Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim wedi’u derbyn. |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion drafft y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr, 2016. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion drafft y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr, 2016 fel rhai cywir.
Materion yn codi o’r cyfarfod - Eitem 3 - Gwe ddarlledu
Hysbysodd y Cadeirydd y Pwyllgor bod ymateb wedi’i dderbyn gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynghylch goblygiadau ariannol gwe ddarlledu cyfarfodydd.
|
|
Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol – Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2017/18 PDF 424 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad blynyddol gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2017/18.
Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod gan y Cyngor ddisgresiwn mewn perthynas â thalu cyflogau penodol, fel y’u gosodir gan yr IRP. Mae’r Cyngor wedi derbyn 15 swydd cyflog uwch ar gyfer 2017/18, sy’n cynnwys cyflogau dinesig. Ar gyfer 2015/16 a 2016/17, dyfarnodd y Cyngor gyflogau uwch i 14 deilydd swydd er mwyn lleihau costau democrataidd. Ymgynghorwyd gydag Arweinwyr Grŵp am lefelau’r taliadau ac maent o’r farn y dylid rhoi taliadau ar yr un lefel â 2016/17 ar gyfer Aelodau o’r Pwyllgor Gwaith, Cadeiryddion Pwyllgorau, y Pennaeth Dinesig a’r Dirprwy Bennaeth Dinesig yn 2017/18.
Roedd yr adroddiad hefyd yn delio â newidiadau eraill a gyflwynwyd gan yr IRP, gan gynnwys absenoldebau salwch ar gyfer y rhai hynny sy’n derbyn cyflogau uwch.
Nododd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y derbyniwyd llythyr gan yr IRP ar 17 Chwefror, 2017 yn cadarnhau bod y Cyngor wedi cydymffurfio â gofynion yr IRP drwy gyhoeddi datganiad o daliadau a wnaed i Aelodau’r Cyngor cyn 30 Medi y llynedd.
PENDERFYNWYD argymell i’r Cyngor llawn ar 23 Mai, 2017 ei fod yn cymeradwyo:-
5.1.1 Talu cyflogau Lefel 1 a Lefel 2 ar gyfer Aelodau’r Pwyllgor Gwaith; 5.1.2 Talu cyflogau Lefel 1 a 2 ar gyfer Cadeiryddion Pwyllgorau; 5.1.3 Talu cyflogau ar un ai Lefel 1, 2 neu 3 ar gyfer Arweinwyr Dinesig a Dirprwy Benaethiaid Dinesig. |
|
Darpariaeth TGCh ar gyfer Aelodau PDF 298 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar anghenon TGCh Aelodau yn dilyn etholiadau’r Cyngor Sir ym mis Mai.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd bod yr Adain TGCh wedi asesu gofynion y Cyngor mewn perthynas ag iPads a darpariaeth TGCh a bod yr Arweinwyr Grwpiau yn cefnogi rhoi iPads newydd, sydd â swyddogaethau ychwanegol, i Aelodau.
Roedd yr adroddiad hefyd yn cyfeirio at y meini prawf yr oedd angen eu bodloni os oedd Aelodau yn dymuno defnyddio eu hoffer eu hunain ar gyfer busnes y Cyngor adref. Nodwyd hefyd y bydd yr hyfforddiant a’r gefnogaeth ar gyfer technoleg iPad yn cael ei ddarparu gan staff TGCh yn dilyn etholiadau’r Cyngor.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr hyfforddiant TGCh y mae Aelodau wedi’i gael ers 2013 a diolchodd i’r holl Swyddogion am eu gwaith a’u cefnogaeth.
PENDERFYNWYD:-
• Na fydd y Cyngor yn talu am gysylltiadau band-eang yr Aelodau yn dilyn etholiadau mis Mai 2017 ac y dylai Aelodau ddefnyddio eu band-eang preifat ar gyfer busnes y Cyngor. • Bod yr holl Aelodau yn cael iPads newydd a bod y costau’n cael eu talu o gronfa’r Cyngor. • Blaenoriaethu hyfforddiant a chymorth i Aelodau mewn perthynas â’r defnydd o iPads yn dilyn etholiadau’r Cyngor. • Cadarnhau bod yn rhaid i feini prawf penodol gael eu bodloni os yw Aelodau yn defnyddio eu hoffer eu hunain. |
|
Cynllun Cynefino a Datblygu ar gyfer Aelodau Etholedig - Ebrill, 2017 - Mawrth, 2018 PDF 467 KB Cyflwyno adroddiad er gwybodaeth, sef y Cynllun Cynefino a Datblygu ar gyfer Aelodau Etholedig, fel y’i cyflwynwyd i’r cyfarfod o’r Cyngor Sir ar 28ain Chwefror, 2017. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas â’r uchod.
Mae’r rhaglen yn darparu fframwaith amlinellol ar gyfer darparu hyfforddiant a fydd yn cynnwys gweithdai, mentora, e-ddysgu a sesiynau un i un. Mae agwedd raddol wedi’i mabwysiadu mewn perthynas â nifer y sesiynau ac ymrwymiadau amser.
Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd bod y Pwyllgor yn gyfrifol am fonitro anghenion hyfforddiant Aelodau ac y bydd adroddiadau cynnydd yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor hwn yn y man.
Nododd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd hefyd fod y Cynllun Datblygu Aelodau ar ffurf drafft ar hyn o bryd ac y rhoddir cyfle i Aelodau roi eu mewnbwn ar y Cynllun. Nodwyd y bydd cynllun hyfforddiant mwy manwl yn cael ei gadarnhau dros yr wythnosau nesaf.
Gan gyfeirio at y Cynllun Hyfforddiant Cynefino, awgrymodd Aelodau y dylai’r holl Aelodau Etholedig gael cynnig hyfforddiant ar faterion Cynllunio ac y dylai’r is-gadeiryddion fod yn rhan o unrhyw gyrsiau sgiliau Cadeirio.
Gweithred: Fel y nodwyd uchod.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y byddai’n codi’r materion uchod gyda’r Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol.
PENDERFYNWYD:-
• Nodi’r adroddiad er gwybodaeth. • Nodi bod y Cyngor Sir, yn ei gyfarfod ar 28 Chwefror, 2017 wedi mabwysiadu’r Cynllun Hyfforddiant Cynefino fel fframwaith ar gyfer datblygiad Aelodau yn dilyn etholiadau’r Cyngor ym mis Mai 2017. |