Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor - Swyddfeydd y Cyngor ac yn rhithiol ar Zoom
Cyswllt: Ann Holmes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Yn absenoldeb y Cynghorydd Sonia Williams, Is-gadeirydd, cafodd y Cynghorydd Arfon Wyn ei ethol i wasanaethu fel Is-gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn o’r pwyllgor yn unig.
Fe wnaeth y Cynghorydd R. Llewelyn Jones nodi, gyda thristwch, marwolaeth y Parchedig Jesse Jackson a gyhoeddwyd ddoe. Talodd y Cynghorydd Jones deyrnged i’r Parchedig Jackson a’i waith diflino dros hawliau sifil, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol. Safodd yr Aelodau a Swyddogion fel arwydd o barch.
|
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o fuddiant.
|
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 21 Ionawr 2026. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 21 Ionawr 2026 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
|
|
|
Gosod Cyllideb 2026/27: Cynigion Drafft Terfynol ar gyfer y Gyllideb Refeniw Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Democratiaeth i’w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn amlinellu cyd-destun y broses ar gyfer gosod y Gyllideb ar gyfer 2026/27 ac yn amlygu’r prif faterion a chwestiynau Sgriwtini er mwyn llunio ymateb ffurfiol i gynigion drafft terfynol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y gyllideb refeniw. Roedd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151, a oedd yn crynhoi cynigion drafft terfynol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y gyllideb ynghyd â’r rhagolygon tymor canolig, ynghlwm yn Atodiad 1.
Cyflwynodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Arweinydd ac Aelod Portffolio Datblygu Economaidd yr adroddiad a nododd bod gofyn i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adolygu’r cynigion drafft terfynol ar gyfer cyllideb refeniw 2026/27 a darparu ymateb ffurfiol i’r Pwyllgor Gwaith cyn i’r gyllideb fynd i’r Cyngor Llawn ar 5 Mawrth 2026. Cafodd y cynigion drafft cychwynnol ar gyfer y gyllideb eu trafod mewn manylder yn ystod y cyfarfod ar 21 Ionawr yn cynnwys y pwysau ariannol a’r heriau y mae’r Cyngor yn eu hwynebu. Nid yw’r cynigion terfynol wedi newid h.y. cyllideb o £207.029m, cynnydd arfaethedig o 5.1% yn y Dreth Gyngor a defnyddio £1.685m o arian wrth gefn i gydbwyso’r gyllideb. Wrth osod y gyllideb arfaethedig mae’r Pwyllgor Gwaith wedi cydnabod bod angen gwarchod gwasanaethau rheng flaen a chynyddu cyllidebau’r gwasanaethau oedolion a phlant er mwyn darparu ar gyfer cynnydd yn y galw yn ogystal â sicrhau bod ysgolion yn derbyn y cyllid sydd ei angen arnynt i gwrdd â chynnydd mewn costau oherwydd chwyddiant.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 nad oes unrhyw faterion wedi dod i’r amlwg ers cyhoeddi cynnig y gyllideb gychwynnol sy’n golygu bod rhaid addasu’r gyllideb wariant net, sy’n parhau ar £207.029m. Cynghorodd y Pwyllgor ynglŷn â’i ddyletswydd statudol i adrodd ar gadernid yr amcangyfrifon a digonolrwydd cronfeydd wrth gefn y Cyngor. Eglurodd bod cyllideb 2026/27 yn seiliedig ar asesiad o’r costau ac incwm a ragwelir yn ystod y flwyddyn ariannol sydd i ddod a bod rhagdybiaethau’n cael eu defnyddio a risgiau’n cael eu nodi. Mae’r prif risgiau wedi’u nodi yn adran 5 yn yr adroddiad ac ar ôl ystyried yr holl risiau, a’r camau lliniaru, barn y Swyddog Adran 151 yw bod y cyllidebau’n gadarn ac yn gyraeddadwy, ac mae lefel iach balansau cyffredinol a chronfeydd a glustnodwyd presennol y Cyngor yn ddigon i liniaru’r risgiau a nodwyd. O ran y rhagolygon tymor canolig nododd, yn seiliedig ar yr wybodaeth ddiweddaraf, y bydd rhaid gwneud arbedion sylweddol yn 2027/28 a 2028/29 yn ogystal er bod cryn ansicrwydd o hyd ynglŷn â chwyddiant, dyfarniadau cyflog a’r galw am wasanaethau.
