Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor - Swyddfeydd y Cyngor a Zoom
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau a’r amseroedd canlynol –
· 15 Ionawr 2025 (bore) · 15 Ionawr 2025 (prynhawn) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiad a'r amseroedd canlynol a chadarnhawyd eu bod yn gywir a nodwyd cynnydd o ran y camau y cytunwyd arnynt yn y ddau gyfarfod.
15 Ionawr 2025 (cyfarfod bore) 15 Ionawr 2025 (cyfarfod prynhawn)
|
|
Gosod Cyllideb 2025/26 - Cynigion Terfynol Drafft ar gyfer y Gyllideb Refeniw Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini i'w ystyried gan y Pwyllgor. Amlinellodd yr adroddiad gyd-destun y broses o osod Cyllideb 2025/26 ynghyd â'r materion a'r cwestiynau allweddol i Graffu arnynt wrth werthuso cynigion terfynol drafft cyllideb refeniw y Pwyllgor Gwaith. Roedd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 wedi’i atodi a oedd yn crynhoi'r cynigion terfynol ar gyfer y gyllideb, a hefyd i bwrpas cymharu a chyd-destun, dadansoddiad o gyfraddau Treth Gyngor Cymru ar gyfer 2024/25 yn Atodiad 1 i'r adroddiad ynghyd â chrynodeb o'r ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion cychwynnol y gyllideb refeniw a gynhaliwyd rhwng 22 Ionawr a 7 Chwefror 2025 yn Atodiad 2.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai a atgoffodd y pwyllgor o'r gwasanaethau amrywiol y mae'r Cyngor yn eu darparu ar gyfer ei gymunedau. Pwysleisiodd ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i'r Cyngor osod cyllideb gytbwys bob blwyddyn sy'n golygu y dylai'r hyn y mae'n bwriadu ei wario fod yn unol â'r hyn y mae'n ei dderbyn mewn incwm. Cyfeiriodd at nifer o sylwadau o'r ymgynghoriad cyhoeddus a oedd yn argymell defnyddio cronfeydd wrth gefn y Cyngor ar gyfer y bwlch yn y gyllideb a wynebir gan y Cyngor. Dywedodd pe bai'r dull hwnnw wedi'i ddefnyddio dros y blynyddoedd yna byddai'r Cyngor wedi defnyddio ei gronfeydd wrth gefn i gyd gan achosi risg i’r Cyngor pe bai costau annisgwyl yn codi yn y dyfodol. Felly, mae'r Pwyllgor Gwaith yn cynnig cyllideb refeniw yn seiliedig ar gyfuniad o arbedion cyllidebol (£3.9m), y defnydd o gronfeydd wrth gefn (£2.0m) a chynnydd yn y Dreth Gyngor (9.5%) a chadw’r premiwm ar gyfer ail gartrefi a thai gwag ar 100%. Nid yw'r Cyngor yn wahanol o ran y lefel arfaethedig o gynnydd yn y Dreth Gyngor gan fod cynghorau eraill yng Nghymru yn bwriadu gosod cynnydd tebyg. Cyfeiriodd y Cynghorydd Robin Williams at yr ymgynghoriad cyhoeddus gan ddweud nad oedd ynddo unrhyw beth annisgwyl o ran cynnwys a blaenoriaethau ac yn sgil hynny, ni wnaed unrhyw newidiadau i'r cynigion. Yng ngoleuni hyn ac o ystyried hefyd nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi setliad terfynol y gyllideb eto, nid yw'r cynigion drafft terfynol wedi newid o'r cynigion cychwynnol a gyflwynwyd i'r pwyllgor hwn ar 15 Ionawr, 2025.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 nad oedd yn rhaid gwneud unrhyw welliannau a/neu addasiadau i fanylion y cynigion drafft cychwynnol ar gyfer y gyllideb refeniw ac felly mae'r cynnig ar gyfer y gyllideb refeniw yn aros yr un fath â'r hyn a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Sgriwtini ar 15 Ionawr. Mater i’r Pwyllgor Sgriwtini yw ystyried a yw o’r un farn ai peidio o safbwynt y cynnig wrth bwyso a mesur canlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus.
