Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Mercher, 24ain Hydref, 2018 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Dylan Rees ddiddordeb personol nad oedd yn rhagfarnu yn eitem 4 ar y rhaglen gan ei fod yn Gadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Bodffordd.

 

Datganodd y Cynghorydd Nicola Roberts ddatganiad personol nad oedd yn rhagfarnu yn eitem 4 ar y rhaglen gan ei bod yn llywodraethwr yn Ysgol y Talwrn ac Ysgol y Graig a’i  merch yn ddisgybl yn Ysgol y Graig.

2.

Cofnodion y Cyfarfodydd Blaenorol pdf eicon PDF 290 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol

 

·        12 Medi, 2018

·        20 Medi, 2018 (Galw i fewn)

 

·        Bydd cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 8 Hydref, 2018 yn cael eu cyflwyno i gyfarfod 5 Tachwedd y Pwyllgor hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol, a chadarnhawyd eu bod yn gywir –

 

           12 Medi, 2018

           20 Medi, 2018 (cyfarfod galw i mewn)

3.

Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 163 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol -

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

 

Cofnodion:

Penderfynwyd dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.

4.

Moderneiddio Ysgolion - Achos Strategol Amlinellol/Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Ysgol Gynradd Newydd i gymryd lle Ysgol Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Dysgu yn ymgorffori’r Achos Strategol Amlinellol a’r Achos Busnes Amlinellol (ASA/ABA) ar y cyd ar gyfer ysgol gynradd newydd i gymryd lle Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir er mwyn i’r Pwyllgor eu hystyried a darparu sylwadau arnynt.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid at y cysylltiad rhwng yr ASA/ABA a Chynllun y Cyngor a blaenoriaethau corfforaethol eraill. Mae’r adroddiad yn nodi’r sail strategol, economaidd, masnachol ariannol a rheolaethol ar gyfer yr ysgol newydd yn unol â phroses Achos Busnes Ysgolion yr 21ain ganrif er mwyn derbyn cyllid cyfalaf ar gyfer y prosiect.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Dysgu grynodeb o fanylion yr ysgol newydd fydd â lle i 360 o ddisgyblion ac a fydd yn ysgol gymunedol a fydd, o ganlyniad i hynny, yn cynnwys ardaloedd cymunedol; penderfynwyd ar safle’r ysgol newydd yn dilyn proses fanwl o arfarnu safleoedd; y broses gaffael ac amserlen cyflenwi’r prosiect.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a chodwyd y pwyntiau canlynol –

 

           Nododd y Pwyllgor fod safle’r ysgol newydd ar dir i’r gogledd o’r B5109, yn union wedi’r troad i’r dde i stad Bryn Meurig yn Llangefni, yn safle ar oleddf ac oherwydd amodau’r safle nodwyd bod angen gwneud gwaith ar y briffordd. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynglŷn â pha waith fyddai’n rhaid ei wneud.

 

Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo Dros Dro bod y safle a ddewiswyd wedi cael ei asesu ac nad oedd unrhyw broblemau’n bodoli fyddai’n golygu ei fod yn anaddas o safbwynt priffyrdd cyhyd ag y bo’r datblygwr yn gwneud gwaith penodol fel rhan o gostau’r cynllun er mwyn lliniaru pryderon ynglŷn â Phriffyrdd. Cadarnhaodd y Swyddog fod trafodaethau manwl wedi eu cynnal ag ymgynghorydd Dylunio Priffyrdd y cynllun a bod nifer o opsiynau wedi cael eu hystyried. Cyfeiriodd at y Cynllun Priffyrdd a gynhwyswyd ym mhapurau’r pwyllgor sy’n manylu ar fân gylchfan arfaethedig a mynedfa oddi ar y B5109 i safle’r ysgol newydd. Argymhellir creu cylchfan er mwyn rheoli a diogelu llif y traffig a symudiadau i safle’r ysgol oddi ar y B5019 i gyfeiriad Bodffordd yn ystod yr adegau prysuraf yn y bore a’r prynhawn. Bydd y gylchfan hefyd yn gweithredu fel mesur tawelu traffig. Tynnodd y Swyddog sylw at groesfan i gerddwyr ar y dde i’r gylchfan ar y cynllun ar gyfer plant fydd yn croesi i’r ysgol newydd o ardal Corn Hir. Yn ogystal, argymhellir creu llwybr troed a llwybr beicio cyfunol, o led penodol, wrth ochr y groesfan fydd yn cynorthwyo i gwrdd ag amcanion Teithio Llesol. Bydd llwybr troed hefyd yn cael ei greu ar ochr yr ysgol o’r B5109 yn ymestyn cyn belled â chyffordd Lôn Rhostrehwfa ar gyfer plant sy’n teithio i’r ysgol o’r ardal honno. Y nod yw gwneud yr holl waith priffyrdd yn unol â’r amcangyfrif cost a amlinellir yn yr adroddiad, gyda’r costau hynny’n rhan o gostau cyffredinol datblygu’r safle.

 

           Nododd y Pwyllgor yr eglurhad a ddarparwyd ac awgrymwyd y dylid ystyried gweithredu un neu fwy  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.