Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a gyda thristwch cyfeiriodd at y sefyllfa yn Wcráin in a dywedodd bod meddyliau’r Pwyllgor gyda’r teuluoedd sy’n dianc o’r rhyfel.  Cynhaliwyd munud o dawelwch a myfyrdod ar gyfer pawb sydd wedi cael eu dal yn y gwrthdaro.

 

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddoreb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 354 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 24 Ionawr, 2022.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 24 Ionawr, 2022 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

3.

Sefydlu Cyllideb Refeniw 2022/23 - Cynigion Drafft Terfynol pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini i'r Pwyllgor ei ystyried. Ynghlwm wrth yr adroddiad oedd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth / Swyddog Adran 151 a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar 3 Mawrth, 2022 ar y cynigion drafft terfynol ar gyfer cyllideb refeniw 2022/23 (roedd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi craffu ar y cynigion drafft cychwynnol ar gyfer y gyllideb refeniw yn ei gyfarfod ar 24 Ionawr, 2022).

Wrth gyflwyno’r adroddiad cadarnhaodd y Cynghorydd Robin Williams, Deilydd Portffolio Cyllid bod cynigion drafft cychwynnol y Pwyllgor Gwaith wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ond oherwydd bod y setliad dros dro wedi’i gyhoeddi mor hwyr roedd yr ymgynghoriad yn agored am gyfnod cyfyngedig yn unig, a hynny rhwng 26ain Ionawr, a 9fed Chwefror 2022. Roedd yr ymgynghoriad yn nodi sefyllfa ariannol y Cyngor a’r risgiau ariannol y mae’r Cyngor yn eu hwynebu ac roedd yn ceisio barn trethdalwyr Ynys Môn ar gynnig y Pwyllgor Gwaith i fynd i'r afael â'r risgiau hynny drwy ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau a ariennir yn rhannol gan gynnydd o 2% yn y Dreth Gyngor. Ceir dadansoddiad manwl o’r broses yn yr adroddiad ond yn gryno gellir adrodd bod 115 o ymatebion wedi dod i law ac o’r ymatebion hynny roedd 31% yn cytuno y dylid cael cynnydd o 2% yn y Dreth Gyngor a 69% yn anghytuno.

 

Nid yw’r cynnig drafft terfynol ar gyfer y gyllideb wedi newid ers i’r cynnig cychwynnol gael ei gyflwyno ym mis Ionawr, 2022 sef cyllideb net o £158.365m ar gyfer y Cyngor Sir a chynnydd o 2% yn y Dreth Gyngor  o ganlyniad, sef y cynnydd isaf yng Ngogledd Cymru a sy’n rhoi Ynys Môn yn y deunawfed safle allan o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. 

 

Fe ganolbwyntiodd y Cyfarwyddwr Risg (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 ar y risgiau cyllidebol a’u goblygiadau yn ogystal â’r ffactorau a all liniaru’r risgiau hynny a thrwy hynny leihau’r effaith. Roedd y risgiau wedi’u nodi ym mharagraff 5.3 yn yr adroddiad a’r risgiau mwyaf amlwg yw’r ansicrwydd ynglŷn â thâl a chwyddiant prisiau yn ystod 2022/23. Mae’r risgiau eraill yn cynnwys newidiadau mewn cyfraddau llog; llai o gyllid grant neu dynnu cyllid grant yn ôl; methu â chyrraedd targedau incwm; peidio â/neu osgoi talu premiwm y Dreth Gyngor; newid yn sylfaen y Dreth Gyngor a all effeithio ar incwm o’r Dreth Gyngor yn ogystal â chyfraddau casglu is o ganlyniad i’r pandemig; a newid yn y galw am wasanaeth. Fodd bynnag, ar ôl ystyried y risgiau a’r mesurau lliniaru, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) /  Swyddog Adran 151 ei fod o’r farn bod y cyllidebau’n gadarn a bod modd eu cyflawni.

