Rhaglen a chofnodion

Galw i Mewn Penderfyniad y Pwyllgor Gwaith ar Foderneiddio Ysgolion Ardal Llangefni Y Graig a Talwrn, Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Iau, 2ail Awst, 2018 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o dddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Nicola Roberts ddiddordeb personol nad oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 3 ar yr agenda gan ei bod yn aelod o Gorff Llywodraethol Ysgol y Graig a Chorff Llywodraethol Ysgol Talwrn ac hefyd yn rhiant i blentyn sy'n ddisgybl yn Ysgol y Graig.

 

Datganodd y Cynghorydd Richard Griffiths ddiddordeb personol nad oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 3 ar yr agenda gan fod ei ddarpar ferch yng nghyfraith yn cael ei chyflogi yn Ysgol y Graig.

2.

Galw Penderfyniad i Fewn - Moderneiddio Ysgolion Ardal Llangefni (Y Graig a Talwrn) pdf eicon PDF 3 MB

Penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf, 2018 mewn perthynas â moderneiddio ysgolion ardal Llangefni - Y Graig a Talwrn sydd wedi’i alw i fewn gan y Cynghorwyr Lewis Davies, Eric Wyn Jones, Peter Rogers, Bryan Owen ac Aled Morris Jones

 

Mae’r ddogfennaeth ynghlwm fel a ganlyn

 

·        Y Penderfyniad a gyhoeddwyd ar 19 Gorffennaf, 2018

 

·        Y Cais Galw i Fewn

 

·        Y adroddiad a gyflwynwyd i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 16 Gorffennaf, 2018 ynghylch Moderneiddio Ysgolion Ardal Llangefni – Y Graig a Talwrn

 

 

Cofnodion:

Cafodd penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf, 2018 i gynyddu capasiti Ysgol y Graig i wneud lle i ddisgyblion Ysgol Talwrn a chau Ysgol Talwrn, ei alw i mewn gan y Cynghorwyr Lewis Davies, Aled Morris Jones, Eric Wyn Jones, Bryan Owen a Peter Rogers. Cyflwynwyd penderfyniad y Pwyllgor Gwaith, y cais galw i mewn ac adroddiad y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymunedau a Gwella Gwasanaethau) i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 16 Gorffennaf, 2018 ar foderneiddio ysgolion yn ardal Llangefni (Y Graig a Thalwrn).

 

Dywedodd y Cadeirydd na fyddai siarad cyhoeddus yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol. Darllenodd gyngor a ddarparwyd gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro mewn perthynas â'r mater a oedd yn cadarnhau nad oes hawl cyfansoddiadol cyfreithiol i siarad cyhoeddus mewn pwyllgor sgriwtini ac mai mater i'r Cadeirydd yw penderfynu pryd ac os yw hynny’n briodol. Yr unig ofyniad mewn cysylltiad â'r disgresiwn hwn yw ei fod yn cael ei ddefnyddio'n deg ac yn gyson. Ymhellach, mae'r Swyddog yn cynghori bod bwriad y Cadeirydd yn ddefnydd rhesymol o'r disgresiwn hwn dan yr amgylchiadau, gan fod hwn yn achos o alw i mewn penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith ac nid yw'n rhan o'r broses cyn gwneud penderfyniad lle mae'r Pwyllgor Sgriwtini yn casglu tystiolaeth.

 

Eglurodd y Cynghorydd Lewis Davies, fel Aelod Arweiniol y cais Galw i Mewn, y rhesymau dros alw i mewn y penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith ar 16 Gorffennaf, 2018 fel y nodir yn y ffurflen gais galw i mewn. Roedd y rhesymau fel a ganlyn:

 

           Gwallau yn yr ymgynghoriad.

           Mae cymuned Talwrn wedi wynebu deng mlynedd o ansicrwydd ac nid yw hynny wedi annog pobl ifanc i symud i fyw i’r pentref.

           Mae’r asesiad effaith cymunedol yn arwynebol ac nid yw'n cyd-fynd ag adran 1.7 o'r Côd Trefniadaeth Ysgolion presennol.

           Ni chynhyrchwyd unrhyw adolygiad trafnidiaeth/traffig ffordd ar y lôn rhwng Talwrn a Llangefni. Mae hon yn lôn beryglus i gerdded a beicio arni ac, oherwydd pwyslais cynyddol ar fanteision iechyd cerdded a beicio, mae'n hanfodol fod llwybr diogel yn cael ei ddarparu a bod asesiad traffig yn cael ei gynnal, yn enwedig os yw plant yn dymuno cerdded neu feicio o Dalwrn i Ysgol y Graig petai Ysgol Talwrn yn cau. Yn ogystal, mae Ysgol y Graig yn orlawn ac mae problemau parcio difrifol o gwmpas yr ysgol a gerllaw.  Bydd ymestyn yr ysgol a’r defnydd ohoni yn gwaethygu'r broblem.

           Anghysonderau yn y broses foderneiddio yn y modd mae ardaloedd yn cael eu trin, gydag ysgolion cyffelyb gyda llai o blant a safonau is yn dal i fod ar agor.

           Adeiladu tai newydd yn ardal Cefni a allai arwain at brinder lleoedd mewn ysgolion fel sydd eisoes wedi digwydd yn achos yr Ysgol y Graig. Yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, clustnodir Llangefni fel canolfan fasnachol a diwydiannol sy’n debygol o dyfu yn y dyfodol. Gyda'r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.