Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

Cyn y cyfarfod busnes cyfeiriodd y Cadeirydd â gofid at farwolaeth Syr David Amess, Aelod Seneddol, a fu farw ar ôl cael ei drywanu mewn cymhorthfa yn Essex ddydd Gwener, 15 Hydref, 2021; roedd meddyliau’r Pwyllgor gyda’i deulu a’i gyfeillion ar yr adeg drist hon. Cynhaliwyd munud o dawelwch fel arwydd o barch tuag at Syr David Amess.

 

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Bryan Owen ddatgan diddordeb personol ond nid un a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag unrhyw fater a gyfyd yn gysylltiedig â chartrefi grwpiau bach yr Awdurdod (Cartrefi Clyd) ar y sail bod yr Awdurdod wedi prynu eiddo i’w ddefnyddio fel cartref grŵp bach yn agos i’w gartref.

Ar gais y Cadeirydd, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro nad oedd y diddordeb yn un rhagfarnllyd oni bai bod y Pwyllgor yn cynnal trafodaeth lawn mewn perthynas â’r cartref grŵp bychan penodol hwn ger cartref y Cynghorydd Owen.

Yn yr un modd bu i’r Cynghorydd Aled Morris Jones ddatgan diddordeb personol ond nid diddordeb rhagfarnllyd ar y sail bod yr Awdurdod yn y broses o brynu’r eiddo drws nesaf iddo i’w drosi’n gartref grŵp bach (Cartref Clyd).

Bu i’r Cynghorydd Dylan Rees ddatgan diddordeb mewn perthynas ag eitem 3 ar yr agenda, am iddo fod wedi gwirfoddoli gyda Bwyd Da Môn; bu i’r Cynghorydd Alun Roberts hefyd ddatgan diddordeb mewn perthynas ag eitem 3 am ei fod yntau wedi gwirfoddoli yn ystod y pandemig ond dywedodd ei fod yn deall nad oedd hyn yn ei atal rhag cymryd rhan yn y drafodaeth.

Ar gais y Cadeirydd, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro nad yw diddordeb o’r math hwn yn un personol nac yn rhagfarnllyd oni bai bod y corff/sefydliad penodol y mae gan yr Aelod(au) ddiddordeb ynddo yn destun trafodaeth.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 273 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 13 Medi, 2021.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 13 Medi, 2021 a chadarnhawyd eu bod yn gofnod cywir.

 

3.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol Drafft 2020/21 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol, yr Adroddiad Blynyddol drafft ar gyfer 2020/21. Mae’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn ddogfen statudol sydd yn dadansoddi perfformiad y Cyngor dros y flwyddyn ariannol flaenorol yn erbyn y blaenoriaethau gwella a amlinellwyd gan y Cyngor yn ei amcanion llesiant sydd yn rhan o Gynllun y Cyngor, a rhaid ei gyhoeddi cyn 31 Hydref  bob blwyddyn. Mae’r Cyngor am sicrhau y gall pobl Ynys Môn ffynnu a chyflawni eu potensial tymor hir; ceisio cefnogi oedolion a theuluoedd bregus a’u cadw’n ddiogel, yn iach ac mor annibynnol â phosibl ac ymdrechu i weithio mewn partneriaeth gyda chymunedau ar yr Ynys i sicrhau eu bod yn gallu ymdopi’n effeithiol â newid a datblygiadau ac amddiffyn yr amgylchedd naturiol ar yr un pryd.

Adroddodd yr Aelod Portffolio Busnes y Cyngor bod yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn edrych ar yr allbynnau a’r canlyniadau yn erbyn yr hyn y dywedodd y Cyngor y byddai’n ei gyflawni o dan ei dri amcan llesiant penodol yn ystod blwyddyn eithriadol a heriol lle bu’n rhaid i’r Cyngor newid ac addasu ei wasanaethau i ddelio â’r disgwyliadau rheoliadol esblygol yn gysylltiedig â lliniaru effaith y pandemig byd eang.  Mae’r adroddiad yn amlygu llwyddiannau’r Cyngor yn ogystal â nodi meysydd sydd angen eu gwella ymhellach sydd yr un mor bwysig o safbwynt sicrhau cynnydd a chyflawni targedau. Prif nod y Cyngor yn ystod y cyfnod hwn oedd cadw trigolion, ymwelwyr a gweithlu’r Cyngor yn ddiogel wrth barhau i gynnal gwasanaethau rheng flaen allweddol. Wrth neud hynny llwyddodd y Cyngor i fynd uwch law a thu hwnt i’r hyn a oedd yn angenrheidiol ac mae’r adroddiad yn nodi enghreifftiau o’r mentrau/gwasanaethau niferus a roddwyd ar waith un ai mewn ymateb uniongyrchol i’r pandemig neu wrth symud prosiectau arfaethedig yn eu blaen.  Gorffennodd yr Aelod Portffolio ei gyflwyniad trwy gydnabod bod y 18 mis diwethaf wedi bod yn anodd i bobl a chymunedau Ynys Môn yn ogystal â staff y Cyngor a bod heriau pellach i ddod yn ystod misoedd y gaeaf.  Diolchodd i bawb a oedd wedi cefnogi’r Cyngor drwy’r cyfnod heriol hwn

