Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol Arbennig - Swyddfeydd y Cyngor , Llangefni ac yn rhithiol drwy Zoom, Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Mawrth, 13eg Chwefror, 2024 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Swyddfeydd y Cyngor ac yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

Yn absenoldeb y Cadeirydd, y Cynghorydd Douglas Fowlie, cadeiriwyd y cyfarfod gan yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Dyfed Wyn Jones. Cafodd y Cynghorydd Ieuan Williams ei ethol yn Is-gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn yn unig.

 

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2.

Cynnig i Drosglwyddo DisgyblionYsgol Carreglefn i Ysgol Llanfechell a Chau Ysgol Carreglefn pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei ystyried a’i graffu, adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc a oedd yn nodi’r cynnig i drosglwyddo disgyblion o Ysgol Carreglefn i Ysgol Llanfechell a chau Ysgol Carreglefn.

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Dafydd Roberts, yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg a’r Gymraeg, a dywedodd fod gofyn i’r pwyllgor i graffu ar y cynnig i drosglwyddo disgyblion Ysgol Carreglefn i Ysgol Llanfechell a Chau Ysgol Carreglefn, yr argymhelliad bod y Pwyllgor Gwaith yn awdurdodi Swyddogion i gyhoeddi rhybudd statudol ar y cynnig, ynghyd â’r argymhelliad i awdurdodi Swyddogion i gynnal trafodaethau gyda’r gymuned ynglŷn â sicrhau dyfodol tymor hir adeilad yr ysgol bresennol fel adnodd i’r gymuned, ac yna cyflwyno ei safbwyntiau i’r Pwyllgor Gwaith.

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc grynodeb o’r sail dros y cynnig a dywedodd fod y papur yn cyflwyno canlyniad y gwaith a wnaethpwyd i edrych ar nifer o opsiynau ar gyfer dyfodol Ysgol Carreglefn am y rhesymau canlynol –

·      Ysgol Carreglefn sydd â’r gost uchaf fesul disgybl o holl ysgolion cynradd Cymru, sef £17,200 y disgybl,

·      Mae gan Ysgol Carreglefn 80% o leoedd gwag, a dim ond 9 disgybl sy’n mynychu’r ysgol ar hyn o bryd, gyda 4 ohonynt ym mlwyddyn 6. Yn ôl rhagolygon yr ysgol, disgwylir i 5 neu lai o ddisgyblion fynychu’r ysgol o fis Medi 2024 ymlaen.

·      Allyriadau carbon Ysgol Carreglefn yw’r ail uchaf fesul disgybl o holl ysgolion cynradd Ynys Môn, sef 1,167kgCO2e y disgybl, o gymharu â chyfartaledd o 217kgCO2e y disgybl.

·      Mae cost cynnal a chadw cyfredol a rhagamcannol Ysgol Carreglefn yn £317,350.

·      Mae holl ddisgyblion Ysgol Carreglefn yn cael eu haddysgu mewn un dosbarth ac mae plant rhwng 4 ac 11 oed yn cael eu haddysgu gyda’i gilydd, a gall hyn greu heriau o ran diwallu anghenion plant o wahanol oedrannau.

·      Mae Ysgol Carreglefn wedi cael anhawster penodi pennaeth ac mae’n rhannu pennaeth gydag ysgol arall ar hyn o bryd.

Gan fod llai na 10 o ddisgyblion wedi eu cofrestru yn Ysgol Carreglefn ar ddyddiad y Cyfrifiad ym mis Ionawr 2024, mae’r Cod Trefniadaeth Ysgolion yn caniatáu i awdurdodau lleol gynnal proses symlach i gau ysgol yn swyddogol. Yr unig beth sydd rhaid ei wneud yw cyhoeddi hysbysiad i gau, gan hepgor y gofyn i gynnal ymgynghoriad cyffredinol. Os yw’r Pwyllgor Gwaith yn cymeradwyo’r cynnig, cyhoeddir rhybudd cau statudol ac yn dilyn hynny bydd cyfnod gwrthwynebu 28 diwrnod o hyd yn cael ei gynnal rhwng 1 Mawrth a 1 Ebrill 2024. Yn dilyn hynny bydd adroddiad gwrthwynebu’n cael ei lunio a’i gyflwyno i’r pwyllgor(au) perthnasol cyn gwneud y penderfyniad terfynol. Os bydd penderfyniad yn cael ei wneud i gau Ysgol Carreglefn, yna byddai’r ysgol yn cau ym mis Awst 2024, gyda disgyblion o Ysgol Carreglefn yn trosglwyddo i Ysgol Llanfechell o fis Medi 2024.

Gan gydnabod bod y bwriad i gau ysgol yn fater anodd, gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad a sicrwydd mewn perthynas â’r materion isod wrth ystyried y cynnig –

 

·      Y sefyllfa mewn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.