyngor gynnal hunanasesiad yn erbyn pedwar maen prawf - cynllunio gwasanaethau, cynllunio ariannol, cynllunio’r gweithlu a llywodraethu - ac mae’n amlygu’r meysydd sydd angen eu gwella. Mae’r adroddiad hefyd yn cofnodi cynnydd mewn perthynas â materion gwella a nodwyd yn yr hunanasesiad blaenorol.
Wrth graffu ar yr adroddiad, trafododd y pwyllgor y materion canlynol –
· Nododd yr aelodau fod yr Arolwg Preswylwyr Cenedlaethol 2024 yn dangos fod 32% o ymatebwyr yn dweud eu bod yn ymddiried yn y Cyngor. Gofynnodd yr aelodau a ddylai hyn fod yn destun pryder a pha gamau y gellir eu cymryd i gryfhau hyder y cyhoedd.
Roedd yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard, yn cydnabod fod y ffigwr yn siomedig, er nad yw’n anarferol o gymharu ag awdurdodau eraill. Nododd fod creu ymddiriedaeth yn gallu bod yn heriol, yn enwedig yn yr hinsawdd sydd ohoni, gan fod hyder mewn cynrychiolwyr etholedig yn gyffredinol isel ar bob lefel. Pwysleisiodd fod y Cyngor wedi ymrwymo i arddangos uniondeb a hygrededd ac i wasanaethu pobl yr ynys.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod gan y cyhoedd lai o hyder yn y sector gyhoeddus yn gyffredinol, ac mae’r cyfryngau cymdeithasol yn aml yn dylanwadu ar ganfyddiadau’r cyhoedd. Nododd fod safle’r cyngor yn eithaf cyffredin ac, er bod gwella bob amser yn ddymunol, nid yw’r sefyllfa’n rhy bryderus o ystyried ffactorau a dylanwadau allanol.
Trafododd yr aelodau bwysigrwydd hyrwyddo gwaith y Cyngor yn fwy effeithiol. Fe wnaeth yr aelodau dynnu sylw at nifer o ddatblygiadau cadarnhaol, megis y Porthladd Rhydd, cynllun niwclear newydd yn y Wylfa, a nodwyd bod hen safle Alwminiwm Môn wedi cael ei brynu ar gyfer y parc ffyniant. Mae hyn oll yn dangos bod yr ynys yn edrych tua’r dyfodol a’i bod yn ffynnu’n economaidd. Er eu bod yn cydnabod fod y cyfryngau cymdeithasol yn gallu rhannu camwybodaeth a negyddiaeth, roeddent yn cydnabod hefyd y gall ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
|
Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Democratiaeth. Cofnodion: Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad y Rheolwr Sgriwtini yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor hyd at fis Ebrill 2026.
Penderfynwyd -
· Cytuno’r fersiwn gyfredol o’r Flaen Raglen Waith ar gyfer 2025/26. · Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu’r Flaen Raglen Waith.
|