Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod ac estynnodd groeso arbennig i’r Cynghorydd Gary Pritchard fel aelod newydd o’r Pwyllgor, ac i Mr Arwel Owen, Pennaeth newydd Gwasanaethau Oedolion y Cyngor.

 

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb han unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Gary Pritchard ddiddordeb personol nad oedd yn un rhagfarnllyd mewn perthynas ag eitem 3 ar y rhaglen oherwydd bod ei ferch yn cael ei chyflogi’n achlysurol gan Môn Actif.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 242 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf, 2021.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf 2021, a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

3.

Monitro Perfformiad: Cerdyn Sgorio Ch1 2021/22 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol, adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid yn ymgorffori’r cerdyn sgorio cyntaf ar gyfer 2021/22. Mae’r cerdyn sgorio’n darlunio sefyllfa’r Cyngor yn erbyn ei amcanion gweithredol, fel yr amlinellwyd nhw ac y cytunwyd arnynt yn gynharach yn y flwyddyn; dylid ystyried cerdyn sgorio cyntaf y flwyddyn yng nghyd-destun y pwysau ychwanegol sy’n deillio o ymateb y Cyngor i’r pandemig coronafeirws yn ystod Chwarter 1.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol bod 88% o’r dangosyddion Perfformiad Iechyd Corfforaethol sy’n cael eu monitro yn perfformio’n dda yn erbyn eu targedau ar ddiwedd Chwarter 1 (h.y. statws RAG Gwyrdd neu Felyn), fel y manylir arnynt yn adran 3 yr adroddiad, ac roedd 85% o’r dangosyddion Rheoli Perfformiad yn perfformio’n well na’r targed neu o fewn 5% i’w targedau (ceir manylion yn adran 4 yr adroddiad). Mae Covid yn parhau i ddylanwadu ar agweddau lle mae perfformiad is na’r targed yn cael ei gofnodi mewn perthynas ag agweddau o’r gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd (archwiliadau hylendid bwyd a gynlluniwyd); Gwasanaethau Oedolion (canran yr oedolion sydd wedi cwblhau cyfnod ail-alluogi ac nad oes ganddynt becyn gofal a chymorth 6 mis yn ddiweddarach); Gwasanaeth Rheoli Gwastraff (canran y gwastraff sy’n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio) a’r Gwasanaeth Cynllunio (canran yr holl benderfyniadau cynllunio a benderfynwyd ar amser). Yn ogystal, ble cafodd tanberfformiad ei nodi, mae’r mesurau lliniaru a amlinellwyd wedi cael ei rhoi ar waith i gefnogi a gwella perfformiad yn Chwarter 2. Mae dangosyddion Gwasanaeth Cwsmer yn parhau i berfformio’n dda ac eithrio dangosydd 04b - cyfanswm canran yr ymatebion ysgrifenedig i gwynion o fewn 15 diwrnod yn y Gwasanaethau Cymdeithasol, lle mae perfformiad yn 50% yn erbyn targed o 80%. I liniaru’r sefyllfa, gellir adrodd bod 13 o’r 14 cwyn a dderbyniwyd yn ystod y chwarter wedi cael eu trafod â’r achwynydd o fewn 5 diwrnod gwaith ac roedd estyniad amser eisoes wedi’i gytuno ar gyfer 5 o’r 7 ymateb hwyr.

 

Cynhaliwyd gweithdy gydag Aelodau Etholedig ar 13 Gorffennaf, 2021 a chytunwyd y byddai tri dangosydd newydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer cerdyn sgorio 2021/22 – boddhad cwsmeriaid gyda system ffôn y Cyngor; rheoli newid hinsawdd a defnyddio cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

 

Yn y drafodaeth a ddilynodd, codwyd y pwyntiau a ganlyn gan aelodau o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol –

 

·         Perfformiad Dangosydd 31 - canran y gwastraff sy’n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio, sydd yn Goch, gyda chanran o 64.55% sydd is na’r targed o 70% ar gyfer y chwarter; mae’r perfformiad hwn hefyd yn is na’r perfformiad yn Ch1 yn ystod y ddwy flynedd flaenorol. Cyfeiriwyd hefyd at y gostyngiad yn y tunelli o wastraff gwyrdd a gesglir yn dilyn cyflwyno’r Gwasanaeth Gwastraff Gardd y codir tâl amdano ym mis Ebrill 2021. Mynegodd y Pwyllgor beth pryder ynghylch y sefyllfa o ystyried bod cyfraddau ailgylchu Ynys Môn wedi bod yn rhagorol yn ystod y blynyddoedd diwethaf; roedd aelodau’n awyddus i ddeall y rhesymau dros  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Monitro Cynnydd: Adroddiad Cynnydd y Gwasanaethau Cymdeithasol pdf eicon PDF 755 KB

