Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor - Swyddfeydd y Cyngor a Zoom
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2024. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd, 2024, gan gadarnhau eu bod yn gofnod cywir a nodwyd y cynnydd yn erbyn y camau y cytunwyd arnynt yn ystod y cyfarfod.
|
|
Adroddiad Hunan-Asesiad 2023/24 - Diweddariad ar Gynnydd yn erbyn y Camau Gwella a Nodwyd Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid, oedd yn darparu diweddariad ar gynnydd wrth weithredu’r camau gwella a nodwyd yn yr Adroddiad Hunan-asesiad ar gyfer 2023/24, i’w ystyried gan y pwyllgor.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Gary Pritchard, Arweinydd y Cyngor, a gadarnhaodd mai dim ond dau allan o’r chwe maes a nodwyd fel mannau i’w gwella a’u monitro o fewn yr Adroddiad Hunan-asesiad Corfforaethol ar gyfer 2023/24 sydd ar ei hôl hi, gyda phob camau arall un ai wedi’i gwblhau neu ar ben ffordd. Mae’r amserlen ar gyfer cyhoeddi strategaeth rheoli asedau mân-ddaliadau erbyn Mawrth 2025 wedi llithro, ac argymhellwyd y dylid sefydlu grŵp tasg a gorffen trawsbleidiol er mwyn gwneud cynnydd â’r strategaeth, tra bo gwaith i ad-drefnu asedau’r cyngor yn parhau. Mae hyn yn cynnwys mabwysiadu system rheoli cyfleusterau â gefnogir gan gyfrifiadur, rhoi prosesau ar gyfer adeiladau gwag/dros ben a gwarediadau ar waith, yn ogystal â datblygu set ddata cyflawn ar asedau er mwyn cefnogi’r gwaith o wneud penderfyniadau.
Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd am yr amserlen ddiwygiedig ar gyfer paratoi strategaeth rheoli asedau mân-ddaliadau newydd, cynghorwyd y pwyllgor bod strategaeth ddrafft newydd wedi’i pharatoi i gymryd lle’r strategaeth honno oedd ar waith tan 2021, ond gohiriwyd y broses ddemocratig i’w chymeradwyo oherwydd etholiad llywodraeth leol yn 2022. Pe byddai’r grŵp tasg a gorffen y penderfynu cefnogi’r strategaeth ddrafft bresennol, pan fyd y grŵp yn weithredol, heb wneud unrhyw addasiadau sylweddol, mae’n bosibl y gellir cwblhau’r strategaeth o fewn ychydig fisoedd. Byddai’n rhaid trafod unrhyw newidiadau sylweddol neu newid trywydd/dull wrth wneud gwaith pellach, yn ogystal ag amserlen hirach. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr y gofynnwyd i’r Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol gyflwyno enwebiadau ar gyfer aelodaeth y Grŵp Tasg a Gorffen.
Cyfeiriwyd at faes rhif chwech yn yr adroddiad diweddaru, sy’n nodi’r camau penodol i fynd i’r afael â’r heriau o ran cynllunio gweithlu. Gwnaed cais i gael diweddariad a throsolwg ar y sefyllfa gyffredinol bresennol o fewn y Cyngor mewn perthynas â recriwtio a chadw staff, ac a oes gan y Cyngor drefniadau unigol, neu ar y cyd â phartneriaid a sefydliadau addysgiadol lleol, er mwyn bodloni gofynion staffio yn y dyfodol.