 

Ar 31 Mawrth 2021, roedd cronfeydd wrth gefn cyffredinol y Cyngor yn £11.437m, sy’n cyfateb i 7.77% o gyllideb refeniw net y Cyngor ar gyfer 2020/21.  10.94% os nad yw'r gyllideb ddatganoledig ysgolion yn cael ei chynnwys. Yn ystod y flwyddyn, clustnodwyd £4.5m ar gyfer y dibenion a nodwyd ym mharagraff 6.5 ac mae 643k  wedi cael ei  drosglwyddo’n ôl i falansau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Sefydlu Cyllideb Gyfalaf 2022/23 - Cynigion Drafft Terfynol pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini i'r Pwyllgor ei ystyried.

Roedd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 ar y cynigion cychwynnol ar gyfer cyllideb gyfalaf  2022/23 a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 24 Ionawr, 2022 ynghlwm â’r adroddiad.

Cadarnhaodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid fel yr adroddwyd wrth y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 24 Ionawr, 2022 bod rhaglen gyfalaf gwerth £35.961m yn cael ei chynnig ar gyfer 2022/23 ac nad oes unrhyw newidiadau wedi bod ers i’r rhaglen gyfalaf dros dro gael ei chyflwyno i’r cyfarfod sgriwtini ym mis Ionawr.  Fel ac yr adroddwyd bryd hynny, cynigir defnyddio £1.681m o falansau cyffredinol i gyllido’r rhaglen gyfalaf arfaethedig i wneud iawn am y diffyg mewn cyllid gan fod y Grant Cyfalaf Cyffredinol gan Lywodraeth Cymru wedi gostwng.

 

Amlygodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) /  Swyddog Adran 151 nad oedd, yn anffodus,  wedi bod yn bosib cyflwyno’r adroddiad ar y cynigion cyfalaf drafft terfynol mewn pryd ar gyfer y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Sgriwtini oherwydd pwysau ar y Gwasanaeth Cyllid i baratoi cyfres o adroddiadau cyllidebol i alluogi’r Pwyllgor Gwaith i lunio’i gynigion terfynol ar gyfer y gyllideb erbyn ei gyfarfod ar 3 Mawrth, 2022. Fodd bynnag, cadarnhaodd nad oedd unrhyw newidiadau wedi eu gwneud i’r gyllideb gyfalaf arfaethedig ers ei chyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 24 Ionawr, 2022.  Mae’r Gyllideb Gyfalaf ddrafft ar gyfer 2022/23, sy’n cynnwys y Cyfrif Refeniw Tai, yn ystyried yr egwyddorion a nodir yn y Strategaeth Gyfalaf a gymeradwywyd gan y Cyngor llawn ym mis Mawrth 2021 ac y mae hefyd yn cwrdd ag egwyddorion y Strategaeth Gyfalaf ddrafft ar gyfer 2022/23 a fydd yn cael ei hystyried ochr yn ochr â’r rhaglen Gyfalaf ac a fydd yn cael ei chyflwyno i’r Cyngor Llawn ar 10 Mawrth, 2022.

 

Nid oedd unrhyw gwestiynau gan y Pwyllgor mewn perthynas â’r cynigion drafft terfynol ar gyfer cyllideb gyfalaf 2022/23.

 

Ar ôl ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd yn y cyfarfod, yn ysgrifenedig ac ar lafar, penderfynwyd cefnogi’r Gyllideb Gyfalaf ddrafft arfaethedig o £35.961m ar gyfer 2022/23 ac argymell y gyllideb i’r Pwyllgor Gwaith.

 

(Bu i’r Cynghorwyr Aled M. Jones a Bryan Owen ymatal rhag pleidleisio)

 

5.

Panel Sgriwtini Cyllid - Diweddariad ar Gynnydd

Derbyn adroddiad ar lafar gan Gadeirydd y Panel.