Cyflwyno adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Linos Medi, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol, adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn nodi’r cynnydd hyd yma o fewn y Gwasanaethau Oedolion a’r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd, ynghyd â chrynodeb o’r pynciau y rhoddodd y Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol sylw iddynt yn y pedwar cyfarfod a gynhaliwyd yn y cyfnod rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf 2021.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at yr ymgyrch recriwtio Gofalwyr Maeth, sy’n dal i fynd rhagddo, ac sydd wedi cynyddu nifer gofalwyr maeth yr Awdurdod, yn ogystal â sicrhau bod mwy o blant yn derbyn eu gofal ar Ynys Môn ac yn parhau i fod yn rhan o’u teuluoedd estynedig a’u cymunedau lleol. Mae ymgyrch recriwitio wedi’i thargedu arall ar lefel ranbarthol wedi’i chynllunio ar gyfer 2021/22. Mae dau o Gartrefi Clyd y Cyngor (cartrefi grŵp bach) wedi agor ac yn gweithredu’n llawn, ac mae trydydd Cartref Clyd a fydd yn darparu egwyl byr i blant a phobl ifanc sydd ag anableddau dysgu wedi’i gwblhau a chais cofrestru wedi’i gyflwyno i Arolygiaeth Gofal Cymru ar ei gyfer. Mae pedwerydd cartref clyd ar y gweill erbyn hyn. Dyluniwyd cardiau adnabod Gofalwyr Ifanc ac maent yn cael eu cyflwyno. Yn y Gwasanaethau Oedolion, mae gwaith cynllunio ar gyfer darpariaeth tai gofal ychwanegol yn parhau i fynd rhagddo. Mae’r pandemig Covid 19 wedi cael effaith ar y rhaglen Cysylltu Bywydau sy’n cynorthwyo pobl sy’n byw â dementia a’u gofalwyr a bwriedir adolygu’r rhaglen ym mis Rhagfyr. Yn yr un modd, bydd mwy o gyfleoedd i bobl sydd ag anghenion iechyd meddwl wrth i gyfyngiadau Covid-19 lacio – mae sesiynau cymorth unigol wedi ailgychwyn mewn rhai achosion. Mae gwaith wedi’i wneud i sefydlu tri Thîm Adnoddau Cymunedol yn ystod y flwyddyn. Gwnaed cynnydd sylweddol yn ystod dau chwarter cyntaf y flwyddyn i ddatblygu’r Prototeip WCCIS (System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru) ar yr Ynys – mae’r adroddiad yn cynnwys manylion ychwanegol. Er bod y Strategaeth Cyfleoedd Dydd ar gyfer Oedolion ag Anableddau Dysgu mewn lle, ni chynhelir ymgynghoriad ffurfiol ar ddatblygu ystod ehangach o gyfleoedd dydd o ansawdd uchel ar gyfer unigolion yn eu cymunedau tan y gwanwyn, 2022.

 

Mae’r Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol wedi parhau i gyfarfod yn rheolaidd er gwaethaf heriau a chyfyngiadau’r pandemig. Mae’r Panel yn parhau i dderbyn tystiolaeth o welliannau a datblygiadau yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a’r Gwasanaethau Oedolion, gan roi sicrwydd ynghylch y cynnydd a wnaed hyd yma, ac mae canfyddiadau gwiriad sicrwydd awdurdodau lleol AGC ar gyfer Ynys Môn yn cadarnhau hynny hefyd.

 

Cododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol mewn perthynas â’r adroddiad a gyflwynwyd –

 

·         Tra’n croesawu’r ffaith fod y Strategaeth Cyfleoedd Dysgu ar gyfer Oedolion ag Anableddau Dysgu wedi’i gwblhau, mynegodd y Pwyllgor beth siom na fydd yr ymgynghoriad ar ddatblygu ystod ehangach o gyfleoedd dydd ar gyfer unigolion yn cymryd lle tan y gwanwyn, 2022. Yn ogystal â dymuno gwybod beth oedd y rhesymau am yr oedi, gofynnodd y Pwyllgor am wybodaeth ynghylch y math o opsiynau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Adroddiad Cynnydd Panel Sgriwtini Cyllid

Derbyn adroddiad ar lafar.

