Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor - Swyddfeydd y Cyngor ac yn rhithiol ar Zoom
Cyswllt: Ann Holmes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod ac estynnodd groeso arbennig i’r Cynghorydd Celfyn Furlong, oedd wedi cael ei ethol i’r Cyngor yn ddiweddar, ac sy’n aelod newydd o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.
|
|
|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Cyflwynwyd yr ymddiheuriadau a’u nodi.
|
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2026. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2026 a chadarnhawyd eu bod yn gywir. |
|
|
Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2025 Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, yn ymgorffori’r Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2025, i’r Pwyllgor ei ystyried a’i adolygu.
Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Hamdden, Twristiaeth, Morwrol ac Eiddo adroddiad yn rhinwedd ei swydd fel pencampwr cydraddoldeb ac amrywiaeth, a nododd fod yr adroddiad yn amlinellu sut y cyflawnodd y Cyngor ei ddyletswyddau statudol o dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011, yn ystod 2024/25. Mae’r adroddiad yn cynnwys trosolwg o gynnydd tuag at gyflawni’r Cynllun Strategol Cydraddoldeb 2024-2028, mae’n amlygu’r prif gyflawniadau ac mae’n cyflwyno data cydraddoldeb mewn perthynas â’r gweithlu ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025. Mae’n manylu hefyd ar y camau a gymerwyd i ddileu gwahaniaethu, hyrwyddo cydraddoldeb a meithrin cysylltiadau da.
Wrth edrych ymlaen, mae’r Cyngor yn bwriadu adeiladu ar y cynnydd yn 2024/25 trwy ganolbwyntio ar bum blaenoriaeth - cryfhau’r defnydd o ddata cydraddoldeb, canolbwyntio mwy ar ganlyniadau mesuradwy, datblygu cydweithio ymhellach â chydweithwyr cydlyniant cymunedol rhanbarthol, cwblhau trefniadau monitro ac adrodd a pharatoi ar gyfer y ddyletswydd statudol newydd i asesu effaith iechyd a ddaw i rym ym mis Ebrill 2027. Mae’r adroddiad yn dangos fod y Cyngor, at ei gilydd, yn parhau i wneud cynnydd cadarnhaol o ran hyrwyddo cydraddoldeb, gwella cynhwysiant a gwreiddio arferion teg o fewn ei wasanaethau. Mae’n ailddatgan ymrwymiad y Cyngor i ddarparu gwasanaeth teg, hygyrch a chynhwysol a meithrin diwylliant cadarnhaol o gydraddoldeb, o fewn y sefydliad ac yn ei ymwneud â’r cyhoedd.
Wrth adolygu’r adroddiad, trafododd y Pwyllgor y materion canlynol –
· Pam fod y Cyngor yn cyflogi mwy o ferched na dynion.
Hysbyswyd y pwyllgor fod merched, am resymau cymdeithasol a hirsefydlog, yn parhau i gyflawni rolau gofalu di-dâl ar raddfa llawer uwch na dynion, ac mae hynny yn ei dro yn golygu fod swyddi rhan amser, hyblyg neu sefydlog - y mathau o swyddi sy’n nodweddiadol mewn llywodraeth leol - yn fwy deniadol. Mae hyn yn golygu fod y Cyngor yn naturiol yn denu cyfran uwch o geisiadau gan ferched. Mae gweithlu’r Cyngor felly’n adlewyrchu tueddiadau ehangach o fewn y sector yng Nghymru. Er bod swyddogion yn cydnabod bod y patrwm hwn yn ganlyniad i ffactorau cymdeithasol hirsefydlog, bu iddynt nodi bod y Cyngor yn cydnabod pa mor bwysig yw ymdrechion parhaus i fynd i’r afael â’r anghydbwysedd.
· Gofynnodd aelodau a yw mynd i’r afael â’r duedd hon yn rhan o’r gwaith y mae’r Cyngor yn ei wneud ar y cyd â phartneriaid.
Hysbyswyd aelodau fod y berthynas â Choleg Llandrillo Menai yn arbennig o bwysig o ran hyrwyddo’r cyfleoedd cyflogaeth sydd ar gael o fewn y Cyngor, yn ogystal â’r strwythurau sydd ar waith i gefnogi pobl ifanc i ymuno â’r sefydliad a datblygu eu gyrfa. Rhannwyd esiamplau â’r pwyllgor o waith partneriaeth ehangach y Cyngor i hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant, gan gynnwys cydweithio â’r tîm cydlyniant cymunedol rhanbarthol. Mae’r bartneriaeth wedi caniatáu i’r Cyngor adnabod grwpiau a sefydliadu newydd i ymgysylltu â nhw, gan fanteisio ar wybodaeth a dealltwriaeth y tîm o gymunedau ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
|
Monitro Perfformiad: Cerdyn Sgorio Corfforaethol Ch3 2025/26 Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Perfformiad, Digidol a Moderneiddio. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Digidol, Perfformiad a Moderneiddio, oedd yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 3 blwyddyn ariannol 2025/26, i’w ystyried gan y Pwyllgor. Mae adroddiad y cerdyn sgorio yn manylu ar berfformiad y dangosyddion allweddol mewn perthynas â chyflawni gweithredoedd dydd i ddydd y Cyngor i gefnogi amcanion ehangach Cynllun y Cyngor.