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Dafydd Roberts,  Cadeirydd Panel Sgriwtini Cyllid, ddiweddariad i’r Pwyllgor yn dilyn trafodaethau’r Panel yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Chwefror, 2022 a thynnodd sylw at y pwyntiau canlynol –

  • Fe wnaeth y Panel ystyried y cynigion drafft terfynol ar gyfer cyllideb 2022/23 gan ganolbwyntio ar y cynigion i fuddsoddi er mwyn mynd i’r afael a’r materion a risgiau y mae gwasanaethau’m eu hwynebu yn seiliedig ar restr o 21 o gynigion gan benaethiaid Gwasanaeth a Chyfarwyddwyr Gwasanaeth. Cafodd y rhain eu gwerthuso yn ôl matrics sgorio a gwerth gorau am arian. Bu i’r panel graffu ar 5 cynnig yn benodol, sfe cynigion i greu swyddi ym maes Addysg a Phriffyrdd ac yn dilyn derbyn gwybodaeth bellach gan y Swyddog Adran 151 a’r Aelod Portffolio Cyllid, rhoddwyd sicrwydd i’r Panel y byddai’r swyddi hyn yn ychwanegu gwerth i’r gwasanaeth.
  • Aeth y Panel ymlaen i nodi bod llawer o’r cynigion am gyllid gan wasanaethau yn seiliedig ar greu swyddi ychwanegol a gofynnodd am sicrwydd ynglŷn â chynaliadwyedd y swyddi hyn a pha un ai a fyddent yn rhoi pwysau ar y Dreth Gyngor yn yr hir dymor.  Rhoddwyd eglurhad manwl i’r Panel ac ar y sail honno roedd yn fodlon argymell y cynigion terfynol ar gyfer y gyllideb.
  • Amlygodd y Panel yr angen i fuddsoddi mewn arbenigedd a chefnogaeth broffesiynol ar gyfer y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG – pwyllgor statudol) fel bod y Cyngor yn dilyn awdurdodau eraill yng Ngogledd Cymru o ran y gefnogaeth y maent yn ei ddarparu i’r cyrff CYSAG.
  • Wrth nodi’r ymateb cyfyngedig i’r broses ymgynghori ar y cynnig ar gyfer Cyllideb 2022/23 bu i’r Panel gydnabod yr amserlen dynn iawn ar gyfer ymgynghori ac roedd yn gobeithio, wrth symud ymlaen, y gellir dod o hyd i ffyrdd mwy effeithio o ymgysylltu gyda’r cyhoedd nid yn unig ar y gyllideb flynyddol ond hefyd mewn perthynas â’r penderfyniadau ariannu strategol sylweddol a wneir gan y Cyngor.

 

Gan mai dyma oedd y cyfarfod olaf o’r Panel Sgriwtini Cyllid yn ystod y Weinyddiaeth bresennol, manteisiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts ar y cyfle i ddiolch i aelodau’r Panel  am eu gwaith a’u hymrwymiad i’r Panel ac i’r Swyddogion am eu cefnogaeth a’u harbenigedd bob amser.

 

Bu i’r Cadeirydd, y Cynghorydd Aled Morris Jones, hefyd ddiolch i’r Cynghorydd  Dafydd Roberts am gadeirio’r Panel ac am adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Sgriwtini’n rheolaidd.

 

Nododd y Pwyllgor sylwadau ac adborth y Panel a diolchwyd i’r panel am ei waith sgriwtini.

 

 

6.

Datblygiad Gofal Ychwanegol - Tyddyn Mostyn, Porthaethwy

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai ar y cynnig i ddatblygu cynllun Gofal Ychwanegol ar dir y  Cyngor yn Nhyddyn Mostyn, Porthaethwy er mwyn i’r Pwyllgor ei ystyried a chyflwyno sylwadau.