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid, adroddiad llafar ar y materion a drafodwyd yng nghyfarfod y Panel Sgriwtini Cyllid ar 9 Medi 2021, fel a ganlyn –

·         Y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2021/22 – diweddariad Chwarter 1

 

Ar ôl derbyn cyflwyniad llafar gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 ynghylch y sefyllfa ar ddiwedd Chwarter 1 2021/22, nododd y Panel y canlynol –

·         Ei bod yn gynamserol dod i gasgliad ynghylch perfformiad y cyllidebau gwasanaeth ar sail data Ch1 gan y gallai llawer newid yn ystod y misoedd nesaf. Mae elfennau sy’n debygol o greu arbedion yn ystod y flwyddyn yn cynnwys lleoliadau ysgol all-sirol; incwm gwastraff gwyrdd a’r contract prydau ysgol.

·         Pwysau ar gyllidebau yn y Gwasanaethau Oedolion a’r angen i gadw llygaid hefyd ar gyllidebau’r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd, er eu bod yn tanwario ar hyn o bryd.

·         Pryder ynghylch cyflwr ffyrdd a phriffyrdd ac, oherwydd sefyllfa ariannol y Gwasanaeth Priffyrdd, yr angen i ystyried cwblhau gwaith cynnal a chadw hanfodol ar y ffyrdd eleni.

·         Bod yr Awdurdod yn parhau i dderbyn iawndal gan Lywodraeth Cymru am incwm a gollir o dan nifer o benawdau, gan gynnwys ffioedd parcio a chanolfannau hamdden.

 

Wrth nodi bod tanwariant yn y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2021/22 yn Chwarter 1, penderfynodd y Panel argymell i’r Pwyllgor Sgriwtini y dylid ystyried cwblhau gwaith cynnal a chadw hanfodol ar y ffyrdd eleni oherwydd sefyllfa ariannol gadarnhaol y Gwasanaeth Priffyrdd.

 

·         Cyllideb Gyfalaf 2021/22 – diweddariad Chwarter 1

 

Ar ôl derbyn cyflwyniad llafar gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth / Swyddog Adran 151, nododd y Panel bod perfformiad y gyllideb gyfalaf yn Ch1 yn adlewyrchu’r patrwm blaenorol o danwariant, gyda llithriad yn fwyaf tebygol o dan y penawdau a ganlyn –

·         Rhaglen datblygu tai'r Cyngor

·         Rhaglenni moderneiddio tai cyngor o dan y cynllun Safon Ansawdd Tai Cymru

·         Addasiadau ar gyfer yr anabl mewn ysgolion

·         Y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion

·         Cynlluniau atal llifogydd

 

Wrth nodi’r tanwariant yn y Gyllideb Gyfalaf ar gyfer 2021/22 yn Chwarter 1, nododd y Panel y tebygolrwydd hefyd y gallai’r gyllideb gyfalaf weithredu ar amserlen wahanol yn y dyfodol er mwyn i’r gyllideb gael ei gosod yn gynt a chaniatáu i brosiectau gychwyn yn gynharach a thrwy hynny osgoi tanwariant erbyn diwedd y flwyddyn.

 

·         Adolygiad Ariannol Tymor Canolig

 

Ar ôl derbyn cyflwyniad llafar gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, codwyd y pwyntiau a ganlyn gan y Panel –

·         Y gallai nifer o ffactorau effeithio ar Gynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor, gan gynnwys y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol, chwyddiant a chodiadau cyflog, gan ychwanegu at gostau’r Cyngor.

·         Bod arbedion yn cael eu rhagweld o dan benawdau’n ymwneud â lleoliadau addysg all-sirol; incwm gwastraff gwyrdd, incwm prydau ysgol a’r rhai hynny sy’n deillio o weithio’n wahanol.

·         Yr heriau sylweddol wrth geisio rhagweld pwysau ar gostau yn y sector gofal.

·         Yr her hefyd o geisio rhagweld y ddarpariaeth ariannol angenrheidiol ar gyfer y tair blynedd nesaf.

 

Ar ôl ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd, nododd y Panel y sefyllfa  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 685 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd blaen raglen waith y Pwyllgor hyd at fis Tachwedd 2021 i’w hystyried.

Penderfynwyd –

·         Cytuno ar fersiwn gyfredol y flaen raglen waith ar gyfer 2021/22.

·         Nodi’r cynnydd hyd yma wrth weithredu’r flaen raglen waith.