Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Hybrid - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni /Yn rhithiol drwy Zoom, Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Mawrth, 14eg Mawrth, 2023 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Swyddfeydd y Cyngor/Yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

 

2.

Monitro Perfformiad: Cerdyn Sgorio Corfforaethol Ch3 2022/23 pdf eicon PDF 974 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid, a oedd yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio ar gyfer Ch3 2022/2023, i’w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd adroddiad y cerdyn sgorio yn amlygu sefyllfa’r Cyngor yn erbyn ei amcanion llesiant ar ddiwedd Chwarter 3, 2022/23.

Wrth gyflwyno’r adroddiad, dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd ac Aelod Portffolio Datblygiad Economaidd, gan fod 97% o Ddangosyddion Perfformiad y Cyngor yn perfformio’n dda ar y cyfan, dyma’r trydydd chwarter sydd wedi perfformio orau yn erbyn targed yr adran rheoli perfformiad ers creu adroddiad y cerdyn sgorio. Cyfeiriodd yn benodol at y perfformiad yn erbyn y tri amcan llesiant, gan ddweud mai dim ond tri o’r Dangosyddion Perfformiad sy’n tanberfformio am resymau sydd wedi’u cofnodi yn yr adroddiad, yn ogystal â’r mesurau gwella arfaethedig. Mae’r adroddiad hefyd yn darparu nifer o enghreifftiau o berfformio da yn erbyn yr amcanion llesiant, gan gynnwys yn y Gwasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Tai mewn perthynas â digartrefedd a nifer y cartrefi gwag sy’n cael eu defnyddio eto; rheoli gwastraff, ac yn y Gwasanaethau Dysgu mewn perthynas â chanran y myfyrwyr a aseswyd yn Gymraeg ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaenol, sy’n sefyll ar 100%. Er bod dangosydd perfformiad presenoldeb y Cyngor yn Ambr yn erbyn ei darged ar hyn o bryd, mae’r data’n cynnwys absenoldebau sy’n gysylltiedig â choronafeirws am y tro cyntaf,  a hebddo, byddai’r perfformiad wedi bod yn Felyn. Gall Chwarter 3, sy’n ymestyn dros y misoedd sy’n arwain at y gaeaf, fod yn gyfnod heriol.

·         Croesawodd y Pwyllgor y sefyllfa gadarnhaol ar gyfer Chwarter 3, ac roeddynt eisiau gwybod pa drefniadau oedd ar waith er mwyn cydnabod y llwyddiant. Cynghorwyd y Pwyllgor, yn ogystal â monitro tanberfformiad, mae’r Tîm Arweinyddiaeth Strategol hefyd yn cydnabod y meysydd o berfformio da. Defnyddir Y Ddolen ar gyfer rhannu negeseuon mewnol gan gynnwys hyrwyddo arfer dda a chyfathrebu llwyddiannau, ac o ran adrodd i gynulleidfa ehangach, mae gan Aelodau Etholedig rôl i’w chwarae o ran hysbysebu cyflawniadau’r Cyngor a beth mae’n ei wneud yn dda er mwyn darparu sicrwydd i drigolion yr Ysgol fod gwelliannau’n cael eu cyflawni.

·      Mae’r Pwyllgor yn cydnabod bod rhai dangosyddion yn tan-berfformio ar ddiwedd Chwarter 3, ac wedi ceisio gwybodaeth bellach ynghylch y trefniadau monitro cynnydd ar gyfer y dangosyddion hynny, er mwyn bod ar y trywydd cywir o ran perfformio. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod gan y Cyngor drefniadau rheoli perfformiad cadarn sefydlog; mae hyn yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ac adroddiad cysylltiedig sy’n cynnwys cyfuniad o ddangosyddion a osodir yn lleol a chenedlaethol. Mae’r cerdyn sgorio yn dangos sut mae gweithgareddau dyddiol y Cyngor yn cael eu darparu, ac mae’n cynnig y deallusrwydd er mwyn galluogi agwedd ragweithiol i reoli perfformiad gan gynnwys lliniaru camau gweithredu y cytunwyd arnynt gan y Tîm Arweinyddiaeth Strategol er mwyn gwella. Yn ogystal, mae Penaethiaid Gwasanaeth yn monitro perfformiad o fewn eu gwasanaethau’n barhaus.

·      Dywedodd y Pwyllgor fod perfformiad y Cyngor yn erbyn y dangosydd perfformiad presenoldeb yn y gwaith yn Ambr ar ddiwedd Chwarter 3, a gofynnwyd sut  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2023-2053 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai, sy’n ymgorffori Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2023-2053, i’w ystyried gan y Pwyllgor.