Mae Cynllun y Cyngor yn nodi bod angen cynllun Gofal Ychwanegol yn Ne’r Ynys. Bydd y Cynllun yn helpu i fynd i’r afael â’r galw hwn drwy ddarparu 40 o fflatiau yn cynnwys efallai 15 ystafell gofal preswyl arbenigol, yn ogystal â gofod ar gyfer y Tîm Adnoddau Cymunedol sy’n cynnwys staff iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gwasanaethu De’r Ynys. Byddai’r cynllun hwn yn cyflawni un o amcanion y Cynllun Corfforaethol, sef cefnogi oedolion bregus a’u teuluoedd i’w cadw’n ddiogel, iach ac mor annibynnol â phosibl. Byddai’r Cynllun yn ehangu’r adnodd cymunedol i gefnogi cyfleoedd i fyw’n annibynnol.  Mae safle ar dir ger Tyddyn Mostyn, Porthaethwy wedi’i nodi fel y lleoliad gorau allan o’r chwe safle a oedd dan ystyriaeth ac a gafodd eu hasesu yn erbyn cyfres o feini prawf penodol.

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion bod dau gynllun Gofal Ychwanegol wedi cael eu datblygu hyd yma, un ym Mhenucheldre, Caergybi a’r llall yn Hafan Cefni, Llangefni. Mae’r datblygiadau hyn yn cael ei gwerthuso’n rheolaidd ac mae’r adborth gan breswylwyr wedi bod yn hynod gadarnhaol. Mae’r Cyngor yn awyddus i ddatblygu cynllun o’r fath yn Ne’r Ynys gan ddefnyddio’r agweddau sydd wedi gweithio’n dda yn ystod y cynlluniau blaenorol a dysgu o’r agweddau y gallem fod wedi’u gwneud yn wahanol, ac i’r perwyl hwn nodwyd safle addas ym Mhorthaethwy.  Os caiff y datblygiad ei gymeradwyo, y Cyngor fydd berchen arno. Mae’r Rhwydwaith Dysgu a Gwella Tai, a gomisiynwyd gan Gyfarwyddiaeth Tai Llywodraeth Cymru, yn nodi’r galw am wahanol fathau o dai/llety arbenigol ar gyfer pobl hŷn ar Ynys Môn ar hyn o bryd a hyd at 2035 a chadarnhawyd y bydd angen 127 o leoliadau gofal ychwanegol erbyn 2035. Bydd y cynnig arfaethedig  yn  helpu i fynd i’r afael â’r bwlch hwn yn enwedig gan fod y cyfleusterau ym Mhenucheldre a Hafan Cefni yn llawn a bod rhestr aros ar gyfer darpar breswylwyr.  Mae’r cynlluniau hyn wedi bod yn llwyddiannus o ran galluogi unigolion i fyw’n annibynnol ac maent yn cyd-fynd â Strategaeth Pobl Hŷn y Cyngor.  Mae’r cynnig wedi cael ei werthuso o safbwynt fforddiadwyedd yn unol â’r model ariannol a ddefnyddir i asesu hyfywedd ariannol ein cynlluniau tai – mae’r model cychwynnol yn dangos ei fod yn gynllun hyfyw ac yn cyd-fynd â chanllawiau’r Awdurdod ar gyfer ei gynlluniau tai newydd.  Mae’r Cyngor wedi llwyddo i ddiogelu cyllid grant HCF gan Lywodraeth Cymru tuag at gostau’r prosiect ac fe all ymgeisio am ychwaneg o grantiau; bydd gweddill y costau’n cael eu hariannu gan y Cyngor drwy’r Cyfrif Refeniw Tai. 

Roedd y Pwyllgor yn croesawu ac yn cefnogi’r cynllun ond gofynnwyd am eglurhad ynglŷn â phwy fyddai’n gyfrifol am ddarparu’r gofal – cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Oedolion y byddai’r opsiynau yn cael eu hystyried ac yn cael eu cytuno wrth i’r prosiect fynd rhagddo.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cynllun Tuag At Sero Net pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr mewn perthynas â rhoi trefniadau ar waith i sefydlu a mabwysiadu ‘Cynllun Tuag at Garbon Sero Net Cyngor Sir Ynys Môn 2022-2025’ i’w ystyried gan y Pwyllgor.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol ei fod yn falch o gael cyflwyno’r Cynllun Tuag at Sero Net sydd yn cynrychioli’r cam gyntaf yn y siwrne i drawsnewid y Cyngor i fod yn sefydliad carbon sero net erbyn 2030.