Bu i’r Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid  gydnabod bod y cyfnod y mae’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn ymdrin ag o wedi bod yn un o’r cyfnodau mwyaf anghyffredin a digynsail yn hanes y Cyngor. Er bod staff wedi ac yn parhau i wynebu pwysau sylweddol mewn rhai gwasanaethau, mae’r cyflawniadau a adlewyrchir arnynt yn yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn dyst i ymdrechion staff ar adeg pan gafodd nifer eu hailgyfeirio neu eu trosglwyddo i weithio ar faterion yn ymwneud â’r pandemig.

Cynghorodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad bod rhaid mabwysiadu’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol fel adlewyrchiad teg o berfformiad yn ystod y flwyddyn cyn 31 Hydref, 2021 ac mai dyma fydd y tro olaf i’r gofyniad statudol hwn fod yn gymwys.  Gobeithir bod yr adroddiad Perfformiad Blynyddol yn adlewyrchiad cywir o berfformiad y Cyngor yn ystod y flwyddyn ac y cydnabyddir, er bod nifer o feysydd gwaith newydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Enwebiad i'r Grwp Llywio Gwastraff gyda WRAP Cymru pdf eicon PDF 638 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini mewn perthynas ag enwebu aelod o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol i wasanaethu ar y Grwp Llywio Gwastraff gyda WRAP Cymru i’w ystyried gan y Pwyllgor. 

Wrth ddarparu gwybodaeth gefndirol adroddodd y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) bod y Pwyllgor, wrth drafod perfformiad Chwater 1 2020/21 y Cyngor yn erbyn y dangosyddion cenedlaethol a lleol yn ei gyfarfod ar 13 Medi, 2021, wedi amlygu bod dangosydd 32 ar y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer 2021/22 – canran y gwastraff a gafodd ei ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio – yn tanberfformio ar hyn o bryd (64.5% yn erbyn targed o 70% ar gyfer y Chwarter). Hysbyswyd y Pwyllgor bryd hynny bod grwp llywio wedi cael ei sefydlu i liniaru’r tanberfformiad cyfredol a bod aelodaeth y grwp yn cynnwys uwch aelodau, swyddogion a phartneriaid o Gymdeithas Lywodraeth Leol Cymru a WRAP Cymru (ceir manylion yn atodiad 1 yn yr adroddiad). O ganlyniad, wrth ystyried y Cerdyn Sgorio Corfforaethol yn ei gyfarfod ar 27 Medi penderfynodd y Pwyllgor Gwaith y dylid enwebu aelod o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol i wasanaethu ar y Grwp Llywio Gwastraff a oedd newydd gael ei sefydlu. Gwahoddir y Pwyllgor felly i ystyried enwebu aelod i’r grwp dan sylw. 

Penderfynwyd enwebu’r Cynghorydd John Arwel Roberts i wasanaethu fel aelod a chynrychiolydd Sgriwtini ar y Grwp Llywio Gwastraff gyda WRAP Cymru.

 

5.

Blaen Rhaglen Waith pdf eicon PDF 807 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a oedd yn ymgorffori Blaen raglen Waith y Pwyllgor ar gyfer 2021/22 i’w ystyried gan y Pwyllgor.

Cadarnhaodd y Rheolwr Sgriwtini yn dilyn trafodaeth gyda’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yr argymhellir gohirio’r cyfarfod ar y gyllideb ar 1 Tachwedd, 2021 tan ar ôl y Nadolig.

Dygodd y Cadeirydd sylw at raglen lawn cyfarfod y Pwyllgor ar 16 Tachwedd, 2021 a gofynnodd bod ystyriaeth yn cael ei rhoi lle bo’n briodol i ohirio rhai o’r eitemau ar y rhestr hyd nes y cyfarfod ym mis Ionawr 2022. 

Penderfynwyd –

·         Cytuno ar y fersiwn gyfredol o’r blaen raglen waith ar gyfer 2021/22 yn amodol ar ohirio’r cyfarfod ar 1 Tachwedd, 2021 ac ystyried aildrefnu’r eitemau busnes sydd wedi eu trefnu ar gyfer y cyfarfod ar 16 Tachwedd, 2021.

·         Nodi’r cynnydd hyd yma o ran gweithredu’r blaen raglen waith.

 

CAMAU GWEITHREDU YCHWANEGOL: Y Rheolwr Sgriwtini mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd a’r swyddogion perthnasol i ailystyried yr eitemau busnes ar gyfer y cyfarfod ar 16 Tachwedd, 2021 gyda’r bwriad o ohirio rhai eitemau hyd nes y cyfarfod ym mis Ionawr, 2022.