Fe wnaeth y Cynghorydd Geraint Bebb, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg, gyfeirio at gasgliadau’r Panel yn dilyn ei gyfarfod ar 12 Chwefror 2026, lle cafodd y cynigion drafft terfynol ar gyfer cyllideb refeniw 2026/27 eu hystyried. Ar ôl ystyried yr holl ddogfennau a gyflwynwyd gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ac ar ôl nodi nad yw’r cynigion drafft terfynol ar gyfer y gyllideb yn wahanol i’r cynigion cychwynnol, penderfynodd y Panel gefnogi’r cynigion ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |
|
|
Gosod Cyllideb 2026/27:Cynigion Drafft Terfynol ar gyfer y Gyllideb Gyfalaf Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Democratiaeth i’w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn amlinellu cyd-destun y broses ar gyfer gosod y Gyllideb Gyfalaf ar gyfer 2026/27 ynghyd â’r prif faterion a chwestiynau Sgriwtini ar gyfer gwerthuso cynigion drafft terfynol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y gyllideb gyfalaf. Roedd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, sy’n crynhoi’r cynigion terfynol ar gyfer gwariant cyfalaf yn 2026/27, ynghlwm yn Atodiad 1.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Gary Pritchard, Arweinydd ac Aelod Portffolio Datblygu Economaidd a nododd bod y gyllideb gyfalaf yn parhau i fod yn dynn a bod hynny’n cyfyngu ar allu’r Cyngor i wneud cynnydd gyda phrosiectau newydd. Mae benthyca yn opsiwn, ond mae risg ariannol yn gysylltiedig â hynny a chostau refeniw parhaus.
Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod y gyllideb gyfalaf yn cael ei llywio gan Strategaeth Gyfalaf 2026-2031, sy’n blaenoriaethu gwarchod a chynnal asedau, manteisio i’r eithaf ar gyllid allanol, cwrdd â chyfrifoldebau statudol a pharhau i gefnogi’r Rhaglen Cymunedau Dysgu. Er bod y Cyllid Cyfalaf Cyffredinol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2026/27 £155k (3.15%) yn uwch na’r dyraniad ar gyfer 2025/26, nid yw’n gwneud iawn am y gostyngiad yng ngwerth gwirioneddol y cyllid oherwydd effaith chwyddiant. Mae modd i’r Cyngor fenthyca i ariannu gwariant cyfalaf ond mae hynny’n creu costau refeniw gan fod rhaid ad-dalu benthyciadau. Mae’r rheolau Rheoli Trysorlys yn cyfyngu faint o arian y gall cynghorau ei fenthyca’n gyfrifol.
Er bod y Grant Cyfalaf gan Lywodraeth Cymru’n cael ei ddefnyddion bennaf i gynnal asedau, mae’r rhaglen a’r gyllideb gyfalaf hefyd yn cynnwys prosiectau allweddol eraill - gwelliannau i Bier a Phontynau Porthaethwy (£225k); Cam 2 o’r gwaith adnewyddu yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur (£1.65m), a’r gwaith diweddaru yng nghanolfannau ailgylchu Penhesgyn a Gwalchmai (£3.806m) sy’n cael ei ariannu’n bennaf drwy’r cynllun eEPR. Hefyd, mae’r Cyngor wedi derbyn £1.5m o Gronfa Balchder Bro Llywodraeth y DU i ddarparu gwelliannau sy’n cael eu harwain gan gymunedau.
Mae Rhaglen Gyfalaf arfaethedig y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2026/27 (CRT) werth cyfanswm o £31.572m ac mae’n canolbwyntio ar fuddsoddi yn y stoc bresennol er mwyn sicrhau fod y Cyngor yn parhau i gydymffurfio â SATC (£15.71m); cyfleuster gofal ychwanegol a phreswyl ym Mhorthaethwy (£14.001m); datblygiadau tai newydd (£1.498m ond gydag ychwanegiadau posib yn ystod y flwyddyn); a phrynu cerbydau newydd ar gyfer yr Uned Cynnal a Chadw Tai (£363k). Mae cyllid y CTR wedi cael ei glustnodi sy’n golygu bod rhaid defnyddio adnoddau refeniw a chyfalaf at ddibenion tai yn unig. Pan gaiff ei gyfuno â chyllideb gyfalaf y Gronfa gyffredinol, rhy hyn gyllideb gyfalaf arfaethedig o £54.084m ar gyfer 2026/27.