Er mwyn cyflawni’r amcan hon a chwrdd â’r her a rhoi newid sylweddol ar waith, mae’n hanfodol cael cynllun clir a dull corfforaethol mewn lle sy’n mynd i’r afael â phob agwedd ar waith y Cyngor.

 

Ynghyd ag adeiladu ar lwyddiannau diweddar a chydlynu cynlluniau eisoes ar waith, mi fydd y Cynllun yn gweithredu prosiectau o’r newydd fydd yn arwain at leihad yn ein hallyriadau carbon.  Er mwyn cyflawni’r cynllun, mi fydd cynllun cyflawni blynyddol, targedau, a fframwaith monitro ac adrodd yn cael ei fabwysiadu. Y cam nesaf fydd sefydlu gwaelodlin fanwl a chyflawn, gyda systemau rheolaeth data. Mi fydd gofynion adnoddau ariannol a phersonél i gyflawni’r newidiadau yn sylweddol dros y cyfnod i ddod. Bydd angen i’r Cyngor fanteisio ar gyfleoedd cyllido (grantiau a benthyciadau) fydd ar gael er mwyn bwrw ymlaen gyda chynlluniau a rhaglenni dros y blynyddoedd i ddod.

 

Amlygodd y Dirprwy Brif Weithredwr bod y Cyngor eisoes wedi cyflawni llawer tuag at ddod yn sefydliad carbon sero net yn enwedig mewn perthynas â lleihau ôl-troed carbon ei ystadau ac eiddo. Yr hyn sydd wedi newid ydi amlygrwydd a phwysigrwydd newid hinsawdd a lleihau carbon sydd yn flaenoriaeth i’r Cyngor, i gymunedau ac i unigolion.  Mae’r Cyngor yn ymateb drwy ddangos arweinyddiaeth gadarn. Er bod y cynllun yn glir ac yn un tymor byr ni fydd yn aros yr un fath a bydd yn cael ei addasu wrth i’r Cyngor symud yn ei flaen. Mae wedi cael ei ddatblygu oddi mewn i gyd-destun cenedlaethol er mwyn sicrhau ei fod yn gyson â’r rôl a ragwelir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol. Bydd rhaid cwblhau gwaith pellach i sefydlu gwaelodlin, targedau a system fonitro llawn a manwl fel y gall rhanddeiliaid gadw llygaid ar y cynnydd a wneir. Er y bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd mae’n hanfodol bod y Cyngor yn gallu mesur effaith amgylcheddol ei benderfyniadau. Bydd rhaid i’r Cyngor hefyd ddangos buddion amgylcheddol ei fuddsoddiadau ac felly bydd rhaid cynnwys hyn fel rhan o’r broses ehangach ar gyfer gwneud penderfyniadau. Er mwyn cyflawni’r amcan hon rhaid i’r Cyngor fod yn uchelgeisiol a dewr a’r gobaith yw y bydd y Cynllun yn cyflawni’r anghenion hyn yn ogystal â bod yn realistig, cyraeddadwy a fforddiadwy; dyma’r cam cyntaf tuag at newid diwylliant ac mae’n adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi’i gyflawni i gefnogi’r siwrnai tuag at y targed yn y pen draw, sef dod yn sefydliad carbon sero erbyn 2030.

Roedd y Rheolwr Newid Hinsawdd yn cytuno nad yw’r Cyngor yn dechrau o’r dechrau a’i fod eisoes wedi cyflawni  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cynllun Gwefru Cerbydau Trydan Ynys Môn pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo a oedd yn nodi cynllun tymor hir y Cyngor ar gyfer datblygu ac ariannu’r seilwaith pwyntiau gwefru Cerbydau Trydan ar hyd a lled yr Ynys i’r Pwyllgor ei ystyried a chyflwyno sylwadau.  Roedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg o Gynllun Gweithredu Gwefru Cerbydau Trydan Ynys Môn.