Dywedodd y Cynghorydd Geraint Bebb, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid fod y panel wedi cyfarfod ddoe,18 Chwefror i ystyried y cynigion terfynol drafft ar gyfer y gyllideb refeniw ar gyfer 2025/26. Trafododd y panel y dogfennau a gyflwynwyd i'r cyfarfod yn ogystal â'r adborth o'r ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |
|
Gosod Cyllideb 2025/26 - Cynigion Terfynol Drafft ar gyfer y Gyllideb Gyfalaf Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini i'w ystyried gan y Pwyllgor. Yn yr adroddiad amlinellwyd cyd-destun y broses o osod Cyllideb Gyfalaf 2025/26 ynghyd â'r materion a'r cwestiynau allweddol i Graffu arnynt wrth werthuso cynigion terfynol drafft cyllideb gyfalaf y Pwyllgor Gwaith. Atodwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 i'w gyflwyno i gyfarfod 27 Chwefror 2025 y Pwyllgor Gwaith sy'n crynhoi'r gyllideb gyfalaf a'r rhaglen arfaethedig ar gyfer 2025/26 yn Atodiad 1.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd a Phortffolio Aelod Cyllid a Thai a nododd fod cyllideb gyfalaf o £39.309m yn cael ei chynnig gyda'r rhaglen a'r cyllid fel y nodir yn Nhabl 3 yr adroddiad. Yn ystod y flwyddyn ariannol gallai’r Cyngor dderbyn grantiau ychwanegol ar gyfer prosiectau cyfalaf ac os felly, bydd y gyllideb yn cael ei haddasu yn unol â hynny.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at y strategaeth Gyfalaf sy'n sail i'r rhaglen gyfalaf ac eglurodd mai'r prif ffynonellau cyllid ar gyfer y rhaglen oedd y Grant Cyfalaf Cyffredinol gan Lywodraeth Cymru a benthyca â chymorth. Er bod y Cyllid Cyfalaf Cyffredinol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2025/26 £401k yn uwch na'r dyraniad ar gyfer y flwyddyn flaenorol, sef y cynnydd sylweddol cyntaf y mae'r Cyngor wedi'i gael ers nifer o flynyddoedd, nid yw'n gwneud iawn am y golled yng ngwerth yr arian sydd wedi digwydd oherwydd chwyddiant ac nid yw'n ddigon i ddiwallu anghenion gwariant cyfalaf y Cyngor o ran cynnal a gwella ei asedau. Gall y Cyngor fenthyca heb gymorth ond mae'n rhaid i refeniw y Cyngor ei hun dalu'r holl gostau cysylltiedig â benthyca fel hyn. Rhoddodd y Swyddog Adran 151 drosolwg o'r cynlluniau yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2025/26 ynghyd â sefyllfa cyllid cyfalaf a gwariant y Cyfrif Refeniw Tai. Eglurodd ymhellach ei fod ar ddeall, ond nad yw wedi’i gadarnhau, y gallai fod yn fwriad gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun i gefnogi cynghorau i fenthyca i ariannu gwariant pellach ar briffyrdd, mae manylion y cynllun a'r symiau dan sylw wrthi’n cael eu trafod ond mae’n ymddangos y bydd yn gynllun dros ddwy flynedd.
Dywedodd y Cynghorydd Geraint Bebb, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid fod y panel yn ei gyfarfod ar 18 Chwefror hefyd wedi ystyried cynigion terfynol drafft cyllideb gyfalaf 2025/26 ac wrth graffu ar fanylion y gyllideb gyfalaf arfaethedig nodwyd nad oes ffynonellau cyllid cyfalaf sylweddol ar gael i'r Cyngor i ariannu unrhyw brosiectau ar raddfa fawr ar wahân i'r CRT sydd wedi'i glustnodi ar gyfer prosiectau CRT yn unig ac na ellir eu defnyddio at unrhyw ddiben arall. Cadarnhaodd fod y panel wedi penderfynu cefnogi cynigion tefrynol drafft y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2025/26 fel y'u cyflwynwyd ac argymell hynny i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.
Ymatebodd yr Aelod Portffolio Cyllid a Thai a'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 i bwyntiau a godwyd gan y pwyllgor ynghylch y cynigion ar gyfer y gyllideb gyfalaf fel a ganlyn –
|
|
Panel Sgriwtini Cyllid Derbyn adroddiad llafar gan Gadeirydd y Panel. Cofnodion: Adroddodd y Cynghorydd Geraint Bebb, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid ar ganlyniad cyfarfod y Panel ar 18 Ionawr, 2025 i ystyried y cynigion terfynol drafft ar gyfer y Gyllideb Refeniw a Chyfalaf fel y cyfeirir atynt yn y naratif o dan eitemau 3 a 4 uchod.
|
|
Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed hyd yma i weithredu argymhellion y Grŵp Tasg a Gorffen Sgriwtini ar eiddo gwag a dyraniadau y Gwasanaethau Tai i'w ystyried gan y pwyllgor.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai fel adroddiad interim yn cofnodi’r camau a gymerwyd hyd yma.
Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai fod llawer iawn o waith wedi'i wneud ers sefydlu'r Grŵp Tasg a Gorffen a bod argymhellion y grŵp yn derbyn sylw drwy'r cynllun gweithredu Gwella’r Amser a Gymerir i Ailosod Eiddo Gwag fel y nodir yn atodiad 2 yr adroddiad sy'n dangos y tasgau a’r amserlenni gwella y cytunwyd arnynt. Mae'r gwasanaeth o'r farn bod angen mwy o amser i weld effaith y canlyniadau a gyflawnir ar ddangosyddion perfformiad yn dilyn gwaith y grŵp tasg a gorffen a'r ymyriadau dilynol a roddir yn eu lle gan y Gwasanaeth Tai.
Ymatebodd yr Aelod Portffolio a Phennaeth Gwasanaethau Tai i faterion a godwyd yn y drafodaeth ddilynol fel a ganlyn –
Yn dilyn y drafodaeth, penderfynwyd –
|
|
Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a oedd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor hyd at fis Ebrill, 2025 i'w ystyried.
Penderfynwyd –
|