Dywedodd y Prif Weithredwr bod sefyllfa staffio’r Cyngor yn sefydlog ar hyn o bryd. Mae’r Cyngor yn gallu denu a chadw staff da, ac mae’n darparu profiadau a datblygiad gyrfaol iddynt. Mae peth bryder ynghylch pwyntiau sengl o fethiannau o fewn y system, lle mae absenoldeb neu ddiffyg unigolion gydag arbenigedd a gwybodaeth benodol mewn maes arbennig yn achosi goblygiadau ehangach ar gyfer y Cyngor, o ran cynnal safon y gwasanaeth. Er bod Penaethiaid Gwasanaeth yn ymwybodol o bwysigrwydd cynllunio gweithlu o fewn eu gwasanaethau, gall y Cyngor wneud mwy fel sefydliad i wella ei broffil fel cyflogwr ac amlygu’r hyn y gall ei gynnig i ddarpar weithwyr o ran hyblygrwydd gwaith, hyfforddiant, a chyfleoedd dilyniant. Mae cynllun strategol ar gyfer y gweithlu addysg gan Lywodraeth Cymru, sy’n bwriadu mynd i’r afael â’r heriau o fewn y sector ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |
|
Cyflwyno adroddiad blynyddol 2023/24 y GCAR - CGC. Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad blynyddol ar gyfer 2023/24 gan Wasanaeth Cynllunio rhag Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru (NWC-REPS) i’w ystyried gan y pwyllgor.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Gary Pritchard, Arweinydd y Cyngor, fel un oedd yn rhoi trosolwg o weithgarwch y gwasanaeth yn ystod 2023/24. Mae gan y Cyngor ddyletswyddau cynllunio ac ymateb i argyfwng dan y ddeddfwriaeth a rheoliadau perthnasol, ac mae’n brif ymatebwr. Mae’r Cyngor yn bodloni ei rwymedigaethau drwy gydweithio ag awdurdodau lleol ledled gogledd Cymru drwy’r gwasanaeth hwn, gyda Chyngor Sir y Fflint yn awdurdod cynnal. Mae’r adroddiad yn cyfeirio at weithgarwch rhanbarthol yn ystod y flwyddyn, mewn perthynas â rheoli digwyddiadau ac ymateb i argyfyngau, yn ogystal â gweithgarwch o fewn y chwe awdurdod lleol yng ngogledd Cymru. Diolchodd y Cynghorydd Gary Pritchard i’r holl staff oedd wedi bod ynghlwm â’r gwaith a wnaed yn ystod y flwyddyn, gan ganmol y cydweithio â’r bartneriaeth werthfawr.
Gwahoddwyd Rheolwr Rhanbarthol Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru i wneud sylw, a dywedodd mai’r gwasanaeth rhanbarthol yw’r unig un o’i fath yng Nghymru, ac ers ei sefydlu mae’r gwasanaeth wedi creu arbedion sylweddol ar gyfer y chwe awdurdod lleol yng ngogledd Cymru, wedi lleihau dyblygiadau a sicrhau bod adnoddau ychwanegol ar gael ar gyfer awdurdodau lleol.
Wrth graffu ar yr adroddiad blynyddol, aeth y pwyllgor ati i drafod y materion canlynol –
· Roedd y pwyllgor yn ceisio sicrwydd mewn perthynas â diweddaru’r ddogfen a symud y mater yn ei flaen, ar ôl nodi problemau diweddar mewn perthynas â chau’r ddwy bont ar Ynys Môn, a gan fod yr unig gynllun wrth gefn ar gyfer sefyllfa pan fydd y ddwy bont wedi cau ar yr un pryd wedi’i dyddio o 2011.
Cadarnhaodd y Swyddog Cynllunio at Argyfwng, ers cyflwyno’r adroddiad diwethaf i Sgriwtini, fod y Prif Weithredwr wedi codi’r mater gyda’r Fforwm Gwydnwch Lleol (LRF) mewn llythyr at Gadeirydd y Fforwm, a bod grŵp tasg a gorffen wedi’i sefydlu er mwyn edrych ar y sefyllfa. Cadarnhaodd bod y ddogfen o 2011 yn rhestru cyfrifoldebau pob asiant yn ystod digwyddiad lle byddai’r ddwy bont wedi cau ar yr un pryd, a bod angen ei diweddaru er mwyn adlewyrchu trefniadau cyfredol a sicrhau bod yr holl asiantaethau perthnasol wedi’u cynnwys ac yn cael mewnbwn.
Rhoddwyd y ddogfen ddiwygiedig ar waith yn ystod ymarferiad a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2024 yng Nghanolfan Fusnes Llangefni. Trafodwyd y materion a’r opsiynau o ran ymateb i gau’r ddwy bont, gan sicrhau mynediad i’r gwasanaethau brys. Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn adolygu opsiynau ar gyfer stacio Cerbydau Nwyddau Trwm (HGVs), ac mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cynnig mewnbwn ar y mater hwn.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod gwaith sylweddol wedi’i wneud mewn cyfnod byr o amser, ac er y byddai’r ymateb i argyfwng yn llawer mwy grymus erbyn hyn o gymharu â blwyddyn yn ôl, mae’n rhaid gwneud gwaith pellach, yn enwedig mewn perthynas â stacio Cerbydau Nwyddau Trwm. Mae’r unig gynllunio ar gyfer stacio Cerbydau Nwyddau Trwm yn dyddio’n ôl ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini, a oedd yn ymgorffori Blaen Rhaglen Waith y Pwyllgor hyd at Ebrill 2025, i’w ystyried gan y pwyllgor.
Penderfynwyd –
|