Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW), sy’n nodi’r lwfansau sy’n daladwy i Aelodau etholedig ac Aelodau cyfetholedig â hawliau pleidleisio.
Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd nad yw lwfansau’r IRP wedi cynyddu yn unol â chyflogau ar draws Cymru. Mae’r IRP felly yn cynnig cynyddu taliadau holl Aelodau ac Aelodau cyfetholedig pob Cyngor.
Cytunodd y Pwyllgor fod angen i lwfansau Aelodau gynyddu er mwyn gallu denu trawstoriad ehangach o’r gymuned, yn enwedig pobl ifanc a merched, i sefyll yn yr etholiad.
Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod y cynigion yn cael eu gosod yn genedlaethol ac y byddant yn weithredol yn dilyn etholiadau Mai 2022.
Nodwyd, pan fydd cynghorau newydd yn cael eu hethol bydd rhai o benderfyniadau’r Panel yn effeithiol ar gyfer tymor newydd y Cyngor. Bydd gan yr Adroddiad Blynyddol 2022-23 ddau ddyddiad gweithredu, sef:-
• Bydd yr holl benderfyniadau yn Adroddiad Blynyddol 2021/22 yn parhau i fod yn weithredol am y cyfnod rhwng 1 Ebrill ac 8 Mai 2022. • Bydd y penderfyniadau yn Adroddiad Blynyddol 2022/23 yn weithredol o 9 Mai 2022.
Mae crynodeb o’r newidiadau arfaethedig wedi eu nodi isod:-
• Cynyddu cyflog sylfaenol aelodau etholedig o £14,368 i £16,800. • Nifer yr uwch gyflogau i aros fel ag y ma ear 16, yn cynnwys y cyflogau dinesig. • Bydd nifer yr Aelodau etholedig ar Ynys Môn yn cynyddu i 35. • Cynyddu’r uwch gyflogau a’r cyflogau dinesig fel yr amlinellir isod:-
Bydd y cynnydd arfaethedig mewn lwfansau a ragwelir gan yr IRP mewn perthynas ag Ynys Môn tua £180,000 yn flynyddol o Mai 2022.
PENDERFYNWYD derbyn y cynigion drafft yn adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2022/23.
Bu’r Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, ddiolch i’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd am ei waith ar y Pwyllgor a dymunodd yn dda iddo ar ei ymddeoliad. |