Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Datganodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro ddiddordeb mewn perthynas ag eitem 3 ar yr agenda. |
|
Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd PDF 156 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”
Cofnodion: Penderfynwyd mabwysiadu'r canlynol –
"O dan Adran 100 (A) (4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail bod gwybodaeth yn cael ei datgelu a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd fel y'i cyflwynwyd. " |
|
Trawsnewid y Gwasanaeth Diwylliant - Carchar a Llys Biwmares Penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd, 2017 mewn perthynas â Charchar a Llys Biwmares sydd wedi ei alw i mewn gan y Cynghorwyr Aled Morris Jones, Eric Wyn Jones, Kenneth Hughes, Bryan Owen a Peter Rogers.
Mae’r ddogfennaeth ynghlwm fel a ganlyn –
· Y penderfyniad a wnaed
· Y Cais i Alw i Fewn
· Yr adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Dysgu a Phennaeth Gwasanaethau Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo a gyflwynwyd i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 27 Tachwedd, 2017.
Cofnodion: Cafodd penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd, 2017 i drosglwyddo Carchar a Llys Biwmares i Gyngor Tref Biwmares ei alw i mewn gan y Cynghorwyr Aled Morris Jones, Eric Wyn Jones, Kenneth Hughes, Bryan Owen a Peter Rogers. Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor, benderfyniad y Pwyllgor Gwaith, y cais i alw’r eitem i mewn ac adroddiad a baratowyd ar y cyd gan y Pennaeth Dysgu a'r Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo ar gyfer y Pwyllgor Gwaith ar 27 Tachwedd, 2017.
Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro bod gan y Pwyllgor dri opsiwn wrth ddod i benderfyniad ar y cais galw i mewn, sef –
• Derbyn y penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 27 Tachwedd, 2017. Yn yr achos hwn, bydd y broses galw i mewn yn dod i ben a bydd penderfyniad y Pwyllgor Gwaith yn dod i rym yn syth ar ôl y cyfarfod hwn. • Gwrthod y penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith. Yn yr achos hwn, gall y Pwyllgor gyfeirio'r penderfyniad yn ôl i'r Pwyllgor gydag argymhelliad y dylid ei ailystyried a / neu ei ddiwygio. Yna byddai'n rhaid i’r Pwyllgor Gwaith roi ystyriaeth bellach i'r mater o fewn 10 niwrnod gwaith gan gymryd i ystyriaeth unrhyw argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor Sgriwtini. Ar ôl hynny, byddai naill ai'n cadarnhau neu'n diwygio'r penderfyniad gwreiddiol. • Gwrthod penderfyniad y Pwyllgor Gwaith a chyfeirio'r mater gydag argymhelliad i'r Cyngor Llawn. Nid oes gan y Cyngor unrhyw bŵer i wneud penderfyniad ynglŷn â'r mater oherwydd nid yw'n groes i’r Gyllideb na'r Fframwaith Polisi ac nid yw ychwaith yn anghyson â'r Gyllideb. Byddai’r Cyngor felly yn ymgynnull i ystyried y mater yn unig ac os byddai’n gwrthwynebu’r penderfyniad, ei gyfeirio’n ôl gydag unrhyw sylwadau i’r Pwyllgor Gwaith fel corff sy'n gwneud y penderfyniad.
Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi gofyn am gyngor gan y Swyddog Monitro ynghylch a oedd hi’n briodol iddo fel un o lofnodwyr y cais galw i mewn, i gadeirio’r cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol. Roedd wedi cael cyngor ei fod yn briodol iddo wneud hynny.
Bu i’r Cynghorydd Bryan Owen, fel Aelod Arweiniol y Cais Galw i Mewn esbonio’r rhesymau dros alw i mewn y penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith ar 27 Tachwedd, 2017 fel y’u hamlinellwyd yn y ffurflen gais galw i fewn. Roedd y rhain yn ymwneud â thelerau trosglwyddo’r asedau a’r broses allanoli.
Mewn ymateb, cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor y Pwyllgor at yr adroddiad ysgrifenedig oedd yn nodi'n glir oblygiadau ariannol yr holl opsiynau a ystyriwyd yng nghyswllt trosglwyddiad Carchar a Llys Biwmares. Mae Atodiad 1 yr adroddiad yn disgrifio cronoleg pob cam o’r broses allanoli. Mae'n un o amcanion Cynllun y Cyngor i gefnogi cymunedau i'w helpu i ddatblygu ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |