Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor Llangefni/Zoom, Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Mercher, 20fed Mawrth, 2024 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Shirley Cooke 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o fuddiant.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 164 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd 2023.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd 2023 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

3.

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol - Adroddiad Blynyddol 2024/25 pdf eicon PDF 126 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth ar Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol a oedd yn cynnwys penderfyniadau terfynol y Panel ar gyfer 2024/25.     

 

Adroddodd y Pennaeth Democratiaeth bod adroddiad blynyddol drafft wedi cael ei gyflwyno a’i dderbyn gan y Pwyllgor ar 29 Tachwedd 2023.  Cyhoeddwyd yr adroddiad terfynol ar 28 Chwefror 2024 a bydd yn dod i rym ym mis Ebrill 2024.

 

Adroddodd y Pennaeth Democratiaeth bod y cyfyngiad ar nifer yr uwch gyflogau a chyflogau dinesig yn aros yr un fath ar gyfer 2024/25, sef 17. Bydd rhaid cadarnhau adroddiad y Panel yn ystod y cyfarfod nesaf o’r Cyngor llawn ar 21 Mai 2024.

 

Nodwyd bod y Panel wedi penderfynu y dylid rhoi hyblygrwydd lleol i'r swyddog perthnasolbenderfynu ar gyfradd y tâl a delir i aelodau cyfetholedig, gan fod natur cyfarfodydd wedi newid h.y. cyfarfodydd hybrid. Bydd y Panel yn paratoi canllawiau pellach ar y trefniant hwn. 

 

Adroddodd y Pennaeth Democratiaeth ei fod wedi cyflwyno’r cwestiynau a ganlyn i’r Panel, ar gais y Pwyllgor Safonau: -

 

1. Beth yw diffiniad y Panel o ‘swyddog perthnasolmewn perthynas â chydnabyddiaeth i aelodau cyfetholedig?

2. Pryd mae’r Panel yn rhagweld y bydd cyfarwyddyd pellach ar gael?

 

Adroddodd y Pennaeth Democratiaeth y bydd yn rhannu ymateb y Panel â’r Pwyllgor Safonau a’r Pwyllgor hwn unwaith y bydd ar gael.  

 

PENDERFYNWYD nodi’r penderfyniadau yn Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2024 i 2025 (Chwefror 2024).  

4.

Diweddariad y Gwasanaethau Democrataidd pdf eicon PDF 91 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth ar waith y Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas â chefnogi aelodau a llywodraethiant.

 

Adroddodd y Pennaeth Democratiaeth bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd wedi trafod y Protocol drafft ar gyfer Cyfarfodydd Hybrid yn ei gyfarfod ym mis Mehefin 2023 a’i fod wedi cael ei gyhoeddi ar 26 Hydref 2023. Dywedodd bod y Protocol wedi gwreiddio’n dda i mewn i drefniadau’r Cyngor ar gyfer ei bwyllgorau a’i fod yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Roedd y Pennaeth Democratiaeth yn croesawu sylwadau pellach ar y Protocol gan aelodau’r Pwyllgor.

 

Adroddodd y Pennaeth Democratiaeth bod aelodau etholedig yn cael eu hannog i gyflwyno adroddiad blynyddol ar eu gwaith yn ystod y flwyddyn. Mae hyn yn cael ei ystyried yn arfer dda o ran atebolrwydd. Dywedodd bod canran yr adroddiadau blynyddol a gyflwynwyd yn 2022/23 wedi cynyddu’n sylweddol o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mewn perthynas â’r adroddiadau blynyddol ar gyfer 2023/24, bydd y templed a gwybodaeth ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno adroddiad blynyddol yn cael ei rannu ag aelodau’r wythnos nesaf. Bydd gofyn iddynt gyflwyno’u hadroddiad erbyn canol mis Mai, i’w gyhoeddi ym mis Mehefin.

 

Nodwyd bod cofrestrau buddiannau’r aelodau’n cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor a bod y Pwyllgor Safonau wedi adolygu’r broses. Nodwyd hefyd y bydd staff yr Adran Gyllid yn cysylltu ag aelodau maes o law ynglyn â datgan materion ariannol ar y gofrestr buddiannau at ddibenion archwilio.  

 

Mewn perthynas â hyfforddi a datblygu aelodau, cynhaliwyd 33 sesiwn i aelodau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.  Mynegwyd pryder nad oedd rhai aelodau wedi cwblhau’r cyrsiau mandadol sydd ar gael iddynt. Bydd cynllun hyfforddi aelodau ar gyfer 2024/25 yn cael ei ddatblygu’n fuan a bydd yn cael ei drafod yn ystod y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor.

 

Amlygwyd nad oes cadarnhad yn cael ei anfon pan fydd adroddiadau blynyddol yn cael eu cyflwyno’n electronig. Awgrymwyd y dylid anfon e-bost i gadarnhau bod yr adroddiad wedi cael ei dderbyn. Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth y byddai’n ymchwilio i gais y Pwyllgor. 

 

Holodd un aelod a fyddai modd i gyfarfodydd y Paneli Sgriwtini gael eu cynnal wyneb yn wyneb?  Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth ei bod hi’n amserol adolygu’r trefniadau ar y modd y caiff cyfarfodydd y Cyngor eu cynnal. Bydd y prosesau Sgriwtini yn cael eu hadolygu yn ystod yr haf, a bydd adolygiad pellach o drefniadau cyfarfodydd yn cael ei gynnal yn hwyrach yn y flwyddyn.

 

PENDERFYNWYD -

         

·     Nodi cynnwys yr adroddiad.

·     Bod y Pennaeth Democratiaeth yn ymchwilio i gynnig y Pwyllgor ar

    gyfer darparu derbyniadau e-bost awtomatig pan fydd adroddiadau

    blynyddol yn cael eu cyflwyno.