Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu’r Cynghorydd Dafydd Roberts ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag eitem 2 ar yr agenda. |
|
Adolygiad o Ranbarthau Pleidleisio a Lleoliad Pleidleisio PDF 506 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar adolygiad o ranbarthau pleidleisio a gorsafoedd pleidleisio at ddibenion etholiadau, yn unol â Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.
Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd bod y Cynghorau yn gorfod adolygu addasrwydd y rhanbarthau pleidleisio, y lleoliadau pleidleisio a’r gorsafoedd pleidleisio bob 5 mlynedd yn unol â rheoliadau.
Cynhaliwyd adolygiad yn etholaeth seneddol Ynys Môn rhwng 5 Mehefin 2019 a 20 Ionawr 2020 at ddibenion adnabod opsiynau amgen posibl. Fel rhan o’r broses adolygu, nid oedd meini prawf penodol wedi eu bodloni, a rhoddwyd ystyriaeth i arweiniad y Comisiwn Etholiadol.
PENDERFYNWYD:-
• Bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn cadarnhau’r trefniadau fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad; • Argymell i’r Cyngor Sir, yn ei gyfarfod 10 Mawrth 2020, ei fod yn cadarnhau’r argymhelliad sydd yn yr Adroddiad. |