Cyflwynwyd adroddiad y cerdyn sgorio gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Tai a Diogelwch Cymunedol, a nododd fod y mwyafrif o ddangosyddion (86%) y gosodwyd targedau ar eu cyfer wedi perfformio’n dda yn ystod y chwarter, a bod eu statws yn Wyrdd neu Felyn. Mae adran 2.3 yn yr adroddiad yn manylu ar enghreifftiau nodedig o berfformiad da. Mae wyth dangosydd yn Goch neu Ambr yn erbyn eu targedau ar hyn o bryd - mae adran 2.2 yn yr adroddiad yn manylu arnynt, ynghyd â’r mesurau lliniaru cysylltiedig, ac maent yn ymwneud â Gofal Cymdeithasol a Llesiant (achosion sy’n cael eu hailgyfeirio yn y Gwasanaethau Plant), Gwasanaethau Tai (ail-osod eiddo gwag a gwireddu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl), yr Economi (cyfanswm nifer y cwsmeriaid sydd â chontractau angori a chanran y busnesau risg uchel sy’n cael eu harchwilio’n rheolaidd a archwiliwyd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth hylendid bwyd), Newid Hinsawdd (ailgylchu gwastraff yn benodol) ac Iechyd Cyngor Cyfan (ymateb yn brydlon i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth). Cadarnhaodd fod y Tîm Arweinyddiaeth yn monitro’r holl feysydd hyn.
Wrth adolygu’r cerdyn sgorio corfforaethol ar gyfer y trydydd chwarter, cododd y pwyllgor y pwyntiau canlynol –
· Roedd y pwyllgor am gael gwybod beth arall fyddai’n bosib ei wneud i gynyddu canran yr ymweliadau â rhyngwyneb cyfrwng Cymraeg prif wefan y Cyngor.
Hysbyswyd aelodau fod Fforwm y Gymraeg wedi bod yn trafod ffyrdd o sicrhau fod ffurflenni, dogfennau ac ymgynghoriadau yn haws eu deall ac yn fwy hygyrch trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Grŵp Llywio’r Gymraeg hefyd yn monitro’r dangosydd perfformiad hwn. Er y gwelwyd ychydig o welliant, bydd camau ychwanegol yn cael eu hystyried pan adolygir y Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg ar ddiwedd y flwyddyn. Byddai’r Cyngor yn dymuno gweld cyfran uwch o ddefnyddwyr yn defnyddio’r rhyngwyneb cyfrwng Cymraeg, yn enwedig gan fod dwysedd y siaradwyr Cymraeg ar Ynys Môn ymysg yr uchaf yng Nghymru. Un o’r heriau yw annog preswylwyr i deimlo’n hyderus bod safon eu Cymraeg yn ddigon da i ddefnyddio fersiwn Gymraeg y wefan.
· Mewn perthynas â Newid Hinsawdd, nododd aelodau fod perfformiad DP 02 - canran y gwastraff domestig sy’n cael ei ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio yn ystod Ch3 wedi dirywio o gymharu â pherfformiad Ch3 yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Roedd aelodau’n cydnabod fod y tywydd sych yn gynharach yn y flwyddyn yn golygu fod llai o wastraff gwyrdd wedi’i gasglu a gofynnwyd oni ddylai’r targed ar gyfer Ch3 gael ei addasu i adlewyrchu hynny. Gofynnodd aelodau hefyd a oedd y Cyngor wedi cysylltu ag awdurdodau eraill sydd wedi llwyddo i gyflawni’r targed o ailgylchu 70% o wastraff a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.
