Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol Cyfarfod Cyllideb - Siambr y Cyngor Swyddfeydd y Cyngor ac yn rhithiol drwy Zoom, Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Mawrth, 16eg Ionawr, 2024 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod ac estynnodd groeso arbennig i Mrs Wenda Owen i'w chyfarfod cyntaf o'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol fel cynrychiolydd yr Eglwys yng Nghymru.

 

 

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Sonia Williams ddatgan diddordeb personol yn unig fel gwraig yr Aelod Portffolio Cyllid.

Bu i’r Cynghorydd Jeff Evans (nad yw'n aelod o'r Pwyllgor) ddatgan diddordeb personol o ran Ardoll y Gwasanaeth Tân fel cynrychiolydd y Cyngor ac aelod o Awdurdod Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru.

Bu i’r Cynghorydd Dylan Rees (nad yw'n aelod o'r Pwyllgor) ddatgan diddordeb personol yn unig mewn perthynas ag Ardoll y Gwasanaeth Tân fel cynrychiolydd y Cyngor a Chadeirydd Awdurdod Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru.

 

2.

Gosod Cyllideb 2024/25 - Cynigion Cychwynnol Drafft ar gyfer y Gyllideb Refeniw pdf eicon PDF 507 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a’r Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini i'w ystyried gan y Pwyllgor. Amlinellodd yr adroddiad gyd-destun proses gosod Cyllideb 2024/25 ynghyd â'r materion a'r cwestiynau allweddol ar gyfer Craffu wrth werthuso cyllideb refeniw gychwynnol arfaethedig y Pwyllgor Gwaith. Atodwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 i'w gyflwyno i gyfarfod 23 Ionawr, 2024 y Pwyllgor Gwaith sy’n nodi'r gyllideb refeniw dros dro ar gyfer 2024/25 fel Atodiad 1.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid drosolwg o’r broses gyllidebol a goblygiadau'r Setliad Llywodraeth Leol dros dro ar gyfer 2024/25 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 20 Rhagfyr 2023. Dangosodd y setliad dros dro gynnydd o £169.8m yn lefel gyffredinol y cyllid ar gyfer Cymru sy'n cyfateb i gynnydd o 3.1% mewn termau arian parod. Roedd y setliad drafft wedi arwain at gynnydd o 2.5% ar Ynys Môn (0.6% yn is na chyfartaledd Cymru a'r 17eg gynnydd uchaf o'r 22 awdurdod) sydd, ar ôl i'r prif newidiadau i'r gyllideb gael eu hystyried, yn gadael diffyg ariannol o £14.391m cyn unrhyw newid yn y Dreth Gyngor. Byddai pontio'r bwlch hwn drwy'r Dreth Gyngor yn unig yn golygu codi’r Dreth Gyngor 30% ac mae'r Pwyllgor Gwaith yn credu bod hynny'n annerbyniol ac afrealistig. Felly, mae'r Pwyllgor Gwaith yn cynnig bod y diffyg yn dod o gyfuniad o arbedion cyllidebol o £4.773m (cyllido ysgolion 2.5% yn is na chwyddiant, lleihau’r gweithlu, arbedion cyllidebol eraill yn unol â Thabl 4 ac Atodiad 3 yr adroddiad a defnyddio’r Premiwm i gefnogi costau gwasanaethau), defnyddio £4.425m o gronfeydd wrth gefn (£1.6m o Falansau Cyffredinol a £2.825m o Gronfeydd Wrth Gefn wedi'u Clustnodi) a chynnydd o 9.78% yn y Dreth Gyngor ynghyd â 1.12% ychwanegol i ariannu'r cynnydd yn Ardoll y Gwasanaeth Tân (gan nodi, yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf, y gallai hyn newid) sy’n dod â chyfanswm y cynnydd i 10.9%. Byddai hyn yn golygu bod tâl Band D (ac eithrio praeseptau'r Heddlu a'r Cyngor Tref / Cymuned) yn £1,592.37, cynnydd o £156.51 neu £3.01 yr wythnos.

Gan bwysleisio nad yw lefel y cynnydd yn y Dreth Gyngor yn rhywbeth y mae'r Pwyllgor Gwaith yn gyfforddus ag ef, cyfeiriodd y Cynghorydd Robin Williams at y cyd-destun ariannol anodd a'r hinsawdd ariannol ansicr sydd wedi gwneud y gwaith o baratoi'r gyllideb refeniw dros dro ar gyfer 2024/25 yn dasg heriol. Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i'r Cyngor ddarparu cyllideb gytbwys ac er gwaethaf y cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor sydd ar lefel debyg i gynnydd dangosol gan awdurdodau eraill, Ynys Môn yw un o'r awdurdodau sy’n codi’r tâl isaf ar gyfer y dreth gyngor yng Nghymru oherwydd rheolaeth ariannol ddarbodus yn y gorffennol. Mae’r rheolaeth honno wedi cryfhau ei sefyllfa ariannol ac yn ei helpu i ddelio yn y tymor byr â'r heriau y mae'n eu hwynebu.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 gyd-destun ychwanegol gan ddweud nad yw'r heriau ariannol a ddisgrifir yn yr adroddiad yn unigryw i Ynys Môn. Mae nifer o awdurdodau lleol yn Lloegr wedi cyhoeddi hysbysiadau Adran 114 lle  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Adroddiad Cynnydd y Panel Sgriwtini Cyllid

Derbyn adroddiad gan Gadeirydd y Panel.

Cofnodion:

Adroddodd y Cynghorydd Geraint Bebb, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid ar ganlyniad tri chyfarfod y Panel yn ystod yr wythnos yn dechrau ar 8 Ionawr 2024 i ystyried cynigion Cyllideb Refeniw drafft 2024/25 fel y cyfeirir atynt yn y naratif ar eitem 2 uchod.