Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Virtual Meeting
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfodydd blaenorol a gynhaliwyd ar :-
• 10 Rhagfyr 2019 • 30 Ionawr 2020 (Arbennig)
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol fel cofnod cywir:-
• 10 Rhagfyr 2019 • 30 Ionawr 2020 (Cyfarfod Arbennig) |
|
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – diweddariad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, yn dilyn yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor hwn ar 25 Medi 2019, fel rhan o adolygiad Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru o drefniadau etholiadol y Cyngor Sir.
Nodwyd fod y comisiwn wedi cyhoeddi adroddiad drafft a chynigion yn ddiweddar a’u bod wedi gofyn am sylwadau ar drefniadau etholiadol y Cyngor, yn cynnwys enwau wardiau, erbyn 14 Medi 2020.
Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd bod cynigion y Comisiwn Ffiniau wedi eu hystyried a’u derbyn gan Arweinyddion Grwpiau y Cyngor a Phanel Trawsbleidiol. Nododd fod y Comisiwn wedi cefnogi achos ac argymhellion y Cyngor i gael 35 Aelod a 14 Ward, gyda dim newid i 6 ward etholiadol, gan olygu cyfartaledd sirol o 1,461 o etholwyr i bob Aelod. Mae’r Comisiwn yn bwriadu cyflwyno’r trefniadau newydd mewn pryd ar gyfer etholiadau 2022.
Canolbwyntiodd y drafodaeth ar yr enw arfaethedig ‘Braint ar gyfer ward etholiadol Bro Rhosyr. Nododd y Cynghorydd Dafydd Roberts fod Cyngor Cymuned Llanfihangel Esceifiog yn teimlo fod yr enw newydd yn amhriodol. Roedd yn argymell fod yr enw yn cael ei newid i ‘Bodowyr’, sydd â chysylltiad lleol cryf gan fod afon Bodowyr yn llifo o fewn ffiniau hanesyddol a daearyddol yr ardal.
Mynegwyd pryder nad oedd rhai Cynghorau Tref / Cymuned wedi ymateb i ymgynghoriad y Comisiwn hyd yma. Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ei fod wedi ysgrifennu at bob Cyngor Tref / Cymuned yn ddiweddar yn gofyn iddynt gyflwyno unrhyw sylwadau yr hoffent eu cyfrannu i’r ymgynghoriad.
PENDERFYNWYD argymell i’r Cyngor Sir bod y cynigion a nodir yn adroddiad y Comisiwn Ffiniau yn cael eu derbyn, yn amodol ar newid yr enw ar gyfer ward newydd Braint i ‘Bodowyr’. |
|
Adroddiadau Blynyddol Aelodau 2019/20 PDF 105 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar y mesurau arfaethedig ar gyfer cyhoeddi Adroddiadau Blynyddol Aelodau ar gyfer 2019/20.
Mae Adran 5 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn gosod dyletswydd ar y Cyngor Sir i sicrhau bod trefniadau yn eu lle er mwyn galluogi Aelodau i gyhoeddi adroddiadau blynyddol ar eu gweithgareddau. Amlygodd y Cadeirydd bwysigrwydd cwblhau’r adroddiadau blynyddol, er mwyn ehangu atebolrwydd lleol a hysbysu’r cyhoedd am rolau a chyfrifoldebau Aelodau.
Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod yr adroddiadau blynyddol a dderbyniwyd dros yr wythnosau diwethaf bellach wedi eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor. Nododd fod 6 adroddiad blynyddol bellach yn weddill.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |
|
Taliadau i Aelodau - Adroddiadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol PDF 400 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democratiadd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) sy’n gosod y lwfansau sy’n daladwy i Aelodau Etholedig ac Aelodau Cyfetholedig a hawliau pleidleisio.
Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod cynigion drafft y panel ar gyfer 2020/21 wedi eu cyflwyno i’r Pwyllgor hwn ar 10 Rhagfyr, 2019. Nododd y cyhoeddwyd yr adroddiad blynyddol drafft ym mis Chwefror 2020, gyda dim newidiadau pellach i’r drafft, heblaw am gynnydd o £350 yng nghyflog sylfaenol yr Aelodau. Nodwyd fod Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol i Gynghorwyr y Cyngor ar gyfer 2020/21 wedi’i gyhoeddi yn unol â’r gofynion.
Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd at egwyddorion y Panel ar ddigolledu costau gofal, a ddaeth yn weithredol ar 1 Gorffennaf 2020. Mae’r Panel yn bryderus bod y niferoedd sy’n hawlio’r ddarpariaeth yn isel ac mae wedi ceisio amlinellu gwell diffiniad o’r meini prawf. Mae’r Panel wedi gofyn i Awdurdodau Lleol godi ymwybyddiaeth ymysg Aelodau fod y cymorth ariannol ar gael ac mae argymhelliad wedi’i wneud bod adolygiad blynyddol o amgylchiadau pob Aelod yn cael ei gyflawni bob blwyddyn yn ystod eu gwerthusiadau blynyddol.
Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ei fod wedi ysgrifennu at bob Aelod yn egluro’r canllawiau ar gostau gofal a nododd bod hefyd modd gweld y wybodaeth hon ar wefan y Cyngor.
PENDERFYNWYD nodi:-
• Bod y Cyngor wedi cyhoeddi ei Restr Cydnabyddiaeth Ariannol i Gynghorwyr ar gyfer 2020/21, yn unol â’r gofynion. • Bod yr egwyddorion mewn perthynas ag ad-dalu costau gofal a chadarnhau sut mae’r Cyngor yn bwriadu rhoi’r egwyddorion ar waith, fel y nodir yn Atodiad 1. |
|
Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd- Adroddiad Blynyddol 2019/20 PDF 418 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar yr uchod.
Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn cyhoeddi adroddiad blynyddol, a fydd yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn ar 8 Medi 2020. Mae’r adroddiad yn crynhoi materion a drafodwyd gan y Pwyllgor yn ystod 2019.20, sy’n cynnwys y canlynol:-
• Y Cynllun Hyfforddi a Datblygu Aelodau gan gynnwys Adolygiadau Datblygiad Personol. • Gwe-ddarlledu cyfarfodydd; • Adroddiadau Blynyddol Aelodau; • Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol; • Materion cysylltiedig ag Aelodau yn cynnwys – Siartr Cymru ar gyfer Datblygiad a chefnogaeth Aelodau • Ymgynghoriadau perthnasol Llywodraeth Cymru yn cynnwys trefniadau etholiadol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r materion a ystyriwyd gan y Pwyllgor yn ystod 2019/20. |