Fe wnaeth y Cynghorydd Geraint Bebb, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg, gyfeirio at gasgliadau’r Panel yn dilyn ei gyfarfod ar 12 Chwefror 2026, lle cafodd y cynigion drafft terfynol ar gyfer cyllideb gyfalaf 2026/27 eu hystyried. Wrth adolygu’r rhaglen gyfalaf a chyllideb arfaethedig nododd y panel bod gwariant cyfalaf o’r Gronfa Gyffredinol yn rhoi blaenoriaeth i asedau presennol yn cynnwys adeiladau’r ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
|
Adroddiad Cynnydd y Panel Sgriwtini Adnoddau Cyflwyno adroddiad llafar gan Gadeirydd y Panel. Cofnodion: Nodwyd bod adborth gan y Panel Sgriwtini Adnoddau yn dilyn ei gyfarfod ar 12 Chwefror 2026 wedi cael ei ddarparu gan Gadeirydd y Panel o dan eitem 3 a 4 uchod.
|
|
|
Cynllun Strategol Rheolaeth Mânddaliadau 2026-2031 Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo, a oedd yn cynnwys y Cynllun Strategol ar gyfer Rheoli’r Ystâd Mân-Ddaliadau, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Gary Pritchard, Arweinydd ac Aelod Portffolio Datblygu Economaidd. Nododd bod y Cynllun Strategol Rheoli Mân-Ddaliadau yn disodli'r polisi blaenorol a gafodd ei fabwysiadu 15 mlynedd yn ôl gyda fframwaith pum mlynedd ar gyfer sicrhau bod dull strategol, cyfannol a chyd-gysylltiedig ar gyfer rheoli’r ystâd mân-ddaliadau yn unol â Chynllun y Cyngor. Eglurodd bod grŵp llywio mân-ddaliadau amlbleidiol wedi cael ei sefydlu a bod y cynllun strategol wedi cael ei lywio gan waith ac allbwn y grŵp hwnnw yn dilyn ei gyfarfodydd.
Wrth graffu ar y Cynllun Strategol Rheoli Mân-Ddaliadau codwyd y pwyntiau a ganlyn -
· Gofynnodd y pwyllgor am eglurder ynglyn â’r trefniadau monitro a llywodraethu arfaethedig a gofynnodd am adroddiad cynnydd blynyddol. · Sut mae ystâd mân-ddaliadau’r Cyngor yn sicrhau gwerth am arian · A fyddai’n fanteisiol ymgysylltu’n fwy rheolaidd â thenantiaid, gan gydnabod y dylid rhoi blaenoriaeth i gyflawni’r rhaglen arfaethedig ar gyfer cyflwyno gwelliannau cyn ystyried unrhyw waith ymgysylltu pellach.
Cynghorwyd y pwyllgor y bydd ystyriaeth yn cael ei roi i’r modd y dylid adrodd ar gynnydd yn erbyn y cynllun strategol fel rhan o’r adolygiad ehangach o’r modd y caiff holl gynlluniau strategol y Cyngor eu cyfuno fel rhan o’r fframwaith ehangach ar gyfer adrodd ar berfformiad i sicrhau bod cynnydd yn cael ei fonitro. Pwysleisiwyd mai pwrpas y cynllun strategol mân-ddaliadau yw sicrhau bod yr ystâd yn cael ei rheoli mewn modd cynaliadwy er mwyn sicrhau enillion ariannol, amgylcheddol a chymdeithasol priodol a thrwy hynny ddarparu gwerth am arian. Mae gan yr ystâd rôl economaidd yn ogystal drwy greu cyfleoedd i ffermwyr newydd, cefnogi swyddi lleol a chyfrannu tuag at gynhyrchu bwyd yn lleol. Mae’r grŵp llywio mân-ddaliadau wedi adolygu’r ystâd ac mae’r Pwyllgor Gwaith wedi ailgyfeirio rhywfaint o’r tanwariant i’r Gwasanaeth Eiddo fel bod mwy o gapasiti ar gael i gyflawni’r gwelliannau angenrheidiol a sicrhau bod yr adeiladau fferm yn addas i’r diben.
Yn dilyn trafodaeth, ac ar ôl ystyried y materion a godwyd a’r ymatebion a ddarparwyd, penderfynwyd argymell y Cynllun Strategol Rheoli Mân Ddaliadau 2026-2031 i’r Pwyllgor Gwaith i’w gymeradwyo.
|
|
|
Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Democratiaeth. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Democratiaeth oedd yn cynnwys y blaen raglen waith ar gyfer 2025/26 i’w hystyried a’i hadolygu gan y pwyllgor.
Penderfynwyd -
· Cytuno’r fersiwn gyfredol o’r Blaen Raglen Waith ar gyfer 2025/26. · Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu’r blaen raglen waith.
|