Cyflwynwyd y Cynllun Busnes gan y Cynghorydd Gary Pritchard, Aelod Portffolio Gwasanaethau Plant, Ieuenctid a Thai. Nodwyd ei fod yn adlewyrchu gweledigaeth y Cyngor sef “fod gan bawb yr hawl alw rhywle ’n gartref.” Mae’r Cyfrif Refeniw Tai yn ariannu holl weithdrefnau stoc tai y Cyngor. Elfen bwysig o’r Cyfrif yw’r ymrwymiad i ymestyn stoc dai y Cyngor er mwyn bodloni anghenion tai amrywiol ledled yr Ynys, ac roedd yr Aelod Portffolio yn falch o gefnogi hyn.

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai fod rhaid i’r Cyngor gyflwyno ei gais am Lwfans Atgyweiriadau Mawr (LAM) gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â Chynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai 30 mlynedd i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Mawrth er mwyn sicrhau’r LAM ar gyfer 2023/24, sydd werth £2.688m. Mae’r cynllun yn ffurfio’r adnoddau sylfaenol ar gyfer cynllunio ariannol a darparu a rheoli stoc tai’r Cyngor, ac mae’n egluro sut mae’r Cyngor yn sicrhau bod ei stoc yn bodloni Gofynion Safonau Ansawdd Tai Cymru; sut mae’n bwriadu cynnal a gweithio tuag at y safonau newydd y cytunir arnynt yn fuan gan Lywodraeth Cymru a’r buddsoddiad sydd ei angen i ariannu rhaglen datblygu tai cyngor newydd y Cyngor. Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i barhau gyda’i waith o ddatgarboneiddio a chynnal effeithlonrwydd ynni gyda £1m wedi’i glustnodi er mwyn targedu’r gwaith o osod 250 systemau Solar OV pellach. Yn ogystal â hyn, mae £8.749m wedi’i neilltuo ar gyfer 2023/24 er mwyn datblygu rhaglen o dai cyngor newydd a phrynu tai cyngor blaenorol ar yr Ynys. Mae’r Cynllun Busnes yn bwriadu cynnal rhaglen ddatblygu 45 uned yn 2023/24 ac yn ystod bywyd y Cynllun. Mae’r Cynllun Busnes wedi bod yn destun prawf straen er mwyn bod yn atebol o risgiau unigol a chyfunol, ac mae’n parhau’n hyfyw dros 30 mlynedd y cynllun.

Bu i’r Pwyllgor ystyried cynnwys y Cynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai a chafwyd trafodaeth am y materion canlynol –

·         Sut fydd y strategaeth arfaethedig yn galluogi’r Cyngor i gyflawni’r blaenoriaethau strategol o fewn Cynllun y Cyngor ar gyfer 2023-28. Cynghorwyd y Pwyllgor mai’r weledigaeth sydd wrth wraidd y Cynllun Busnes Refeniw Tai yw sicrhau bod gan bawb yr hawl i alw rhywle ‘n gartref, sy’n cyd-fynd ag un o amcanion strategol Cynllun y Cyngor. Er mwyn cyflawni’r weledigaeth hon, rhaid sicrhau bod y cartrefi cywir yn cael eu datblygu yn y lleoedd cywir a’r niferoedd cywir, a chredir bod y strategaeth yn galluogi hynny. Mewn ymateb i’r cwestiynau ynghylch prynu tai cyngor blaenorol sydd wedi cael eu prynu dan yr hawl i brynu, ac sydd bellach yn cael eu defnyddio fel cartrefi gwyliau, cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai fod y Cyngor yn ceisio prynu o leiaf 15 tŷ cyngor blaenorol bob blwyddyn, a bydd yn prynu mwy na’r nifer hwnnw os bydd cyfleoedd ac adnoddau’n caniatáu hynny. Fodd bynnag, er na all y Cyngor brynu eiddo preifat at ddibenion tai cyngor gan na fyddent yn bodloni  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Monitro Cynnydd: Adroddiad Cynnydd y Gwasanaethau Cymdeithasol pdf eicon PDF 931 KB

Cyflwyno adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, sy’n amlinellu’r cynnydd a datblygiadau diweddaraf o fewn y Gwasanaethau Oedolion, Plant a Theuluoedd, i’w ystyried gan y Pwyllgor.

Bu i’r Cynghorwyr Alun Roberts a Gary Pritchard, Aelodau Portffolio Gwasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Plant, ddarparu crynodeb o uchafbwyntiau’r cynnydd o fewn y ddau wasanaeth fel y nodwyd yn yr adroddiad, a chyfeiriwyd yn benodol at Adroddiad Gwerthuso Perfformiad Arolygiaeth Gofal Cymru am Wasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2022, a oedd yn crynhoi’r canfyddiadau o archwiliad yr Arolygiaeth ar Wasanaethau Oedolion, Plant a Theuluoedd Ynys Môn a gynhaliwyd yn ystod Hydref 2022. Roedd yr adroddiad yn myfyrio’n gadarnhaol ar sawl maes, ac yn adnabod nifer o gryfderau yn ogystal â meysydd i’w gwella. Mae gweithgor mewnol wedi’i sefydlu er mwyn mynd i’r afael â’r meysydd hynny. Mae heriau recriwtio yn parhau i fodoli, ac maent yn heriau a welir yn genedlaethol, yn enwedig mewn perthynas â staff cartrefi gofal preswyl a gweithwyr gofal cartref. Mae’r Gwasanaeth yn parhau i weithio’n agos gyda Choleg Menai a chydweithwyr o fewn swyddogaeth AD yr Awdurdod i ddenu pobl i’r proffesiwn gofal cymdeithasol o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn.

Darparodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol wybodaeth ynghylch cyd-destun yr adroddiad ar gynnydd sydd wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Gwaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ar sail chwarterol i ddechrau ac yna, bob chwe mis, a dywedodd mai’r bwriad oedd rhoi sicrwydd ynghylch cynnydd ym mherfformiad y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, yn dilyn adroddiad beirniadol gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn 2016, a pherfformiad y Gwasanaethau Oedolion yn fwy diweddar. Mae’r sicrwydd a ddarparwyd drwy’r adroddiadau cynnydd hynny, yn ogystal ag adroddiad blynyddol gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch cynnydd y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, wedi’i gefnogi ymhellach gan adroddiad diweddar Arolygiaeth Gofal Cymru sydd hefyd yn canmol y Gwasanaethau Oedolion. Mae’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a’r Gwasanaethau Oedolion bellach yn cynhyrchu Cynlluniau Datblygu Gwasanaeth newydd, gan ddefnyddio ac adeiladu ar y cynnydd a wnaed, a byddant yn cael eu cyflwyno i Banel Sgriwtini’r Gwasanaethau Cymdeithasol ac yn cael eu sgriwtinieddio.

Wrth ystyried yr adroddiad, bu i’r Pwyllgor drafod y canlynol-

·      Y trefniadau ar waith i fonitro cynnydd yn erbyn meysydd sydd angen sylw. Cynghorwyd y Pwyllgor o’r amryw ffyrdd y mae cynnydd yn cael ei olrhain ac mae sicrwydd yn cael ei ddarparu, gan gynnwys y berthynas agos a chyson sydd gan y Gwasanaeth gyda rheoleiddwyr; drwy brosesau corfforaethol a democrataidd gan gynnwys Sgriwtini a’r Pwyllgor Gwaith, drwy’r Tîm Arweinyddiaeth Strategol sy’n darparu lefel o oruchwyliaeth, a drwy gyfarfod, adolygiadau archwilio a monitro perfformiad rheolaidd yn fewnol o fewn y gwasanaeth ei hun. Mae’r Gwasanaethau Cyhoeddus hefyd yn cydweithio’n agos gyda phartneriaid yn y maes Iechyd a meysydd eraill i adnabod heriau.

·      Y ffrydiau gwaith blaenoriaeth ar gyfer Panel Sgriwtini’r Gwasanaethu Cymdeithasol dros y cyfnod nesaf. Cynghorwyd y Pwyllgor y bydd y rhain yn cael eu gyrru gan adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru mewn perthynas â’r meysydd sydd wedi’u hadnabod ar gyfer  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adrodddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini, a oedd yn ymgorffori’r Blaen Rhaglen Waith hyd at Ebrill 2023, am ystyriaeth.

Dywedodd y Rheolwr Sgriwtini fod y newidiadau diweddar i’r Pwyllgor Gwaith wedi arwain at rôl wag o fewn y Pwyllgor a Phanel Sgriwtini’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Oherwydd hyn, bydd busnes cyfarfod y Pwyllgor ym mis Ebrill 2023, hefyd yn cynnwys eitem ar enwebu aelodau i‘r Pwyllgor er mwyn gwasanaethu’r Panel.

Penderfynwyd –

·      Cytuno ar y fersiwn gyfredol o’r Blaen Rhaglen Waith ar gyfer 2022/23.

·      Nodi’r cynnydd hyd yn hyn o ran gweithredu’r Blaen Rhaglen Waith.