Hysbyswyd y pwyllgor fod y Cyngor yn trafod ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
|
Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2026-2056 Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai, yn ymgorffori Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2026- 2056, i’r pwyllgor ei ystyried.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Tai a Diogelwch Cymunedol, a nododd fod Cynllun Busnes y CRT yn amlinellu strategaeth tymor hir y Cyngor ar gyfer cynnal, gwella ac ehangu ei stoc o dai cyngor, yn ogystal â sicrhau fod y cyfrif Refeniw Tai yn parhau i fod yn gynaliadwy yn ariannol. Mae angen y cynllun er mwyn sicrhau Lwfans Atgyweiriadau Mawr Llywodraeth Cymru sydd werth tua £2.7m yn 2026/27. Trwy’r CRT, mae’r Cyngor yn rheoli ac yn berchen 4,095 eiddo a 581 garej ledled yr Ynys. Yn ystod cyfnod y Cynllun Busnes, bydd twf o dros 25% yn y stoc dai, i dros 5,000 eiddo, er mwyn cwrdd â’r galw cynyddol am dai cymdeithasol, gyda dros 950 o bobl ar y rhestr aros ar hyn o bryd. Mae’r Cynllun Busnes yn cynnwys rhaglen gyfalaf gwerth £16m ar gyfer 2026/27 sydd yn cynnwys gwaith SATC, cynnal a chadw, addasiadau a mesurau effeithlonrwydd ynni, ynghyd â £15.5m ar gyfer datblygiadau newydd, gan gynnwys Tai Gofal Ychwanegol ym Mhorthaethwy.
Amlinellodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai y pwysau sy’n gysylltiedig â chyflawni SATC 2023, datgarboneiddio tai presennol y Cyngor a chwrdd â’r galw lleol, yn ogystal â chadw rhenti ar lefel fforddiadwy. Er bod Cynllun Busnes y CRT yn parhau i fod yn hyfyw, nododd fod rheolaeth ofalus yn hanfodol o ystyried y bwriad i fenthyca £57m dros gyfnod y rhaglen gyfalaf 5 mlynedd hyd at 2030/31.
Wrth graffu ar Gynllun Busnes y CRT, cododd y pwyllgor y pwyntiau canlynol -
· Ceisiodd y pwyllgor sicrwydd na fyddai partneriaeth y Cyngor â chymdeithasau tai wrth ddatblygu tai cymdeithasol newydd yn arwain at or-ddatblygu a allai danseilio cymeriad a chydbwysedd cymunedau a phentrefi.
Hysbyswyd y Pwyllgor fod y Cyngor yn rheoli ei stoc dai ei hun a bod partneriaid yn y sector cymdeithasau tai yn gosod tai gan ddefnyddio rhestr dai y Cyngor. Mae’r Cyngor wedi cynnal asesiad o’r angen am dai lleol ac mae’n darparu llinell sylfaen ar gyfer nodi’r mathau o dai sydd eu hangen, ac ymhle. Pan fydd cyfle i ddatblygu tai yn codi, bydd y Cyngor yn ystyried p’un a yw’n diwallu angen a nodwyd. Mae’n ystyried gwybodaeth leol hefyd, gan gynnwys data o’r rhestr dai sy’n dangos faint o unigolion sydd angen tŷ, y math o lety sydd ei angen arnynt a’r lleoliadau sydd orau ganddynt.
· Gofynnodd y pwyllgor a yw’r Gwasanaethau Tai yn parhau i wynebu her o ran cael mynediad at eiddo er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw angenrheidiol a/neu waith gwella er mwyn cyflawni targedau.
Hysbysodd y pwyllgor fod hawl gan denantiaid i ddewis ac mae’r Cyngor, fel landlord, yn parchu dymuniadau tenantiaid sy’n gwrthod gwelliannau oherwydd eu bod yn fodlon â’u cartrefi fel ag y maent. O dan yr amgylchiadau hynny, ni all y gwasanaeth ond wneud y gwelliannau y mae’n dymuno eu gwneud pan fydd yr eiddo’n dod yn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
Blaen Raglen Waith 2026/27 Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad y Rheolwr Sgriwtini yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor ar gyfer 2026/27.
Mewn ymateb i gais penodol, a chyda chaniatâd y Cadeirydd gan nad oedd yr eitemau hynny ar y rhaglen, cyflwynodd y Prif Weithredwr ddiweddariad ar brosiect Porth Caergybi, sydd â’r nod o ehangu Porthladd Caergybi ac sydd yn rhan o Fargen Dwf Gogledd Cymru. Amlinellodd hefyd y sefyllfa mewn perthynas ag ailddatblygu hen safle Alwminiwm Môn a chyflwynodd wybodaeth am y gwaith sy’n mynd rhagddo i fynd i’r afael â materion yn ymwneud â darparu cyfleusterau parcio ar gyfer lorïau sy’n teithio i Iwerddon drwy Borthladd Caergybi.
Penderfynwyd cytuno’r fersiwn gyfredol o’r Flaen Raglen Waith ar gyfer 2026/27.
|