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Bob Parry, OBE, FRAgS, Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo a dywedodd y bydd y Cynllun yn datblygu pwyntiau gwefru cerbydau trydan newydd, modern ledled yr Ynys, ac y byddant ar gael i staff y Cyngor, trigolion ac ymwelwyr. Bydd y math o seilwaith gwefru - Chwim/Uwch, Cyflym neu Araf - yn amrywio ar draws leoliadau gwahanol. Mae’r Cyngor eisoes wedi dechrau darparu Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan gyda seilwaith o’r fath ar gael yng Nghanolfan Busnes Ynys Môn a Chanolfan Byron. Mae yna hefyd Bwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan ar gyfer nifer cyfyngedig o gerbydau fflyd ym mhrif Swyddfeydd y Cyngor yn Llangefni. Mae gwaith datblygu wedi dechrau yn barod i osod darpariaeth gwefru chwim cyhoeddus yn Amlwch, Llangefni, Caergybi a Phorthaethwy yn 2022 drwy Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn Llywodraeth Cymru.  Mae llawer o waith i’w wneud o hyd i ddarparu cyfleusterau gwefru amrywiol i gwrdd â’r galw ac mae’r Cynllun Gweithredu’n cynrychioli’r cam cyntaf yn y siwrnai i osod seilwaith Cerbydau Trydan mewn lleoliadau allweddol.

Cadarnhaodd Rheolwr Busnes y Gwasanaeth Priffyrdd bod y Cynllun Gweithredu’n rhoi’r Cyngor mewn sefyllfa gadarn i wneud cais am gyllid pellach gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu rhwydwaith seilwaith pwyntiau gwefru cerbydau trydanol ledled yr Ynys.

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor, cafwyd cadarnhad gan y Swyddogion ynglŷn â’r canlynol -

·         Cadarnhawyd bod prosiect ar waith i greu hwb hydrogen yng Nghaergybi er mwyn datblygu technoleg hydrogen yn Ynys Môn.  Wrth gymharu cerbydau hydrogen a cherbydau trydan, dengys ymchwil bod ceir a faniau bach yn fwy addas i gael eu pweru gan drydan tra bod technoleg hydrogen yn dwy addas ar gyfer pweru cerbydau nwyddau trwm neu gerbydau casglu gwastraff er enghraifft; rhaid ystyried ffactorau fel y rhain wrth geisio dod o hyd i gydbwysedd rhwng cerbydau trydan a hydrogen. Mae’r rhain yn dechnolegau newydd a bydd rhaid eu monitro wrth iddynt ddatblygu dros amser.

·         Cadarnhawyd y bydd rhaid ystyried gwahanol fodelau ar gyfer codi ffi ar y cyhoedd i ddefnyddio’r pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn ogystal â sut y bydd unrhyw incwm yn cael ei ddefnyddio/fuddsoddi; bydd y drafodaeth honno’n cael ei llywio gan adolygiad sydd ar y gweill. 

·         Eglurwyd y bydd rhaid ystyried dulliau gorfodi yn ogystal ar gyfer gyrwyr sy’n mynd tu hwnt i’r terfyn amser a sy’n gadael eu car yn y plwg er ei fod wedi gorffen gwefru.

 

Penderfynwyd cefnogi argymhellion yr adroddiad fel a ganlyn ac argymell bod y Pwyllgor Gwaith yn eu cymeradwyo –

 

·         Cymeradwyo Crynodeb Cynllun Gwefru Cerbydau Trydan Ynys Môn

·         Cymeradwyo datblygu a chyflwyno ceisiadau am gyllid allanol er mwyn gwireddu’r cynllun.

·         Cymeradwyo bod gofynion seilwaith pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn cael eu  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 819 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini oedd yn cynnwys diweddariad o Flaen Raglen Waith gan y Pwyllgor hyd at fis Mawrth, 2022 i’w hystyried.

Penderfynwyd –

·         Cytuno ar y fersiwn gyfredol o'r blaen raglen waith ar gyfer 2021/22

·         Nodi'r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu'r blaen raglen waith.