Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy Zoom, Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Mercher, 15fed Ionawr, 2025 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor a Zoom

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddodeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2.

Gosod Cyllideb 2025/26 - Cynigion Cychwynnol Drafft ar gyfer y Gyllideb Refeniw pdf eicon PDF 583 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini i’r Pwyllgor ei ystyried. Roedd yr adroddiad yn amlinellu cyd-destun y broses ar gyfer gosod Cyllideb 2025/26, ynghyd â materion allweddol a chwestiynau ar gyfer Sgriwtini, er mwyn arfarnu cynigion cychwynnol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y gyllideb refeniw. Roedd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fyddai’n cael ei gyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 21 Ionawr 2025 ac a oedd yn cynnwys y gyllideb refeniw dros dro ar gyfer 2025/26 ac ystyriaethau cysylltiedig, ynghlwm yn Atodiad 1.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai, a nododd fod y setliad dros dro ar gyfer Llywodraeth Leol yng Nghymru, a gyhoeddwyd ar 10 Rhagfyr 2024, yn well na’r disgwyl. Roedd cynnydd o £410.3m yn lefel cyffredinol y cyllid ar gyfer Cymru, sef cynnydd o 7.3% mewn termau arian parod. Roedd y setliad drafft yn darparu cynnydd o 3.59% ar gyfer Ynys Môn (0.7% yn is na chyfartaledd Cymru a’r 16eg cynnydd uchaf o blith y 22 awdurdod) ac mae’n gadael diffyg o £10.791m ar ôl cynnwys y prif newidiadau yn y gyllideb, yn unol ag adran 4 yn yr adroddiad ar y gyllideb, a chyn gwneud unrhyw newid i’r Dreth Gyngor. Er mwyn cau’r bwlch trwy godi’r Dreth Gyngor yn unig, byddai angen cynnydd o 20.6% yn y Dreth Gyngor, ond mae’r Pwyllgor Gwaith o’r farn nad yw hynny’n ddewis realistig a byddai defnyddio arian wrth gefn y Cyngor i gau’r bwlch yn gwagio’r cronfeydd. Ni ellir cwrdd â diffyg o’r maint hwn drwy wneud arbedion chwaith. Cynnig y Pwyllgor Gwaith, felly, yw y dylid defnyddio cyfuniad o arbedion cyllidebol, defnyddio arian wrth gefn a chynyddu’r Dreth Gyngor er mwyn cwrdd â’r diffyg.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, er bod y cynnydd yn y setliad i’w groesawu, nid yw’n ddigon i gwrdd â’r holl bwysau ar gyllideb y Cyngor. Costau Yswiriant Gwladol yw’r prif bwysau ar y gyllideb ac mae peth ansicrwydd ynglŷn â chyllid ychwanegol i gwrdd â’r costau hyn a’r amseru, ac mae’r galw am wasanaethau, yn enwedig yn y Gwasanaethau Plant ac Oedolion lle mae’r galw gan gleientiaid yn gallu newid yn sylweddol, yn golygu ei bod yn bwysig i’r Cyngor fod yn ddarbodus wrth reoli cyllid ac nad yw’n gorymrwymo ei arian wrth gefn. Mae’r Pwyllgor Gwaith yn awyddus i warchod y gyllideb ysgolion yn 2025/2026 gan iddi wynebu toriadau yng nghyllideb 2024/25, a chafodd y gyllideb hyfforddeion corfforaethol ei thorri hefyd a’r bwriad yw cadw’r premiwm ar dai gwag ac ail gartrefi ar ei lefel bresennol, sef 100%. Mae cynigion drafft y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y gyllideb, fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, yn cynnwys cynnydd o 9.5% yn y Dreth Gyngor (yn cynnwys ardoll y Gwasanaeth Tân o 0.65%), darparu arian ychwanegol i gwrdd â galw cynyddol yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, amddiffyn cyllidebau ysgolion trwy ariannu cynnydd mewn costau yn llawn, defnyddio premiwm y Dreth Gyngor i gefnogi prynwyr tro cyntaf, darparu cyllid ychwanegol ar  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Adroddiad Cynnydd y Panel Sgriwtini Cyllid

Derbyn diweddariad ar gynnydd gan Gadeirydd y Panel.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Geraint Bebb, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid, adroddiad ar ganlyniadau dau gyfarfod y Panel a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2024 a 9 Ionawr 2025 er mwyn ystyried y cynigion cychwynnol drafft ar gyfer Cyllideb Refeniw 2025/26, ac y cyfeirir ato yn y naratif ar gyfer eitem 2 uchod.